Atodiad 1-3
- Ynghlwm
Atodiad 4 -
Eithriedig (wedi’i ddosbarthu i Aelodau Cabinet)
Cyflwynwyd gan:Cyng. Cemlyn Willias a Cyng. Ioan Thomas
Penderfyniad:
I.
Cymeradwywyd y Strategaeth Ddigidol Addysg yn ei
chyfanrwydd.
II.
Cytunwyd i gyd ariannu hyd at hanner costau
adnewyddu’r dyfeisiadau drwy ymrwymo £2filiwn o falansau’r
Cyngor, gyda disgwyliad i ysgolion dalu’r hanner arall .
III.
Cytunwyd i ysgolion Gwynedd dderbyn cefnogaeth
dechnegol gan wasanaeth Technoleg Gwybodaeth yr Awdurdod o Ebrill 2022 ymlaen.
IV.
Cytunwyd i ariannu £145mil er mwyn cynnig cefnogaeth
dechnegol hyd at Ebrill 2022, er mwyn prysuro amserlen cyflwyno dyfeisiadau i’r
ysgolion.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Cemlyn Williams.
PENDERFYNIAD
I.
Cymeradwywyd y Strategaeth Ddigidol
Addysg yn ei chyfanrwydd.
II.
Cytunwyd i gyd ariannu hyd at hanner
costau adnewyddu’r dyfeisiadau drwy ymrwymo £2filiwn o falansau’r Cyngor, gyda
disgwyliad i ysgolion dalu’r hanner arall .
III.
Cytunwyd i ysgolion Gwynedd dderbyn
cefnogaeth dechnegol gan wasanaeth Technoleg Gwybodaeth yr Awdurdod o Ebrill
2022 ymlaen.
IV.
Cytunwyd i ariannu £145mil er mwyn
cynnig cefnogaeth dechnegol hyd at Ebrill 2022, er mwyn prysuro amserlen
cyflwyno dyfeisiadau i’r ysgolion.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan amlygu pleser o gyflwyno’r strategaeth arloesol yma. Pwysleisiwyd
fod hwn wedi bod yn gynllun trawsadrannol rhwng yr adran Addysg a Technoleg
Gwybodaeth a nodwyd gwerthfawrogiad i’r cyd-weithio agos sydd wedi bod yn
creu’r Strategaeth. Mynegwyd mai bwriad y Strategaeth yw i ddefnyddio y
ddarpariaeth ddigidol orau i gefnogi disgyblion a staff ysgolion i sicrhau
cyfleon cyson ar draws y sir. Eglurwyd fod y bwriad hwn yn amlygu’r uchelgais
sydd i ddefnyddio technoleg gwybodaeth i wella addysg gan ddyrchafu’r defnydd i
bob cam o’r cwricwlwm.
Ychwanegodd y
Pennaeth Addysg fod y cyfnod y pandemig wedi amlygu’r
angen sydd i sicrhau fod disgyblion yn gallu defnyddio technoleg yn hyderus.
Pwysleisiwyd fod y gwaith ar y strategaeth wedi cychwyn cyn y cyfnod clo ond
fod y cyfnod y pandemig wedi gwthio y cynllun yn ei
blaen.
Tywysydd y Swyddog
Addysg Ardal Dwyfor / Meirion drwy’r adroddiad gan nodi fod sgiliau ddigidol
bellach ar yr un lefel a llythrennedd a rhifedd ac felly fod angen sicrhau fod
gan ddisgyblion y sgiliau digidol sydd ei angen. Eglurwyd fod Llywodraeth Cymru
wedi rhoi arian i wella’r ddarpariaeth ac wedi rhoi cyfrifoldeb i’r awdurdodau
lleol i arwain ac y gwaith i sicrhau cyd-weithio rhwng yr ysgolion.
Eglurwyd yn
bresennol fod nifer o ddyfeisiadau wedi dyddio ac ysgolion yn defnyddio
amrywiaeth o systemau gwahanol. Nodwyd y bydd y strategaeth yn sicrhau cysondeb
ar draws ysgolion. Pwysleisiwyd fod y cyfnod clo wedi amlygu diffyg dyfeisiadau
addas ac eu bod yn syfrdanol y nifer o aelwydydd nad oedd ganddynt ddyfeisiadau
addas. Nodwyd fod bron i 2000 o ddyfeisiadau wedi er rhannu yn ystod y cyfnod
ond fod yr angen wedi bod i rannu mwy oherwydd fod nifer o deuluoedd yn rhannu
dyfais yn hytrach nac un i bob disgybl. Mynegwyd fod y strategaeth yn sicrhau
dyfais i bob disgybl ac athro, ac y byddant wedi ei dewis yn unol a anghenion
oedran y disgybl ac wedi ei gosod yn Gymraeg ar draws y sir.
Tynnwyd sylw at gostau adnewyddu gan fod rhai miloedd o ddyfeisiadau ar
y ffordd i’r ysgolion gyda hyd bywyd o oddeutu 5 mlynedd. Eglurwyd y bydd angen
£3.9miliwn i’w hadnewyddu. Pwysleisiwyd y bydd angen i’r dyfeisiadau gael ei
cynnal a cadw yn effeithiol er mwyn sicrhau na fydd un disgybl yn colli addysg.
Amlygwyd y drefn bresennol ar hyn o bryd i gefnogi ysgolion gan nodi yn y tymor
byr y bydd y gefnogaeth yn cael ei dynnu mewn i wasanaeth technoleg gwybodaeth
y Cyngor tra fydd yr adran yn sicrhau trefn cefnogi tymor hir.
Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth:
¾
Nodwyd
fod y cynllun yn un uchelgeisiol ac yn rhoi cyfleodd a profiadau gorau a cyson
ar draws y sir. Nodwyd yn yr ysgolion y bydd yn gweithio yn arbennig o dda ond
holwyd sut y bydd cymorth ar gael i unigolion heb gyswllt y we. Eglurwyd fod y panedmig wedi amlygu problemau ond fod ysgolion wedi eu
cynorthwyo drwy focsys we o’r ysgolion ond fod rhai wedi parhau gyda problemau oherwydd fod rhai
tai heb signal ffon Er mwyn ymateb i hyn bydd yr adran yn edrych ar bob opsiwn
posib ac y bydd modd i ysgolion geisio am grantiau.
¾
Holwyd
yn dilyn y 5 mlynedd bydd y dyfeisiadau yn cael ei uwchraddio a felly gofynnwyd
sut y bydd y dyfeisiadau yn cael ei ailgylchu neu a fydd modd eu ailddefnyddio.
Mynegwyd o ran y dyfeisiadau, yn benodol ar ddiwedd ysgol uwchradd, y bydd
cynnig yn cael ei roi i’r disgyblion i gadw ei cyfarpar ar ddiwedd y 5 mlynedd,
ond eglurwyd y bydd y dyfeisiadau eraill yn cael eu hailgylchu o fewn Prydain.
¾
Holwyd
o ran cydraddoldeb fod angen rhoi ystyriaeth i’r ddisgyblion sydd yn cael ei
lleoli mewn lleoliadau tu hwnt i’r sir. Mynegwyd fod trafodaethau yn cael ei
gynnal i gael yr unigolion yma ynghyd a plant gyda’r anableddau dwys yn rhan
o’r cynllun.
¾
Tynnwyd
sylw yn ogystal at ddisgyblion sydd yn cael eu haddysgu adref gan fod cynnydd
mewn niferoedd o ganlyniad i’r pandemig. Eglurwyd fod
cefnogaeth ar gael i’r teuluoedd drwy’r tîm lles.
¾
Rhoddwyd
y cyd-destun ariannol gan bwysleisio fod y Cyngor wedi derbyn arian grant ond y
bydd angen ariannu cost adnewyddu. Mynegwyd yn amodol ar ysgolion yn ariannu
hanner y gost y bydd angen ymrwymo £2filiwn o falensau y Cyngor i adnewyddu y
dyfeisiadau ymhen 5 mlynedd.
Awdur:Gwern ap Rhisiart a Huw Ynyr
Dogfennau ategol: