Prif gynllun
arfaethedig yn cynnwys dymchwel 56 o fflatiau, creu lleiniau newydd ar gyfer
lleoli carafanau statig, llety tîm newydd, caffi traeth newydd gan gynnwys
teras a man chwarae, amddiffynfeydd arfordirol newydd, adlinio ychydig ar Lwybr
Arfordir Cymru Gyfan yn ogystal â thirlunio cysylltiedig, gwaith draenio,
mynediad ac isadeiledd (cynlluniau diwygiedig)
AELOD LLEOL:
Cynghorydd Peter Read
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Dirprwyo'r hawl i Bennaeth Cynorthwyol yr Adran Amgylchedd
gymeradwyo'r cais, gydag amodau:
Er gwybodaeth: SuDS, cyngor safonol
CNC i'r datblygwr.
Cofnod:
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr
Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle
(20/10/21)
a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Cynllunio ar gefndir y cais.
Gohiriwyd y penderfyniad ym mhwyllgor 4ydd Hydref 2021 er mwyn cynnal ymweliad
safle. Eglurwyd bod y cais yn ceisio caniatâd llawn i ddymchwel 56 rhandy, creu
seiliau newydd i leoli carafanau sefydlog, llety newydd i'r tîm, caffi traeth
newydd gyda theras ac ardal chwarae, amddiffynfeydd arfordirol newydd, mân
ail-alinio i Lwybr Arfordir Cymru yn ogystal â gwaith tirlunio cysylltiedig,
draenio, mynediad a seilwaith ym Mharc Gwyliau presennol Hafan y Môr.
b)
Rhannwyd
y datblygiad yn barseli:
·
Parsel
B - Lleoli 27 o garafanau sefydlog.
·
Parsel
E - Lleoli 3 carafán sefydlog a chodi dau adeilad deulawr i ddarparu llety i
staff.
·
Parsel
F - Dymchwel 4 bloc rhandai (56 rhandy / 272 gofod i ymwelwyr) a lleoli 26 o
garafanau sefydlog.
·
Parsel
G - Lleoli 80 o garafanau sefydlog.
·
Parsel
H - Ailddatblygu cyn safle gwaith trin carthion a chodi caffi unllawr gyda
theras yn y blaen a maes parcio
·
Parsel
I - Lleoli 18 o garafanau sefydlog.
·
Parsel
J - Gwaith amddiffyn yr arfordir sy'n cynnwys gwaith ar 320m o'r arfordir.
Mae’r bwriad yn golygu ail-linio'r arfordir i gyfeiriad y tir i greu traethau
tywod a graean rhwng pedwar morglawdd cerrig amddiffyn ar siâp cynffon
pysgodyn. Bydd oddeutu 120m o'r gwaith
yn cymryd lle'r amddiffynfeydd carreg linellol bresennol. Bydd Llwybr Arfordir
Cymru hefyd yn cael ei ail-alinio.
Trafodwyd y cynlluniau ac amlygwyd y sylwadau
ychwanegol a dderbyniwyd mewn ymateb i ail ymgynghori gydag asiantaethau
perthnasol. Ystyriwyd bod egwyddor prif agweddau'r datblygiad, oedd yn cynnwys
gwaith ar forgloddiau, gosod carafanau sefydlog ychwanegol, darparu llety
ychwanegol i staff ac adeiladu caffi, yn parhau yn dderbyniol wedi ystyried yr
holl faterion cynllunio, gan gynnwys y polisïau a'r canllawiau lleol a
chenedlaethol.
c)
Yn
manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:
·
Ei
fod yn cefnogi’r cais
·
Bod
Hafan y Môr yn cynnig cyflogaeth leol - 96% o weithwyr yn lleol (bod canran o
weithwyr (oddeutu 4%) o du allan i’r Sir, yn rhan o’r adloniant). Bod Rheolwyr
yn derbyn cyflogau cystadleuol a’r gweithwyr tymhorol yn derbyn cyflogau uwch
na’r cyflog isaf (minimum wage)
·
Bwriad y cwmni oedd datblygu a moderneiddio’r safle
·
Bod
y gwaith amddiffynfeydd arfordirol i’w groesawu
·
Bydd
contractwyr lleol yn cael eu defnyddio i wneud y gwaith - rhai eisoes wedi
cysylltu yn pryderu petai’r cais yn cael ei wrthod y byddent yn gorfod rhyddhau
gweithwyr
·
Bod
14,000 yn llai o bobl yn defnyddio’r Parc o gymharu â defnydd y Parc yn ei
anterth yn y 90au
·
Bod
26 acer o goed wedi eu plannu – rhain erbyn hyn yn goed aeddfed
·
Bod
20 acer o wyneb caled wed ei godi
·
Symud
a moderneiddio'r adeilad staff yn unig yw’r bwriad - dim sail i wrthod hyn
·
Bod
bwriad rhoi estyniad ar yr amgueddfa i uchafu hanes lleol
ch) Cynigwyd
ac eiliwyd caniatáu y cais
d) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau
canlynol gan aelodau:
·
Bod ymweld
â’r safle wedi bod yn fuddiol dros ben ac yn gyfle i weld lleoliadau a safleoedd
y datblygiadau arfaethedig
·
Bod y
lleoliad ar gyfer adeilad newydd i’r staff yn addas ac wedi ei sgrinio yn dda
·
Bod y safle
yn drefnus a thaclus
·
Bod y
carafanau ym mharsel G wedi eu gosod yn ôl ar y tir ac felly yn gwarchod yr
olygfa ar hyd yr arfordir
·
Bod y Parc
yn cynnig gwaith yn lleol - hyn yn hanfodol os am gadw ein pobl ifanc yn lleol
·
Bod y
cabanau yn cael eu gwened ym Mhorthmadog ac felly’r Parc yn cefnogi cyflogaeth busnesau lleol
·
Bod yr
ymgeisydd wedi gwneud ymgais rhesymol i gyfarch yr angen
·
Bod y cais
wedi ei gyflwyno ers Rhagfyr 2019 - yr ymgeisydd wedi cydweithio gyda’r Adran
Economi a’r Adran Cynllunio - y cynllun yn fuddsoddiad mawr i Wynedd - 13m o
fuddsoddiad preifat - pam dewis gwrthod hyn?
·
Y bwriad yw
diweddaru a moderneiddio’r Parc fel ei fod yn ymateb i safonau a gofynion y
21ain ganrif
·
Nad oedd
unrhyw newid i faint y safle.
·
Bod gormod
o garafanau ar y safle
·
Llawer o
arwyddion uniaith Saesneg
·
Nad oedd
angen caffi ar y traeth - digon o lefydd bwyta o fewn y Parc - yr adeilad yn ymwthiol
ar yr arfordir ac yn orddatblygiad
·
Byddai'r
caffi newydd yn tynnu busnes oddiar bwytai eraill lleol ar yr arfordir
·
Angen
ystyried goblygiadau llifogydd – CNC heb ymateb i bryder llifogydd dwr wyneb
dd) Mewn
ymateb i sylw bod y Cynghorydd Owain Williams yn berchennog maes carafanau
cyfagos ac na ddylai gymryd rhan yn y drafodaeth, nododd y Pennaeth Cyfreithiol
mai cyfrifoldeb y Cynghorydd oedd datgan buddiant, ond bod y Cynhgorydd wedi
derbyn cyngor yn nodi gan nad oedd ei safle carafanau o fewn 6 milltir i’r
Parc, nad oedd hyn yn cynnig elfen gystadleuol ac nad oedd yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu.
Mewn ymateb i gais i ohirio’r penderfyniad
er mwyn cynnal trafodaeth bellach ynglŷn â’r niferoedd (gan nad oedd
defnydd i 61 llain, awgrym
i diddymu’r 61 o’r cyfanswm 85
gan adael cynnydd o 24 yn unig, fyddai yn lleddfu pryderon Cyngor
Cymuned), nodwyd bod trafodaethau helaeth wedi eu cynnal gyda’r ymgeisydd a bod
y nifer lleiniau ac effaith weledol eisoes wedi ei lleihau o ganlyniad i
drafodaethau. Amlygwyd bod rhaid
ystyried y cais dan sylw a phetai cynnig i addasu'r cais, byddai disgwyl i’r
ymgeisydd gyflwyno cais o’r newydd. Amlygodd y Pennaeth Cynorthwyol bod yr
adroddiad yn un manwl ac mai moderneiddio ac uwchraddio’r parc oedd dan sylw a
bod y polisïau yn gefnogol i’r egwyddor o uwchraddio.
Mewn ymateb i sylw am lifogydd, nodwyd nad
oedd y safle wedi ei leoli o fewn parth llifogydd C1 a C2 ac nad oedd yr
ystyriaethau yn newid o dan y TAN newydd.
PENDERFYNWYD:
Dirprwyo'r
hawl i Bennaeth Cynorthwyol yr Adran Amgylchedd gymeradwyo'r cais, gydag
amodau:
1. Amserlenni
2. Yn
unol â'r cynlluniau, y dogfennau a'r Datganiad Amgylcheddol a gymeradwywyd.
3. Deunyddiau.
4. Draenio
5. Amseroedd adeiladu.
6. Tirlunio a chwblhau'r cynigion lliniaru.
7. Gwarchod coed.
8. Ymchwiliad archeolegol ym mharseli G a J.
9. Mesurau
lliniaru'r iaith Gymraeg - hysbysebu'r safle, enwau'r datblygiad, arwyddion
mewnol.
10. Parhau i fonitro ymlusgiaid.
11. Y
llwybr arfordir i gael ei wyro yn unol â'r llwybr a ddengys dros gyfnod y
gwaith morglawdd ac iddo gael ei adfer ar ôl i'r gwaith hwnnw gael ei gwblhau.
12. Gosod trapiau saim ar y draeniau dŵr
aflan yn y caffi.
13. Cyflwyno CEMP
14. Cyflwyno
cynlluniau rheoli hirdymor ar gyfer safleoedd gwarchodedig (cynefinoedd)
15. Defnydd
gwyliau yn unig ar y safle, cadw cofrestr, llety ddim i'w ddefnyddio fel llety
preswyl parhaol.
16. Amodau datblygu graddol.
17. Nifer yr unedau (75 carafán deithiol, 1,323
carafán sefydlog)
Er
gwybodaeth: SuDS, cyngor safonol CNC i'r
datblygwr.
Dogfennau ategol: