Adeiladu
pont newydd, ail-alinio'r A497 a'r dynesiadau ynghyd a gwelliannau i gyffordd bresennol,
torri coed a thirlunio newydd
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Anwen Davies
Penderfyniad:
Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr
Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig
i amodau
Cofnod:
Adeiladu pont newydd, ail-alinio'r A497 a'r dynesiadau ynghyd a gwelliannau i gyffordd
bresennol, torri coed a thirlunio eewydd
Tynnwyd sylw
at y ffurflen sylwadau hwyr
a) Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod y cais yn gais llawn
i adeiladu pont gerbydol newydd
ac ail linio priffordd yr A497 oherwydd i’r bont wreiddiol
ddioddef difrod strwythurol yn Ionawr 2019. Eglurwyd bod yr A497 yn un o’r
prif lwybrau rhwng trefi Pwllheli a Nefyn gyda’r bont
bresennol yn strwythur rhestredig gradd II ac yn sefyll dros afon
Rhyd Hir. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli
tu mewn i
Ardal Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Ynys Enlli gyda safle
bywyd gwyllt Gefail y Bont yn
ymylu gydag ochr gogleddol y bont bresennol. Ategwyd bod yr ardal i’r de o’r
bont, ble lleolir y bont newydd, o fewn dynodiad Ardal Tirwedd Arbennig Gorllewin Llŷn.
Eglurwyd y byddai’r cynllun arfaethedig yn mesur oddeutu 600m o hyd, gan gynnwys
cysylltiadau i'r ffordd gerbydau presennol ar y ddwy ochr. Bydd
y bont arfaethedig yn fwa concrid
wedi ei chladio
â gwaith maen lleol. Ni dderbyniwyd gwrthwynebiadau i’r cais ac adroddwyd bod yr elfen llifogydd
wedi cael sylw sylweddol
Nodwyd bod yr ardal
o fewn parth llifogydd C2 ar fapiau
llifogydd cyfredol ac yn nogfen Nodyn
Cyngor Technegol 15: Datblygu
a Pherygl Llifogydd (2004).
I’r perwyl hyn, cyflwynwyd Asesiad Canlyniadau Llifogydd. Amlygwyd pryder gan Cyfoeth
Naturiol Cymru nad oedd yr asesiad
wedi arddangos sut y byddai’r risgiau a chanlyniadau hynny yn cael
eu rheoli. O ganlyniad, cyflwynwyd asesiad diwygiedig er mwyn dangos
y glir y mesurau rheoli’r risg llifogydd. Canfuwyd y byddai peth newid
yn nyfnder llifogydd oherwydd natur y tir, ond
nodwyd mai newid dibwys fyddai
hyn mewn gwirionedd hyd yn oed yn
ystod cyfnod eithafol. Awgrymwyd y byddai’r newid mwyaf rhwng y ddwy
bont pan fydd disgwyl i ddŵr
llifogydd godi’r llethr o boptu’r bont. Ategwyd bod bwriad prynu’r tir yma fel
rhan o drefniadau adeiladu’r bont newydd.
Wedi ystyried yr Asesiad Canlyniadau
Llifogydd diwygiedig yn ogystal â'r
wybodaeth berthnasol ychwanegol a gyflwynwyd, arddangoswyd yn ddigonol na fyddai’r
datblygiad yn achosi unrhyw gynnydd
mewn risg i fywyd nac
unrhyw risg arwyddocaol i eiddo.
Nid oedd gan CNC wrthwynebiad i’r cynllun diwygiedig
ac felly, ystyriwyd bod y cais
yn cydymffurfio â NCT 15 a pholisi ISA 1 o'r CDLl ar y Cyd.
O ystyried yr holl
faterion cynllunio perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol ynghyd a’r holl sylwadau
a dderbyniwyd, ystyriwyd fod y bwriad yn
dderbyniol ag yn unol â’r polisïau
perthnasol.
b)
Cynigiwyd ac eiliwyd
i ganiatáu’r cais
c)
Yn ystod
y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod y datblygiad i’w groesawu
·
Ardal y bont
yn beryglus
·
Gobaith cael
y bont newydd wedi ei chwblhau
erbyn Eisteddfod Dwyfor
2023
ch) Mewn ymateb
i gwestiwn a fyddai’r bont yn
un aml ddefnydd - yn llwybr cerdded,
beicio a marchogaeth, nodwyd bod bwriad defnyddio’r hen bont ar gyfer
hyn.
PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio
i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau
1. Amser
2. Unol
a’r cynlluniau
3. Bioamrywiaeth
4. Priffyrdd
5. Cytuno
deunyddiau
6. Archeoleg
7. Cyflwyno
Cynllun Rheoli Adeiladu Amgylcheddol
8. Tirlunio/Coed
9. Materion
llifogydd
Dogfennau ategol: