Codi 12 tŷ fforddiadwy, mynedfa newydd
ynghyd a gwaith cysylltiedig.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Dafydd Owen
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Penderfyniad:
Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr
Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r ymgeisydd gwblhau Cytundeb
Cyfreithiol o dan Adran 106 er mwyn sicrhau cyfraniad ariannol ar gyfer
darpariaeth llecynnau agored ac i’r amodau isod:-
Nodyn: hysbysu’r ymgeisydd o’r angen i gyflwyno
cynllun strategaeth draenio gynaliadwy i’w gymeradwyo gan Uned Dwr ac
Amgylchedd y Cyngor.
Nodyn: cyngor i’r ymgeisydd ystyried llechi lleol
Cofnod:
Codi 12 tŷ fforddiadwy, mynedfa newydd
ynghyd a gwaith cysylltiedig.
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr
a) Amlygodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu bod y cais ar gyfer codi 12 tŷ
fforddiadwy deulawr ar safle sydd a’i ran helaelth wedi ei leoli o fewn ffin
datblygu Pentref Lleol Tregarth. Roedd y cais yn cynnwys yr elfennau canlynol:
-
·
Darparu 12 tŷ
fforddiadwy ar ffurf: (i) 4 tŷ x 2 ystafell wely 4 person (rhent
cymdeithasol); (ii) 4 tŷ x 3 ystafell wely 5 person (rhent cymdeithasol);
1 tŷ x 2 ystafell wely 4 person (rhent canolradd) a 3 tŷ x 3 ystafell
wely 5 person (rhent canolradd).
·
Cau’r fynedfa bresennol
oddi ar y ffordd sirol dosbarth III (Tal Cae) a chreu mynedfa newydd ymhellach
i’r dwyrain.
·
Creu llwybr troed yn
nhu blaen y safle a fydd yn cysylltu â’r llwybr troed presennol i’r gorllewin.
·
Lledu’r ffordd
gyfochrog i 5.5m i gyfarfod a gofynion mabwysiedig y Cyngor.
·
Gwyro’r cwrs dwr sy’n
rhedeg drwy’r safle i ymylon gorllewinol y safle.
·
Creu coridorau
ecolegol.
·
Llecynnau parcio o fewn
cwrtil y tai arfaethedig.
·
Codi ffensys o amrywiol
dyluniad, uchder a deunydd.
·
Codi siediau domestig o fewn y gerddi cefn
ynghyd a llecynnau storio biniau.
Adroddwyd bod yr egwyddor o godi tai ar y safle
arbennig hwn wedi ei selio ym Mholisi PCYFF 1, TAI 4, TAI 15 a PS 5 o’r CDLL.
Amlygwyd bod polisi TAI 4 y cefnogi tai newydd mewn pentrefi lleol i gwrdd â
strategaeth y CDLL drwy ddyraniadau tai a safleoedd addas heb eu dyrannu o fewn
y ffin datblygu ar sail y ddarpariaeth ddangosol o fewn y Polisi ei hun. O gnalynaid, bydd y bwriad yn golygu bydd Tregarth yn mynd y tu hwnt i’w
lefel twf dangosol ,ond y gellid cefnogi cymeradwyo’r
safle hwn yn erbyn darpariaeth gyffredinol (yn seiliedig ar y gyfradd gwblhau
hyd yma) o fewn y categori Pentrefi, Clystyrau & Chefn Gwlad agored..
Nodwyd bod Polisi TAI 15 yn ceisio darpariaeth briodol
o dai fforddiadwy a gyda’r datblygiad arfaethedig yn cynnig cynnydd o 12
fforddiadwy, golygai hyn fod y bwriad yn cyd-fynd â gofynion canran o unedau
fforddiadwy o fewn y Polisi. Nodir Polisi PS5 y cefnogir datblygiadau ble
gellid dangos ei bod yn gyson ag egwyddorion datblygu cynaliadwy gan gynnwys
safleoedd addas oddi fewn i ffiniau datblygu ac y byddai’r elfen o ddatblygu
cynaliadwy a hygyrchedd y safle yn un o’r brîf ystyriaethau wrth ddewis
safleoedd ar gyfer codi tai o fewn y CDLL gan yr Arolygwr Cynllunio. Gan
ystyried bod yr holl dai yn rhai fforddiadwy (yn hytrach na’r 20% sydd angen ei
ddarparu) ystyriwyd fod y cais yn dderbyniol mewn egwyddor.
Yng nghyd-destun materion tai fforddiadwy a chymysgedd
tai, cyflwynwyd Datganiad Tai Fforddiadwy gan Adra ynghyd a Datganiad Cymysgedd
Tai yn unol â gofynion Polisi TAI8 a TAI15 o’r CDLL ynghyd a’r CCA: Cymysgedd
Tai a Tai Fforddiadwy. Ymddengys bod tystiolaeth gadarn ar gael parthed yr
angen am dai fforddiadwy ac mai’r angen mwyaf yn ardal Tregarth oedd am unedau
2 a 3 llofft rhent cymdeithasol a rhent canolradd. Gellid sicrhau fod y
tai yn fforddiadwy’n bresennol ac am byth drwy gynnwys amod cynllunio arferol o
fewn unrhyw ganiatâd cynllunio
Yng nghyd-destun materion trafnidiaeth a mynediad
amlygwyd bod ystyriaeth wedi ei roi i bryderon trigolion lleol parthed
addasrwydd y rhwydwaith ffyrdd lleol i ymdopi a thrafnidiaeth ychwanegol. Mewn
ymateb i’r broses ymgynghori statudol cadarnhaodd yr Uned Drafnidiaeth nad oedd
gwrthwynebiad i’r bwriad oherwydd bod y bwriad yn cynnig gwelliannau i’r ffordd
gyfagos ac am ddarparu parcio ar raddfa 2 lecyn parcio fesul pob eiddo; ffordd
stad fechan sy’n cynnwys mynedfa o ddyluniad safonol ynghyd a man troi i
ganiatáu cerbydau i droi a gadael y safle mewn ger ymlaen. Roedd yr Uned yn argymell cynnwys amodau/nodiadau
perthnasol pe caniatawyd y cais er mwyn sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau
i safonau statudol diogelwch ffyrdd.
Yng nghyd-destun llifogydd a draenio cyflwynwyd
pryderon gan drigolion lleol parthed y ffaith bod y cwrs dŵr sy’n rhedeg
drwy ran isaf y safle wedi ei leoli, yn bresennol, o fewn Parth A ym Mapiau
Cyngor Datblygu (DAM) sydd wedi'u cynnwys yn Nodyn Cyngor Technegol 15:
Datblygu a Pherygl o Lifogydd (Gorffennaf 2004). O ganlyniad, bydd angen ail-alinio’r cwrs dŵr presennol tuag at ymylon
gorllewinol y safle gyda’r bwriad o arllwys dŵr hwyneb o’r
safle/adeiladwaith newydd i’r cwrs dŵr ei hun. Bydd rhaid i unrhyw
arllwysiad i’r cwrs dŵr gael ei gytuno gyda’r Uned Dŵr ac Amgylchedd
fel Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy (CCS) ynghyd a bod angen
Caniatâd Cwrs Dŵr Arferol ar gyfer unrhyw waith a
allai effeithio ar lif yr afon. Awgrymwyd atodi nodyn yn cyfeirio’r ymgeisydd
i’r angen o dderbyn caniatadau a thrwyddedau perthnasol gan Uned Dŵr ac
Amgylchedd y Cyngor cyn i unrhyw waith ddechrau ar y safle.
Yng nghyd-destun materion llecynnau agored, yn ôl
Polisi ISA 5 o’r CDLL, disgwylir i gynigion ar gyfer 10 tŷ neu fwy mewn
ardaloedd ble na all llecynnau agored presennol fodloni anghenion y datblygiad
tai arfaethedig gynnig darpariaeth addas o fannau agored. Ymddengys bod y wybodaeth gyfredol a dderbyniwyd gan
yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd yn amlygu diffyg llecynnau chwarae gyda
chyfarpar offer i blant yn Nhregarth ac felly bydd angen cyfraniad ariannol o
£2,380.43 i gwrdd a’r diffyg. Gellid sicrhau’r cyfraniad drwy ofyn i’r
ymgeisydd arwyddo Cytundeb o dan Adran 106.
Ystyriwyd y byddai’r bwriad i ddatblygu 12 o dai
fforddiadwy yn ymateb positif i’r anghenion tai amrywiol sydd wedi’u hadnabod
yn yr ardal. Ni ystyriwyd fod y bwriad yn groes i bolisïau lleol na
chenedlaethol ac nad oedd unrhyw fater cynllunio perthnasol yn gorbwyso’r
ystyriaethau polisi.
b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau
canlynol:
·
Nad oedd gan yntau na’r
Cyngor Cymuned wrthwynebiad i’r cais, ond pryder am adeiladu 3 tŷ ger yr afon.
Awgrymwyd gohirio adeiladu'r 3 tŷ yma hyd nes bydd y tai ar y llethr wedi
eu hadeiladu ac yn amlygu patrwm llif dŵr wyneb.
·
Beth fydd sefyllfa
tenantiaid y tai hyn petai’r tai yn dioddef effaith llifogydd - a fydd yswiriant ?
·
Pryder am ddiogelwch
plant o gwmpas yr afon - a fydd ffens yn cael ei osod i arbed mynediad at yr
afon?
·
Angen mwy o wybodaeth
am y broses gollyngiad dŵr - a fydd y dŵr yn cael effaith ar
anifeiliaid amaethyddol? A fydd sebon ynddo?
·
Derbyn bod bwriad
ymestyn y llwybr troed ar hyd ymyl y safle, ond syndod nad oedd yr Adran
Priffyrdd wedi gwneud sylw am y bont gul sydd gerllaw’r safle
·
Cynnig i osod amod am
lechi lleol yn hytrach na llechi naturiol gan fod chwarel gerllaw
c) Mewn ymateb i’r sylwadau, cadarnhawyd bod materion yr afon wedi eu
trafod gyda’r Uned Dŵr cyn cyflwyno cais ac os byddai’r cais yn cael ei
ganiatáu - yn unol â rheoliadau newydd, bydd rhaid i’r broses gydymffurfio
gyda’r gofynion statudol. Cadarnhawyd hefyd y byddai ffens 1.8m yn cael ei osod
tu cefn i’r gerddi i atal mynediad at yr afon. Nodwyd nad oedd sylwadau wedi eu
derbyn gan yr Adran Priffyrdd ynglŷn â’r bont ac awgrymwyd i’r Aelod Lleol
gysylltu yn uniongyrchol gyda’r Adran i drafod y pryderon. Yng nghyd -destun
defnyddio llechi lleol, nodwyd bod y gofyniad yn groes i ofynion Ewropeaidd
ch) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais
d) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod y defnydd o lechi
naturiol yn hytrach na llechi lleol i’w weld yn eironig o ystyried safle'r
bwriad o fewn ardal llechi. Derbyn nad oes modd gorfodi, ond rhesymol fyddai
gofyn i’r ymgeisydd ystyried llechi lleol
·
Bod y bont yn gul iawn
ac y dylid ystyried y pryderon yn ystod y datblygiad
dd) Mewn
ymateb i sylw ynglŷn â defnyddio llechi lleol, nododd y Pennaeth Cyfreithiol nad oedd
modd gosod amod am fath penodol o lechi, ond y gellid rhoi cyngor i’r ymgeisydd
ystyried llechi lleol.
PENDERFYNWYD:
Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r
cais yn ddarostyngedig i’r ymgeisydd gwblhau Cytundeb Cyfreithiol o dan Adran
106 er mwyn sicrhau cyfraniad ariannol ar gyfer darpariaeth llecynnau agored ac
i’r amodau isod:-
1. 5
mlynedd.
2. Yn
unol â’r cynlluniau a dogfennau a gyflwynwyd gyda’r cais.
3. Llechi
naturiol.
4. Amodau
priffyrdd.
5. Cynllun
plannu coed.
6. Amodau
mesurau lliniaru bioamrywiaeth i gynnwys cydymffurfio gyda gofynion yr asesiad
Ecolegol Rhagarweiniol; darparu Cynllun Atal Llygredd; sicrhau bod y safle yn
athraidd i ddraenogod a chyflwyno cynllun gwelliannau bioamrywiaeth
7. Cyfyngu
oriau gweithio rhwng 08:00-18:00 Dydd Llun - Dydd Gwener, 08:00-13:00 Dydd
Sadwrn a dim o gwbl ar Ddydd Sul a Gŵyl Banc.
8.
Cytuno manylion parthed enw Cymraeg ar gyfer y datblygiad ynghyd ag arwyddion
sy’n hysbysu ac yn hyrwyddo’r datblygiad o fewn ac oddi allan y safle.
9. Tynnu
hawliau datblygu o’r tai fforddiadwy.
10. Sicrhau
cynllun/trefniadau ar gyfer darparu’r tai fforddiadwy.
11.
Cyflwyno Cynllun Rheoli Amgylcheddol i gynnwys sŵn, dirgryniad a llwch.
12. Sicrhau
cydymffurfiaeth a Rhif Prydeinig BS 5837:2012.
13. Amod
cyflwyno cynllun draenio dŵr aflan o’r datblygiad.
14. Samplau
o’r deunyddiau a’r lliwiau ar gyfer y tai a’r tirlunio caled a meddal.
Nodyn: hysbysu’r ymgeisydd o’r angen i gyflwyno
cynllun strategaeth draenio gynaliadwy i’w gymeradwyo gan Uned Dwr ac
Amgylchedd y Cyngor.
Nodyn: cyngor i’r ymgeisydd ystyried llechi lleol
Dogfennau ategol: