Addasu'r capel i 7 uned breswyl gan gynnwys
uned fforddiadwy ynghyd a mynediad newydd a llecynnau parcio
AELOD LLEOL: Cynghorydd Elfed Williams
Penderfyniad:
Gohirio’r
penderfyniad er mwyn cynnal trafodaethau pellach gyda’r ymgeisydd i geisio mwy
o wybodaeth a thystiolaeth ynglŷn â’r canlynol:
Bod yr Aelod Lleol yn rhan o’r trafodaethau
Cofnod:
Addasu'r
capel i 7 uned breswyl gan gynnwys uned fforddiadwy ynghyd a mynediad newydd a
llecynnau parcio
Tynnwyd sylw
at y ffurflen sylwadau hwyr
a)
Amlygodd
yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd ar gyfer addasu'r
ysgoldy a chapel segur i 7 fflat breswyl ar safle wedi ei leoli gyferbyn a'r Stryd
Fawr yn Deiniolen. Nodwyd
bod ei ddefnydd fel capel/festri wedi dod i ben Ionawr 2013, ac er wedi ei
leoli oddi fewn i ffin datblygu Pentref Gwasanaethol Deiniolen, nid oedd wedi ei
ddynodi ar gyfer unrhyw ddefnydd arbennig. Rhannwyd y cais i sawl elfen oedd yn
cynnwys:
·
Darparu
4 fflat 2 lofft o fewn y cyn-gapel ar ddau lawr a darparu 1 fflat 2 lofft a 2
fflat 1 llofft o fewn y cyn-festri gyda'r fflat 1 llofft yn uned fforddiadwy i'w
rhentu
·
.Darparu
9 llecyn parcio yn nhu blaen y festri.
·
Darparu
storfa finiau/ail-gylchu gyferbyn a'r llecynnau
parcio.
·
Creu
mynediad newydd (gan ddisodli'r fynedfa bresennol) ar gyfer cerbydau oddi ar y
ffordd sirol dosbarth III cyfagos (Stryd Fawr).
·
Ymgymryd
â chynllun plannu coed.
Amlygwyd bod nifer o ddogfennau wedi eu
cyflwyno i gefnogi’r cais.
Adroddwyd bod yr
egwyddor o ddarparu unedau preswyl ar y safle arbennig hwn wedi ei selio ym
Mholisi PCYFF 1, TAI 3, TAI 15, PS 17 ac ISA 2. Eglurwyd bod Polisi TAI 3 yn
datgan o fewn y Pentrefi Gwasanaeth bydd tai i gwrdd â Strategaeth y Cynllun yn
cael eu sicrhau drwy'r dynodiadau tai ynghyd a safleoedd ar hap addas o fewn y
ffin datblygu. Fodd bynnag, gan fod Deiniolen wedi gweld ei lefel twf
disgwyliedig ar safleoedd ar hap trwy unedau wedi eu cwblhau yn y cyfnod 2011 i
2021 a chwblhau’r banc tir presennol, roedd angen i’r ymgeisydd ddangos bod y
bwriad arfaethedig yn cyfarch anghenion y gymuned leol. I’r perwyl hyn,
cyflwynodd yr ymgeisydd wybodaeth berthnasol ac o ganlyniad gellid cyfiawnhau’r
angen lleol ar gyfer y math o unedau preswyl a gynigiwyd
o fewn y cais cyfredol.
Eglurwyd bod rhan 2
meini prawf i - iii o Bolisi ISA 2 yn datgan bydd
rhagdybiaeth i wrthsefyll colled neu newid defnydd cyfleuster cymunedol
presennol oni bai:-
i. y gall datblygwr ddarparu cyfleuster
addas yn ei le ar y safle neu oddi ar y safle a bod mynediad rhwydd a hwylus
trwy ddull ar wahân i gar, neu
ii. y gellid dangos bod y cyfleuster yn
amhriodol neu'n ormod i'r hyn sydd ei angen, neu
iii. mewn
perthynas â chyfleuster sy'n cael ei redeg yn fasnachol bod tystiolaeth nad
yw'r bwriad mwyach yn hyfyw'n ariannol; na ellid disgwyl yn rhesymol iddo ddod
yn hyfyw'n ariannol; na ellid sefydlu unrhyw ddefnydd cymunedol addas arall a
bod tystiolaeth o ymdrechion gwirioneddol i farchnata'r cyfleuster sydd wedi
bod yn aflwyddiannus.
Mewn ymateb adroddwyd
bod yr ymgeisydd wedi datgan bod yr adeilad wedi bod ar y farchnad ers Ionawr,
2013 a heb ei werthu hyd Hydref, 2018 sy’n dangos nad oedd llawer o ddiddordeb
o fewn y farchnad ar gyfer eiddo cyn-addoldai. Ategwyd nad oedd diddordeb wedi
ei ddangos i barhau gyda’i ddefnydd fel addoldy a chyfeiriwyd at addoldy arall
gerllaw, sef, Eglwys Crist Llandinorwig.
Ystyriwyd y byddai
addasu’r adeiladwaith ar gyfer fflatiau bach o safon yn gwneud defnydd priodol
o’r safle a’r eiddo gan ei fod wedi ei leoli mewn ardal sy’n bennaf yn ardal
breswyl. Byddai hefyd yn gyfle i dacluso a thwtio’r safle ar sail mwynderau
gweledol i osgoi unrhyw ymddygiad anghymdeithasol yn y rhan yma o’r
pentref.
Yng nghyd-destun
mwynderau gweledol ystyriwyd natur, graddfa a lleoliad canolig y safle o fewn
ardal adeiledig sefydledig. O'i ganiatáu, ni ystyriwyd y byddai’n amharu'n
andwyol ar fwynderau gweledol y rhan yma o'r strydlun nac ar gymeriad ac integredd ehangach Tirlun o Ddiddordeb Hanesyddol
Eithriadol Dinorwig a’i leoliad bellach o fewn Safle Treftadaeth y Byd Llechi
Cymru
Yng nghyd-destun materion tai
fforddiadwy a chymysgedd cyflwynwyd Datganiad Cymysgedd Tai oedd yn nodi:-
·
Byddai’r
7 uned ar gyfer rhent canolradd gydag un uned 1 llofft yn uned fforddiadwy (yn
unol â gofynion Polisi TAI15)
·
Bod
prisiau ar gyfer yr unedau 1 a 2 ystafell wely wedi eu cyflwyno gan gwmni gwerthwyr
tai lleol yn seiliedig ar amodau’r farchnad dai lleol ynghyd a chymharu
tystiolaeth gyffelyb
Yn
unol â’r cyngor a gynhwysir yn y CCA perthnasol cysylltwyd gyda Thîm Opsiynau
Tai'r Cyngor ynghyd a’r Hwylusydd Tai Gwledig. Derbyniwyd gwybodaeth yn nodi
bod yr angen am unedau 1 a 2 ystafell wely yn uchel - 46 cais wedi eu cynnwys
yng Nghofrestr Tai Cyffredinol y Cyngor ar gyfer fflatiau 1 a 2 ystafell wely,
32 cais ar gyfer fflat 1 ystafell wely a 35 cais ar gyfer fflat 2 ystafell
wely. Amlygwyd bod yr Asesiad Marchnad Tai Lleol Gwynedd (2018 i 2023) yn
cadarnhau bod diffyg 13% am unedau 1 llofft a diffyg 11% unedau 2 lofft yng
Ngwynedd ac amcangyfrifwyd y byddai’r
angen am unedau bach (1 a 2 berson) ynghyd ag unedau mwy (5 person) yn cynyddu
hyd at 2035. Ymddengys cyfrifiad 2011, ar y cyfan, bod nifer eiddo rhentu
preifat sydd ar y farchnad yn lleihau gyda maint teuluoedd hefyd yn lleihau
sy’n awgrymu bydd yr angen am unedau
llai yn cynyddu. O
ganlyniad, bydd unedau bach ar rent fel y cynigiwyd yn y cais arfaethedig yn
gymorth i ddiwallu’r angen yma
Cadarnhaodd Tîm
Opsiynau Tai y Cyngor bod 54 cais ar gyfer unedau cymdeithasol 2 lofft yn
Deiniolen gyda 38 a diddordeb mewn unedau 1 llofft ac er bod 6 o’r fflatiau yn
rhai marchnad agored nodwyd bod eu pris rhentu/gwerthiant yn gyfystyr a darparu
unedau fforddiadwy. Ystyriwyd felly y gellid cefnogi’r cais ar sail gofynion
Polisi TAI 8 a’r CCA perthnasol a sicrhau bod yr uned fforddiadwy yn
fforddiadwy yn bresennol ac i’r dyfodol drwy gynnwys amod cynllunio safonol.
O ystyried y byddai’r
bwriad i ddarparu 7 uned breswyl gan gynnwys uned fforddiadwy yn ymateb yn
bositif i’r anghenion ar gyfer unedau preswyl bychain yn Deiniolen, roedd y
bwriad yn dderbyniol yn ddarostyngedig ar gynnwys yr amodau a restrwyd yn yr
adroddiad ynghyd ag un parthed gosod ffenestri afloyw.
b)
Yn
manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd yn sylwadau canlynol:
·
Eu
bod wedi prynu Capel Ebeneser yn 2018 ac wedi cyflwyno cais cynllunio i'r
Cyngor Rhagfyr 2019.
·
Bod
Capel Ebeneser yn adeilad trawiadol ac amlwg mewn ardal breswyl, yn gyfleus
gyda safle bws a chyfleusterau gerllaw.
·
Bod
yr adeilad yn dirywio o flwyddyn i flwyddyn, ac yn anffodus yn denu ymddygiad
gwrthgymdeithasol a fandaliaeth.
·
Y
bwriad yw addasu’r adeilad sydd yn borth i mewn i'r pentref, i bum uned dwy
lofft a dwy uned un llofft, a fydd yn fforddiadwy i ddarpar bobl leol.
·
Y
bwriad yw gwneud i’r capel edrych yn ddeniadol a'i gynnal i safon uchel, gan
gadw edrychiad gwreiddiol y tu allan, er mwyn cofio gwreiddiau hanesyddol yr
adeilad pwysig yma.
·
Bod
Asesiad Marchnad Tai Lleol Gwynedd yn cadarnhau diffyg unedau un a dwy loft yng Ngwynedd, a bod yr angen am unedau llai am gynyddu
yn y blynyddoedd nesaf.
·
Bod
dros 60% o boblogaeth Gwynedd yn methu fforddio prynu tŷ yn y Sir
·
Bydd
prisiau'r unedau i gyd yn fforddiadwy er mwyn sicrhau fod pobl ifanc lleol yn
cael cyfle i gychwyn ar yr ystôl eiddo.
·
Bod
Cynllun Gweithredu Tai Cyngor Gwynedd 2021-2026/27 yn nodi “fod angen sicrhau
bod gan bobl Gwynedd fynediad at gartref addas o safon, sy’n fforddiadwy ac
sy’n gwella eu hansawdd bywyd”.
·
Bod
Aelod Cabinet Tai ac Eiddo, y Cynghorydd Craig ab Iago wedi nodi bod Cynllun
Gweithredu Tai yr Adran Tai ac Eiddo, wedi ei sefydlu gan y Cyngor i fynd i'r
afael a’r diffyg cartrefi addas sydd ar gael i bobl leol yng Ngwynedd.
·
Bod
y Cynghorydd Craig ab Iago yn nodi “fy
mrîf flaenoriaeth yw sicrhau ein bod ni fel Cyngor yn gwneud popeth o fewn ein
gallu i gynnig cartrefi i bobl Gwynedd yn ein cymunedau. Rydym yn gwybod bod ein pobl ifanc yn gwynegu
mwy o her nag erioed i ddod o hyd i gartref addas yn lleol ac mae hon yn
sefyllfa annheg ac anghyfiawn”.
·
Cais
i’r Pwyllgor gytuno gydag argymhelliad y Swyddog Cynllunio bod addasu Capel
Ebeneser i unedau preswyl yn un cadarnhaol.
c)
Yn
manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:
·
Pryder
gan drigolion lleol pwy fydd yn meddiannu’r fflatiau - a fydd y digartref yn
Hostel Noddfa yn cael blaenoriaeth dros drigolion lleol?
·
Ers
ei gyfnod fel Cynghorydd lleol (dros 9 mlynedd), neb yn lleol wedi ei holi
ynglŷn â fflat - sut felly mae’r bwriad yn ymateb i’r angen yn lleol?
·
Sut
fydd yr ymgeisydd yn rheoli’r sefyllfa?
·
Bod
cyfarfod wedi ei gynnal gyda’r ymgeisydd ym mis Awst a thrigolion cyfagos wedi
cyflwyno pryderon - dim sylw wedi eu cymryd o’r sylwadau hyn
·
Bod
9 llecyn parcio ar gyfer 7 fflat – a yw hyn yn ddigonol? Dim lle ar y stryd
fawr i barcio.
·
Beth
yw cynlluniau’r perchnogion ar gyfer y fynwent?
·
Bod
ystlumod wedi ei gweld o gwmpas y Capel
·
Os
bydd y fflatiau yn rhai rhad, sut effaith fydd hyn yn ei gael ar werth y tai
cyfagos
·
Y
dymuniad yn gymunedol oedd ceisio cyfleuster cymunedol / canolfan aml bwrpas,
ond nad oedd tystiolaeth o’r ymdrechion
·
Bod
yr elfen ieithyddol yn wan o ran enw Cymraeg yn unig – fflatiau eraill wedi eu
codi yn lleol a neb yn siarad Cymraeg ynddynt
·
Hostel
Noddfa wedi agor yn Neiniolen yn 1974 ar gyfer merched bregus Gwynedd, ond erbyn
hyn yn hostel digartref heb rybudd yn lleol o’r newid mewn defnydd - a fydd hyn
yn digwydd i Gapel Ebeneser - y criteria yn newid dros nos?
·
Fel
Cynghorwyr, a fyddech chi yn fodlon derbyn fflatiau fel hyn yn eich ward eich
hunain?
ch)
Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais
d)
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y
sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod
angen ystyried sylwadau’r Aelod Lleol yn enwedig lle nodwyd diffyg angen am
fflatiau
·
Os
nad oes angen am fflatiau yn lleol, rhaid ystyried goblygiadau hyn
·
Bod
angen rhoi ystyriaeth deg i sylwadau Uned Rheoli Risg Llifogydd – ‘bod
cyfrifoldeb ar gynnal a chadw cwrs dwr ar cylfat o fewn ffiniau’r safle ... yn
eistedd gyda’r perchnogion’
·
Bod
angen mwy o wybodaeth am fynediad i’r fynwent
·
Sut
fydd yr ymgeisydd yn sicrhau ‘defnydd lleol’?
·
Bod
rhaid i’r defnydd fod o fudd i bobl Deiniolen
·
Bod
y fflatiau ‘marchnad agored’ yn codi pryder - gall y rhain fod yn addas ar
gyfer defnydd Airbnb o ystyried y lleoliad
dd) Cynigiwyd ac eiliwyd
gwelliant i ohirio’r penderfyniad er mwyn cynnal trafodaethau pellach gyda’r
ymgeisydd i gael gwell dealltwriaeth o’r angen lleol
e)
Mewn
ymateb i gwestiwn am sylw a wnaed gan yr Uned Strategol Tai bod ‘74 o ymgeiswyr
ar gofrestr aros tai cyffredin ac eiddo cymdeithasol,’ cadarnhawyd mai ffigyrau
ar gyfer Gwynedd gyfan oedd hyn ac nid Deiniolen. Ategwyd bod ‘eiddo cymdeithasol’
yn golygu ‘tai rhent’
Mewn ymateb i sylw
am lifogydd, nododd y Pennaeth Cyfreithiol bod arweiniad clir ar y mater wedi
ei gyflwyno gan yr asiantaeth berthnasol.
Mewn ymateb i
gynnig i ohirio, nododd y Pennaeth Cynorthwyol bod gwybodaeth am ‘yr angen yn
lleol’ wedi ei gynnwys yn yr adroddiad, ond bod modd gwneud cais am ragor o
wybodaeth a thystiolaeth. Awgrymwyd bod y trafodaethau i’w cynnal gyda’r Aelod
Lleol yn bresennol. Ategwyd y byddai modd hefyd holi am gadarnhad ar faterion y
fynwent, materion llifogydd a dulliau marchnata i sicrhau defnydd lleol.
PENDERFYNWYD:
Gohirio’r
penderfyniad er mwyn cynnal trafodaethau pellach gyda’r ymgeisydd i geisio mwy
o wybodaeth a thystiolaeth ynglŷn â’r canlynol:
1. Cadarnhad bydd y fynwent yn cael ei gwarchod
a sut.
2. Derbyn
mwy o fanylion draenio tir a sicrhad na fydd y cylfat yn achosi problemau ar y
safle nac yn lleol.
3. Cadarnhad
am yr angen am fflatiau yn Deiniolen a
faint o enwau sydd ar y rhestr aros?
4. Sut
mae’n bwriadu sicrhau y bydd y datblygiad yn cael ei feddiannu gan bobl leol?
Bod
yr Aelod Lleol yn rhan o’r trafodaethau
Dogfennau ategol: