I
ystyried yr adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau.
Penderfyniad:
(1) Penderfynwyd nodi a derbyn yr adroddiad.
(2) Ymateb i bapur ymgynghori’r Adran
Drafnidiaeth “Strengthening enforcement of the dangerous use of recreational and
personal watercraft” bod y pwyllgor hwn yn ffafrio opsiwn 3, sef llunio
deddfwriaeth dan adran 112 o Ddeddf Diogelwch Rheilffyrdd a Thrafnidiaeth 2003
i ymestyn darpariaethau perthnasol Deddf Llongau Masnach 1995, a rheoliadau
perthnasol, i gynnwys badau dŵr hamdden a phersonol.
Cofnod:
Rhoddwyd diweddariad ar faterion rheolaethol
yr harbwr gan y Uwch Swyddog Harbyrau. Nododd y prif
bwyntiau fel a ganlyn:
-
Bod 76 o gychod ar angorfeydd o
gymharu â 47 yn 2020. Ategodd yn gyffredinol, bod harbyrau
Gwynedd wedi gweld cynnydd yn nifer y cychod ar angorfeydd.
-
Tybiwyd bod y cynnydd o ganlyniad i ryddhad rheoliadau
Covid-19 yn ogystal â’r parhad o’r rhwystrau i deithio dramor.
-
Rhannwyd bod y drefn cofrestru ar-lein ar gyfer cychod
pŵer a jetskis wedi bod yn llwyddiant
-
Crynhowyd y cyfanswm cofrestriadau 1,308 a chyfanswm ar
gyfer cofrestriadau Cychod Dwr Personol (jestskis)
1,302.
-
Nododd bod y Pwyllgor yn ymwybodol bod y gwasanaeth yn
cydymffurfio â’r cod diogelwch morwrol, ac ategodd i aelodau eu hysbysu
ynghylch unrhyw sylwadau.
Cyflwynwyd diweddariad ar faterion staffio
fel a ganlyn:
-
Nododd nad yw’r lefel staffio wedi newid ers yr adroddiad
diwethaf ac ategodd bod y gwasanaeth yn medru galw staff o Borthmadog
neu Abermaw os oes angen yn codi.
-
Penodwyd 2 warden traeth i gynorthwyo gyda goruchwylio
rheolaeth ar brif draeth Aberdyfi ac ategwyd yn ôl adborth gan drigolion bod
hyn wedi bod yn llwyddiant.
-
Mewn perthynas â materion Pwyllgor, mynegwyd balchder yn
y gefnogaeth sydd i’r Pwyllgor hwn, a rhannwyd bod sedd wag ar hyn o bryd.
Dywedodd bod cais wedi dod gan y mudiad bad achub i lenwi’r sedd, a gofynnwyd
am gefnogaeth yr aelodau i sicrhau bod y sedd yn cael ei lenwi erbyn y cyfarfod
nesaf yn y Gwanwyn.
Cyflwynwyd materion ariannol gan Reolwr
Morwrol, aethpwyd ati i egluro’r sefyllfa ariannol yr Harbwr gan nodi’r
gyllideb, gwariant a gwir wariant ac egluro unrhyw gôr neu danwariant i’r
aelodau.
Aethpwyd ati i drafod y ddogfen ar
ymgynghoriad cryfhau gorfodaeth ar ddefnydd peryglus cychod pleser a badau dwr
personol. Eglurodd bod dyddiad cau'r ymgynghoriad wedi bod, fodd bynnag mae
llythyr wedi ei hysgrifennu i’r Adran Drafnidiaeth yn Llundain yn nodi dyddiad
y pwyllgor hwn ac yn egluro y bydd sylwadau Cyngor Gwynedd yn cael eu rhannu yn
dilyn y Pwyllgor.
Adroddwyd bod 4 opsiwn ynghlwm a’r ymgynghoriad gyda’r un ffafriol i
ddiwygio’r ddeddf Diogelwch Rheilffyrdd a Thrafnidiaeth 2003 i ymestyn
darpariaethau perthnasol Deddf Llongau Masnach 1995, a rheoliadau perthnasol, i
gynnwys badau dŵr hamdden a phersonol. Eglurodd bod y Pwyllgorau harbyrau eraill, eisoes wedi penderfynu cefnogi’r opsiwn
yma. Ategodd nad oed rhaid dilyn y dewis hwn a gofynnwyd am farn yr Aelodau.
Yn ystod y drafodaeth cafwyd y sylwadau isod
gan aelodau:
-
Mynegwyd balchder o weld bod niferoedd y cychod yn uwch
gan i fod yn dda iawn i’r gwasanaeth o ran cyllid ychwanegol.
-
Gofynnwyd am gywirdeb gyda niferoedd gan fod y copi
Saesneg yn wahanol i’r un Gymraeg o ran nifer cofrestriadau.
-
Rhoddwyd sylw am gwt y wardeniaid traeth a gofynnwyd a
yw’n bosib gosod rhywbeth mwy gweddus i’r ardal.
-
Nodwyd bod y staff wedi wynebu tymor prysur iawn a
diolchwyd i’r holl staff a oedd ar gael o gwmpas yr harbwr.
-
Holwyd aelod am eglurder ar wariant ar Offer a Chelfi o
gymharu â’r flwyddyn gynt.
-
Awgrymwyd i wahaniaethu rhwng eitemau mordwyo ac offer
eraill ar y gyllideb.
-
Mewn perthynas â’r ymgynghoriad, nodwyd yr aelodau eu bod
yn hapus i fynd efo opsiwn 3 ond ategwyd rhai nad oeddent yn gweld bod llawer o
wahaniaeth am fod i’r drefn bresennol.
Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd yr Uwch
Swyddog Harbyrau a’r Rheolwr Morwrol a:
-
Bod nifer o gabanau i warchod staff gysgodi mewn tywydd garw,
fodd bynnag mae angen annog staff i fod allan efo’r cyhoedd yn siarad ac
ymgysylltu a gwneud gwaith ar y traeth. Ategodd ei fod ar y rhaglen waith i
uwchraddio’r cabanau.
-
Mewn ymateb i’r cwestiwn ar wariant Offer a Chelfi y
buddsoddwyd mewn cymhorthion mordwyo, cadwyni, llusernau a chynorthwywyr
modrwyo oherwydd o dan god diogelwch mae’n un o
gyfrifoldebau statudol. Ategodd ei fod yn hanfodol bod yn cynnal a chadw’r
offer yma.
-
Ystyriwyd gwahaniaethu ar y gyllideb, fodd bynnag
penderfynwyd nad oedd yn briodol, Cytunwyd i ystyried gwahanu’r gost mordwyo
gan fod cost ailosod ac adleoli gyda mordwyo. Sicrhawyd y bydd wedi
gwahaniaethu yn y gyllideb nesaf.
Dogfennau ategol: