I ystyried
adroddiad yr Harbwrfeistr.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Harbwrfeistr Cynorthwyol yn nodi’r prif bwyntiau ar y
materion gweithredol fel a ganlyn:
-
Gyda materion mordwyo nododd bod y sianel yn newid yn
gyson ac yn cael ei fonitro drwy gydol y tymor fel bod modd rhoi rhybuddion i forwyr
-
Eglurwyd bod ‘Trinity House’ wedi bod i archwilio a nodwyd bod contractwyr lleol
wedi cwblhau’r gwaith cynnal a chadw fel yr ofynnwyd ar y cynorthwyon mordwyo.
-
Mewn perthynas â materion gweithredol, nododd bod diwedd
ar y cyfyngiadau Covid wedi arwain at Haf brysur iawn
ond bod y wardeniaid ychwanegol wedi bod o gymorth mawr.
-
Ychwanegodd bod y mwyafrif o ymwelwyr wedi bod yn
barchus, fodd bynnag cofnodwyd ambell i brofiad amharchus. Nododd yn ychwanegol
bod cynnydd mewn sbwriel yn cael ei adael o amgylch yr harbwr a’r traeth.
-
Eglurodd bod cynnydd aruthrol mewn SUP’s
(StandUp Paddleboards) ar y
traeth, llwyddodd y warden i gynghori defnyddwyr ar ddiogelwch y môr ag i
gadw’r sianel yn glir.
-
Aethpwyd ati i
egluro’r holl waith cynnal a chadw sydd wedi bod megis gyda’r cytiau a’r bad
patrolio.
Ychwanegodd y Rheolwr Morwrol y canlynol:
-
Bod recriwtio i swyddi tymhorol yn heriol a gofynnwyd i’r
aelodau hysbysebu unrhyw swyddi o fewn eu wardiau neu gymunedau.
-
O ganlyniad i gamdriniaeth eiriol, mae’r gwasanaeth wedi
buddsoddi mewn camerâu Teledu Cylch Gyfyng i staff wisgo.
-
Er mwyn ymdrin â sbwriel, y rhan fwyaf o ganlyniad i
ymwelwyr yn dal crancod, nododd bydd angen cydweithio efo siopau lleol sy’n
gwerthu’r offer yn ogystal â lleoli biniau ar gyfer plastig o amgylch yr
harbwr.
-
Eglurodd sefyllfa wal y cei gan nodi ei fod yn deall
rhwystredigaeth y Pwyllgor wrth i hyn fod yn bwnc trafod ers blynyddoedd. Fodd
bynnag, nododd bod y gwaith wedi ei hail dendro a bod y ceisiadau yn cael eu
hasesu gan yr adran YGC.
-
Ychwanegodd y byddai’r cyfathrebu gyda’r aelodau wedi’r penderfyniad
gael ei wneud ar enillydd y contract.
Cafwyd y wybodaeth isod ynghylch sefyllfa
Ynys Picnic gan gynrychiolydd Outward Bound Trust:
-
Nodwyd erbyn y pwyllgor nesaf bydd bont yn ei le neu ar y
ffordd. Diolchwyd i Network Rail
am eu cefnogaeth tra bod y gwaith yn digwydd.
-
Eglurodd bod partneriaid lleol a Chyngor Gwynedd yn
asesu’r sylfaen ym mis Tachwedd ac yna bydd broses o dynnu’r hen strwythur a’i
ddisodli gydag un newydd.
-
Mewn perthynas â chostau, nododd y Rheolwr Morwrol bod
costau dur er enghraifft wedi cynyddu yn sylweddol a gobeithiwyd bod y tendr
ffurfiol yn dod o fewn y gyllideb.
Yn ystod y drafodaeth, cafwyd y sylwadau
isod gan aelodau:
-
Holwyd os oedd cost i’r gwasanaeth harbyrau
i ddelio efo sgerbydau anifeiliaid sy’n cael eu golchi mewn gan y môr.
-
Mynegwyd bod llawer o bethau positif wedi bod yn yr ardal
dros yr haf ond am y sbwriel. Ategwyd aelodau bod angen cychwyn sgwrs efo
siopau ac awgrymwyd system benthyca offer fel eu bod yn dychwelyd wedi eu
defnyddio.
-
Ategwyd bod y Cyngor Cymuned yn derbyn cwynion am y
sbwriel a bod biniau ychwanegol wedi cael ei drafod.
-
Diolchwyd i’r holl staff am eu gwaith yn ystod y flwyddyn
brysur iawn, ategodd aelod ddiolch arbennig i Swyddog Traeth Tywyn am ei waith
yn ymgysylltu gydag ymwelwyr.
-
Gofynnwyd am sicrhad y bydd gwybodaeth sydyn ar gael
ynghylch wal y cei gan ei fod yn mynd i greu problemau enfawr ar y gwaith sydd
ar y cei. Ategodd bod sawl e-bost wedi dod yn barod yn holi am yr aflonyddwch a
fydd i’r clwb hwylio.
-
Nodwyd ei fod yn bwysig bod gwaith ar wal y cei yn cael
ei wneud cyn gynted â phosib er y bydd
cwynion a thrafferthion ond mae angen ei wneud ar frys.
-
Awgrymwyd bod angen ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus i gadw
trigolion yn ymwybodol am y camau a’r gwaith, unwaith fydd y contract wedi ei
osod mae angen cychwyn ar hyn.
-
Holwyd am y posibilrwydd o gynnal cyfarfod arbennig
unwaith fydd penderfyniad wedi ei wneud ar gontractwyr.
Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Morwrol y
pwyntiau isod:
-
Bod cost yn amrywio i ddelio a sgerbydau anifeiliaid ac
os nad oes modd mynd a cherbyd ato y byddant yn cael eu claddu yn y fan a’r
lle. Eglurodd bod y gost yn dod o gyllidebau traethau ac nid harbwr gan mai ar
y traeth mae mwyafrif y sgerbydau yn ymddangos.
-
Nid ydynt yn rhagweld bod unrhyw golled ariannol am fod i
unrhyw gorff sy’n gweithio ar y cei a bydd sicrhad bod busnesau yn parhau i
aros ar agor trwy’r gwaith allweddol.
-
Nododd bydd cyswllt rhwng rheolwr safle’r gait ar y cei a
defnyddwyr yr harbwr ar gyfer unrhyw wybodaeth. Ychwanegodd y bydd staff morwrol
wrth law ac yn hwyluso’r gallu i gael gwybodaeth bellach.
-
Eglurodd na fydd yn bosib trefnu cyfarfod ffurfiol o’r
Pwyllgor i drafod deilliant y tendr gyda wal y cei. Fodd bynnag, awgrymodd
cyfarfod anffurfiol i gael trafodaeth.
Dogfennau ategol: