I ddarparu trosolwg o’r Cynllun Awtistiaeth 2021-23 o fewn
yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd.
Penderfyniad:
a) Derbyn yr adroddiad oedd yn darparu trosolwg o’r Cynllun
Awtistiaeth 2021-23.
b) Anfon gohebiaeth at aelodau’r Cabinet yn argymell iddynt gefnogi a
chymeradwyo’r Cynllun a’r bid am arian parhaol yn ei gyfarfod ar 30 Tachwedd,
2021 gan nodi prif sylwadau’r Pwyllgor Craffu Gofal.
COFNODION:
Cyflwynwyd yr adroddiad ar y Cynllun
Awtistiaeth 2021-23 gan yr Aelod Cabinet Plant a Chefnogi Teuluoedd.
Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet ar gynnwys yr adroddiad gan nodi fod y Cynllun
hwn yn un o brosiectau blaenoriaeth gwella'r Cyngor, sef i sicrhau fod Plant a
Theuluoedd gydag awtistiaeth yn cael mynediad i’r gefnogaeth sydd ei angen
arnynt i ffynnu.
Ychwanegwyd fod y gwaith ar y Cynllun wedi
parhau dros y cyfnod anodd diweddar a chymerwyd y cyfle i ddiolch i Swyddogion
y Cyngor am eu gwaith yn ogystal â’r partneriaethau eraill gan gynnwys y Bwrdd
Iechyd. Nodwyd fod y Bwrdd Iechyd wedi cydnabod pwysigrwydd y Cynllun hwn yng
nghanol y prysurdeb diweddar ac wedi chwarae rhan allweddol er mwyn dod a’r
Cynllun at ei gilydd.
Adroddwyd fod y Strategaeth yn arloesol,
cadarnhawyd hyn gan yr Ymgynghorydd arbenigol oedd wedi nodi fod yr hyn mae
Gwynedd a’r partneriaid yn ei wneud yn flaengar ac yn arwain y ffordd i eraill.
Cydnabyddwyd gan yr Uwch Reolwr Gweithredol fod gwaith yr Uwch Reolwyr
Anableddau Dysgu o fewn yr Adran Oedolion yn hanfodol gan fod awtistiaeth yn
pontio drosodd i’r Adran hon yn ogystal â’r Adran Plant.
Crynhowyd drwy nodi fod dymuniad i’r Strategaeth
hon fod yn Strategaeth fyw a all esblygu yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth ac fe
adolygir y strategaeth yn gyson. Gwahoddwyd yr aelodau i ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau
a ganlyn gan aelodau:-
·
Croesawyd y Cynllun Awtistiaeth
2021-23 gan yr Aelodau. Nodwyd mai edrych ymlaen at ddyfodol y Cynllun sy’n
bwysig rŵan.
·
Awgrymwyd y dylid ymgynghori gyda defnyddwyr gwasanaeth
awtistiaeth a’u teuluoedd am y Cynllun yn ogystal â derbyn adborth cyson ganddynt
am y gwasanaeth.
·
Cwestiynwyd beth fydd rôl yr Adran Addysg yn y
Strategaeth gan fod hyn heb ei amlygu yn y Cynllun a holwyd beth fydd lefel
ymyrraeth yr Adran Addysg. Credwyd y dylid sicrhau bod y cydweithio efo’r Adran
Addysg yn cael ei amlygu yn y Cynllun.
·
Mynegwyd fod llawer o rieni yn
bryderus am yr amser mae’n ei gymryd i blant gael ei hadnabod efo’r cyflwr ac
yr amser aros am asesiad. Holwyd os oes modd gwneud unrhyw beth i wella hyn.
·
Roedd dymuniad i dderbyn sesiwn
gwybodaeth i Gynghorwyr er mwyn gwella dealltwriaeth o’r maes. Ategwyd y
dylai’r hyfforddiant hwn gael ei gynnal cyn mis Ebrill 2022.
·
Ychwanegwyd y dylid sicrhau bod hyfforddiant addas ar
gael i bawb gan gynnwys staff y Cyngor er mwyn iddynt fod yn ymwybodol o
dueddiadau e.e. bod merched yn medru cuddio’r cyflwr yn well na dynion.
·
Ategwyd pwysigrwydd i bob aelod o staff Ysgolion dderbyn
hyfforddiant er mwyn adnabod y cyflwr yn fuan. Cydnabyddodd yr Uwch Reolwr
Gweithredol fod hyn yn bwynt pwysig fydd yn derbyn sylw priodol.
·
Holwyd os yw nifer y sawl sydd
efo’r cyflwr yn cynyddu. Mynegwyd hefyd y byddai wedi bod yn ddefnyddiol gweld
rhagor o fewnbwn gan deuluoedd yn ystod yr ymgynghoriad. Awgrymwyd y dylid
derbyn adborth cyson gan ddefnyddwyr gwasanaeth a’u teuluoedd er mwyn adolygu os
yw’r Cynllun hwn wedi gwella eu profiadau.
·
Cyfeiriwyd at y tair swydd a’r
swm o arian gafodd ei adnabod o fewn y Cynllun er mwyn ei weithredu;
cwestiynwyd os fydd y swyddi hyn yn ddigonol i ymateb i’r gofynion.
·
Holwyd os oes aelod staff
dynodedig ar gyfer awtistiaeth ym mhob Ysgol ar draws y Sir.
·
Cwestiynwyd oes os cerdyn neu
rywbeth tebyg ar gael i ddioddefwyr ddangos eu bod efo’r cyflwr os bydd unrhyw
anhawster yn amlygu ei hun.
Mewn ymateb i’r
sylwadau uchod a chwestiynau gan aelodau, nodwyd:-
·
Bod ychydig dros 100 o blant wedi
eu hadnabod efo anghenion dysgu ychwanegol ble nodir awtistiaeth fel rhan o
hynny. Bwriedir i’r Adran Addysg ymuno a’r Bwrdd Prosiect a bydd eu cyfraniad
yn dod yn amlwg yma. Byddent yn bwydo gwybodaeth i drafodaethau’r Bwrdd a’n
llywio cyfeiriad y Cynllun, nodwyd mai megis cychwyn mae’r gwaith yma. Yn
ychwanegol, nodwyd fod y Strategaeth hon yn gynwysedig i bob Adran o’r Cyngor
ble bydd potensial i adnabod y cyflwr. Adroddwyd y bydd y Cydlynydd yn
sicrhau’r gallu i adnabod pobl ifanc yn gynt yn enwedig yn y cyfnod oed pontio.
·
Bod trefniadau gwahanol yn bodoli
i Oedolion a Phlant ond fod y rhestrau aros maith am asesiadau plant wedi
uchafu’r angen am gefnogaeth a gwybodaeth i rieni sy’n aros am yr asesiadau.
Adroddwyd fod angen gwella’r agwedd yma er mwyn bodloni pryderon rhieni tra
maent yn mynd drwy’r broses. Yma bydd cyfraniad y Bwrdd Iechyd tuag at y
Cynllun yn amlygu ei hun. Bydd adolygu parhaus yn hanfodol yn ogystal â
hyfforddi ac uchafu sgiliau mwy o staff er mwyn gallu darparu’r gefnogaeth.
·
O ran y sylw am yr asesiad
effaith ble nodwyd fod merched yn llai tebygol o gael diagnosis am eu bod yn
well am guddio eu symptomau; ehangwyd fod y tueddiad yma yn tarddu o ymchwil
Cenedlaethol. Nododd yr Uwch Reolwr Gweithredol nad oes gwybodaeth gadarn ar
hyn o bryd am rai materion heblaw am y negeseuon Cenedlaethol. Y gobaith yw y
bydd codi ymwybyddiaeth a gwella hyfforddiant yn galluogi pobl i adnabod yr
arwyddion a symptomau awtistiaeth. Nodwyd fod y rhaglen hyfforddi yn cael ei ddatblygu
ar hyn o bryd a bod hyn yn neges bwysig i’w gynnwys. Bydd haenau gwahanol i’r
hyfforddiant fydd yn cynnwys hyfforddiant cyffredinol i staff ar draws yr
Awdurdod Lleol a hyfforddiant mwy arbenigol e.e. i staff yr Adran Addysg.
·
Bod amcangyfrifon fod 400 o blant
o dan 18 oed efo’r cyflwr yng Ngwynedd. Ni ragwelir y bydd cynnydd yn y cyflwr
yn y dyfodol agos. Ychwanegwyd pwysigrwydd y cydlynu a thynnu’r amryw agweddau
at ei gilydd; nodwyd mai hyn oedd ar goll yn flaenorol. Gobeithir gweld gwell
data, phroffil a chyfraniadau o wahanol lefydd fydd yn gwella gwybodaeth a'r
gallu i fedru cynllunio gwasanaethau i’r dyfodol. Bydd rôl y Cydlynydd yn
ganolog i hel y wybodaeth ac ymgorffori’r negeseuon hynny i mewn i’r Cynllun.
·
Bod y swyddi, yn ddibynnol ar ganlyniad
y cyfarfod Cabinet wythnos nesaf, yn swyddi parhaol. Nodwyd na fydd y swyddi
hyn yn cyfarch yr elfen Ysgolion gan fod trefniadau eisoes yn bodoli ar gyfer
hyn o fewn yr Uned ADY (anghenion dysgu ychwanegol). Ni ellir sicrhau y bydd y
tair swydd yn cyfarch yr holl anghenion, gall mwy o anghenion gael eu hamlygu
ond yn sicr bydd y swyddi yn cyfarch rhywfaint o’r anghenion. Bydd adolygu
parhaus yn allweddol. Ychwanegwyd, o ganlyniad i’r swydd Cydlynydd, bydd person
penodol i yrru ymlaen ar y gwaith awtistiaeth felly gobeithir y bydd pethau’n
symud ymlaen yn gynt.
·
Nid oes person dynodedig ar gyfer
awtistiaeth ym mhob Ysgol ond yn hytrach person dynodedig ar gyfer ADY ym mhob
Ysgol ar draws y Sir a hydera’r Uwch Reolwr Gweithredol fod y trefniadau hyn yn
ddigonol. Mewn ymateb i gwestiwn pellach os fyddai’r staff yma yn derbyn
hyfforddiant ychwanegol ar arwyddion awtistiaeth, nododd yr Uwch Reolwr
Gweithredol y byddai angen dilyn fyny ar hyn ac yn croesawu’r sylw.
·
Bod cerdyn ar gael i ddangos fod
person yn dioddef o anabledd dysgu sy’n cynnwys awtistiaeth, eglurwyd fod y
Gwasanaeth Cenedlaethol Awtistiaeth yn gallu darparu hyn. Yn ogystal gellir
llawr lwytho ac argraffu’r cerdyn oddi ar y we.
Mewn ymateb i bryderon Aelodau ynglŷn
â’r amser a gymerwyd i ddatblygu’r Strategaeth, nodwyd fod perchnogaeth o’r
pwnc yn un rheswm amlwg am yr oediad. Ehangwyd fod Awtistiaeth yn gorwedd mewn
mwy nac un lle gyda chyfrifoldebau o dan y Bwrdd Iechyd yn ogystal ag
Awdurdodau Lleol. Nid oedd y pwnc wedi cael ei gydlynu mewn modd sy’n annog
cydweithio nac wedi dod at ei gilydd mewn un man. Cydnabyddwyd fod y broses yn
araf, adroddwyd fod gwersi angen eu dysgu er mwyn gwella a dyma yw’r ymrwymiad
ar gyfer y dyfodol.
Mewn ymateb i gwestiwn am ba mor gyson fydd
y Cynllun yn cael ei adolygu, nodwyd ei fod yn ofynnol yn ôl y Cod Ymarfer i
adolygu’r Cynllun yn flynyddol. Mynegwyd mai’r gobaith yw y gellir adlewyrchu
ar y gwaith sydd wedi digwydd flwyddyn yma ac aeddfedu’r Cynllun ar gyfer y dyfodol.
Ychwanegwyd fod trafodaethau cychwynnol ar lefel Llywodraeth ynglŷn â
chyflwyno fframwaith monitro perfformiad yn 2022/23. Bydd ail ran i’r Cynllun
hwn o safbwynt cynllun gweithredu’r Llywodraeth. Croesawyd yr adolygiad
blynyddol o’r Cynllun gan yr Aelodau gan ychwanegu fod dymuniad cryf i dderbyn
diweddariad cyn mis Ebrill 2022.
Mewn ymateb i ymholiad pellach ynglŷn â
llwyddiannau posib mewn Siroedd eraill, nodwyd fod Siroedd eraill mewn
sefyllfaoedd tebyg os nad mwy bregus na Gwynedd o ran rhestrau aros hirfaith,
amlygwyd hyn yn y cyfarfodydd Cenedlaethol. Ychwanegodd yr Uwch Reolwr
Gweithredol ei fod yn hyderus y byddai’r Cydlynydd yn rhoi mwy o ffocws i’r
gwaith ac efo’r capasiti i yrru mlaen ar y gwaith. Nodwyd bod bwriad i edrych
ar rôl y trydydd sector ym mis Ebrill 2022 ar ôl gwneud rhywfaint o’r gwaith
cychwynnol; bryd hynny bydd cyfle i edrych ar unrhyw gyfle i ddenu arian.
I gloi, nododd yr Uwch Reolwr Gweithredol ei
fod yn agored iawn i graffu pellach ar unrhyw gyfnod; byddai’n falch o’r cyfleu
i dystiolaethu unrhyw gynnydd fydd wedi ei gyflawni.
Diolchwyd i’r Pwyllgor Craffu am eu
cefnogaeth. Adroddodd yr Aelod Cabinet fod yr Uned wedi bod yn barod i dderbyn
cyfrifoldeb a dysgu o’u diffygion a chredwyd fod y Strategaeth hon yn ffordd
ymlaen gadarnhaol iawn. Ychwanegwyd fod cyd-weithio yn hanfodol; nid o ble
mae’r gwasanaeth yn deillio sy’n bwysig i deuluoedd ond yn hytrach fod y
gwasanaeth yn bodoli ac yno i gyflawni i’r Teuluoedd a’r Plant.
PENDERFYNWYD:
(a) Derbyn yr adroddiad oedd yn darparu trosolwg o’r
Cynllun Awtistiaeth 2021-23.
(b) Anfon gohebiaeth at y Cabinet yn argymell iddynt
gefnogi a chymeradwyo’r Cynllun a’r bid am arian parhaol yn ei gyfarfod ar 30
Tachwedd, 2021 gan nodi prif sylwadau’r Pwyllgor Craffu Gofal.
(c) I’r Aelodau dderbyn diweddariad erbyn mis Ebrill ar
yr hyn fydd wedi ei gyflawni.
Dogfennau ategol: