Agenda item

Cyflwyno Fframwaith Gweithredu Pwyllgorau drafft er mwyn ei argymell i’r Cyngor llawn ei fabwysiadu

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r Fframwaith Pwyllgorau i’w gyflwyno gerbron y Cyngor Llawn ym mis Rhagfyr.

 

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwyo’r Fframwaith Pwyllgorau i’w gyflwyno gerbron y Cyngor Llawn ym mis Rhagfyr.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Adran Cefnogaeth Gorfforaethol a nododd bod sawl trafodaeth wedi bod ar y fframwaith cyfarfodydd ar gyfer y dyfodol. Eglurodd bod y Cyngor Llawn wedi cytuno ar drefniadau interim a bod bwriad i gyflwyno’r adroddiad hwn i’r Cyngor Llawn ar yr 2il o Ragfyr 2021.

 

Trosglwyddwyd i’r Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith a nododd bod yr adroddiad yn sail ar gyfer y dyfodol i sicrhau fframwaith cynaliadwy ar gyfer y pwyllgorau. Atgoffodd y pwyllgor o’r cyfnod pan benderfynwyd pa bwyllgorau i we ddarlledu ble penderfynwyd gwe ddarlledu’r cyfarfodydd sydd o fwy o ddiddordeb i’r cyhoedd. Eglurwyd mai drwy’r un egwyddor a dull y penderfynwyd dewis y pwyllgorau hybrid a’r pwyllgorau rhithiol yn unig.

 

Nododd mai’r Cyngor Llawn, Cabinet, Pwyllgor Cynllunio a Chyfarfodydd Craffu fydd yn cael eu cynnal yn hybrid. Eglurodd y byddai’r holl bwyllgorau a chyfarfodydd eraill yn rhai rhithiol yn unig.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Cyfreithiol bod dau ddewis yn unig yn statudol, sef y dewis i gynnal pwyllgorau yn rhithiol llwyr, yn hybrid neu gyfuniad o’r ddau. Ychwanegodd mai mater o benderfynu’r drefn gorau ydyw er mwyn sicrhau mynediad i’r cyhoedd a hyrwyddo democratiaeth.

 

Yn ystod y drafodaeth cododd y sylwadau isod:

 

·        Cytunodd aelodau gyda’r adroddiad gan nodi eu bod yn deall y rhesymeg a’r egwyddorion. Fodd bynnag, nodwyd, o brofiad, bod y drefn hybrid yn gallu bod yn un rhwystredig - er enghraifft gall fod yn anodd i’w gadeirio.

·        Holwyd a fydd adnoddau ar gael i gynghorwyr fynychu’n rhithiol o swyddfeydd y cyngor os ydynt yno yn dilyn cyfarfod arall.

·        Cytunwyd efallai bod safon y caledwedd yn uchel, fodd bynnag, nodwyd nad oes safon uchel o gyswllt we ar draws Gwynedd gyfan. Ategodd aelod y gall problemau technegol effeithio ar amseru cyfarfodydd.

·        Ychwanegwyd sylw bod y trefniadau yn caniatáu i gynghorwyr o ardaloedd sy’n bell o Gaernarfon dreulio mwy o amser ar faterion yn eu ward a llai o amser yn teithio i bwyllgorau.

·        Mynegwyd pryder o ran trefniant cyfarfodydd hybrid o safbwynt cadeirio a thegwch i aelodau.

·        Cytunwyd a’r arfer dda o gychwyn cyfarfodydd yn gynt fel bod pob aelod yn medru sicrhau cyswllt technegol.

·        Awgrymwyd y dylid cychwyn y cyfarfodydd yn gynt fel bod modd datrys problemau technegol.

·        Derbyniwyd bod dulliau hybrid yn caniatáu cynrychiolaeth ehangach ymysg cynghorwyr.

·        Holwyd am y drefn ynghylch pwyllgorau sy’n gaeedig e.e. trwyddedu.

 

 

Ymatebodd y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol fel a ganlyn:

 

·        Sicrhawyd bydd darpariaeth i aelodau gael mynediad at swyddfa i fod yn rhan o gyfarfod rhithiol.

·        Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith bod y gwasanaeth yn edrych ar y ddarpariaeth ar gyfer aelodau newydd o 2022.

·        Ategodd bod y profiad hybrid yn dra gwahanol i’r hen arfer o fideo cynadleddau.

·        Nodwyd bod profion peilota cychwynnol wedi bod yn rhai llwyddiannus gyda chadeirydd yn rhithiol ac yn y siambr.

·        Mewn ymateb i’r cwestiwn ynghylch pwyllgorau caeedig, nodwyd nad yw’r Pwyllgor Trwyddedu wedi ei adnabod fel un a fydd yn hybrid.

·        Ychwanegodd y Pennaeth Cyfreithiol, yn statudol, dau fath o gyfarfod yn unig sy’n bodoli erbyn hyn, sef un ai hybrid neu rithiol. Ategodd bod gan bob aelod hawl i fynychu o bell.

·        Ategodd nad yw’r hawl i fynychu’n bell yn gwahaniaethu ar sail rôl, ac felly gall y Cadeirydd fynychu o bell hefyd.

·        Diolchwyd i’r pwyllgor am eu cefnogaeth.

 

Dogfennau ategol: