Agenda item

Bleddyn Jones, Swyddog AHNE i roi adroddiad ar Ddynodiad Awyr Dywyll.

 

Penderfyniad:

Penderfynwyd i ohirio’r mater yma er mwyn cael mwy o ymgynghori. Dymunai rai o Aelodau’r Cydbwyllgor dderbyn mwy o wybodaeth cyn cefnogi’r cais i'r IDA am ddynodiad Parc Awyr Dywyll ar gyfer AHNE Llŷn.

 

Cytunwyd i’r Swyddog AHNE Llŷn drefnu cyfarfod rhithiol at ddechrau’r flwyddyn a gwahodd yr holl Gynghorau Cymuned o fewn yr AHNE er mwyn sicrhau ymgynghori pellach ar y pwnc a rhoi cyfle i’r Cynghorau Cymuned holi cwestiynau. Nodwyd y byddai’r Swyddog AHNE Llŷn yn anfon cyflwyniad ymlaen i’r Cynghorau Cymuned; bydd yn trefnu i Swyddog gysylltu efo Clercod y Cynghorau Cymuned i drefnu.

 

Cofnod:

Tywyswyd y Cydbwyllgor drwy Adroddiad y Swyddog AHNE gan ofyn iddynt gefnogi’r argymhelliad drwy gefnogi cais i’r IDA (International Dark Sky Association) am statws Parc Awyr Dywyll i’r ardal.

 

Adroddwyd fod trafodaethau eisoes wedi digwydd rhwng staff yr Uned a staff yr IDA, sydd yn gefnogol iawn i’r bwriad o wneud cais am statws awyr dywyll ar gyfer AHNE Llŷn. Credwyd fod gan yr ardal hon achos cryf i dderbyn y dynodiad. Roedd yr IDA o’r farn y byddai statws Parc Awyr Dywyll Rhyngwladol yn hytrach na statws Cymuned yn fwy priodol i’r ardal hon ac yn adlewyrchiad gwell o safon yr awyr dywyll yma. Ychwanegwyd y byddai’r cais yn cael ei gyflwyno flwyddyn nesaf petai’r Cydbwyllgor yn gefnogol.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn gan aelodau:-

-       Mynegwyd fod rhai o’r Cynghorau Cymuned/Tref yn ansicr ynglŷn â chefnogi’r cais. Adroddwyd fod merched yn bennaf yn dueddol o fod ofn y tywyllwch wrth gerdded gyda’r nos a bod llawer o’r pryderon yn gwreiddio o hyn.

-       Gofynnwyd i’r Swyddog Gwasanaeth AHNE fynychu Cyfarfod Cyngor Tref Nefyn, ynghyd a Chynghorau Cymuned eraill, i roi cyflwyniad i’r aelodau ac i’w darbwyllo. Credwyd fod lle i gael trafodaeth bellach ar y mater yma.

-       Mynegodd Aelod ei fod yn erbyn cefnogi’r cais oherwydd rhesymau diogelwch a phryderai y byddai’r dynodiad yn cael ei ddefnyddio fel rheswm yn erbyn rhai materion e.e. i beidio â darparu mwy o oleuadau lonydd.

-       Yn ogystal roedd pryderon o amgylch ffermydd; dadleuwyd fod ffermydd angen goleuni mwy llachar oherwydd bod gwaith yn mynd ymlaen yn y nos yno.

-       Holwyd beth oedd y gwahaniaeth rhwng statws Cymuned a Pharc Awyr Dywyll.

-       Dymunai rai o aelodau’r Cydbwyllgor gefnogi’r cais hwn; nodwyd mai pwrpas y dynodiad fydd i wneud yn siŵr fod goleuadau yn tywynnu yn y llefydd sydd eu hangen nhw ac i leihau gwastraff a llygredd golau.

-       Dadleuwyd fod yr ardal hon yn addas ar gyfer y prosiect a bod llawer yn cael mwynhad o edrych ar y sêr yn yr ardal.

-       Cyniwyd i ohirio’r mater er mwyn cael mwy o ymgynghori.

 

Mewn ymateb, nodwyd:

-       Nad oes bwriad i ddiffodd goleuadau stryd. Yn hytrach bwriedir hyrwyddo, addysgu, cynnal digwyddiadau a defnyddio arfer da, e.e. pwyntio goleuadau lawr, defnyddio goleuadau sydd ddim mor llachar.

-       Bod statws Parciau Awyr Dywyll yn uwch na statws Cymuned am eu bod yn fwy o ran maint a dim gymaint ohonynt. Eglurwyd y byddai’r ardal AHNE gyfan yn derbyn statws Parc.

-       Fod llawer o fuddion i’w cael o dderbyn y dynodiad uchod a sicrhawyd na fydd y dynodiad yn amharu ar bobl sy’n byw yn yr ardal.

-       Fod y Swyddog Gwasanaeth AHNE yn fodlon mynychu cyfarfodydd Cynghorau Tref/Cymuned neu gael sgwrs bellach efo Aelodau sy’n ansicr o’r cynllun a dod a’r mater yn ôl i’r Cydbwyllgor hwn. Adroddodd y byddai’n braf derbyn cefnogaeth y Cydbwyllgor.

-       Y bydd ymgynghori pellach ar y pwnc hwn. Bydd y Swyddog Gwasanaeth AHNE yn trefnu cyfarfod rhithiol at ddechrau’r flwyddyn fan gynharaf a’n gwahodd yr holl Gynghorau Cymuned/Tref o fewn yr AHNE er mwyn rhoi’r cyfle i’r Cynghorau hyn holi cwestiynau. Ategwyd nad oes digon o adnoddau i fynd o amgylch pob Cyngor Cymuned/Tref yn unigol.

-       Fod cyfarfod rhithiol wedi ei drefnu ar gyfer Cynghorau Tre/ Cymuned yn flaenorol sydd ychydig yn rhwystredig, ond y byddai’r Swyddog AHNE yn ail drefnu er mwyn rhoi cyfle pellach.

 

 

PENDERFYNIAD

 

Penderfynwyd gohirio’r mater yma er mwyn cael mwy o ymgynghori. Bydd y Swyddog Gwasanaeth AHNE yn trefnu cyfarfod rhithiol at ddechrau’r flwyddyn a gwahodd yr holl Gynghorau Cymuned / Tref o fewn yr AHNE.

Bydd y Swyddog AHNE Llŷn yn anfon gwybodaeth ymlaen i’r Cynghorau Cymuned; bydd swyddog yn cysylltu efo Clercod y Cynghorau Cymuned i drefnu.

 

Dogfennau ategol: