I ystyried yr adroddiad er gwybodaeth
Penderfyniad:
Derbyn a nodi’r wybodaeth
Cofnod:
Cyflwynwyd, er gwybodaeth adroddiad yn amlygu
gwir weithgarwch Rheolaeth Trysorlys y Cyngor yn ystod y flwyddyn
ariannol gyfredol. Amlygwyd, yn ystod
y chwe mis rhwng y 1af o Ebrill a 30 Medi 2021 bod gweithgarwch
benthyca’r Cyngor wedi aros o fewn cyfyngiadau
a osodwyd yn wreiddiol ac nad oedd unrhyw
fanciau lle'r oedd y Cyngor wedi adnau arian wedi
methu ad-dalu. Ategwyd yr amcangyfrifir
bod incwm buddsoddi’r
Cyngor yn uwch na’r incwm disgwyliedig
yng nghyllideb 2021/ 22.
Penderfynwyd yn y Pwyllgor Pensiynau, 25 Mawrth 2021 i ganiatáu i
gronfeydd dros ben y Gronfa Bensiwn gael eu cyfuno
a’u cyd-fuddsoddi â llif arian cyffredinol
y Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021/22.
Eglurwyd bod rhaglen lwyddiannus
i gyflwyno brechiadau yn bositif
o ran credyd yn gyffredinol i'r sector gwasanaethau ariannol, ac o ganlyniad i'r rhagolwg
economaidd gwell bod rhai sefydliadau wedi gallu lleihau'r
darpariaethau ar gyfer benthyciadau gwael. Adroddwyd bod y cyfnod wedi bod yn un heriol, ond
gyda’r cyfyngiadau yn llacio gwelwyd
mwy o weithgaredd yn ail chwarter y flwyddyn. Nodwyd hefyd bod Arlingclose wedi estyn uchafswm
cyfnod rhai buddsoddiadau i 100 diwrnod.
Eglurwyd bod £10m o fuddsoddiadau’r Cyngor mewn cronfeydd eiddo ac ecwiti cyfun strategol sydd yn cael
eu rheoli yn allanol lle
mae diogelwch a hylifedd tymor byr yn llai
o ystyriaeth. Er bod y gwerth cyfalaf cyfun o £9.243m yn llai na’r buddsoddiad
cychwynnol o £10m, gwnaed y
buddsoddiadau gan wybod y byddai gwerthoedd cyfalaf yn ansefydlog ar
fisoedd, chwarteri a hyd yn oed
blynyddoedd; ond gyda'r hyder y bydd cyfanswm yr
enillion dros gyfnod o dair i
bum mlynedd yn uwch na chyfraddau
llog arian parod. O ganlyniad gwireddir yr amcanion
drwy sefydlogrwydd prisiau tymor canolig.
Cyfeiriwyd at ddefnydd Swyddfa Rheoli Dyledion fel cerbyd buddsoddi
sydd yn talu
ychydig mwy nag eraill ac yn hyblyg,
hawdd a diogel i’w ddefnyddio. Er bod y cyfraddau yn isel a’r
rhagolygon yn wan ac ansefydlog, adroddwyd bod y
Cyngor yn buddsoddi cymaint ag y gallent o fewn cyfnod heriol;
yn parhau i wneud eu
gorau i geisio
enillion drwy wasgaru risg, ond
hefyd yn gweithredu yn ofalus
yn unol â chyngor Arlingclose.
Cadarnhawyd bod gweithgareddau rheoli
trysorlys a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod
yn cydymffurfio’n llawn gyda Chod Ymarfer CIPFA a Strategaeth Rheoli Trysorlys ac yng nghyd-destun hyfforddiant buddsoddi bod swyddogion, yn ystod y cyfnod, wedi mynychu hyfforddiant
buddsoddi gydag Arlingclose a CIPFA sy’n berthnasol i’w swyddi.
Amlygwyd bod Arlingclose yn disgwyl i'r Gyfradd
Banc gynyddu yn Ch2 2022 a hyn oherwydd dymuniad Banc Lloegr i symud
o lefelau argyfwng gymaint ag ofn pwysau chwyddiant. Mae buddsoddwyr wedi cynnwys sawl cynnydd
yn y Gyfradd Banc i 1% erbyn 2024 yn eu prisiadau.
Er bod Arlingclose yn credu y bydd
y Gyfradd Banc yn codi, ni fydd
mor uchel â disgwyliadau'r marchnadoedd.
Adroddwyd bod £25m o arian parod
y Gronfa Bensiwn wedi ei fuddsoddi
yng Nghronfa Incwm Sefydlog Partneriaeth Pensiwn Cymru yn Hydref 2021 sydd yn lleihau
lefel arian parod y Gronfa. Nid yw’r Gronfa
eisiau cadw lefel uchel o arian
parod gan fod dychweliadau yn isel, ac felly yn buddsoddi unrhyw
arian dros ben gyda’r rheolwr buddsoddi pan mae hylifedd yn caniatáu.
Nododd y Pennaeth Cyllid bod y perfformiad yn dderbyniol er gwaethaf
cyfraddau llog echrydus o isel.
Diolchwyd am yr adroddiad.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol:
·
Bod Partneriaeth
Pensiwn Cymru yn llwyddiannus – angen llongyfarch hyn
·
Bod Partneriaeth
Pensiwn Cymru wedi ychwanegu gwerth a sefydlogrwydd
·
Bod y Cyngor yn mesur a rheoli ei ddatguddiad at risgiau rheolaeth trysorlys wrth ddefnyddio'r dangosyddion perthnasol.
Derbyn a nodi’r wybodaeth
Dogfennau ategol: