Newid defnydd yr
adeilad i ddefnydd cymysg o siopau ar y llawr daear a chreu 6 uned gwyliau
hunan-gynhaliol ar y lloriau uchod
AELOD LLEOL: Cynghorydd Ioan Thomas
Dolen
i'r dogfennau cefndirol perthnasol
Penderfyniad:
Caniatáu - amodau
Nodyn: Datblygwr i drafod posibiliadau cynnig tocyn parcio lleol i ddefnyddwyr yr adeilad gyda'r Gwasanaeth Trafnidiaeth
COFNODION:
Newid defnydd yr adeilad i
ddefnydd cymysg o siopau ar y llawr daear a chreu 6 uned gwyliau hunangynhaliol
ar y lloriau uchod
a)
Amlygodd
y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd i newid defnydd adeilad sydd yn gyn
clwb cymdeithasol i ddefnydd cymysg o swyddfa ar y llawr daear a 6 uned gwyliau
hunangynhaliol ar y lloriau uchod. Bwriedir rhannu’r gofod llawr daear i un
siop gydag ystafell i storio, cegin a thoiled i’r staff a'r rhan arall yn
swyddfa gyda chegin a thoiled . Bwriedir creu dwy fynedfa newydd i’r ddwy uned
newydd.
Aseswyd egwyddor y bwriad yn erbyn
polisi TWR 2 “Llety gwyliau o’r Cynllun Datblygu Lleol lle caniateir cynigion
sydd yn ymwneud a darparu llety gwyliau hunan wasanaeth cyn belled fod y bwriad
yn cydymffurfio a chyfres o feini prawf
i. Yn achos llety sy’n adeilad newydd,
bod y datblygiad wedi ei leoli tu mewn i ffin datblygu, neu’n gwneud defnydd o
safle addas a ddatblygwyd o’r blaen;
ii. Bod graddfa’r datblygiad arfaethedig
yn briodol gan ystyried y safle, y lleoliad a/neu’r anheddiad dan sylw;
iii. Na fydd y bwriad yn arwain at golled yn
y stoc tai parhaol;
iv. Nad yw’r datblygiad yn cael ei leoli
mewn ardal sy’n ardal breswyl yn bennaf, neu’n peri niwed sylweddol i gymeriad
preswyl ardal;
v. Nad yw’r datblygiad yn arwain at ormodedd o lety o’r fath yn
yr ardal.”
Wrth ystyried gormodedd
llety nodwyd na roddir ystyriaeth ffafriol i geisiadau ar gyfer llety gwyliau
hunanwasanaeth pan fo cyfuniad o’r nifer presennol o lety gwyliau ac ail
gartrefi o fewn ardal y Cyngor Cymuned/Tref/Dinas yn uwch na 15%. Defnyddiwyd
gwybodaeth Treth Cyngor fel ffynhonnell
wybodaeth ac o’r wybodaeth fwyaf
diweddar nodwyd bod cyfuniad o lety gwyliau ac ail gartrefi yng Nghyngor Tref
Caernarfon yn 1.31% sydd ymhell o dan y trothwy a nodi’r yn y canllaw. O
ganlyniad, ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol mewn egwyddor.
Yng nghyd-destun adfer
adeilad sydd
yn adeilad trawiadol o fewn y strydlun ac o fewn muriau’r dref, ystyriwyd y
byddai'r gwaith yn welliant sylweddol ac yn cwrdd â gofynion polisi PS 20 ac
eraill. Er yn adeilad rhestredig gradd 2, nid oes nodweddion gwreiddiol yn
parhau o fewn yr adeilad ac nid oes llawer o ffabrig hanesyddol i’w golli drwy
drosi'r adeilad heb law am y ffenestri sydd eisoes yn cael sylw priodol.
Amlygwyd nad oedd
darpariaeth parcio gyda'r bwriad ac nad oedd gan yr Uned Drafnidiaeth unrhyw
wrthwynebiad dros y bwriad oherwydd ei leoliad o fewn tref ble mae cyfyngiadau
parcio ar y strydoedd eisoes yn bodoli, bod meysydd parcio o gwmpas y safle ynghyd a chludiant
cyhoeddus.
b)
Yn
manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:
·
Bod
y safle yn amlwg o fewn Hen Dref Caernarfon
·
Yn
adeilad rhestredig a godwyd tua 1820 fel neuadd farchnad yn wreiddiol ond erbyn hyn mewn
perygl o ddirywiad pellach a difrifol
·
Wedi
bod yn wag ers ymhell dros ddegawd a bellach mewn cyflwr difrifol iawn -llawer
o gynlluniau aflwyddiannus wedi eu cyflwyno ar gyfer yr adeilad dros y
blynyddoedd
·
Yn
y gorffennol cyflwr yr adeilad wedi creu anghyfleuster a phryderon lleol
·
Cynnig
gerbron yn ymarferol a dim yn tynnu oddi ar y stoc tai lleol presennol - 6
fflat gwyliau o ansawdd uchel ynghyd a 2 uned fanwerthu newydd ar y llawr
gwaelod ar gyfer busnesau lleol mewn ardal dwristiaeth allweddol ger y Castell
·
Manteision
economaidd i’r gymuned leol - bwriad cyflogi adeiladwyr a masnachwyr lleol yn ystod y
cyfnod adeiladu
·
Y
datblygiad gorffenedig yn cyflogi gweithwyr lleol i redeg y busnes, rheoli
archebion, cadw a chynnal yr adeilad
·
Bydd
adnewyddu’r adeilad amlwg yma yn cyfrannu tuag at adfywio’r ardal
c)
Yn
manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:
·
Bod
y clwb a’r adeilad yn ei anterth yn un llewyrchus
·
Bellach
yn ddolur llygad ac wedi dirywio yn sylweddol gyda rhai agweddau peryglus i’r
adeilad megis y to
·
Gwell
fyddai gweld datblygiad tai cymdeithasol
·
Cynnydd
amlwg mewn llety gwyliau yn yr ardal – hyn yn bryder
·
Croesawu
sylwadau’r Gymdeithas Fictorianaidd
·
Croesawu
unedau manwerthu
·
Bod
y cais yn adfer yr adeilad i safon dderbyniol
·
Hapus
gyda’r argymhelliad
ch) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais
d)
Yn
ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod
yr adeilad yn un eiconig ac yn un pwysig o fewn y dref
·
Angen
ei wella a’i adnewyddu cyn i’w gyflwr waethygu
dd) Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â phryderon
parcio ac awgrym i ystyried rhoi tocynnau parcio i ddefnyddwyr yr unedau
gwyliau, nodwyd bod modd i’r datblygwr drafod y mater gyda’r Uned Trafnidiaeth.
Er hynny, y lleoliad yng nghanol y dref lle ceir meysydd parcio cyhoeddus o
fewn cerdded i’r adeilad.
PENDERFYNWYD:
1. Rhaid cychwyn ar y datblygiad y cyfeirir ato yn y
caniatâd hwn dim hwyrach na PHUM mlynedd o ddyddiad y caniatâd.
2. Cwblheir y datblygiad a ganiateir drwy hyn yn llwyr
unol â'r manylion a ddangosir ar gynllun(iau) rhif D794.06P2, D794.07P2, D794.08P2, D794.09P2,
D794.10P2, D794.11P2, D794.12P2, D794.13P2, D794.14P2, D794.15P2, D794.16P2,
D794.17P1, D794.18P1, D794.19P1 a D794.20P1
a gyflwynwyd i'r Awdurdod Cynllunio Lleol, ac a gynhwysir yn y ffurflen
gais ac mewn unrhyw ddogfennau eraill gyda'r cais, os nad oes amod(au) sy'n ei diwygio wedi ei gynnwys ar y dyfarniad
cynllunio hwn.
3. Bydd yr unedau gwyliau cael eu defnyddio at
ddibenion gwyliau yn unig ac ni fyddant yn cael eu meddiannu fel unig neu brif
breswylfa person. Bydd perchenogion/gweithredwyr yr unedau cadw cofrestr,
cofnod cyfamserol o enwau holl berchenogion/deiliaid yr unedau ar y safle a
chyfeiriadau eu prif gartref a byddant yn sicrhau bod y wybodaeth ar gael ar
bob adeg resymol i’r Awdurdod Cynllunio Lleol.
4. Ni ddylai unrhyw ddatblygiad (yn cynnwys addasiadau
strwythurol neu waith dymchwel) gymryd lle heb fod manylion ar gyfer rhaglen
cofnodi archeolegol wedi’i gyflwyno a’i gymeradwyo yn ysgrifenedig ymlaen llaw
gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Dylai ymgymryd â’r datblygiad a’r holl waith
archeolegol yn gwbl unol a’r manylion a ganiateir.
5. Rhaid cyflwyno adroddiad manwl ar y gwaith
archeolegol, yn unol ag amod (a), a chyflwynwyd a chytunwyd yn ysgrifenedig gan
yr Awdurdod Cynllunio Lleol o fewn 6 mis o gwblhau’r gwaith archeolegol.
6. Ni
chaniateir i ddŵr wyneb oherwydd cynnydd mewn arwynebedd to'r adeilad neu
/ neu wynebau anhydraidd o fewn y cwrtil gysylltu, unai yn uniongyrchol neu'n
anuniongyrchol i'r gyfundrefn garthffos gyhoeddus.
7. Rhaid i unrhyw ffenestri amnewidir ar yr adeilad
gwreiddiol fod o wneuthuriad pren wedi eu paentio gyda gwydr sengl ac o’r steil
a math i gydweddu’r ffenestri presennol.
Rhaid ail defnyddio’r gwydr gwreiddiol os yn bosib.
8. Rhaid
cyflwyno manylion y gwydriad eilradd pe bwriedir eu gosod i’r Awdurdod
Cynllunio Lleol i’w cymeradwyo yn ysgrifenedig cyn eu gosod.
9. Rhaid i'r ffenestri to fod o fath cadwraethol ac yn
llyfn gyda'r to.
10. Cyn
cychwyn y gwaith a ganiateir, rhaid
cyflwyno manylion lleoliad i osod blychau nythu gwenoliaid du, a’u gymeradwyo
yn ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllun Lleol, a'u darparu ar y safle yn unol
â'r manylion a gytunwyd.
11. Rhaid i unrhyw arwyddion sy’n hysbysebu ac yn
hyrwyddo’r datblygiad o fewn ac oddi allan y safle fod yn Gymraeg neu’n
ddwyieithog gyda blaenoriaeth i’r Gymraeg.
Nodyn: Datblygwr i drafod posibiliadau cynnig tocyn
parcio lleol i ddefnyddwyr yr adeilad gyda'r Gwasanaeth Trafnidiaeth
Dogfennau ategol: