Addasiadau mewnol
ac allanol i drosi'r adeilad yn siopau a defnydd unedau gwyliau
AELOD LLEOL: Cynghorydd Ioan Thomas
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Cynorthwyol
gyfeirio’r cais at CADW gydag argymhelliad i ganiatáu.
Amodau
COFNODION:
Addasiadau
mewnol ac allanol i drosi'r adeilad yn siopau a defnydd unedau gwyliau
a)
Amlygodd
y Rheolwr Datblygu bod y cais yn ymwneud a’r un adeilad yn y cais blaenorol ond
yn ymateb i elfennau’r gwaith ffisegol sydd angen caniatâd cynllunio.
Cyfeiriwyd at baragraff 5.13 o Nodyn Cyngor Technegol (NCT) 24: Yr Amgylchedd
Hanesyddol y dylai Awdurdodau Cynllunio Lleol ystyried y materion canlynol:
·
Pwysigrwydd
a gradd yr adeilad a’i ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol cynhenid
·
Nodweddion
ffisegol yr adeilad sy’n cyfiawnhau ei restru ac yn cyfrannu at ei arwyddocâd,
gan gynnwys unrhyw nodweddion pwysig, megis y tu mewn i'r adeilad, a all fod
wedi dod i’r amlwg ar ôl i’r adeilad gael ei gynnwys ar y rhestr
·
Cyfraniad
cwrtil a lleoliad yr adeilad at ei arwyddocâd, yn ogystal â chyfraniad yr
adeilad at yr olygfa leol
·
Effeithiau’r
gwaith arfaethedig ar arwyddocâd yr adeilad
·
I
ba raddau y byddai’r gwaith yn dod a manteision cymunedol sylweddol, er
enghraifft drwy gyfrannu at economi’r ardal neu at wella ei hamgylchedd lleol.
Adroddwyd, gyda’r
adeilad wedi gweld gymaint o newid dros amser nad oedd nodweddion gwreiddiol yn
parhau o fewn yr adeilad ac nad oedd llawer o ffabrig hanesyddol i’w golli drwy
drosi'r adeilad, heb law am y ffenestri sydd eisoes yn cael sylw priodol.
Nodwyd fod y Gymdeithas Henebion Hynafol a’r Gymdeithas Fictorianaidd
yn adlewyrchu hyn yn eu sylwadau.. Nododd y Gymdeithas Fictorianaidd
hefyd bryder dros sut y byddai’r llawr newydd ar yr ail lawr yn cael effaith ar
y ffenestri presennol, gan y byddai’r llawr yn mynd ar draws y ffenestri. Erbyn
hyn, mae’r cynlluniau wedi eu haddasu yn dilyn derbyn y sylwadau a chynnal trafodaethau ac y byddai’r llawr gyda llethr
arno oddi wrth y ffenestr yn lleihau’r effaith gweladwy.
Ystyriwyd y byddai'r gwaith o adfer yr adeilad sydd yn
adeilad trawiadol o fewn y strydlun a hefyd o fewn muriau’r dref yn welliant
sylweddol ac yn cwrdd â gofynion y polisiau perthnasol ac yn dderbyniol i'w ganiatáu.
b)
Yn
manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:
·
Mai
materion cynlluniau rhestredig oedd dan sylw yma
·
Dim
llawer o nodweddion penodol ar ôl
·
Ei
fod yn derbyn sylwadau’r Gymdeithas Fictorianaidd
·
Y
cynllun yn rhoi bywyd newydd i hen adeilad o fewn y dref
c) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais
PENDERFYNWYD
Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Cynorthwyol gyfeirio’r cais at CADW gydag
argymhelliad i ganiatáu.
Amodau
1. Rhaid cychwyn ar y datblygiad y
cyfeirir ato yn y caniatâd hwn dim hwyrach na PHUM mlynedd o ddyddiad y
caniatâd.
2. Cwblheir y datblygiad a ganiateir drwy
hyn yn llwyr unol â'r manylion a ddangosir ar gynllun(iau) rhif D794.06P2, D794.07P2, D794.08P2, D794.09P2,
D794.10P2, D794.11P2, D794.12P2, D794.13P2, D794.14P2, D794.15P2, D794.16P2,
D794.17P1, D794.18P1, D794.19P1 a D794.20P1 a gyflwynwyd i'r Awdurdod Cynllunio
Lleol, ac a gynhwysir yn y ffurflen gais ac mewn unrhyw ddogfennau eraill
gyda'r cais, os nad oes amod(au) sy'n ei diwygio wedi
ei gynnwys ar y dyfarniad cynllunio hwn.
3. Rhaid i unrhyw ffenestri amnewidir ar
yr adeilad gwreiddiol fod o wneuthuriad pren wedi eu paentio gyda gwydr sengl
ac o’r steil a math i gydweddu’r ffenestri presennol. Rhaid ail defnyddio’r gwydr gwreiddiol os yn
bosib.
4. Rhaid cyflwyno manylion y gwydriad
eilradd pe bwriedir eu gosod i’r Awdurdod Cynllunio Lleol i’w cymeradwyo yn
ysgrifenedig cyn eu gosod.
5. Rhaid i’r ffenestri to fod o fath
cadwraethol ac yn llyfn gyda'r to.
6. Rhaid i'r holl nwyddau dwr glaw fod o
wneuthuriad haearn bwrw.
Dogfennau ategol: