Agenda item

I ystyried cais Mr A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Penderfyniad:

Bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd

 

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniadau yn cael ei gwneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

       Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

       Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

       Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

       Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

       Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

       Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig

 

`        Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor wrthod y cais.

 

          Mewn ymateb i sylw gan yr ymgeisydd fod y collfarnau wedi mynd tu hwnt i’r cyfnod a nodir yn y polisi, nododd y Rheolwr Trwyddedu bod hawl gan yr Is-bwyllgor ystyried pob collfarn sy’n ymddangos ar y cofnod DBS. Er derbyn rhwystredigaeth yr ymgeisydd ategwyd mai Polisi'r Cyngor yw ystyried yr holl gollfarnau fel bod modd cael darlun clir a llawn o’r cefndir. Blaenoriaeth yr Is-bwyllgor yw diogelwch y cyhoedd ac wrth bwyso a mesur yr holl dystiolaeth bydd modd penderfynu os yw ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer y swydd.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei gais gan roi gwybodaeth am gefndir y collfarnau a’i amgylchiadau personol. Nododd ei fod yn edifarhau, ei fod wedi gwella ei ymddygiad, ac yn dilyn digwyddiad 2018 ei fod wedi dysgu gwersi gan alw ar yr Heddlu a chadw cofnod o bob digwyddiad mewn dyddiadur. Nododd ei fod yn gyrru bysiau ers 27 o fynyddoedd ac nad oedd cwyn wedi ei gyflwyno am ei agwedd na’i yrru.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

·         GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·         ffurflen gais yr ymgeisydd

·         adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS

·         sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd

·         Canllawiau'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

           

Yn Hydref 2010 cafwyd yr ymgeisydd yn euog gan Lys Ynadon Gwynedd o ddefnyddio geiriau bygythiol, ymosodol neu sarhaus, gyda’r bwriad i godi ofn neu bryfocio trais yn groes i Ddeddf Trefn Cyhoeddus 1986. Derbyniodd yr ymgeisydd ddirwy o £200, costau o £85 a chostau ychwanegol o £15.

 

Yn Nhachwedd 2018 cafwyd yr ymgeisydd yn euog gan Lys Ynadon Gogledd Orllewin Cymru o ddefnyddio geiriau bygythiol, ymsosodol neu sarhaus, sy’n debygol o godi ofn, dychryn neu drallod, yn groes i Ddeddf Trefn Cyhoeddus 1986. Derbyniodd yr ymgeisydd ddirwy o £100, costau o £85 a chostau ychwanegol o £30

 

Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried yng nghyswllt hynny, ni chaiff y cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno na'r mater arall hwnnw.

 

Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.

 

Mae paragraff 6.0 o’r Polisi yn cyfarch troseddau o drais. Ym mharagraff 6.1 nodir, gan fod gyrwyr trwyddedig yn dod i gysylltiad agos gyda'r cyhoedd yn rheolaidd y byddai is-bwyllgor yn mabwysiadu safbwynt cadarn at y rhai hynny sydd â throseddau yn ymwneud a thrais. Mae paragraff 6.5 o’r Polisi yn nodi y bydd cais am drwydded fel rheol yn cael ei wrthod os oes gan yr ymgeisydd fater i’w ystyried am ymosodiad cyffredin a/neu ddifrod troseddol a /neu drosedd o dan Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1986 sydd yn llai na 3 blynedd cyn dyddiad y cais.

 

Mae paragraff 16.1 o’r Polisi yn ymwneud ag ail-droseddu. Rhaid yn gyntaf sicrhau bod y collfarnau’n bodloni canllawiau’r polisi yn unigol, ond gyda’i gilydd yn creu hanes o ail-droseddu sydd yn dangos diffyg parch at les eraill ac eiddo.  O dan y Polisi rhaid bod 10 mlynedd wedi mynd heibio ers y gollfarn fwyaf diweddar.

 

Daeth yr Is-bwyllgor i gasgliad bod collfarnau 2010 a 2018 yn ymwneud â throseddau o drais. Roeddynt yn fodlon bod cyfnod yr amser a nodir yn y Polisi lle dylid gwrthod ceisiadau oherwydd troseddau o’r fath wedi mynd heibio yn achos y ddau fater. Serch hynny, gan fodpatrwm’ o aildroseddu ystyriwyd y mater o dan baragraff 16.1. O dan y paragraff hwnnw nodi’r dylid gwrthod cais os nad oes cyfnod o 10 mlynedd wedi mynd heibio ers y gollfarn olaf. Gan nad oedd cyfnod o’r fath wedi mynd heibio, ystyriodd yr Is-bwyllgor os oedd unrhyw resymau a thystiolaeth wedi eu cyflwyno i’w perswadio yn wahanol.

 

Ystyriwyd natur y patrwm o ail-droseddu drwy ystyried eglurhad a thystiolaeth yr ymgeisydd am gefndir y troseddau a’i amgylchiadau personol. Roedd trosedd 2010 wedi digwydd 11 mlynedd yn ôl ac yn ymwneud a sefyllfa deuluol benodol. Roedd trosedd 2018 serch hynny yn peri pryder i’r Is-bwyllgor oherwydd sefyllfa a godwyd tra roedd yr ymgeisydd yn gyrru bws cyhoeddus ac felly’n berthnasol iawn yng nghyd-destun cais am drwydded gyrrwr cerbyd hacni/hur preifat. Amlygodd yr Is bwyllgor y byddai sefyllfaoedd anodd iawn yn codi o bryd i’w gilydd ble byddai’n rhaid cadw rhag colli tymer a pheidio ymateb os cythruddid. Ystyriodd yr Is-bwyllgor amgylchiadau’r digwyddiad a arweiniodd at y gollfarn a daethpwyd i farn fod yr ymddygiad yn un annerbyniol. Er hynny, cymharol oedd  difrifoldeb yr ymddygiad  ac nid oedd unrhyw drais corfforol wedi digwydd.

 

Derbyniodd yr Is-bwyllgor ddatganiad yr ymgeisydd o fod wedi dysgu gwersi yn dilyn y digwyddiad drwy alw’r Heddlu pan fydd sefyllfa debyg yn codi a chofnodi pob digwyddiad mewn dyddiadur. Ystyriwyd hefyd bod yr ymgeisydd yn gyrru bws ers blynyddoedd ac nad oedd unrhyw gwynion wedi eu cyflwyno i’w gyflogwyr o ran ei yrru na’i ymddygiad.

 

Wedi pwyso a mesur y dystiolaeth ar wybodaeth yn ofalus, penderfynodd yr Is-bwyllgor fod natur y patrwm o ail-droseddu a’r dystiolaeth o’r hyn oedd wedi digwydd ers y gollfarn olaf yn cyfiawnhau gwyro oddi wrth y Polisi. O ganlyniad roedd yr Is-bwyllgor o blaid caniatáu y cais a phenderfynwyd bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat. Atgoffwyd yr ymgeisydd petai ddigwyddiad tebyg yn codi byddai’r awdurdod trwyddedu yn gorfod ystyried camau priodol i’w cymryd yn yr amgylchiadau penodol hynny, ac y gallai’r camau gynnwys diddymu’r drwydded.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd.