Ystyried adroddiad yr Uwch
Gyfreithiwr (Corfforaethol).
Penderfyniad:
4(a) Rhaid
i chi gyflawni’ch dyletswyddau gan roi sylw dyledus i’r egwyddor y dylid cael
cyfle cyfartal i bawb beth bynnag fo’u rhywedd, hil,
anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, oed neu grefydd.
4(b)
Trin pobl eraill gyda pharch ac ystyriaeth.
4(c)
Rhaid i chi beidio â bwlio nac aflonyddu ar neb, gan gynnwys aelodau eraill,
swyddogion y cyngor neu aelodau o’r cyhoedd.
·
Mae’r Pwyllgor hefyd yn
gofyn iddo ystyried ac adlewyrchu ar ei ymddygiad, yn benodol y modd y mae’n
siarad ac yn gohebu gydag eraill mewn unrhyw rôl gyhoeddus arall sydd ganddo ar
hyn o bryd, neu yn y dyfodol. Mae’r
Pwyllgor hefyd yn ei annog i fanteisio ar unrhyw gyfleoedd hyfforddiant sydd ar
gael mewn perthynas â’r Cod Ymddygiad i aelodau
Cofnod:
Croesawodd y
Cadeirydd bawb i’r gwrandawiad a chyflwynodd swyddogion yr Ombwdsmon eu hunain
i’r aelodau.
Yna esboniodd y
Cadeirydd natur / fformat y gwrandawiad.
Cefndir
1. Ystyriodd y
Pwyllgor adroddiad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (“yr Ombwdsmon”)
i gŵyn a wnaed gan gadeirydd Pwyllgor Personél Cyngor Tref Tywyn (“y
Cyngor”) y Cynghorydd John Pughe, bod y Cynghorydd George Michael Stevens (“yr
Aelod”) wedi torri Cod Ymddygiad y Cyngor.
2. Honnwyd bod yr
Aelod wedi ymddwyn yn amharchus tuag at Glerc y Cyngor ar y pryd (“y Clerc”)
a’i fod wedi ei thanseilio dro ar ôl tro.
Roedd y gŵyn yn ymwneud â gohebiaeth a anfonwyd gan yr Aelod at y
Clerc a gohebiaeth a anfonwyd gan yr Aelod am y Clerc.
3. Daeth yr
Ombwdsmon i’r casgliad bod gohebiaeth yr Aelod yn cynnwys sylwadau personol
difrïol a oedd yn amharchus ac mai bwriad y sylwadau ynglŷn â phrofiad y
Clerc oedd tanseilio’r Clerc. Yn ychwanegol, defnyddiodd yr Aelod iaith â
thuedd tuag at ryw benodol wrth wneud sylwadau am y Clerc.
4. Daeth yr
Ombwdsmon i’r penderfyniad y gallai’r Aelod fod wedi torri Cod Ymddygiad y
Cyngor, yn benodol, paragraffau 4(a), 4(b) a 4(c), sy’n darparu:
“4. Mae'n rhaid i chi:
(a) gyflawni eich dyletswyddau a’ch cyfrifoldebau
gan roi ystyriaeth briodol i'r egwyddor y dylai fod cyfle cyfartal i bawb,
waeth beth fo'u rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, oedran neu grefydd;
(b) dangos parch at bobl eraill ac ystyriaeth
iddynt;
(c) peidio â bwlio nac aflonyddu unrhyw unigolyn
Canfu'r Ombwdsmon
hefyd y gellid ystyried gweithredodd yr Aelod yn rhesymol fel ymddygiad a allai
fod wedi torri paragraff 6 (1) (a) y Cod Ymddygiad:
“6 (1) Mae'n rhaid i chi:
(a) beidio ag ymddwyn mewn ffordd y gellid ystyried
yn rhesymol ei bod yn dwyn anfri ar eich swydd neu'r awdurdod;”
5. Cyfeiriodd yr
Ombwdsmon ei adroddiad ymchwilio at Swyddog Monitro Cyngor Gwynedd i'w ystyried
gan ei Bwyllgor Safonau.
Y Gwrandawiad
6. Cyflwynodd yr
Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol) (Dirprwy Swyddog Monitro Cyngor Gwynedd oedd
yn cynghori’r Pwyllgor) ei adroddiad ar gychwyn y gwrandawiad. Eglurodd fod yr Aelod wedi ymddiswyddo fel
aelod o Gyngor Tref Tywyn ar 4 Rhagfyr 2021 a bod yr Aelod wedi cadarnhau nad
oedd yn bwriadu mynychu’r gwrandawiad.
Eglurodd nad oedd ymddiswyddiad yr Aelod yn newid yr angen i’r Pwyllgor
ystyried a phenderfynu ar adroddiad yr Ombwdsmon. Serch hynny o safbwynt y cosbau oedd ar gael
i’r Pwyllgor pe bai’n dod i’r casgliad bod yr Aelod wedi torri’r Cod, ni fyddai
gwahardd yr aelod bellach yn opsiwn.
7. Penderfynodd y
Pwyllgor fwrw ymlaen gyda’r gwrandawiad ac ystyriodd adroddiad ysgrifenedig
ymchwiliad yr Ombwdsmon a’r dogfennau pellach oedd wedi eu cyflwyno ymlaen llaw
gan yr Aelod a’r Ombwdsmon yn unol â threfn cyn-wrandawiad y Pwyllgor.
Ystyriodd y Pwyllgor hefyd gyflwyniadau llafar gan Katrin Shaw, Prif Gynghorydd
Cyfreithiol a Chyfarwyddwr Ymchwiliadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
a gan Leigh McAndrew, Swyddog Ymchwilio’r Ombwdsmon.
Y Penderfyniad
8. Ystyriodd y
Pwyllgor yn gyntaf unrhyw ganfyddiad o ffaith yr oedd angen iddo wneud. Roedd y
gŵyn yn ymwneud â gohebiaeth gan yr Aelod dros gyfnod o tua 12 mis. Roedd yr ohebiaeth yma wedi ei gynnwys yn y
dystiolaeth ysgrifenedig gerbron ac nid oedd amheuaeth felly ynglŷn â’r
hyn yr oedd yr Aelod wedi ei ddweud. Yr un mater ffeithiol perthnasol a nodwyd
yn yr adroddiad fel un oedd yn destun amheuaeth oedd bod yr aelod yn gwadu iddo
fwriadu anfon ei bost dyddiedig 22 Ionawr 2020 at holl aelodau Cyngor Gwynedd.
9. Ystyriodd y
Pwyllgor y ffaith fod yr aelod wedi pwysleisio ei fod bob tro yn ofalus iawn yn
y modd yr oedd yn gohebu, a’r ffaith y byddai’n amlwg wrth ysgrifennu’r e-bost
a chyn ei anfon y byddai’r e-bost yn cael ei anfon at nifer fawr o bobl. Roedd
yr e-bost dan sylw yn ymateb i wahoddiad cyffredinol i holl aelodau Cyngor
Gwynedd gan y Pennaeth Cyllid. Roedd y ffaith fod yr Aelod wedi dewis gwneud
sylwadau beirniadol am y Swyddog Monitro yn ei ymateb yn hytrach na dim ond
ymddiheuro na fyddai’n bresennol, yn awgrymu’n gryf ei fod wedi bwriadu i’r
aelodau weld y sylwadau yma. Roedd y
ffaith nad oedd yr e-bost yn cyfarch un derbynnydd yn benodol (yn wahanol i
nifer helaeth o’i e-byst eraill) yn atgyfnerthu’r canfyddiad hyn.
10. Penderfynodd y
Pwyllgor felly, ei fod yn fodlon, yn ôl pwysau tebygolrwydd, fod yr Aelod wedi
bwriadu anfon yr e-bost at yr holl aelodau.
11. Aeth y
Pwyllgor ymlaen i ystyried ymddygiad yr Aelod, ac ar ôl ystyriaeth ofalus o’r
holl dystiolaeth a gyflwynwyd, penderfynodd y Pwyllgor fod yr Aelod wedi methu
a chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad fel a ganlyn:
12. Canfu’r
Pwyllgor fod yr Aelod wedi torri paragraff 4(a) y Cod Ymddygiad am y rhesymau
canlynol:
12.1 Canfu’r
Pwyllgor fod yr Aelod wedi defnyddio iaith yn seiliedig ar rywedd yn ei
ohebiaeth gan ddefnyddio geiriau megis “misandrist” ac “overbearing school
mistress” i ddisgrifio’r Clerc gan ddweud amdani ei bod yn “slowly emasculating
the Council”. Roedd wedi parhau i
ddefnyddio iaith o’r fath wrth gael ei gyfweld gan yr Ombwdsmon gan gyfeirio
ati sawl gwaith fel “this/that woman” a’i fod yn credu ei bod yn wir (fel y
dywedodd rhywun wrtho) fod y Clerc yn “man-hating vegan” oherwydd ei
chysylltiad gyda Phlaid Cydraddoldeb Menywod .
12.2 Roedd y
Pwyllgor o’r farn fod yma batrwm o ddefnyddio iaith wahaniaethol tuag at, ac am
y Clerc a bod yr ymddygiad yma gyda’i gilydd yn dangos bod yr Aelod wedi methu
ag ymddwyn mewn modd oedd yn rhoi ystyriaeth briodol i'r egwyddor y dylai fod
cyfle cyfartal i bawb, waeth beth (ymysg materion eraill) fo'u rhyw.
13. Canfu’r Pwyllgor fod yr Aelod wedi torri
paragraff 4(b) y Cod Ymddygiad am y rhesymau canlynol:
13.1 Roedd y
Pwyllgor yn derbyn bod yr Aelod o fewn ei hawliau i feirniadu'r modd yr oedd y
Clerc yn gweinyddu’r Cyngor os mai dyna oedd ei farn, ond roedd yn edrych ar y
modd yr oedd yn mynegi’r feirniadaeth honno. Canfu’r Pwyllgor batrwm yn yr
ohebiaeth o ymddygiad lle'r oedd yr Aelod yn beirniadu’r Clerc mewn modd oedd
yn mynd y tu hwnt i’r hyn oedd yn dderbyniol beth bynnag fo barn yr Aelod am ei
hymddygiad a’i pherfformiad fel clerc i’r Cyngor.
13.2 Teimlai’r
Pwyllgor fod y geiriau a ddefnyddiwyd gan yr Aelod a thôn yr e-byst yn
annerbyniol. Nid achos unigol oedd hyn ond yn hytrach batrwm cyson o
feirniadaeth dros gyfnod sylweddol gan ddefnyddio termau dilornus personol
amdani. Roedd hefyd yn cyfeirio ati sawl
gwaith fel rhywun dibrofiad er iddi fod yn y swydd am 3 mlynedd, yn datgan bod
ganddi feddwl llawer rhy uchel ohoni ei hun a’i gallu, a’i bod allan o
reolaeth. Fe wnaeth hefyd gynnwys aelodau’r Cyngor yn yr ohebiaeth.
13.3 Er nad oedd o
fewn cylch gorchwyl na phwerau’r
Pwyllgor i benderfynu ar ymddygiad y Clerc ei hun fe wnaeth y Pwyllgor
ei gymryd i ystyriaeth fel cyd-destun i ymddygiad yr Aelod. Tra’n derbyn bod yr
aelod yn teimlo’n gryf am y modd yr oedd y Cyngor yn cael ei redeg a’i fod yn
teimlo’n rhwystredig, nid oedd hynny yn rhoi esgus dros ymddwyn yn y modd y
gwnaeth. Cyfrifoldeb yr Aelod oedd ei ymddygiad a neb arall.
13.4 Roedd y
Pwyllgor yn bryderus iawn yng nghyd-destun y paragraff penodol yma am y sylw
gan yr Aelod yn ei gyfweliad gyda’r Ombwdsmon wrth drafod ei ymddygiad tuag at
y Clerc. Dywedodd yr Aelod ei fod yn
credu nad oedd parch yn rhywbeth yr oedd gan rywun hawl iddo ond bod rhaid ei
ennill. Roedd y Pwyllgor yn anghytuno ac
mae’r Cod yn datgan yn glir bod rhaid dangos parch at eraill.
13.5 O ddod i’r
casgliad fod yr ymddygiad wedi torri’r paragraff yma aeth y Pwyllgor ymlaen i
ystyried Erthygl 10 Confensiwn Ewropeaidd Dros Hawliau Dynol. Roedd y Pwyllgor yn derbyn bod lefel uwch o
warchodaeth i sylwadau gwleidyddol ac y gall sylwadau am weinyddiaeth awdurdod
gael eu cyfri fel rhai gwleidyddol.
Serch hynny, fel yr eglurir gan yr Ombwdsmon yn ei adroddiad, “nid yw’r hawl i amddiffyniad uwch a roddir
i Gynghorwyr i wneud sylwadau gwleidyddol yn cynnwys yr hawl i wneud sylwadau
personol di-alw-amdanynt neu sarhaus, nac ychwaith unrhyw sylwadau
gwahaniaethol”. Fe gymrodd y
Pwyllgor hefyd i ystyriaeth fod y sylwadau yma wedi eu cyfeirio at swyddog
cyflogedig y Cyngor ac nid at aelod arall, lle y gellid disgwyl iddynt fod yn
fwy ‘croendew’.
13.6 Roedd y
Pwyllgor felly o’r farn fod y sylwadau yn mynd tu hwnt i sylwadau gwleidyddol
fyddai’n cael eu gwarchod gan Erthygl 10.
14. Canfu’r Pwyllgor fod yr Aelod wedi torri
paragraff 4(c) y Cod Ymddygiad am y rhesymau canlynol:
14.1 Canfu’r
Pwyllgor fod ymddygiad yr Aelod yn gyfystyr â bwlio ac yn aflonyddu. Nodwyd bod
Canllawiau’r Ombwdsmon yn disgrifio bwlio fel ymddygiad sy’n ceisio tanseilio
unigolyn, yn niweidiol i’w hyder a’i gallu ac yn medru effeithio ar ei iechyd
mewn modd niweidiol. Disgrifir aflonyddu
yn y Canllawiau fel ymddygiad sy’n cael ei ail-adrodd sy’n cynhyrfu neu’n
ypsetio pobl.
14.2 Roedd y
Pwyllgor o’r farn bod yr Aelod drwy ei ohebiaeth yn ceisio tanseilio’r Clerc ac
yn niweidiol i’w hyder. Roedd yn beirniadu nid yn unig ei gwaith a’i gallu ond
hefyd ei chymeriad, ac yn gwneud hynny mewn gohebiaeth oedd wedi ei rannu ag
aelodau eraill o’r Cyngor. Nodwyd hefyd
bod y Clerc wedi bod i ffwrdd o’i gwaith fel canlyniad i’r ymddygiad yma. Canfu’r Pwyllgor hefyd batrwm o’r math yma o
ymddygiad oedd felly yn gyfystyr ag aflonyddu.
14.3 Tra bod gan
yr aelod hawl i graffu ar, ac i feirniadu perfformiad y Clerc, roedd ei
ymddygiad, ac yn enwedig y modd yr oedd wedi dewis mynegi ei anfodlonrwydd, yn
mynd y tu hwnt i’r hyn fyddai’n dderbyniol hyd yn oed o ystyried y warchodaeth
ychwanegol i sylwadau gwleidyddol eu natur.
15. Canfu’r
Pwyllgor fod yr Aelod wedi torri paragraff 6(1)(a) y Cod Ymddygiad am y
rhesymau canlynol:
15.1 O edrych ar
ymddygiad yr Aelod yn ei gyfanrwydd, roedd y Pwyllgor o’r farn ei fod yn ddigon
difrifol ei natur fel ei fod yn dwyn anfri ar y Cyngor ac ar ei swydd fel
aelod. Roedd yr ymddygiad wedi bod y
niweidiol i’r berthynas o fewn y Cyngor, i’w weinyddiaeth ac wedi niweidio ei
enw da.
Cosb
16. Roedd y
Pwyllgor o’r farn bod hwn yn achos difrifol o dorri cod ymddygiad. Ystyriodd yr hyn yr oedd gan yr Ombwdsmon i’w
ddweud yn y gwrandawiad a’r materion sydd wedi eu nodi yng Nghanllaw ar Gosbau
Panel Dyfarnu Cymru, fel ffactorau lliniarol a ffactorau gwaethygol.
16.1 O safbwynt ffactorau
lliniarol roedd y Pwyllgor yn cydnabod fod yr Aelod wedi ymgysylltu gyda’r
broses ymchwilio ond nodwyd hefyd sylwadau’r Ombwdsmon ei fod wedi bod yn
ymchwiliad anodd iawn oherwydd ymddygiad yr Aelod.
Cydnabuwyd hefyd
fod yr Aelod yn teimlo’n gryf iawn am y modd y roedd y Cyngor yn cael ei redeg,
ei fod yn teimlo nad oedd ei sylwadau yn cael gwrandawiad a’i fod yn credu ei
fod yn gweithredu yn ddidwyll.
16.3 Gan droi at ffactorau
gwaethygol, canfu’r Pwyllgor fod nifer o’r rhain yn bresennol yn yr
ymddygiad arweiniodd at y gŵyn ac yn ystod yr ymchwiliad:
Roedd yn ceisio
beio pobl eraill yn annheg am weithredoedd ei hun,
Roedd yn arddangos
diffyg dealltwriaeth o’i ymddygiad ac yn gwrthod derbyn ei fod wedi camymddwyn
ac unrhyw ganlyniadau allai ddeillio o hynny.
Roedd wedi
anwybyddu cyngor a rhybuddion ynglŷn â’i ymddygiad, yn benodol gan yr
Ombwdsmon ac yn dilyn ymchwiliad gan Un Llais Cymru.
Roedd yn gwrthod
derbyn y ffeithiau er gwaethaf y dystiolaeth glir i’r gwrthwyneb
16.4 Ar ôl ystyried difrifoldeb yr ymddygiad dan
sylw ac ar ôl ystyried y ffactorau lliniarol a’r ffactorau gwaethygol
perthnasol penderfynodd y Pwyllgor y dylai’r Aelod dderbyn cerydd, gan mai dyma
yw’r gosb fwyaf gall y Pwyllgor ei roi yn dilyn ei ymddiswyddiad o’r Cyngor.
16.5 Serch hynny hoffai’r Pwyllgor gofnodi y
byddai, heblaw am ei ymddiswyddiad o’r Cyngor, yn debygol o fod wedi ei
wahardd, a hynny am yr uchafswm posib.
16.6 Mae’r Pwyllgor hefyd yn gofyn iddo ystyried ac
adlewyrchu ar ei ymddygiad, yn benodol y modd y mae’n siarad ac yn gohebu gydag
eraill mewn unrhyw rôl gyhoeddus arall sydd ganddo ar hyn o bryd neu yn y
dyfodol. Mae’r Pwyllgor hefyd yn ei
annog i fanteisio ar unrhyw gyfleoedd hyfforddiant sydd ar gael mewn perthynas
â’r Cod Ymddygiad i aelodau.
Apêl
17. Nodwyd y gallai’r Aelod ofyn am ganiatâd i
apelio yn erbyn penderfyniad y Pwyllgor i dribiwnlys apeliadau a dynnwyd o
Banel Dyfarnu Cymru, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig o fewn 21 diwrnod o
dderbyn y rhybudd penderfyniad i lywydd Panel Dyfarnu Cymru. Rhaid i’r cais am ganiatâd i apelio nodi’r
rhesymau dros apelio a pa un a roddir caniatâd i apelio ai peidio, ei fod yn
cydsynio i’r apêl gael ei chynnal drwy gyfrwng sylwadau ysgrifenedig.
18. Yn unol â
Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a
Phwyllgorau Safonau (Cymru) 2001 (fel y’i diwygiwyd) hysbysir yr Aelod, yr
Achwynydd ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru o benderfyniad y Pwyllgor
drwy Hysbysiad o Benderfyniad.
Dogfennau ategol: