I dderbyn
adroddiad blynyddol Cronfa Bensiwn Gwynedd 2020/21
Cofnod:
Croesawyd pawb i gyfarfod blynyddol y Gronfa Bensiwn.
a)
Cyflwyniad y Pennaeth
Cyllid
Mynegodd bod
2020/21 wedi bod yn flwyddyn heriol gyda’r Gronfa wedi llwyddo i gyflawni
dychweliadau cadarnhaol. Adroddwyd mai gwerth y Gronfa ar 31/03/2021 oedd
£2,515.2 miliwn o gymharu â gwerth
31/03/2020 o £1,938.3 miliwn, gyda’r
gwerthoedd wedi bownsio nôl a’r gronfa yn perfformio’n uwch
na’r meincnod dros y cyfnod. Ategwyd bod perfformiad
cryf y marchnadoedd ecwiti yn 2020/21 yn
galonogol iawn, ac yn argoeli yn dda ar gyfer y prisiad nesaf.
Amlygwyd,
allan o 100 o gronfeydd Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol y Deyrnas Unedig, bod
perfformiad 2020/21 Cronfa Bensiwn Gwynedd yn 16eg, gyd chynnydd mewn gwerth yr
asedau o 29.3% yn sylweddol uwch na’r cyfartaledd o 22.7%. Nodwyd hefyd, wrth
edrych dros y tymor hir, bod perfformiad cymharol y Gronfa wedi gwella yn
gyson, wrth symud o’r 46ain safle dros yr 20 mlynedd ers 2001, i fod yn 20fed
dros y 3 blynedd diwethaf.
Wrth drafod
Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC), adroddwyd bod y cydweithio yn mynd o nerth i
nerth ers ei sefydlu yn 2017. Ers y cyfnod clo, amlygwyd bod holl ddigwyddiadau’r
bartneriaeth wedi bod yn rhithiol, gyda gwaith yn parhau, cronfeydd newydd
wedi’u lansio, a nifer o ddigwyddiadau wedi cymryd lle. Adroddwyd y bod gan Cronfa Bensiwn Gwynedd
fuddsoddiadau mewn pump o is-gronfeydd PPC erbyn diwedd Tachwedd 2021, gyda
buddsoddiadau mewn ecwiti byd-eang, incwm sefydlog a marchnadoedd datblygol.
Atgoffwyd pawb
o’r buddion sydd wedi eu hennill o fod wedi ymuno a PPC, sydd yn cynnwys ehangu
cyfleodd buddsoddi drwy ddefnyddio amryw o reolwyr buddsoddi portffolio, a
lleihad mewn ffioedd. Ym mis Chwefror 2019, sefydlwyd dwy is gronfa (Global Growth a
Global Opportunities) gyda buddsoddiad
cychwynnol o £303m ymhob cronfa. Erbyn hyn,
gyda’r buddsoddiadau wedi bod yn y cronfeydd
ers dros ddwy flynedd a hanner, gellid dechrau mesur perfformiad
yn ystyrlon. Mynegwyd bod y cronfeydd wedi perfformio yn eithriadol,
gyda Global Growth wedi dychwelyd 3.4%, a Global Opportunities 2.0% yn uwch na’r
meincnod ers y cychwyn.
Trosglwyddwyd elfen o fandad ecwiti Fidelity
(£166m) i is-gronfa Multi Asset Credit PPC yng Ngorffennaf 2020, a £291m o fandad Insight
i is-gronfa Absolute Return
Bond PPC yn Hydref 2020. Er yn gynnar i
asesu perfformiad y cronfeydd hyn, nodwyd bod eu perfformiad wedi bod yn uwch
na’r meincnod ers eu sefydlu. Ym mis Hydref
2021, trosglwyddwyd y buddsoddiad
marchnadoedd datblygol i gronfa newydd PPC gyda 6 rheolwr, yn cynnwys Bin Yuan sy’n arbenigo yn Tsiena. Erbyn
Tachwedd 2021, mae 83% o asedau
Cronfa Bensiwn Gwynedd wedi’u pwlio gyda PPC.
Wrth drafod buddsoddi cyfrifol, sy’n faes blaenoriaeth gan y Pwyllgor a’r
Bwrdd Pensiynau, nodwyd bod y Cyngor wedi rhyddhau datganiad yn Chwefror 2021
gyda diweddariad yng Ngorffennaf 2021. Cyfeiriwyd at Gynhadledd COP26 a gynhaliwyd
yn ddiweddar, lle cafwyd trafodaethau rhwng gwledydd y byd am sut i fynd i'r
afael â newid hinsawdd. Cyfeiriwyd hefyd at Wythnos Hinsawdd Cymru ar 22-26
Tachwedd. Er mai siomedig oedd
diweddglo’r gynhadledd COP26, amlygwyd bod Cronfa Gwynedd yn parhau i symud i’r
cyfeiriad cywir ac fe amlygwyd enghreifftiau o ddatblygiadau buddsoddi cyfrifol
ym mhob un o’r cronfeydd perthnasol.
Tynnwyd sylw at yr asesiad ‘GRESB’
(Global Real Estate Sustainability Benchmark) sy’n
mesur sut mae rheolwyr buddsoddiadau mewn eiddo yn ystyried ac adrodd ar
faterion Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu (‘ESG’).
Ategwyd bod bodolaeth y Tasglu ar Ddatgeliadau Ariannol sy'n Gysylltiedig
â'r Hinsawdd (Task Force on Climate-related Financial Disclosures - TCFD) yn credu bod gwell gwybodaeth yn
caniatáu i gwmnïau ymgorffori risgiau a chyfleoedd sy'n gysylltiedig â'r
hinsawdd yn eu prosesau rheoli risg a chynllunio strategol. O ganlyniad, maent wedi argymell pedwar
thema: llywodraethu, strategaeth, rheoli risg a metrics
a thargedau. Bydd y rhain yn cael eu
cyflwyno i Gronfeydd mewn dwy ffordd – yn gyntaf drwy’r cwmnïau rheoli asedau a
ddefnyddir, ac wedyn drwy fframwaith adrodd i’r Cronfeydd fel Gwynedd. Bydd y drefn yn gorfodi pawb i ddatgan
rhesymeg yn safonol ac y bydd cynlluniau
pensiwn gydag asedau dros £1 biliwn yn dechrau mesur a phrofi gyda’r metrics o Hydref 2022 ymlaen.
Yng nghyd-destun prisiad y Gronfa, tynnwyd sylw at yr amserlen gyda bwriad
o gwblhau’r gwaith rhwng rŵan a Haf 2022. Nodwyd y bydd angen
cydweithrediad y cyflogwr wrth ddilysu’r data. Bwriedir hysbysu cyflogwyr o’u cyfraddau
cyfrannu erbyn Ebrill 2023 mewn Fforwm Cyflogwyr yn Hydref 2022,
Gweinyddiaeth Pensiynau:
Yn ystod 2020/21 adroddwyd bod y system ‘Fy Mhensiwn
Ar-lein’ wedi mynd o nerth i nerth gyda nifer fawr o aelodau yn gwneud defnydd
o’r safle dros y cyfnod clo. Nodwyd
bod aelodaeth ‘Fy Mhensiwn Ar-lein’ yn
cynyddu’n flynyddol gydag oddeutu 16,000 wedi cofrestru hyd yma. Ategwyd bod
oddeutu 500 aelod yn gwneud defnydd o’r wefan pob mis a gwaith yn parhau i
geisio cynyddu’r aelodaeth ac o annog cyflogwyr i hyrwyddo’r safle i sicrhau
bod staff yn defnyddio’r gwasanaeth.
Adroddwyd ar ddefnydd system i-Connect sydd yn diweddaru data tâl a
chyfraniadau ar y system yn fisol. Ategwyd bod i-Connect yn darparu buddion sylweddol i
aelodau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) drwy
gyflwyno data clir, cywir ac amserol a bod 100% o gofnodion aelodau yn cael eu
diweddaru trwy’r system bellach. Diolchwyd i’r holl gyflogwyr am ddefnyddio’r
system.
Tynnwyd sylw at Arolwg Boddhad Aelodau sydd yn cael ei anfon at aelodau’r
Gronfa ar ddiwedd pob proses, e.e. ymddeoliadau. Y bwriad yw derbyn barn ar
ansawdd y gwasanaeth, a staff yr Uned Gweinyddu Pensiynau. Adroddwyd bod dros
98% o aelodau unai yn cytuno’n gryf neu’n cytuno bod ansawdd y gwasanaeth o
safon uchel, a bod 98.25% o’r defnyddwyr yn cytuno’n gryf neu’n cytuno bod
ansawdd y gwasanaeth a ddarperir gan y staff o safon uchel. Er mwyn cyflawni’r
sgoriau uchel hyn, nodwyd bod cydweithrediad y cyflogwyr yn hanfodol, a
diolchwyd i’r cyflogwyr am eu parodrwydd i ddarparu’r wybodaeth yn brydlon.
Yng nghyd-destun staffio, nodwyd bod pedwar aelod o'r tîm wedi bod yn
llwyddiannus yn derbyn Gradd Sylfaen mewn Gweinyddu a Rheoli Pensiynau,
cymhwyster sy’n sicrhau dealltwriaeth fanwl o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth
Leol a sgiliau rheoli.
Diolchwyd am
yr adroddiad.
Yn ystod y
drafodaeth ddilynol cafwyd y cwestiynau a’r ymatebion canlynol:
·
Ynglŷn â defnydd metrics
TCFD a’r gobaith o ddechrau’r gwaith ym mis Hydref 2022, pryd bydd modd adrodd
ar y canfyddiadau?
Nodwyd nad oedd
sicrwydd o’r drefn ac y bydd angen amser priodol i gofnodi data a sicrhau data
cymharol. Awgrymwyd y gall hyn gymryd
hyd at 12 mis cyn y gellid rhannu cymariaethau defnyddiol.
·
Ynglŷn â chefndir y ‘TCFD’, holwyd os roedd y
tasglu yn grŵp yn un tasg a gorffen?
Nodwyd bod y
grŵp wedi ei sefydlu gan gorff rhyngwladol, sef y Bwrdd Sefydlogrwydd
Ariannol (FSB), a bod yr FSB wedi gofyn i'r TCFD barhau â'i waith i hyrwyddo a
monitro cynnydd yn y modd y mae cwmnïau'n gweithredu ar ei argymhellion.
·
Ynglŷn â gweithredu ‘tros-haen lleihau
carbon’, a sylw byddai hyn yn gallu amddiffyn buddsoddiad ag allyriadau, a holwyd oni
fyddai’n haws tadfuddsoddi yn gyfan gwbl o gwmnïau ag
allyriadau uchel, megis Shell?
Cytunwyd gyda’r
amcan amgylcheddol sylfaenol, ond eglurwyd bod yr ateb yn llawer mwy
soffistigedig na dewis dadfuddsoddi. Ategwyd bod
ymgysylltu yn chwarae rôl bwysig a bod modd o symud i’r cyfeiriad cywir drwy
ddylanwad. Tra byddai’n anodd hidlo cwmnïau mawr allan o’r portffolio, mae’r
drefn tros-haen yn lleihau buddsoddiad mewn
cwmnïau sydd ag ôl troed carbon.
·
Mewn ymateb i bryder bod cynnydd mewn dadfuddsoddi yn araf e,e, y
Gronfa yn parhau i fuddsoddi gyda Blackrock sydd â
buddsoddiadau tanwydd ffosil, nodwyd na ellid dylanwadu ar yr hyn y mae Blackrock yn ei wneud ar ran buddsoddwyr eraill, ond bod
Gwynedd yn dylanwadu ar yr hyn y mae’n dewis buddsoddi gyda Blackrock.
Adroddwyd bod 12% o Gronfa Gwynedd wedi’i fuddsoddi yng nghronfa carbon isel Blackrock, sydd yn sgrinio tanwydd ffosil.
Diolchwyd i holl staff y Gronfa am gyflawni
eu gwaith a’u dyletswyddau yn broffesiynol iawn. Gwerthfawrogwyd yr holl waith
sydd yn cael ei wneud er budd pensiynwyr presennol y Gronfa ac i’r dyfodol.
Amlygwyd bod Mr Dafydd Edwards, yn ymddeol yn
hyblyg o’i swydd fel Pennaeth Cyllid y Cyngor o fis Ionawr, ond y byddai’n
parhau am 18 mis fel Cyfarwyddwr y Gronfa Bensiwn. Dymunwyd ymddeoliad hyblyg
hapus iddo.
PENDERFYNWYD DERBYN ADRODDIAD BLYNYDDOL Y
GRONFA BENSIWN AM 2020/21
Dogfennau ategol: