I ystyried yr adroddiad
Cofnod:
Cyflwynwyd,
er gwybodaeth adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn diweddaru’r Aelodau ar waith
y Bartneriaeth, perfformiad y Gronfa ynghyd a datblygiadau ers sefydlu yn 2017. Adroddwyd bod cydweithio yn parhau i fynd o
nerth i nerth ac erbyn Rhagfyr 2021 bod 83% o Gronfa Gwynedd wedi ei bwlio gyda
PPC (56% drwy’r prif gronfeydd a 27% drwy fuddsoddiadau goddefol). O ystyried
bod PPC yn chwarae rhan amlwg ym mherfformaid Cronfa
Gwynedd, ystyriwyd pwysigrwydd diweddaru’r Bwrdd yn rheolaidd o waith y
Bartneriaeth
Yng
nghyd-destun Cronfeydd Ecwiti, a sefydlwyd yn 2019, nodwyd, er bod perfformiad
y chwarter diwethaf wedi bod yn is na’r meincnod, bod y perfformiad yn
gyffredinol wedi bod yn safonol iawn ac wedi cyfrannu’n dda i berfformiad y gronfa.
Ategwyd bod y chwarter diwethaf wedi bod yn un heriol gyda phryderon
ynglŷn ag adfywiad yr economi oedd yn ddisgwyliedig wedi cyfnod mor gryf.
Yng
nghyd-destun Cronfeydd Incwm Sefydlog, a sefydlwyd 12 mis yn ôl, awgrymwyd bod
y perfformiad cyffredinol yn ymddangos yn dda er eto, perfformiad y chwarter
diwethaf yn is na’r meincnod oherwydd pryderon chwyddiant ac amrywiol ffactorau
eraill.
Adroddwyd
bod cyfran Marchnadoedd Datblygol y Gronfa wedi symud o gwmni Fidelity i Gronfa PPC ar yr 21ain o Hydref 2021 ac mai
Rheolwyr y Gronfa newydd oedd Artisan, Bin Yuan, Barrow Hanley,
Axiom, Numeric ac Oaktree. Ategwyd, yn unol â chyngor Russell Investments, bod Bin Yuan wedi eu
dewis oherwydd eu lleoliad yn Tsieina ac felly’n arbenigwyr ar gymeriad y wlad
a’i marchnadoedd.
Mynegwyd mai
gwaith diweddaraf y Bartneriaeth oedd sefydlu Marchnadoedd Preifat gyda
chynghorydd chwilio arbenigol BFinance yn
cynorthwyo’r Bartneriaeth gyda’r broses o benodi Rheolwyr Buddsoddi ar gyfer
Isadeiledd a Chredyd Preifat. Ategwyd mai’r bwriad yw lansio’r cronfeydd hyn yn
2022 gyda Chronfa Gwynedd yn buddsoddi unrhyw arian newydd marchnadoedd preifat
ynddynt.
Yng nghyd-destun cynrychiolydd aelodau ar y Cyd bwyllgor Llywodraethu,
nodwyd bod
Cyngor
Gwynedd wedi cymeradwyo addasiadau i’r Cytundeb Rhyng-Awdurdod
ar y 7fed o Hydref 2021. Bydd disgwyl i holl Awdurdodau’r PPC gymeradwyo’r
addasiadau cyn symud ymlaen i’r cam nesaf o enwebu cynrychiolydd Aelodau. Yn
unol â’r drefn sydd wedi ei chytuno, ym mis Ionawr 2022 bydd cyfnod o dair
wythnos ar gael i bob Bwrdd Pensiwn enwebu un Cynrychiolydd Aelodau i ymgymryd
â’r rôl yma. Yn mis Chwefror bydd rhestr fer yn cael ei llunio a chynrychiolydd
aelodau i’w benodi yn ffurfiol yng nghyfarfod y Cyd Bwyllgor 23 Mawrth 2022.
Mynegodd y Pennaeth
Cyllid y byddai yn cefnogi cais Osian Richards fel cynrychiolydd aelodau ar y
Cydbwyllgor Llywodraethu (fel sylwedydd am gyfnod o 2 flynedd). Cadarnhawyd mai
un unigolyn ar draws 8 Bwrdd Pensiwn Cymru fydd yn cael ei benodi.
Cynigiwyd ac eiliwyd enwebu Osian Richards fel cynrychiolydd aelodau ar y
Cyd-bwyllgor Llywodraethu
Mewn ymateb
i gwestiwn ynglŷn â’r canran a fuddsoddir yn y Marchnadoedd Datblygol,
nodwyd nad oedd canrannau unigol ar gyfer yr is gronfeydd ar gael ond bod 5%
o’r Gronfa i’w fuddsoddi gyda Bin Yuan. Nodwyd nad oedd modd anwybyddu mai marchnad Tsieina sydd a’r twf mwyaf yn y byd
ar hyn o bryd a gyda Bin Yuan wedi ei leoli yn y wlad
gellid sicrhau gwybodaeth gyfredol - PPC yn awyddus i beidio colli cyfle a
chymryd risg.
Mewn ymateb
i gwestiwn ynglŷn â chostau’r Bartneriaeth (costau 2020/21 =
£706,000) a sut y rhennir y swm rhwng yr
Awdurdodau, nodwyd bod costau trefniadau gweinyddol dydd i ddydd y Bartneriaeth
yn cael eu rhannu yn gyfartal rhwng yr 8 awdurdod. Ategwyd bod costau buddsoddi
yn ddibynnol ar yr hyn y mae pob Awdurdod yn fuddsoddi ynddo gyda thal pro rata ar gyfer cronfeydd
rhanedig gyda Hymans yn darparu bil unigol i bod
Awdurdod. Er y derbyniwyd y gellid cael costau sylweddol, nodwyd bod y
dychweliadau yn dda.
Gwnaed sylw, gyda 83% o’r Gronfa wedi trosglwyddo i PPC bod hyn yn brawf
o gydweithio da ac y dylid llongyfarch llwyddiant y Bartneriaeth sydd ymysg y
gorau ym Mhrydain. Hyn yn destun balchder.
DERBYNIWYD y
wybodaeth.
Dogfennau ategol: