Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Cemlyn Williams
Ystyried
adroddiad ar yr uchod.
Cofnod:
Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol yr Adran
Addysg ar gyfer 2020-21.
Cyn cychwyn ar y drafodaeth, diolchodd yr
Aelod Cabinet i’r ysgolion a’r penaethiaid, y staff a’r athrawon am gynnal, nid
yn unig y ddarpariaeth addysgol, ond hefyd darpariaethau megis arlwyo a glanhau
yn ystod blwyddyn hynod o heriol.
Ychwanegodd ei bod yn bwysig hefyd cydnabod gwerthfawrogiad yr ysgolion
a’r penaethiaid o’r gefnogaeth a roddwyd gan yr Adran Addysg yn ystod y cyfnod,
ac roedd o’r farn bod y berthynas rhwng yr Adran a’r ysgolion wedi cryfhau yn
ystod y pandemig.
Ategwyd y sylwadau hyn gan y Pennaeth Addysg
a nododd y dymunai yntau hefyd dalu teyrnged i swyddogion yr Adran fu’n
cefnogi’r holl waith, a hefyd i staff Adran yr Amgylchedd am y cyngor a’r
cymorth amhrisiadwy gan y swyddogion iechyd a diogelwch a’r cydweithio prydlon
ac effeithiol i gadw’r sefyllfa i fynd.
Nododd fod yr amharu ar addysg a lles plant wedi ei gadw mor isel â
phosib’ oherwydd dygnwch a dyfalbarhad nifer fawr o bobl Gwynedd, a gallai’r
aelodau etholedig ymfalchïo yn ein hysgolion a’u rôl hwythau fel llywodraethwyr
yn cefnogi’r ysgolion ar draws y sir.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau.
Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau
unigol:-
·
Diolchwyd
i’r Adran am ddarparu adroddiad cryno, oedd yn cyfleu’r negeseuon yn glir iawn.
·
Gan
gyfeirio at baragraff 3.8 o’r blaen adroddiad, croesawyd y ffaith bod y gair ‘dwyieithog’
wedi diflannu o’r naratif, gan y dylai’r pwyslais fod ar ddysgu drwy gyfrwng y
Gymraeg, a mynegwyd gobaith y gellid adeiladu ar hyn dros y blynyddoedd yn ein
hysgolion.
Mewn ymateb i’r sylwadau ac i gwestiynau gan
aelodau, nodwyd:-
·
O
ran y sefyllfa bresennol yn yr ysgolion, bod y data yn newid yn ddyddiol, ond
roedd yn ymddangos bellach bod y sefyllfa wedi cyrraedd uchafbwynt mewn rhai
sefyllfaoedd, gyda nifer o staff a phlant yn dychwelyd i’r ysgolion. Roedd y sefyllfa wedi bod yn eithriadol o
anodd gyda hyd at 30% o’r staff a’r plant i ffwrdd mewn rhai
dosbarthiadau. Yn yr achosion hynny,
symudwyd i addysg rithwir a bu’n rhaid i swyddogion yr Adran, ynghyd â’r
swyddogion iechyd a diogelwch, gymryd penderfyniadau cyflym iawn a
phellgyrhaeddol ar adegau. Roedd y
sefyllfa bellach yn sefydlogi mewn rhai pocedi, ac roedd yr Adran yn gwneud
popeth o fewn eu gallu i gadw’r ysgolion yn agored mor ddiogel â phosib’. Nodwyd hefyd bod penaethiaid oedd i ffwrdd
o’r ysgol oherwydd Cofid wedi parhau i redeg yr ysgolion hynny o gartref.
·
Bod
y Llywodraeth wedi gofyn i’r Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol ddarparu
ffigwr o’r gwariant ychwanegol a welwyd yn y maes hyd yma, a lle y disgwylir
i’r gwariant ychwanegol fod yn y dyfodol.
·
Nad
oedd rhai o’r trafodaethau ynglŷn ag addysg ôl-16 wedi digwydd mor
rheolaidd ag y dymunid yn ddiweddar oherwydd y pwysau ar yr ysgolion i ddelio
gyda chadw’n agored, ond bwriedid ail-afael yn y drafodaeth yn llawn ym mis
Ionawr er mwyn symud ymlaen cyn gynted â phosib’ i weld sut y gellir gwella ar
y ddarpariaeth bresennol.
·
Y
cytunid bod y symudiad at addysg cyfrwng Cymraeg i’w groesawu. Eglurwyd bod hwn yn symudiad cenedlaethol yn
bennaf, ond bod y Llywodraeth wedi ymgynghori ar hyn gyda’r Pennaeth Addysg a’r
swyddogion yng Ngwynedd oherwydd bod Gwynedd yn naturiol yn cael ei gweld fel
sir sy’n arwain ar addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn genedlaethol. O dan y drefn newydd, ni fydd modd i ysgolion
barhau yn eu hunfan am gyfnod estynedig o ran cyfrwng eu darpariaeth, gyda’r
disgwyliad i awdurdodau sicrhau bod ysgolion yn parhau i wneud cynnydd o
safbwynt eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg cyn gynted â phosib’.
·
Bod
gan yr Awdurdod gyfrifoldeb i sicrhau hyfforddiant perthnasol a phenodol ar
gyfer ei holl staff yn yr ysgolion. Roedd yr angen i wneud hynny wedi ei uchafu
hyd yn oed yn fwy yn ystod y pandemig, oherwydd
pryder yr ysgolion ynglŷn â cholli’r cyswllt bugeiliol rhwng y plant mwyaf
bregus a’r staff proffesiynol, gan nad oeddent yn gweld y plant hynny’n
ddyddiol. Nodwyd bod yr ysgolion i’w
canmol am y cyswllt gyda phlant bregus drwy gydol y pandemig,
ac awgrymwyd y gellid manylu ar hyn mewn adroddiad pellach i’r pwyllgor. Adroddwyd i’r Panel Strategol Diogelu a’r
Panel Rhiant Corfforaethol ar yr hyfforddiant ychwanegol oedd wedi digwydd yn y
maes yma. Roedd ffocws yr Adran ar
lesiant a diogelu yn fwy nag erioed, a chredid bod yr ysgolion wedi llwyddo i
wneud hynny’n dda iawn, a bod hynny gydag arweiniad, ac yn sgil effaith yr hyfforddiant
ychwanegol.
·
Bod
dyfeisiadau ar gyfer yr athrawon yn cael eu paratoi ar hyn o bryd, a’r
trefniadau ar gyfer eu cynnal a’u cadw yn mynd rhagddynt. Unwaith y byddai hynny yn ei le, byddai dros
1,000 o ddyfeisiadau ar gyfer staff a dros 5,000 o ddyfeisiadau ar gyfer plant
uwchradd yn cael eu dosbarthu i’r ysgolion.
Rhagwelid y byddai hynny’n digwydd yn gynnar yn y flwyddyn newydd.
·
Mai
nod y Strategaeth Ddigidol oedd gwella’r strwythur o gwmpas cefnogi TG mewn
ysgolion. Roedd isadeiledd y rhyngrwyd,
sy’n genedlaethol, yn cael ei reoli ar hyn o bryd gan y Cyngor, gyda phob
dyfais yn yr ysgolion yn cael ei reoli’n rhannol gan dechnegydd yr ysgol ac yn
rhannol gan gwmni Cynnal. Fel rhan o’r
strategaeth o symud i fodel cynnal a chadw gwahanol, bwriedid mewnoli’r
gwasanaeth fel bod Cyngor Gwynedd yn cefnogi’r cyfrifiaduron ar draws pob
ysgol, ac felly’n sicrhau cysondeb o ran y ddarpariaeth.
·
O
ran arian ychwanegol i gynorthwyo disgyblion yn sgil Covid,
bod gwaith yn mynd rhagddo, nid yn unig yn sirol, ond yn rhanbarthol hefyd, i
sicrhau bod ysgolion yn cyd-weithio mewn cynghreiriau i wneud y gorau o’r
adnodd er mwyn unioni’r anfanteision roedd plant wedi cael yn ystod y pandemig. Byddai’r
Adran yn cadw llygaid ar ddeilliannau’r cynlluniau ar y cyd â’r Gwasanaeth
Gwella Ysgolion.
Dogfennau ategol: