Agenda item

Newid defnydd tir ar gyfer gosod 10 pod gwyliau ynghyd a newidiadau i fynedfa bresennol, creu llecynnau pasio, creu ffordd fynediad mewnol a thirlunio

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Peter Read

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

Caniatáu

 

Amodau

 

  • 5 mlynedd
  • yn unol â’r cynlluniau
  • cwblhau tirweddu
  • defnydd gwyliau yn unig
  •  gosod unedau o’r fath sy’n cael ei ddangos ar y cynlluniau
  • creu llecynnau pasio

 

Cofnod:

Newid defnydd tir ar gyfer gosod 10 pod gwyliau ynghyd a newidiadau i fynedfa bresennol, creu llecynnau pasio, creu ffordd fynediad mewnol a thirlunio

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer newid defnydd rhan o dir amaethyddol presennol ar gyfer gosod 10 caban gwyliau parhaol newydd ynghyd a chreu ffordd fynediad newydd, mannau parcio a llwybrau troed cyswllt, llecynnau pasio i gerbydau ger y ffordd gyhoeddus gyfagos, llwybr troed newydd, tirlunio a gosod systemau draenio. Eglurwyd bod y safle o fewn cefn gwlad agored ac o fewn dynodiad Ardal Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llyn ac Ynys Enlli gyda mynediad iddo ar hyd ffordd ddi-ddosbarth gul, droellog sydd oddeutu 900m o gyffordd gyda’r A499.

 

Atgoffwyd yr aelodau fod y cais wedi ei ohirio ym mhwyllgor Hydref 4ydd 2021 yn dilyn cais i’r swyddogion gynnal asesiad pellach o wybodaeth ychwanegol a dderbyniwyd gan yr asiant. Adroddwyd bod y swyddogion wedi asesu’r cais a'r adroddiad gerbron yn cyfleu’r darganfyddiadau. Er hynny, ni chyflwynwyd diwygiadau i unrhyw elfen o’r cynllun ac felly, fel yn yr adroddiad gwreiddiol, barn y swyddogion oedd gwrthod y cais oherwydd materion cynaliadwyedd ac effaith weledol.

 

Ystyriwyd bod y safle yn bell o’r A499 ac er bod yr ymgeisydd yn bwriadu gosod llwybr troed  i ymwelwyr gerdded at arosfan bws, ni ystyriwyd defnydd cyson o’r llwybr gan ragweld y byddai ymwelwyr yn defnyddio eu ceir i fynd yn ôl ac ymlaen. Yng nghyd-destun mwynderau gweledol dadleuwyd bod y safle wedi ei osod ar dir gwyrdd amaethyddol agored ac amlwg gyda'r ffordd newydd a llecynnau parcio arfaethedig yn debygol o greu nodwedd estron yn y caeau ac yn niweidiol i fwynderau gweledol yr ardal.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd i’r cais y sylwadau canlynol:

·         Y cais, o bosib yn gosod cynsail cynllunio - er bod y cytiau arfaethedig yn ddeniadol ac o safon uchel tybiwyd nad oedd y CDLl wedi rhagweld ceisiadau am gytiau deulawr. Gall datblygiad fel hyn ymledu i safleoedd llai addas ac yn wir ymlaen i barciau carafanau.

·         Er bod y cais diwygiedig yn cydnabod statws hynafol y coetir cyfagos amlygwyd pryder nad yw’r gwagle 15 metr yn ddigonol fel ‘buffer zone’ o ystyried mai’r  goedwig sy’n gwarchod elfennau gweledol y cais

·         Bod y coed i raddau helaeth wedi colli haen adnewyddol. Os caniateir y cais dylid nodi’r angen am gynllun ailblannu ac adfywio coetir cadarn fyddai’n cynnwys eithrio mynediad  i bobl ac anifeiliaid.

·         Bod y datblygiad yn mabwysiadu gweledigaeth gyfredol y CDLl o warchod a gwella tirweddau diwylliannol a hanesyddol Pen Llŷn trwy ddiogelu adeiladau rhestredig a thraddodiadol a chlytwaith o gaeau, lonydd, waliau cerrig a chloddiau. Awgrym i’r cloddiau traddodiadol gael eu hymestyn i ffurfio ochrau i’r ffordd fynediad newydd (o’r ffermdy Gradd II hyd at y maes parcio newydd). Byddai hyn yn lleihau effaith ‘agored’ y sefyllfa bresennol ynghyd a lleihau effaith goleuadau ceir gan greu coridor gwyrdd fyddai’n diogelu a gwella’r tirwedd - o ran iechyd a diogelwch, bydd traffig yn arafu, a bydd da byw yn cael eu diogelu drwy gael eu gwahanu rhag defnyddio’r un gofod â cherbydau a cherddwyr.

·         Bod y sylwadau o gymorth – yn adleisio nod y CDLl o hyrwyddo rhagoriaeth yn ardal y datblygiad ynghyd a diogelu ei ddiwylliant a'i dreftadaeth unigryw ar gyfer y presennol a chenedlaethau'r dyfodol.

 

c)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:

·         Bod cadw cymeriad fferm yn bwysig iddo

·         Hen gwt ieir ar y fferm oedd canllaw'r cytiau gwyliau.

·         Bydd y cytiau o wneuthuriad lliw pren golau - yn toddi i’r cefndir yn naturiol.

·         Uchder crib to'r cytiau fydd 3.6m sydd yn gyffelyb ag uchder y clawdd. Ni fydd y cytiau yn weladwy o gyfeiriad y Gorllewin a’r goedwig yn eu gorchuddio o’r Gogledd.

·         O gyfeiriad y De a’r Dwyrain, nid yw’r safle’n weladwy oherwydd lefel y tirwedd - gwelir ambell dop polyn trydan a golygfeydd gwledig i’r pellter.

·         Dyfodol amaeth yn ddryslyd a phryderus ar hyn o bryd oherwydd Brexit a Covid -  argymhelliad Llywodraeth Cymru yw arall gyfeirio at y maes yma.

·         Ei fod yn awyddus i sicrhau dyfodol yn ei fro.

·         Yn bwriadu cyflenwi hamperi brecwast  gan ddefnyddio cynnyrch lleol Cymraeg o ardal Llwyndyrys - Jam ‘Welsh Lady drws nesaf, llysiau ‘Cefn Pentre’, drws nesaf, llaeth a chaws Hufenfa De Arfon, cig ac wyau Llwyndyrys a’r gobaith o dyfu gwenith i bobi bara ei hun.

·         Heb y cytiau gwyliau nid yw’r freuddwyd yn gynaliadwy. Petai’r cais yn  llwyddiannus gall sicrhau dyfodol iddo’i hun yn ei fro, addysgu ymwelwyr o bwysigrwydd ‘Farm to Fork’, creu gwaith paratoi’r cynnyrch, hyrwyddo cynnyrch safonol Cymreig a datblygu a chefnogi’r iaith.

·         Yn ôl swyddog, ‘mater of farn yw graddfa effaith weledol y datblygiad’.

·         Ei fod yn erfyn ar y Pwyllgor i gefnogi’r fenter newydd yma.

 

ch)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelodau Lleol y pwyntiau canlynol:

·         Ei fod yn gefnogol i’r cais

·         Bod pryderon Brexit a thaliadau i ffermwyr yn rhoi pwysau arnynt i arall gyfeirio

·         Y cytiau gwyliau yn cael ei hadeiladu yng Ngogledd Cymru

·         Y cytiau yn weladwy efallai o ben Tre Ceiri ond dim o’r lôn fawr

·         Y cytiau yn debygol o ddenu ymwelwyr ‘gwahanol’ sydd yn hoffi’r awyr agored - llwybr beics 47 yn rhedeg gerllaw'r safle

·         CDLl heb ystyried cyd-destun / effeithiau Brexit, Covid a Thaliadau Ffermwyr

·         Posib codi waliau fel awgrymodd  y gwrthwynebydd

 

d)  Cynigwyd ac eiliwyd gwrthod y cais

 

       dd)  Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·      Byddai gwrthod y cais yn annheg - anodd gwneud bywoliaeth o ffermio  - derbyn cyngor i arallgyfeirio

·      Bod twristiaeth yn cynnal cymunedau

·      Mater o farn yw ei fod yn anghynaladwy - lonydd cul a throellog yn nodweddiadol o lonydd Llŷn

·      Bod y safle yn guddiedig - gwrychoedd aeddfed

·      Cytiau pren yn gyson gyda chymeriad - yn well na charafanau

·      Y cytiau yn safonol, chwaethus ac yn gweddu i’r amgylchedd gwledig

·      Cyngor Cymuned yn gefnogol i’r cais

 

Mewn ymateb i sylw a fyddai modd gosod y cytiau yn agosach i’r fferm i gyd-fynd a pholisïau perthnasol, nodwyd bod hyn yn bosib ond petai newid sylweddol byddai angen cyflwyno cais o’r newydd. Er hynny, byddai materion yn ymwneud â safle anghynaladwy yn parhau.

 

e)    Pleidleisiwyd ar y cynnig i wrthod y cais

 

               Disgynnodd y cynnig

 

               Pleidleisiwyd ar y cynnig i ganiatáu y cais

 

PENDERFYNWYD Caniatáu

 

 Amodau:

 

 5 mlynedd

 yn unol â’r cynlluniau

 cwblhau tirweddu

 defnydd gwyliau yn unig,

 gosod unedau o’r fath sy’n cael ei ddangos ar y cynlluniau,

 creu llecynnau pasio

 

Dogfennau ategol: