Cyflwynwyd gan:Cllr. Dafydd Meurig
Penderfyniad:
Cymeradwywyd adnoddau un tro am ddwy flynedd,sef £193,217 yn
2022/23 a £155,990 yn 2023/24 o’r Gronfa Adfer COVID tuag at y Rhaglen Cefnogi
Pobl
Cofnod:
Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Dafydd Meurig
PENDERFYNWYD
Cymeradwywyd adnoddau un tro am
ddwy flynedd, sef £193,217 yn 2022/23 a £155,990 yn 2023/24 o’r
Gronfa Adfer COVID tuag at y Rhaglen Cefnogi Pobl.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi mai cais am arian un tro oedd yr adroddiad er mwyn cefnogi’r
rhaglen trawsadrannol Cefnogi Pobl. Mynegwyd fod y ddwy flynedd diwethaf o
argyfwng Covid-19 wedi bod yn anodd ac wedi amlygu pa mor fregus yw rhai o
drigolion Gwynedd.
Eglurwyd dros y
ddwy flynedd diwethaf fod y cynllun wedi delio a materion yn ymwneud a tlodi
tanwydd a digartrefedd, ond bellach fod angen ffurfioli’r gwaith sydd yn cael
ei wneud. Mynegwyd fod rhaglen yn ei le a tynnwyd sylw at y cynlluniau fyddai’n
cael eu blaenoriaethu megis tlodi bwyd, tlodi tanwydd a chynhwysiad digidol.
Ychwanegodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol fod yr adroddiad yn amlinellu’r gwaith sydd wedi ei wneud
yn draws adrannol a gyda partneriaid. Diolchwyd am y cyd-weithio sydd wedi
arwain at greu cynllun a fydd yn gwneud gwahaniaeth yn y tymor byr i drigolion
Gwynedd. Nodwyd y bydd yn cynllun yn gwneud popeth o fewn gallu’r Cyngor i
gefnogi trigolion tra’n gweithio ar gynlluniau tymor hir.
Nododd y Pennaeth
Cynorthwyol Cefnogi Teuluoedd fod yr adroddiad yn crynhoi beth oedd modd ei
gynnal dros gyfnod yr argyfwng. Mynegwyd gyda cyfnod adfer yn dilyn y pandemig a cynnydd yn y galw fod gofyn am fuddsoddiad i
sicrhau cefnogaeth i bawb. Diolchwyd yn ogystal i’r ymdrechion cymunedol ynghyd
a gwaith y trydydd sector dros y ddwy flynedd diwethaf.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾ Cefnogwyd yr adroddiad gan nodi diolch i’r partneriaid ac yr adrannau am
gydweithio ar y cynllun hwn. Mynegwyd fod tlodi yn rhoi effaith andwyol ar
blant a nodwyd yr angen i gefnogi teuluoedd fydd yn dod mewn i’r system
budd-daliadau am y tro cyntaf.
¾ Mynegwyd fod y sefyllfa yn un anghyffredin, ar un llaw yn ymfalchïo yn y
ffaith fod y Cyngor yn gallu cefnogi y trigolion ond ar y llaw arall yn cywilyddu o fyw mewn gwlad sydd a Llywodraeth sydd yn
gwthio trigolion i fynd i fanciau bwyd er mwyn cynnal eu teuluoedd.
¾ Amlygwyd y prosiectau tlodi bwyd gan holi os oes cyfleodd o ran mynd i’r
afael a gwastraff bwyd ynghyd a tyfu bwyd yn gymunedol. Cynigwyd i ail enwi yr
elfen hwn o’r cynllun o dlodi bwyd i wytnwch bwyd neu Sicrhau Bwyd i Bawb.
¾ Amlygwyd nad yw tlodi yn broblem diweddar yng Ngwynedd ac ei fod yn wedi
bod yn broblem ers nifer o flynyddoedd. Mynegwyd fod yr arian ar gyfer cyfnod o
ddwy flynedd a mynegwyd na fydd tlodi wedi diflannu ymhen diwedd y cyfnod.
Pwysleisiwyd yr angen i gyfarch yr angen sydd ei angen i drigolion ac amlygwyd
partneriaid posib y gellid gweithio a hwy.
¾ Tynnwyd sylw at Hyrddwr Budd-dal Ysgolion a holwyd pan mai am flwyddyn
fydd yn cael ei ariannu. Nodwyd fod trafodaethau wedi ei cynnal gyda’r Adran
Addysg a nodwyd fod Penaethiaid wedi amlygu mai cymorth tai a budd-daliadau
yw’r prif anghenion sydd yn codi o fewn ysgolion. Ychwanegwyd o ganlyniad i
hyn, bydd linc penodol i ysgolion yn cael ei ariannu am flwyddyn fel bod modd
deall beth yw’r galw ac efallai yn y tymor hir bydd modd cyfeirio unigolion at
wasanaethu penodol.
Awdur:Morwena Edwards a Catrin Thomas
Dogfennau ategol: