Agenda item

Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio, i gyflwyno i'r bwrdd y Fframwaith Economaidd Rhanbarthol (REF) drafft ar gyfer Gogledd Cymru..

Penderfyniad:

Argymell y drafft ‘Fframwaith Economaidd Rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru’ i’w fabwysiadau gan bob awdurdod lleol.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio)

 

PENDERFYNWYD

 

Argymell y drafft ‘Fframwaith Economaidd Rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru’ i’w fabwysiadau gan bob awdurdod lleol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Sefydlodd Cynllun Gweithredu Economaidd, Llywodraeth Cymru'r sylfaen ar gyfer gweithio rhanbarthol, gan gynnwys ymrwymiad i ddarparu llais rhanbarthol cryfach trwy fodel datblygu economaidd â ffocws rhanbarthol. Mae hyn yn cynnwys sefydlu timau rhanbarthol a datblygu Fframweithiau Economaidd Rhanbarthol (REFs).

 

Mae REFs wedi'u bwriadu fel cyfrwng i helpu i hyrwyddo cynllunio a darpariaeth ranbarthol gydweithredol ymhlith partneriaid sector cyhoeddus, preifat a trydydd. Bydd y cyflawni yn canolbwyntio ar un weledigaeth a rennir ar gyfer pob rhanbarth a'i chefnogi gan gyfres o flaenoriaethau ac egwyddorion rhanbarthol.

 

 Bydd datblygu REFs yn allweddol wrth lywio a dylanwadu ar gyflawni blaenoriaethau cyllido Llywodraeth Cymru.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod Cynllun Gweithredu Economaidd, Llywodraeth Cymru, wedi sefydlu sylfaen ar gyfer gweithio’n rhanbarthol, sydd yn cynnwys sefydlu timau rhanbarthol a datblygu Fframweithiau Economaidd Rhanbarthol. Eglurwyd fod datblygu’r fframweithiau yn rhan hanfodol i ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Fodel Datblygu Economaidd. Eglurwyd wrth ddatblygu’r fframweithiau fod angen ystyried yr adferiad Covid-19 ynghyd â dyheadau hir dymor y rhanbarth.

 

Mynegwyd fod y fframweithiau yn helpu i hyrwyddo cynllunio a darpariaeth ranbarthol gydweithredol ymhlith partneriaid yn y sector gyhoeddus, preifat a trydydd sector. Eglurwyd bydd y fframwaith yn canolbwyntio ar un weledigaeth drwy gyfres o flaenoriaethau ac egwyddorion rhanbarthol. Pwysleisiwyd fod y fframweithiau yn allweddol wrth lywio a dylanwadu ar gyflawni blaenoriaethau cyllido Llywodraeth Cymru.

 

Mynegwyd fod cyfnod ymgysylltu wedi ei gynnal ar y fframweithiau ac fod y tîm wedi targedu ystod o randdeiliad rhanbarthol i gyd-ddylunio’r dull hwn o ddatblygu economaidd. Nodwyd y blaenoriaethu o dan brif themâu: Economi Lles Cymdeithasol a Chymunedol, Economi Profiad a Economi Carbon Isel ac Allyriadau Isel. Eglurwyd fod y blaenoriaethau yn rhai hyblyg a fydd yn caniatáu i’r rhanbarth addasu dros y ugain mlynedd nesaf.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

¾     Holwyd tuag at pwy oedd y ddogfen hon wedi ei hanelu. Nodwyd fod y ddogfen wedi ei chreu ar gyfer y rhanbarth er mwyn cael pwrpas clir ac i amlygu blaenoriaethau. Mynegwyd y bydd y ddogfen bartneriaethol hon yn ganllaw ar gyfer derbyn arian gan Lywodraeth Cymru.

¾     Mynegwyd gyda blaenoriaethau i’w gweld yn y Cytundeb Twf, Cydbwyllgorau Corfforedig ac yn y Fframweithiau yma yn ogystal holwyd sut y bydd modd cadw’r rhain i gyd i gyd-fynd a’i gilydd. Eglurwyd fod y ddogfen yn un cyffredinol o ran blaenoriaethau, ac o ganlyniad yn dangos yn glir fod y Bwrdd Uchelgais yn llwyddiannus yn gweithredu yn erbyn y Fframweithiau Economaidd Rhanbarthol. Mynegwyd y bydd y Fframweithiau yn cyd-fynd a blaenoriaethu sydd i’w gweld yn barod ond ei fod yn rhoi fframwaith hir dymor i’r rhanbarth. 

¾     Nodwyd fod y penderfyniad yn nodi yr angen i Awdurdodau Lleol dderbyn y fframwaith – holwyd os y bydd angen i’r partneriaid wneud yn ogystal. Eglurwyd fod rhanddeiliad wedi cael cyfle i gyfrannu at y fframwaith ac y dylai gael ei fabwysiadu gan y partneriaid yn ogystal, os yn bosib, i gynorthwyo i adeiladu economi gryfach yn y gogledd.

¾     Holwyd oes modd i’r Fframwaith gael ei fabwysiadu gan y Bwrdd Uchelgais yn hytrach nac yn holl gynghorau gan fod y partneriaid ac yr awdurdodau i’w gweld yn rhan o’r cyfarfod. Mynegwyd ymdeimlad fod mynd yn ôl a’i drafod yn lleol yn arafu’r broses. Nododd y Swyddog Monitro nad oedd mabwysiadu’r Fframwaith ar draws yr holl bartneriaid o fewn cylch gorchwyl y Bwrdd Uchelgais ac felly bydd angen mynd yn ôl a’i benderfynu o fewn yr Awdurdodau Lleol.

 

Dogfennau ategol: