Alwen Williams, Cyfarwyddwr Porffolio, i roi diweddariad i'r Bwrdd ynghylch y gwaith o ddatblygu strategaeth i
roi sylw i'r buddsoddiad sydd ei angen ar gyfer y Cynllun Twf.
Penderfyniad:
Nodwyd y diweddariad ar y gwaith o ddatblygu strategaeth fuddsoddi.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams
(Cyfarwyddwr Portffolio).
PENDERFYNIAD
Nodwyd y diweddariad ar
y gwaith o ddatblygu strategaeth fuddsoddi.
RHESYMAU
DROS Y PENDERFYNIAD
Bob blwyddyn, mae Cynllun Twf Gogledd Cymru yn cychwyn Adolygiad Porth
annibynnol fel rhan o’i broses sicrwydd a llywodraethu. Amlygodd Adolygiad
Porth y Portffolio ym mis Awst 2021 gradd hyder cyflawni Ambr/Gwyrdd sydd yn
cydnabod bod cyflawni’n llwyddiannus yn ymddangos yn debygol. Fodd bynnag,
nodwyd yr angen rhoi sylw parhau i sicrhau nad yw risgiau yn troi mewn i
faterion mawr a fyddai’n fygythiad.
Un o argymhellion y panel adolygu oedd y dylid datblygu a mabwysiadu
strategaeth ar lefel Portffolio i ddenu a sicrhau buddsoddiad sector breifat ac
arall.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nod pob blwyddyn
fod y Cynllun Twf yn cychwyn Adolygiad Porth annibynnol fel rhan o broses
sicrwydd a llywodraethu. Cynhaliwyd yr adolygiad ym mis Awst 2021, a cyflawnwyd
gradd hyder cyflawni o Ambr/Gwyrdd a oedd yn cydnabod fod cyflawni’n llwyddiannus
yn edrych yn debygol. Eglurwyd fod y panel adolygu yn argymell y dylid datblygu
a mabwysiadu strategaeth ar lefel Portffolio er mwyn denu a sicrhau buddsoddiad
sector breifat ac arall.
Eglurwyd fod y Cynllun Twf yn seiliedig ar
gyflawni prosiectau ar draws pum rhaglen a rhagwelir y bydd cyfanswm gwariant
cyfalaf hyd at £1.1biliwn. O’r cyfanswm hwn, ategwyd fod £240miliwn wedi’i
ymrwymo gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU a nodwyd fod disgwyliad i
£179.2miliwn o gyfalaf o ffynonellau sector gyhoeddus eraill a £722miliwn yn
cael ei ymrwymo gan y sector breifat. Mynegwyd fod y buddsoddiad yn cyfrannu at
dwf economaidd y rhanbarth dros dymor o ddeg i bymtheg mlynedd ac fod y
buddsoddiad wedi’i dargedu at y sectorau sy’n bwysig yn strategol drwy bum
rhaglen portffolio.
Yn unol ag argymhellion y panel adolygu
nodwyd fod drafft cychwynnol o’r Strategaeth wedi ei gyflwyno i’r Bwrdd
Portffolio ar 26 Tachwedd i’w ystyried. Gofynnodd y Bwrdd Portffolio am amser
ychwanegol i ystyried a rhoi mewnbwn i’r ddogfen. Nodwyd fod y strategaeth yn
nodi saith amcan allweddol i fynd i’r afael â’i nodau’n effeithiol ynghyd ag
annog cydweithio rhanbarthol a cheisio adnabod cyfleoedd a bygythiadau posib
sy’n gysylltiedig a sicrhau buddsoddiad. Ategwyd y bydd cyflawnir amcanion yn
llwyddiannus yn sicrhau ymagwedd gydlynol i sicrhau’r buddsoddiad sydd ei
angen.
Tywyswyd drwy’r saith amcan o fewn y
Strategaeth Buddsoddi. Eglurwyd y bydd cydweithio parhaus gyda’r rhan ddeiliaid
rhanbarthol i adeiladu yr ymagwedd sydd wedi ei amlinellu a nodwyd y bydd
diweddariad yn cael ei roi i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am y
Strategaeth ar yr 14 Rhagfyr 2021.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾ Mynegwyd pryder fod yr
elfen leol ar goll o’r strategaeth ac fod yr elfen o drafodaeth leol yn cael ei
dynnu o’r rhanbarth. Eglurwyd nad oes bwriad i’r ddogfen deimlo fod yr
ymdeimlad lleol yn cael ei golli gan nodi fod y ddogfen yn llawn yn datgelu
llawer yn fwy. Mynegwyd pwysigrwydd o edrych yn lleol am fuddsoddiad ac i
ymestyn ymhellach i ddenu buddsoddiad pellach. Nodwyd mai bwriad y strategaeth
oedd i osod amcanion pendant ar waith i hwyluso cyfleodd buddsoddi yn y
rhanbarth ond i sicrhau fod yr ardal yn cael y buddsoddwyr cywir yn ogystal.
Eglurwyd ei bod yn bwysig deall sut mae pob awdurdod eisiau denu’r buddsoddwyr
ac ei blethu i mewn i’r strategaeth.
¾ Mynegwyd yr angen i
gael busnesau i fuddsoddi ac er mwyn gnwued hyn y bydd angen gweithio gyda’i
gilydd ac i fod yn ardal groesawgar.
Dogfennau ategol: