Cais ar gyfer gosod pwerdy
~5MWe nwy wrth gefn gyda isadeiledd cysylltiol
AELOD LLEOL: Cynghorydd Selwyn Griffiths
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: GWRTHOD
Rhesymau
COFNODION:
Cais ar gyfer gosod
pwerdy ~5MWe nwy wrth gefn gydag
isadeiledd cysylltiol
Tynnwyd sylw
at y ffurflen sylwadau hwyr
a) Ymhelaethodd Arweinydd Tîm Rheolaeth
Datblygu ar
gefndir y cais gan nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer lleoli cyfleuster gorsaf
cynhyrchu trydan yn gyflym ac hyblyg hyd at 5MWe ynghyd a gwaith cysylltiedig i
gynnwys camerâu cylch-cyfyng, cabanau amwynder, ciosg nwy, tanciau, ffensio ac
adeiladwaith amrywiol ar dir wrth ochr safle Gelert,
Parc Busnes Penamser ar gyrion Porthmadog. Ategwyd bod
y safle o fewn parth llifogi C1 ac yn safle
Cyflogaeth i’w warchod fel y diffinnir o fewn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl)
Byddai’r bwriad, o'i ganiatáu, yn galluogi cynhyrchu
trydan mewn amser byr pe byddai ei angen a phan na all y rhwydwaith lleol ei
gynhyrchu. Eglurwyd y byddai’r cyfleuster yn rhedeg (er yn achlysurol) oddi ar
nwy, ac felly yn ddibynadwy ar danwydd ffosil. Cydnabuwyd fod ceisiadau tebyg
wedi eu cymeradwyo gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol mewn lleoliadau eraill ar y
sail y byddent yn ffurfio rhan o’r rhwydwaith cefnogol a gellid ei ddefnyddio
pan nad yw’r cyflenwad adnewyddol yn ddigonol o fewn
y rhwydwaith lleol. Erbyn hyn, mae cynigion tebyg wedi cael eu gwrthod ar apêl
oherwydd eu dibyniaeth ar danwydd ffosil mewn amgylchiadau ble mae cynghorau
wedi datgan argyfwng hinsawdd a ble mae diffyg tystiolaeth am yr angen i greu
egni trwy losgi tanwydd ffosil. Nodwyd bod Cyngor Gwynedd wedi cydnabod a
datgan argyfwng hinsawdd ym mis Mawrth 2019 ac yn hyrwyddo lleihau defnydd o
garbon fel rhan o’u strategaeth.
I leddfu effeithiau newid hinsawdd, caniateir cynigion
ar yr amod y gellid dangos bod ystyriaeth ac ymateb lawn i’r meini prawf sy’n
cynnwys yr hierarchaeth ynni sy’n hyrwyddo lleihau’r galw am ynni,
effeithlonrwydd ynni a defnyddio technolegau ynni carbon isel neu ynni di
garbon lle bo hynny’n ymarferol manteisio
i’r eithaf cyfraniad o dechnoleg ynni adnewyddadwy neu garbon isel i fodloni
gofynion y cynnig am drydan a gwres. Amlygwyd
bod datganiadau wedi eu cyflwyno gan yr asiant ond nad oedd tystiolaeth am
angen penodol i’r ddarpariaeth yma, nac y byddai modd darparu’r cyflenwad drwy
fodd arall carbon isel neu adnewyddadwy.
Nid oedd y bwriad gerbron yn
cynnig defnydd cyflogaeth, heibio’r cyfnod o osod y
cyfarpar, ac er y cydnabuwyd bod y safle bwriedig yn
fychan a lletchwith, ac unedau gwag o fewn y parc busnes, nid oedd cyfiawnhad
penodol ar gyfer y bwriad ac na ellid cadarnhau bod colled o dir cyflogaeth yn
dderbyniol yn nhermau polisïau PS13, CYF 1 na CYF 3 o’r CDLl.
Ategwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn parth llifogi C1 a’r bwriad yn un ar gyfer darparu pwerdy nwy ar
gyfer creu trydan, sydd yn ôl diffiniadau a gynhwysir o fewn Nodyn Cyngor
Technegol 15: Datblygu a Pherygl Llifogydd yn ddatblygiad sy’n agored iawn i
niwed.
Yn gryno, ystyriwyd nad oedd y bwriad yn dderbyniol ar
sail diffyg cyfiawnhad ar ei gyfer, bod ei
leoliad o fewn tir sydd wedi ei ddynodi ar gyfer defnydd cyflogaeth ac o
fewn parth llifogi, a’i fod yn defnyddio tanwydd
ffosil pan mae’r Cyngor wedi datgan argyfwng hinsawdd ac yn hyrwyddo defnyddio
llai o garbon.
b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr
ymgeisydd y sylwadau canlynol
·
Ei fod yn
cyfeirio at lythyr a ddosbarthwyd i’r aelodau mewn ymateb i’r 3 rheswm gwrthod
·
1. Nid oes digon o dystiolaeth wedi ei gyflwyno
yn dangos yr angen am y datblygiad na'i ddefnydd o danwydd ffosil a fyddai'n
tanseilio datganiad Cyngor Gwynedd o argyfwng hinsawdd, a pholisïau'r CDLl.
Bod yr ymgeisydd
yn anghytuno â hyn gan nodi bod y Datganiad Cynllunio a Dylunio a Mynediad yn
darparu tystiolaeth glir o'r angen am ddatblygiad yn erbyn Polisi Cynllunio
Cymru, CDLl a Phenderfyniadau Apêl Gweinidogion
Cymru. Yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn ymwybodol bod yr Angen am Ddatblygu
wedi’i egluro gan Weinidogion Cymru yn eu penderfyniad ym mis Tachwedd 2020 i
gadarnhau Apêl ar gyfer prosiect ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Penderfynwyd hyn ar ôl
i Pen-y-bont ar Ogwr a Gwynedd ddatgan eu Hargyfwng Hinsawdd. Canfu
Gweinidogion Cymru fod defnyddio Safleoedd Brigo Nwy
(Gas Peaking Plants)
yn dechnoleg allweddol wrth gyflawni’r
targedau Sero Net gan sicrhau bod cyflenwad diogel ar yr un pryd.
·
2. Colli tir cyflogaeth
Bod yr ymgeisydd yn dadlau gyda’r sylw na ddarparwyd
digon o dystiolaeth i'r defnydd o dir cyflogaeth. Mae'r Datganiad Cynllunio a
Dylunio a Mynediad yn cynghori y bydd cyflogaeth tymor byr a hir yn cael ei
sicrhau, sydd hefyd yn cael ei gadarnhau yn y Ffurflenni Cais Cynllunio.
Disgrifir defnydd cyflogaeth y tir yn ogystal â'r math o gyflog uchel ei werth
a fydd yn cael ei sicrhau ac amcangyfrifir bod hyn yn cynnwys dwy swydd
cyflogaeth tymor hir (cyfwerth ag amser llawn) yn ystod y cam gweithredo a bod
y gyflogaeth yma yn ychwanegol at gyflogaeth y safle presennol
·
3. Mae’r cynnig yn dod o fewn y diffiniad o
ddatblygiad hynod fregus, ac nid oedd digon o dystiolaeth wedi’i chyflwyno i
sicrhau bod y cynnig yn cydymffurfio â strategaeth y Cyngor, ynghyd a rhai’r CDLl a TAN 15.
Bod adrannau o’r TAN 15 y mae'r Adroddiad yn cyfeirio
atynt yn ymwneud â Gorsafoedd Pŵer. Yn aml, ystyriwyd bod TAN 15 yn cael
ei gamddehongli yng nghyd -destun prosiectau cyflenwad trydan graddfa fach sy'n
wahanol i faint Gorsaf Bŵer. Eglurwyd bod gorsaf bŵer yn gweithredu i
ddosbarthu trydan yn ganolog i'r Grid Cenedlaethol ac nid felly yn ddatblygiad
sy'n cynhyrchu trydan ambell waith.
Bod yr ymgeisydd wedi dibynnu ar Benderfyniad Apêl
Gweinidogion Cymru ar eu penderfyniad ynghylch y gwaith brigo
nwy yng Nghasnewydd lle caniatawyd ar apêl. Derbyn bod y datblygiad ar gyfer
fferm solar a chyfleuster uned BESS 200, ond yn debyg ym mhob ffordd i’r
ddatblygiad brigo nwy cyfyngedig yma
“Diffinnir datblygiad hynod agored i niwed fel
datblygiad lle mae gallu preswylwyr i benderfynu a ydynt am dderbyn y risgiau i
fywyd ac eiddo sy’n gysylltiedig â llifogydd, neu allu rheoli canlyniadau risg
o’r fath. Cynhwysir hefyd y defnyddiau diwydiannol hynny lle byddai risg i’r
cyhoedd a’r amgylchedd dŵr pe bai’r safle’n cael ei foddi.”
Nid yw'r disgrifiadau hyn yn berthnasol i'r datblygiad
hwn ac mae'n anodd deall sut gellid ystyried gwaith brigo
nwy di-griw (unmanned) fel “datblygiad hynod agored i niwed” yng
nghyd-destun diffiniad TAN 15 - ym mis Hydref dywedodd yr ACLl
eu bod yn cytuno â'r dehongliad hwn.
·
Bod yr ymgeisydd
yn dibynnu ar benderfyniad Gweinidogion Cymru yn eu penderfyniad ar gyfer y
prosiect yng Nghasnewydd (qA 1364896) “……Er bod TAN 15 yn nodi bod gorsafoedd
pŵer yn enghraifft o “ddatblygiad diwydiannol arbennig o agored i niwed”,
mae’n amlwg nad yw’r datblygiad arfaethedig yn disgyn i’r categori hwn ac nid
yw’n ddatblygiad hynod fregus at ddibenion TAN 15.”. Ni ddylid felly
cymhwyso TAN 15 i'r prosiect brigo nwy hwn.
·
Disgwyli’r i’r
Pwyllgor wneud eu hasesiad cadarnhaol eu hunain o’r cais a gyflwynwyd a
chymeradwyo’r cais yn unol â’u CDLl, Cynlluniau
Cynllunio Cenedlaethol eu Datganiad Hinsawdd, a chadarnhad ysgrifenedig yr ACLl ei hun bod y cais yn gynaliadwy ac yn garbon isel.
·
Os gwrthodir y
cais bydd yr ymgeisydd yn symud ymlaen i
apêl.
c) Yn manteisio ar yr hawl
i siarad nododd yr Aelod
Lleol y pwyntiau canlynol:
·
Ei fod yn
cefnogi'r argymhelliad i wrthod y cais
·
Bod y cais yn
groes i egwyddorion Cyngor Gwynedd o ran tanwydd ffosil
·
Cyngor Tref yn
ceisio gwerthusiad ychwanegol i lifogydd yn yr ardal – graddfa yn codi
·
Ymgynghoriad cyhoeddus
yn nodi nad oedd angen am y ddarpariaeth ac nad oedd y bwriad yn cydymffurfio a
pholisïau
·
Nad oedd y bwriad
yn cynnig gwaith tu hwnt i’r cyfnod gweithredol
·
Y bwriad yn
cynnig defnydd achlysurol yn unig
·
Sŵn o’r
orsaf yn achosi pryder
·
Nad oedd y bwriad
o werth i’r ardal
ch) Cynigwyd ac eiliwyd gwrthod y cais
d)
Yn ystod y drafodaeth
ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Pryder nad oedd y Cyngor Tref wedi cyflwyno sylwadau
·
Cais anghywir yn y lleoliad
anghywir
PENDERFYNWYD Gwrthod
Rhesymau
Dogfennau ategol: