Adeiladu 17
o dai fforddiadwy, mynedfa, llefydd parcio, tirlunio a gwaith cysylltiol.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Cemlyn Williams
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Gohirio’r cais er mwyn derbyn asesiad trafnidiaeth pellach ynghyd
a mwy o luniau / fideo o’r safle a’i berthnasedd i’r ysgol uwchradd gyfagos
Cofnod:
Adeiladu 17 o dai fforddiadwy,
mynedfa, llefydd parcio, tirlunio a gwaith cysylltiol
Tynnwyd sylw at y ffurflen
sylwadau hwyr
a) Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer adeiladu 17
o dai fforddiadwy fyddai’n cynnwys 6 tŷ deulawr 4 person, 6 tŷ
deulawr 5 person, 2 dŷ deulawr 7 person a 3 byngalo 3
person ynghyd ag adeiladu mynedfa a ffordd mynediad, llefydd parcio,
tirlunio a phantiau draenio tir (swales) yng nghornel de ddwyreiniol y safle ar
gyfer dal dŵr wyneb. Lleolir y
safle ymysg tai o fewn tref Caernarfon, gyferbyn ac Ysgol Uwchradd Syr Hugh
Owen gyda’r safle oddeutu 0.55ha - mae 17 uned yn golygu dwysedd o 30.9
tŷ i’r hectar sydd yn cydymffurfio efo Polisi PCYFF 2 yn y Cynllun.
Eglurwyd bod yr egwyddor o godi tai ar y safle hwn
wedi ei selio ym Mholisi PCYFF 1, TAI 1, TAI 15 a PS 5 o’r CDLL lle nodir y
caniateir cynigion tu mewn i ffiniau datblygu yn unol â pholisïau a chynigion
eraill y Cynllun, polisïau cynllunio cenedlaethol ac ystyriaethau cynllunio
perthnasol eraill.
Yn ôl Polisi ISA 5, disgwylir i gynigion ar gyfer
10 tŷ neu fwy mewn ardaloedd ble na all llecynnau agored presennol fodloni
anghenion y datblygiad tai arfaethedig gynnig darpariaeth addas o fannau agored
yn unol â safonau meincod Fields in Trust (FiT). Mae’r wybodaeth
gyfredol a dderbyniwyd gan yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd yn dangos bod
diffyg llecynnau chwarae gyda chyfarpar offer i blant yn lleol fel rhan o’r
bwriad ac i’r perwyl hyn, felly, bydd angen gwneud cyfraniad ariannol ar gyfer
cyfarfod a’r diffyg darpariaeth yma. Derbyniwyd cadarnhad gan yr ymgeisydd yn
datgan y byddai yn fodlon gwneud cyfraniad o £3346.16 a gellir sicrhau hynny
trwy gytundeb cyfreithiol 106. Ni ystyriwyd bod y bwriad yn groes i ofynion
Polisi ISA 5 o’r CDLL ynghyd a’r CCA: Llecynnau Agored mewn Datblygiadau Tai
Newydd.
Nodwyd bod Uned Trafnidiaeth y Cyngor wedi cyflwyno
sylwadau yn datgan na fyddai'r bwriad yn amharu ar ddiogelwch ffyrdd er
cydnabuwyd sylwadau a dderbyniwyd yn gwrthwynebu’r cais ar sail diogelwch
ffyrdd. Gydag amodau a chyfraniad ariannol i sicrhau gwelliannau i’r ffordd
trwy gytundeb 106, ystyriwyd y bwriad yn unol â’r polisïau trafnidiaeth.
Adroddwyd bod y Cyngor wedi derbyn gohebiaeth gan
drigolion lleol yn datgan bod rhan isaf o’r safle yn gorlifo yn ystod cyfnod o
law trwm ac yn pryderu y byddai'r datblygiad
yn gwaethygu'r sefyllfa yn hytrach na datrys y broblem gorlifo ar y
safle. Er hynny, derbyniwyd gwybodaeth gyda’r cais i ddangos gellid dylunio
system draenio gynaliadwy effeithiol ar gyfer y safle a fyddai’n gwella’r sefyllfa
bresennol.
b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:
·
Bod y safle tir glas yn
wag ers i’r defnydd rhandiroedd ddod i ben ac nad oedd dyraniad tir penodol na chyfyngiad datblygiad iddo
·
Nad yw'r tir yn fan agored hygyrch i'r cyhoedd felly does neb yn cael
defnydd ohono ar hyn o bryd.
·
Gan fod y safle yn wag ac wedi'i amgylchynu gan ddatblygiadau, mae tai
cyfagos wedi cal eu heffeithio gan ddŵr yn draenio o’r safle. Nid oes
seilwaith draenio ar y safle ar hyn o bryd sydd wedi arwain at orlifo gerddi
Cae Berllan ar ol glaw trwm
·
Bod y datblygiad yn cynnwys cynllun seilwaith draenio cynhwysfawr a fydd yn
gwella'r sefyllfa bresennol sy’n cynnwys soakaways fydd yn sicrhau y bydd
unrhyw ddŵr yn aros ar y safle gan amddiffyn yr anheddau preswyl cyfagos.
·
Bod Adra yn cynnig pwynt mynediad lle mae'r giât bresennol.
·
Bod canllawiau dylunio priffyrdd yn argymell o leiaf 20m rhwng mynediad
newydd a chroesfannau – byddai’r fynedfa newydd dros 50m i ffwrdd o'r groesfan
reoledig a mynedfa Ysgol Syr Hugh, sydd yn llawer mwy na'r gofynion. Mae
croesfannau presennol yn galluogi disgyblion i groesi Ffordd Bethel yn saff i
gael mynediad diogel i’r ysgolion lleol. Nid yw’r datblygiad yn amharu ar y
croesfannau hyn.
·
Mae’r arbenigwyr priffyrdd wedi cadarnhau na fyddai'r datblygiad yn cael
effaith ar draffig lleol. Fodd bynnag, mae Adra'n cydnabod bod pryderon gan
drigolion ac o ganlyniad wedi cytuno i gyfraniad ariannol fyddai’n galluogi
Cyngor Gwynedd i wella'r sefyllfa bresennol. Bydd Cyngor Tref Caernarfon a’r
trigolion lleol yn rhan o’r drafodaeth ar sut i ddefnyddio’r cyfraniad ariannol
yma.
·
Y cais yn cynnig adeiladu 17 o dai fforddiadwy a fydd ar gael ar lefelau
rhent cymdeithasol a canolraddol. Mae 440 o ymgeiswyr am dŷ 2, 3 neu 4
ystafell wely ar restr aros ward Cadnant yn unig gyda ffigwr o 1582 o ymgeiswyr
yng Nghaernarfon - y ffigyrau yma yn dangos yr angen am dai fforddiadwy fydd yn
galluogi teuluoedd i aros yn lleol
·
Dywedodd yr Aelod Cabinet Tai yn ddiweddar, bod 'na argyfwng tai yng
Ngwynedd sydd yn amlwg yng Nghaernarfon.
·
Pa mor fforddiadwy ydi tai? Mae prisiau yng Ngwynedd wedi cynyddu dros
16% yn ystod y 12 mis diwethaf....gyda chynnydd uwch
am eiddo 2, 3 a 4 ystafell wely yng Nghaernarfon. Nid oes gan deuluoedd lleol
siawns o brynu tai yn lleol.
·
Bydd y datblygiad o ddeiliadaeth rhent cymysg yn cyfrannu'n aruthrol at
ddechrau datrys yr argyfwng tai
·
Bod pob ymgynghorwr arbenigol yn gefnogol i’r datblygiad ac nad oedd
rheswm technegol i wrthod y cais.
·
Petai’r cais yn cael ei ganiatáu, bydd y tai yn barod ymhen 15 mis ar
gyfer pobl leol. Gyda’r mannau agored sydd yn rhan o’r cais, bydd hyn yn
caniatáu i drigolion cyfagos gael defnydd o’r safle unwaith eto. Dylai'r
ffactorau hyn fod yn arwyddocaol o blaid y cynnig yn nhermau polisi cynllunio
c)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelodau Lleol y pwyntiau
canlynol:
·
Ei fod yn derbyn yr
angen am dai ond yn cwestiynu nad oedd mwy o ofyn am adeiladau un llawr
fyddai’n rhyddhau tai i deuluoedd
·
Ei fod yn gwrthwynebu y
cais ar sail materion diogelwch a llifogydd
·
Y tir heb ei ddynodi oherwydd problemau mynediad – nid yw’n addas felly
fel lle i’w ddatblygu. Dau gais amlinellol wedi eu cyflwyno yn y gorffennol ond
heb eu datblygu oherwydd rhesymau mynediad
·
Bod diffyg ymateb i bryderon Cyngor Tref
·
Syndod nad yw’r Uned
Drafnidiaeth yn rhagweld problemau trafnidiaeth - 6 tŷ yn unig a adeiladwyd ar stad gyfagos Llwyn Ceirios oherwydd
problemau mynediad - pam bod y sefyllfa yn dderbyniol erbyn hyn?
·
Yn dilyn archwiliad i
broblemau trafnidiaeth yn yr ardal gosodwyd llinellau melyn yng Nghae Berllan
a'r Glyn - hyn yn cydnabod problemau
·
Nid oedd y lluniau a
gyflwynwyd yn adlewyrchu'r sefyllfa
·
Uned Trafnidiaeth wedi
cynnal astudiaeth ym mis Medi - yn ystod y cyfnod clo a Ffordd Bethel wedi cau i drafnidiaeth
oherwydd gwaith ar y ffordd osgoi - hyn
yn awgrymu llai o ddefnydd ac felly ddim yn adlewyrchiad teg o’r sefyllfa
·
Siomedig nad oedd
lluniau llifogydd mis Tachwedd wedi eu cynnwys yn y cyflwyniad - problemau
llifogydd hanesyddol yma
·
Diogelwch plant yn
flaenoriaeth - mynediad i’r stad gyferbyn a mynediad i’r Ysgol sydd yn cael ei
defnyddio gan rhan fwyaf o’r plant, yn hytrach na’r fynedfa gerbydol
·
Llywodraethwyr yr Ysgol wedi amlygu pryder
·
Awgrymu i’r Pwyllgor
ymweld â’r safle er mwyn deall y sefyllfa
ch) Cynigwyd ac eiliwyd gohirio’r
cais fel bod modd derbyn sylwadau pellach am ddiogelwch ffyrdd yn dilyn awgrym
yr Aelod Lleol a’r Cyngor Tref ac ymweld â’r safle
d)
Mewn ymateb i’r awgrym
o gynnal ymweliad safle nododd y Pennaeth Cyfreithiol bod asesiad trafnidiaeth
arbenigol wedi ei gynnal a bod hyn yn fwy priodol na chynnal un ymweliad safle.
Ategodd yr Uwch Beiriannydd Rheolaeth Datblygu bod yr asesiad wedi ei gynnal
gan yr ymgeisydd a bod y datblygwr wedi cynnig cynnal trafodaethau gyda’r
gymuned.
Nododd y Pennaeth
Cynorthwyol bod y cais yn gais 100% am dai fforddiadwy o fewn y ffin datblygu
gyda mewnbwn arbenigol gan arbenigwyr trafnidiaeth. Awgrymodd y byddai modd
cyflwyno fideo yn rhoi gwell cyd-destun o’r lleoliad. Ategodd bod yr ymgeisydd
hefyd yn cynnig mesurau ychwanegol mewn ymateb i’r pryderon rheoli traffig ac
yn barod i drafod gyda’r gymuned.
dd) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan
aelodau:
·
Yr ardal tu allan i’r Ysgol (900+ o ddisgyblion) yn le prysur iawn – y
lluniau ddim yn dangos hyn
·
A yw’ rhandiroedd wedi eu
hail leoli?
·
Pam gorfod defnyddio
safle tir glas? A oes ardal tir llwyd ar gael?
·
O blaid tai fforddiadwy
- awgrym i osod arwyddion 20mya tu alla i’r Ysgol (fel y mae Llywodraeth Cymru
yn awgrymu)
·
Mynedfa yn anaddas -
angen asesiad pellach o’r sefyllfa ar adegau prysur
·
Bod angen mwy o wybodaeth ac ail asesiad trafnidiaeth
·
Nid yw mynedfa’r Ysgol
wedi ei amlygu yn y cynlluniau / lluniau - angen ystyried llwybrau cerddwyr
·
Y cais yn ymateb i’r
angen am dai fforddiadwy yng Nghaernarfon
PENDERFYNWYD gohirio’r cais er mwyn derbyn asesiad trafnidiaeth
pellach ynghyd a mwy o luniau / fideo o’r safle a’i berthnasedd i’r ysgol
uwchradd gyfagos
Dogfennau ategol: