Trosi adeilad allanol i
ddarparu annedd fforddiadwy, ynghyd ag addasiadau i'r fynedfa gerbydol
presennol, gosod gwaith trin pecyn a gwaith cysylltiedig
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Gareth Williams
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Caniatáu yn
ddarostyngedig i dderbyn adroddiad pellach am fforddiadwyedd
y tŷ
COFNODION:
Trosi
adeilad allanol i ddarparu annedd fforddiadwy, ynghyd ag addasiadau i'r fynedfa
gerbydol bresennol, gosod gwaith trin pecyn a gwaith cysylltiedig.
a)
Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais ydoedd ar gyfer trosi adeilad
allanol presennol (a fu gynt yn dŷ annedd) yn dŷ fforddiadwy gyda dwy
lofft, ystafell fyw ac ystafell fwyta / cegin ynghyd a chreu gardd gerllaw'r
adeilad. Eglurwyd bod bwriad cadw prif
strwythur yr adeilad ond dymchwel waliau adeiladau allanol cysylltiedig â chodi
estyniadau unllawr ar ochr a chefn y prif strwythur.
Adroddwyd bod y safle mewn ardal wledig (ymhell o unrhyw ffin ddatblygu a'i
diffinnir gan CDLl) , o fewn Ardal Tirwedd Arbennig a
thirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli ac yn rhannol o
fewn Safle Bywyd Gwyllt Rhanbarthol Caerau.
Cyflwynwyd y cais gerbron y pwyllgor ar gais yr aelod lleol.
Ymhelaethodd y swyddog bod y safle tu allan i unrhyw ffin
ddatblygu a'i hadnabyddir dan bolisi PCYFF 1 y CDLl
lle nodi’r, y tu allan i ffiniau datblygu bydd cynigion yn cael eu gwrthod oni
bai eu bod yn unol â pholisi penodol yn y Cynllun. Yn yr achos yma, er i’r cais
fod am drosi adeilad allanol presennol, bod amheuaeth os gellid ystyried y
strwythur hwn fel "adeilad" yn hytrach nag adfail cyn eiddo anheddol.
Amlygwyd bod adroddiad strwythurol wedi ei gyflwyno gyda'r cais yn
honni i'r waliau presennol fod yn strwythurol gadarn ac yn addas i'w cadw heb
yr angen am ail-adeiladu sylweddol, ac yn ogystal, na fyddai angen ail-godi mwy
na 10% o gyfanswm arwynebedd y waliau gwreiddiol. Wrth asesu’r adroddiad,
adroddwyd bod cryn amheuaeth yn parhau ynglŷn âg
addasrwydd strwythur yr adeilad i'w drosi neu a fyddai'r gwaith fyddai ynghlwm
a'r datblygiad yn gyfystyr a chodi tŷ newydd yng nghefn-gwlad yn groes i
ofynion polisi PCYFF 1 y CDLl.
Ar sail yr asesiad, hyd yn oed pe derbynnir bod yr adeilad
traddodiadol yng nghefn gwlad yn addas i'w drosi yn dŷ annedd, ni
ystyriwyd fod y bwriad yn cydymffurfio gydag un o'r meini prawf penodol ar
gyfer datblygiadau o'r fath a restrir ym mholisi TAI 7 CDLl
Er yn cydnabod bod yr ymgeisydd mewn angen tŷ fforddiadwy a bod dyluniad
cyffredinol yr adeilad o ansawdd safonol, oherwydd y lleoliad gweledig, natur
anghyfannedd y safle presennol a’r nifer newidiadau a fwriedir eu gwneud i'r
strwythur, nid oedd dewis ond argymell gwrthod y cais.
b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd
yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:
·
Ei bod eisiau parhau i fyw yn Llangwnnadl ond
bod prisiau tai lleol a chyfagos yn rhy bell o’i gafael.
·
Nad
oedd tŷ fforddiadwy yn ei milltir sgwâr ac felly’r opsiynau yn gyfyngedig.
·
Yn
lwcus iawn bod gan ei rhieni dir gyda hen dŷ arno fyddai’n rhoi cyfle i
aros yn lleol gan fagu teulu, parhau i weithio yn ei swydd a pharhau i helpu ei
rhieni ar y fferm a’i Nain gyda’r maes carafanau.
·
Bod
yr hen dŷ wedi bod yn gartref i nifer o deuluoedd yn Llangwnnadl hyd nes y
60au cynnar.
·
Nad
oedd bwriad i wneud newidiadau mawr i’r safle - dim ond ei wneud yn dŷ
fforddiadwy addas i fyw ynddo a’i wneud yn gartref cyntaf
·
Nifer
fwyaf o’r tai yn Llangwnnadl yn dai haf a thai gwyliau.
·
Yn
bechod mawr bod hi mor anodd i berson lleol gael cartref ar dir ei theulu lle
mae tŷ wedi bod yno o’r blaen.
c)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd
yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:
·
Anghytuno gyda’r datganiad mai adeilad allanol sydd yma - nid beudy
na modurdy mohono, ond tŷ sydd wedi bod yn aelwyd a chartref hyd nes dod
yn wag yn y 60au
·
Gwaith sylweddol ei angen a’r to wedi
disgyn, ond y waliau a’r cyrn yn amlygu siâp ty
·
Bod 90% o waliau’r strwythur yn addas
·
Bod cais (2 filltir o’r safle) wedi cael caniatâd i ddymchwel ac
adeiladu o’r newydd - adnewyddu sydd ei angen yma a chreu tŷ dwy stafell
wely - cartref perffaith i unigolyn
·
Byddai dymchwel y strwythur yn colli cymeriad - dim dyna’r bwriad
yma er y byddai’r opsiwn yn rhatach! Y nod yw cadw cymeriad, adfer y waliau,
codi estyniad i’r cefn ac i’r ochr a darparu gofod mewnol sylfaenol
·
Wrth drosi rhaid gweithio gyda’r hyn sydd ar gael ac yma mae trwch
y waliau yn lleihau maint y gofod
·
Nid yw Caerau yn weladwy o’r ffordd - cloddiau aeddfed naturiol
o’i gwmpas
·
Nid yw hwn yn fenter busnes - cais am dŷ fforddiadwy sydd yma
·
Sefyllfa ddifrifol os gofyn am dystiolaeth o’i farchnata fel uned
gwyliau - byddai hyn yn caniatáu ail gartref i rywun
·
Angen tai i bobl leol
·
Aros yn lleol yn gwireddu breuddwyd i ferch leol – sy’n cyfarch yr
angen am dŷ fforddiadwy ac o reidrwydd yn barod i dderbyn amod 106
·
Y tad yn berchen ar y tir ac yn adeiladwr
·
Yn wyneb yr argyfwng tai, dyletswydd ar y Cyngor i gefnogi pobl
leol
d)
Cynigwyd ac eiliwyd caniatáu’r cais
e)
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y
sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Mai cartref oedd yr adeilad hyd y 60au
– nid cwt
·
Cyfle i adnewyddu tŷ i fod yn
gartref yn wyneb argyfwng prinder tai i bobl lleol
·
‘Tystiolaeth economaidd’ – yr ymgeisydd
a hawl i fyw yn ei bro
·
90% o’r waliau yn hyfyw ar gyfer adfer
yr adeilad
·
Angen chwilio am gyfleoedd i ail adfer
bro a chyfoethogi tirlun Penllŷn
·
Bod awydd cadw cymeriad y tŷ - nid menter busnes sydd yma ond
ceisio tŷ fforddiadwy i ferch ifanc
·
Bod y cais yn gwarchod cymeriad, iaith
a chadw pobl ifanc yn lleol
·
Bod y tŷ yn rhan o’r fferm - hyn yn ymateb i’r elfen
‘economaidd’
·
Bod y cais yn deilwng o sylw – a yw’r polisïau yn addas i bwrpas?
·
Y cais yn annog trafodaeth
Mewn
ymateb i gwestiwn ynglŷn â chytundeb 106, nododd y Rheolwr Cynllunio, er
bod y cais yn un am dŷ fforddiadwy nad oedd gwerth marchnad agored i bennu
disgownt wedi ei dderbyn. Ategwyd bod yr arwynebedd llawr yn fwy na’r hyn a
ganiateir yn y CDLl ac er yn derbyn y sylw am waliau trwchus, maint y tu mewn sydd yn cael
ei fesur.
Mewn
ymateb i’r sylw am ‘adeilad allanol’, nododd y Pennaeth Cyfreithiol bod hwn yn
statws cyfreithiol ar adeilad sydd wedi colli ei hawliau defnydd fel tŷ.
Gyda’r tŷ wedi bod yn wag ers y 60au rhaid derbyn bod ‘defnydd tŷ
wedi dod i ben’. Mewn ymateb, awgrymwyd y gellid bod yn hyblyg gyda’r
disgrifiad ac y dylai pob cais gael ei drafod ar ei rinwedd ei hun.
Mewn
ymateb i sylw bod diffyg tystiolaeth am hyfywdra’r bwriad fel tŷ
fforddiadwy a’r angen am y wybodaeth yma cyn symud ymlaen, nododd y Pennaeth
Cynorthwyol bod rhaid cael gwerth marchnad agored yr eiddo i gyfarch
egwyddorion tŷ fforddiadwy. Mewn ymateb i sylw ategol, o fod angen gwerth
marchnad agored yn hytrach na gwerth llafur (o ystyried bod yr adeilad wedi ei
leoli ar dir y teulu), cadarnhawyd mai gwerth marchnad agored oedd ei angen.
Petai penderfyniad i ganiatáu, byddai rhaid cael cytundeb 106 ar y bwriad, ac
er bod yr ymgeisydd wedi cytuno i hynny, rhaid ystyried y disgownt.
PENDERFYNWYD: Caniatáu yn ddarostyngedig i dderbyn adroddiad
pellach am fforddiadwyedd y tŷ
Dogfennau ategol: