Dymchwel garej
presennol ac adeiladu garej newydd
AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Tudor Morris
Jones
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Gwrthod
Rhesymau - gorddatblygiad
Cofnod:
a)
Amlygodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth
Datblygu mai cais llawn ydoedd ar gyfer dymchwel modurdy presennol a chodi
modurdy newydd yn ei le.
.
Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli oddi fewn i ffin ddatblygu
gyfredol Morfa Nefyn ac o fewn ardal
breswyl sydd yn gymysg o ran math a ffurf.
Ategwyd bod y safle a’r ardal
oddi amgylch wedi ei leoli oddi fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol
Llŷn ac Enlli.
Cyflwynwyd y cais i’r pwyllgor ar gais yr aelod lleol ar sail gôr
ddatblygiad o’r safle.
Cydnabuwyd bod
pryderon wedi eu hamlygu gan gymydog, yr aelod lleol a’r Cyngor Cymuned ynglŷn
â’r bwriad, ac yn benodol am ddefnydd yr adeilad i’r dyfodol. Eglurwyd na ellid
rhagweld yr hyn a allai ddigwydd yn y dyfodol, ond bod rhaid ystyried yr hyn
sydd gerbron, sef cais i ddymchwel modurdy presennol a chodi modurdy newydd yn
ei le. Nodwyd fod gofod to'r adeilad newydd i’w ddefnyddio fel swyddfa, ond nad
oedd unrhyw awgrymiad y byddai defnydd gwahanol i’r hyn a gyflwynwyd. Er hynny,
ystyriwyd y byddai’n rhesymol cynnwys amod i sicrhau na ddefnyddir yr adeilad
ar gyfer unrhyw reswm nad yw yn ddefnydd atodol i’r tŷ gan gynnwys ei osod
fel uned gwyliau.
b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y
sylwadau canlynol gan gyflwyno fideo yn egluro’r rhesymeg y tu ôl i’r cais
cynllunio ar gyfer adnewyddu’r adeilad allanol yn eu gardd
·
Eu bod wedi byw yn y tŷ ers 2016 a
chyn hynny yn berchen Bodfan gerllaw
·
Y teulu wedi bod yn yr ardal ers y 1960au - ei Nain a’i Daid a’i rieni yn berchen eiddo yn
yr ardal ac felly wedi ymrwymo’n fawr i’r ardal – nid ydynt yn bwriadu gwerthu
unrhyw eiddo, sy’n destun trafod y dyddiau hyn
·
Bod yr adeilad mewn cyflwr gwael ac
angen gosod rhywbeth yn ei le sy'n ddiogel, yn fwy modern ac yn addas i'r
pwrpas.
·
Bod bwriad i’w ddefnyddio ar gyfer
storio cychod a thractorau
·
Y to yn sigo sy’n awgrymu bod y distiau
yn rhoi. Ystyriwyd bod y distiau yn wreiddiol [o'r adeg y codwyd yr adeilad
dros 100 mlynedd yn ôl]. Y landeri bellach wedi disgyn a holltau yn y waliau i
gyd.
·
Yn ddiolchgar pe byddai’r Pwyllgor yn
edrych yn ffafriol ar y cais.
c)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol:
·
Bod gofod yn y to yn cael ei addasu yn
swyddfa
·
Trigolion lleol a Chyngor Tref yn gwrthwynebu ar sail
gorddatblygiad - bod y bwriad yn sylweddol fwy na’r un presennol
·
Bod 6 tŷ yn ffinio gyda’r safle
·
Y tŷ hefyd wedi ei ymestyn yn
ddiweddar
·
Digon o le parcio heb fod angen modurdy mwy
·
Bod Morfa Nefyn yn prysur droi yn bentref tai gwyliau - Môn Arfon
yn dŷ haf - defnydd busnes fydd i’r modurdy i’r dyfodol.
·
Nad yw amod berthnasol yn ddigon clir i rwystro addasiad i’r
dyfodol - angen cryfhau'r amod fel ei fod yn llai amwys
Mewn
ymateb i bryder am ddefnydd y bwriad i’r dyfodol, nododd y Rheolwr Cynllunio
nad yw hyn yn ystyriaeth cynllunio ac na ellid gwrthod be all fod. Er hynny,
nodwyd bod geriad yr amod yn cyfeirio at yr adeilad i gyd
ch)
Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais ar sail gorddatblygiad a materion
gweledol
d)
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y
sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod yr adeilad i weld o safon
dderbyniol
·
Tystiolaeth o’r angen? Dymunol sydd yma ac nid hanfodol
·
Bod gwagle yn y tŷ ar gyfer swyddfa
dd) Mewn ymateb i
sylw bod gan yr ymgeisydd hawl adeiladu heb ganiatâd, nododd Aelod, bod gosod
amod yn sicrhau rheolaeth, ond bod rhaid derbyn cadarnhad o eiriad ac ystyr yr
amod.
e)
Cyngiwyd
ac eiliwyd gwelliant i ganiatáu gydag amodau
PENDERFYNWYD
Caniatáu gydag amodau
·
Cychwyn o fewn 5 mlynedd.
·
Unol a’r cynlluniau
·
Deunyddiau a lliwiau i’w cytuno
·
Defnydd modurdy yn atodol i’r tŷ yn unig a dim defnydd busnes
·
Cyfnod dymchwel i osgoi cyfnod nythu adar
Nodyn :
Rhywogaethau
Gwarchodedig
Dŵr
Cymru
Cytundeb Wal
rhannol
PENDERFYNWYD:
Gwrthod
Rhesymau:
Gor-ddatblygiad
Dogfennau ategol: