I ystyried yr adroddiad a chymeradwyo cynnydd mewn gwariant ar
staff yr Uned Pensiynau erbyn 2022/23.
Penderfyniad:
Ø Creu 4 swydd newydd
Swyddog Pensiynau (i gefnogi gwaith AVSs) a 3 Cymhorthydd
Pensiynau (Cytundeb 2 flynedd ar gyfer prosiect McCloud – gyda phosibilrwydd o
estyniad os bydd y gwaith yn parhau heibio 2 flynedd)
(cyfanswm costau blynyddol £121,135)
Ø Cynyddu cyflog 6 Cymhorthydd Pensiynau o GS3 i GS4
(cyfanswm
costau blynyddol £16,794)
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Pensiynau yn ceisio cymeradwyaeth y Pwyllgor Pensiynau am
adnoddau ychwanegol fyddai’n galluogi'r Uned Weinyddu Pensiynau i ymateb i
bwysau gwaith cynyddol ac ymdopi'n effeithlon â lefel y gwaith sydd angen ei
gwblhau. Er mwyn gwella effeithlonrwydd yr Uned Gweinyddu Pensiynau, cynigiwyd
addasiadau i’r strwythur presennol ac amlygwyd mai cyfrifoldeb y Pwyllgor
Pensiynau oedd pennu cyllideb i sicrhau adnoddau digonol ar gyfer gweithredu
hyn.
Eglurwyd bu cynnydd yn yr angen am ddealltwriaeth
ddwys o reoliadau cymhleth y gronfa bensiwn, a bu arfarniad o swyddi’r Cymhorthyddion Pensiynau o raddfa GS3 (amrediad cyflog
£19,312 - £19,698) i raddfa GS4 (£20,092 - £21,748). Gydag ychwanegiad costau
cyflogwr yn gynnydd o £2,799 ar gyfer 6 swydd (ar uchafbwynt y raddfa) byddai’r
gost o ariannu’r cynnydd yn £16,794 y flwyddyn.
Nodwyd bod Cyngor Gwynedd a Chyngor Bwrdeistrefol
Sirol Conwy wedi cyflwyno opsiwn deniadol ar gyfer Cyfraniadau Gwirfoddol
Aberthu Cyflog (AVCs) ac o ganlyniad rhagwelwyd cynnydd mawr mewn defnydd o’r
cynllun yma wedi i’r Cynghorau ei hyrwyddo’n llawn. I gyfarch y cynnydd yn y
gwaith o weinyddu’r cyllun, cynigiwyd cyflogi un
Swyddog Pensiynau newydd ar raddfa S2 (£24,982 - £27,041). Gydag ychwanegiad costau’r cyflogwr, ar
uchafbwynt y raddfa, byddai’r gost o ariannu’r swydd newydd yn £35,704. Ategwyd bod prif gyflogwyr y Gronfa yn
gwireddu arbedion sylweddol wrth leihau cyfraniadau yswiriant cenedlaethol
gyda’r Cynllun AVCs - arbedion llawer mwy na chost
ariannu’r swydd Swyddog Pensiynau.
Felly, mewn egwyddor, o ystyried cyllidebau’r cyflogwyr ynghyd â
chyllideb y Gronfa Bensiwn, ni fyddai cynnydd yn y gyllideb net.
Yn ychwanegol, mewn ymateb i ddyfarniad y Llys Apêl yn
achos ‘McCloud’ yn erbyn Llywodraeth y DU, adroddwyd
bod y Llywodraeth bellach wedi cadarnhau y bydd newidiadau i bob prif gynllun
sector cyhoeddus, gan gynnwys y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, i ddiddymu
gwahaniaethu ar sail oedran. Mewn ymateb
i weithredu’r newidiadau (a elwi’r yn Prosiect McCloud),
bydd angen casglu gwybodaeth am yr oriau a weithiwyd, ynghyd â manylion
toriadau mewn gwasanaeth ar gyfer yr holl weithwyr cymwys sy'n cwmpasu'r cyfnod
1 Ebrill 2014 i 31 Mawrth 2022. Yn ogystal â diweddaru’r cofnodion, bydd angen
ail-gyfrifo’r buddion marwolaeth, y buddion ymddeoliad, a’r buddion gohiriedig
o’r aelodau sydd wedi gadael yn ystod yr 8 mlynedd ddiwethaf. Bydd hyn yn golygu ail-edrych ar ffeithiau ac
ail gyfrifo miloedd o gofnodion aelodau. Er bydd gweithredu Prosiect McCloud yn waith sylweddol i’r Uned, mae’n debyg mai nifer
fechan iawn o aelodau fydd yn gweld cynnydd yng ngwerth eu buddion ar ddiwedd y
prosiect.
Adroddwyd bod nifer o gronfeydd pensiwn tebyg o ran
maint wedi comisiynu staff o asiantaethau allanol i ymgymryd â’r gwaith, ond
byddai hynny yn opsiwn ddrud o’i gymharu â chadw’r gwaith yn fewnol. Cytunodd
sawl aelod byddai’r Gronfa yn isafu’r gost drwy gyflogi 3 Cymhorthydd Pensiynau
ychwanegol dros dro am gyfnod o 2 flynedd (gyda phosibilrwydd o estyniad os
bydd y gwaith yn parhau heibio 2 flynedd) er mwyn ymgymryd â gwaith Prosiect McCloud.
Ategodd
Cyfarwyddwr y Gronfa bod yr argymhellion wedi eu herio gan yr Adran Cyllid a’u
bod yn argymhellion rhesymol ac anorfod. Nododd hefyd er y byddai prif
gyflogwyr y Gronfa yn gwireddu arbedion sylweddol wrth leihau cyfraniadau
yswiriant cenedlaethol gyda’r cynllun AVCs, mai
arbedion i’r cyflogwyr fyddai'r rhain ac nid arbedion i’r Gronfa.
Diolchwyd am yr
adroddiad.
Yn ystod y
drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol:
·
Bod effeithlonrwydd staff yn allweddol i’r cynllun.
·
Bod yr opsiwn o gadw’r gwaith yn fewnol i’w
groesawu.
·
Bod yr £85k (Prosiect McCloud)
yn swm dros dro - rhaid derbyn bod costau i sicrhau bod y gwaith yn cael ei
wneud yn gywir.
·
Nad oedd modd osgoi’r gwaith ychwanegol - yr
argymhellion yn ffordd o symud ymlaen mewn modd realistig.
·
Bod yr argymhellion yn gost effeithiol ac yn cynnig
cyfleoedd i staff.
Ategodd Aelod o’r Bwrdd Pensiwn bod gweinyddiaeth y Gronfa yn faes
blaenoriaeth sydd angen arbenigedd a phroffesiynoldeb. Roedd yn ffyddiog
byddai’r Bwrdd Pensiwn yn gefnogol i’r argymhellion.
PENDERFYNWYD:
·
Derbyn a nodi’r
wybodaeth
·
Cymeradwyo cynnydd
£137,929 mewn gwariant ar staff yr Uned Bensiynau erbyn 2022/23:
§ Creu 4 swydd newydd
Swyddog Pensiynau
(i gefnogi gwaith AVSs) a 3 Cymhorthydd Pensiynau
(cytundeb 2 flynedd ar gyfer prosiect McCloud – gyda
phosibilrwydd o estyniad os bydd y gwaith yn parhau heibio 2 flynedd)
(cyfanswm costau
blynyddol £121,135)
§ Cynyddu cyflog 6 Cymhorthydd Pensiynau o GS3 i GS4
(cyfanswm
costau blynyddol £16,794)
Dogfennau ategol: