AELOD
CABINET: Y CYNGHORYDD DAFYDD MEURIG
Rhoi
trosolwg i Aelodau o weithgareddau Partneriaeth Diogelwch Cymunedol (PDC)
Gwynedd a Môn yn ystod 2020-21, a'r datblygiadau ar gyfer 2021-22.
Penderfyniad:
1. Derbyn
cynnwys yr adroddiad a'r dogfennau atodol gan nodi’r sylwadau, a chefnogi
blaenoriaethau a chyfeiriad y gwaith i'r dyfodol.
2. Cysylltu
gyda Chadeirydd y Cyngor i nodi dymuniad y Pwyllgor i estyn gwahoddiad i'r
Comisiynydd Heddlu a Throsedd i gyfarfod o’r Cyngor Llawn.
3. Gofyn i'r
bartneriaeth rhoi ystyriaeth i aelodau
eraill y bartneriaeth fod yn bresennol yng nghyfarfod Trosedd ac Anrhefn y
Pwyllgor Craffu Cymunedau.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant, gosododd y
cefndir a’r cyd-destun, gan nodi bod gan awdurdodau lleol dyletswydd statudol i
weithio mewn partneriaeth â’r Heddlu, y Gwasanaeth Iechyd, Gwasanaeth Prawf a’r
Gwasanaeth Tân ac Achub, i ymdrin â diogelwch cymunedol. Eglurodd y gwneir asesiad strategol i adnabod
blaenoriaethau yn rhanbarthol, ‘roedd y
cynlluniau lleol i ymdrin â’r blaenoriaethau hyn gerbron y Pwyllgor.
Trosglwyddwyd i'r Swyddog Gweithredu a Phrosiectau Diogelwch Cymunedol. Rhoddwyd trosolwg o’r prif
bwyntiau o fewn yr adroddiad ac eglurwyd bod gofyn i'r bartneriaeth adrodd yn
ôl i'r Pwyllgor yn flynyddol i ddiweddaru ar waith y bartneriaeth. Aethpwyd ati i nodi’r prif gerrig filltir a
gyflawnwyd yn ystod y cyfnod diweddaraf a rhoddwyd trosolwg o’r gwaith oedd ar
y gweill.
Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y
prif bwyntiau canlynol gan aelodau:
·
Holwyd ynghylch y 5 cam gweithredu oedd heb eu cyflawni ers bron
i ddwy flynedd. Beth oedd y camau nesaf i'w cyflawni?
·
Cyfeiriwyd at
y gwaith i adnabod adeiladau priodol ar gyfer y tîm camddefnyddio sylweddau ym
Mangor a holwyd os oedd modd cael mwy o wybodaeth.
·
Holwyd am y
cynllun bugeiliaid stryd a pham nad ydynt yn weithredol gan fod y Cyngor yn
defnyddio Zoom ers deunaw mis oedd modd iddynt ei
ddefnyddio.
·
Gofynnwyd a
oedd gwaith yn ymwneud a chaethwasiaeth fodern yn rhan o’r bartneriaeth.
·
Mynegwyd siom
nad oedd cynrychiolwyr eraill o’r bartneriaeth yn bresennol i ateb cwestiynau.
·
Nododd aelod
ei bod yn pryderu am y cynnydd mewn pobl a oedd angen cefnogaeth iechyd meddwl,
rhai yn camddefnyddio alcohol a digartrefedd yn enwedig yng Ngwynedd.
·
Gofynnwyd a
fyddai’n bosib cael cyfarfod â’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd newydd, bu ei
ragflaenydd gerbron y Cyngor Llawn yn y gorffennol.
·
Dywedwyd bod
y pynciau o fewn yr adroddiad yn berthnasol i glybiau ieuenctid a holwyd os
oedd y clybiau ieuenctid yn rhan o’r bartneriaeth.
·
Cefnogwyd y
syniad o wahodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd i'r Cyngor Llawn fel bod modd
i'r holl aelodau ei gyfarfod.
·
Holwyd
ynghylch trosedd seibr gan fod problemau yn codi oddi ar
wefannau cyfryngau cymdeithasol wrth i bobl ddatgelu data wrth ymateb i
gwestiynau cyffredinol. Bod angen rhoi pwysau ar gwmnïau cyfryngau cymdeithasol
i weithredu pan fo achosion yn cael eu hadrodd.
Mewn ymateb, nododd y swyddogion:
·
O ran y 5 cam
gweithredu, oherwydd blaenoriaethau eraill nid oedd modd eu cyflawni. Byddai rhai ohonynt yn cael eu hystyried eto
yn y dyfodol.
·
Mewn
perthynas â’r bugeiliaid stryd, dros y cyfnodau clo nid oedd pobl yn mynd allan wrth i dafarndai
fod ar gau, felly doedd dim eu hangen. Yn ogystal ag hyn, wrth i’r cyfyngiadau
lacio nid oeddent yn teimlo’n ddiogel bod allan oherwydd covid-19. Ategodd y
byddai modd ail ymweld â hyn yn y dyfodol .
·
Nododd y
byddai’r wybodaeth ynghylch adeiladau priodol i'r tîm camddefnyddio sylweddau
yn cael ei ddarparu i'r aelod wedi’r Pwyllgor hwn.
·
Nid oedd
achosion yng Ngwynedd o gaethwasiaeth fodern hyd yn hyn, ond yn ymwybodol ei
fod yn rhywbeth all godi mewn unrhyw ardal.
·
Nododd bod
ymgynghoriad ar strategaeth trais yn y cartref a thrais rhywiol yn agored tan
1af Chwefror. O ran y maes addysg, bydd materion yn ymwneud â pherthynas iach
yn dod yn rhan o’r cwricwlwm newydd i Gymru.
·
Bod asiantaethau wedi bod yn cynnig cefnogaeth
rithiol a gwaith cymorth o ran camddefnyddio
alcohol yn ystod y
pandemig.
·
Ei fod yn bosib
i’r Gwasanaeth Ieuenctid fwydo i mewn
i waith y bartneriaeth.
·
Bod trosedd seibr yn fater ‘roedd yr Heddlu yn cymryd o ddifrif ac roeddent yn cynnal hyfforddiant i bobl hŷn
i godi ymwybyddiaeth. Am godi’r mater yng nghyfarfod y Bartneriaeth gan ofyn
beth oedd yr ymateb a derbynnir gan gwmnïau cyfryngau cymdeithasol pan yn
adrodd.
PENDERFYNWYD:
Dogfennau ategol: