AELOD
CABINET: Y CYNGHORYDD CATRIN WAGER
I ystyried yr adroddiad.
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth yr Adran Priffyrdd a
Bwrdeistrefol a thywyswyd yr aelodau drwy’r prif faterion.
Nodwyd bod gan y Cyngor ddyletswydd statudol i sicrhau nad
oes sbwriel ar briffyrdd a mannau cyhoeddus eraill.. ‘Roedd yn wasanaeth
gweladwy a phwysig yn enwedig yn ystod y cyfnod pandemig. Eglurwyd bod y
Gwasanaethau Stryd yn ymdrin â bob safle cyhoeddus a pob ffordd oedd wedi ei
fabwysiadu a reolir gan y Cyngor
Amlygwyd bod ardaloedd wedi eu rhannu yn barthau yn ôl eu
defnydd. Eglurwyd bod glendid ardal yn cael ei asesu trwy gymharu gyda safon,
roedd amrediad safon o Gradd A i D. Ymhelaethwyd y caniateir cyfnod amser
gwahanol i lanhau'r ardaloedd a'u dychwelyd i'r safon briodol..
Nodwyd bod yr Adran wedi wynebu toriadau yn y gorffennol, a phwysau
ychwanegol
yn sgil cynnydd yn nhwristiaeth. Manylwyd ar weledigaeth y Gwasanaeth gan
ofyn i’r Pwyllgor am eu sylwadau ar y weledigaeth.
Ategodd y Rheolwr Gwasanaethau Stryd sylwadau’r Pennaeth
gyda’r pwyntiau canlynol:
·
Cyfeiriodd at y cod ymarfer a nododd
oherwydd sefyllfa Covid ni fyddai un newydd yn cael
ei gyflwyno o fewn y flwyddyn. Nododd bod deddfwriaeth yn Lloegr i gosbi
perchnogion ceir sy’n gollwng sbwriel, nid oedd hyn ar gael yng Nghymru ond yn
cael ei hystyried.
·
Nododd fel rhan o’r peilot, bod 4 bin
clyfar wedi eu harchebu a fyddai’n gweithio drwy bŵer solar. Byddai’r bin
yn gwasgu’r sbwriel nifer o weithiau cyn anfon signal i hysbysu’r swyddogion
bod angen ei wagio.
Yn ystod y drafodaeth, cafwyd y prif sylwadau canlynol gan
aelodau:
·
Croesawyd y weledigaeth a holwyd am
finiau ailgylchu ar strydoedd. Nododd bod pobl yn rhoi sbwriel yn y bin
anghywir ar ddamwain neu yn ddiofal a gofynnwyd am fwy o wybodaeth am y broses
casglu a’r gofynion staffio i wahanu a sortio’r deunydd.
·
Holwyd ynghylch grwpiau codi sbwriel yn
wirfoddol gan nodi bod digwyddiadau cyson ar draws y wlad ac yng Ngwynedd a’i
fod yn syniad da bod y cyhoedd yn rhan o’r broses.
·
Holwyd beth yw’r drefn efo ysgubo
ffyrdd ag a yw hyn yn parhau mewn llefydd gwledig. Ategodd bod cadw ffyrdd yn
lan yn ddull o osgoi llifogydd.
·
Codwyd y mater o chwyn ar balmentydd yn
enwedig rhai sy’n cael eu defnyddio yn llai aml.
·
Cyfeiriwyd at y Tîm Cymunedau Glan a
Thaclus a’r angen i wybyddu aelodau o waith y tîm.
·
Derbynnir cwynion o ran arwyddion yn
wyrdd a gydag ymgyrchoedd codi ysbwriel yn ail-gychwyn roedd bagiau duon yn
cael eu rhoi tu ôl i finiau stryd. A ellir ystyried ysgubo’r llwybrau beicio yn
dilyn torri tyfiant? Holwyd am drefniadau glanhau gwm cnoi.
·
Yn falch bod addysgu plant wedi ei
gynnwys fel un o’r camau nesaf ond gall oedolion greu mwy o broblem e.e. peidio
â chodi baw cŵn. Wedi gweld cyd-gynghorwyr yn arddangos cynhwysydd siâp
asgwrn i ddal bagiau baw cŵn ar y cyfryngau cymdeithasol. Oedd rhai ar
gael i aelodau eraill.
·
Bod staff yn ymwybodol o fannau
problemus, dylid parhau i wagio biniau yn rheolaidd yn hytrach na defnyddio
biniau clyfar.
·
Yr angen i ail-edrych o ran rôl
gwirfoddolwyr a chynghorwyr, nid oedd digon o gosbau yn cael eu rhoi yn unol â
rheoliadau cadw cŵn ar dennyn a chodi baw ci.
·
Pam fod y Cyngor yn rhoi bagiau baw
cŵn i berchnogion gan mai eu cyfrifoldeb hwy ydyw?
·
Ble fyddai’r biniau clyfar wedi eu
lleoli fel rhan o’r peilot?
·
Pryd fyddai’r ymgyrch codi
ymwybyddiaeth o ran codi baw cŵn yn cychwyn?
·
Bod angen cadw safleoedd biniau
cymunedol yn daclus a’r angen i wneud deep clean yng nghanol trefi.
Mewn
ymateb, nododd y Pennaeth a’r Rheolwr Gwasanaethau Stryd y canlynol:
·
Mewn perthynas â’r biniau ailgylchu ar
y stryd, bod 3 neu 4 rhan i'r bin ar
gyfer deunyddiau gwahanol. Gwelir ychydig o lygru deunydd yn y biniau
ailgylchu. Parheir i gyfathrebu’r neges o ran ail-gylchu.
·
Bod angen cyd-gordio ymgyrchoedd codi
sbwriel grwpiau gwirfoddol gan roi ystyriaeth i fynediad at gyfarpar a lleoliad
priodol i adael y sbwriel ar gyfer ei gasglu.
·
Bod ysgubo ffyrdd mewn ardaloedd
gwledig yn digwydd o leiaf unwaith y flwyddyn, gydag ysgubo mewn pentrefi yn
digwydd o leiaf un waith y mis. Tîm arall oedd yn chwistrellu chwyn ar
balmentydd a hynny o leiaf un waith y flwyddyn.
·
Byddai nodyn yn cael ei anfon i holl
aelodau’r Cyngor gyda gwybodaeth am y Tîm Cymunedau Glan a Thaclus.
·
Bod y tîm yn glanhau arwyddion. Gadael
iddynt wybod am leoliad y bagiau duon tu allan i’r cyfarfod. Rhoddir ystyriaeth
i ysgubo llwybrau beicio yn dilyn torri tyfiant fel rhan o’r adolygiad.
·
Ei fod yn anodd glanhau gwm cnoi,
prynwyd peiriant newydd drwy arian grant i dreialu ei ddefnydd. Gobeithir y
byddai’r gwaith yma yn dod yn rhan o waith y Tîm Cymunedau Glan a Thaclus.
·
Bod addysgu yn hanfodol a chynhelir
gweithgaredd penodol.
·
Gallai aelodau gysylltu â’r Rheolwr
Gwasanaethau Stryd i wneud cais am y cynhwysydd siâp asgwrn a byddai’n trefnu
i’w rhoi i’r warden yn yr ardal.
·
Bod pwysau wedi bod ar y staff dros y
ddwy flynedd diwethaf, edrychir ar drefniadau gwagio biniau stryd fel rhan o’r
adolygiad. Credir bod lle i ddefnyddio biniau clyfar yn enwedig mewn llefydd
pell.
·
Bod angen edrych yn fwy manwl ar y
sefyllfa baw cŵn, rhoddir ystyriaeth i gyflogi mwy o wardeiniaid
gorfodaeth.
·
Yn dilyn dyfodiad deddfwriaeth newydd
nid oedd yn bosib i wirfoddolwyr orfodi ond edrychir ar wirfoddolwyr yn
dosbarthu pecynnau a chynghori perchnogion cŵn. Hapus i gael trafodaeth
bellach.
·
Rhoddir pecynnau fel tacteg marchnata,
sampl am ddim ond ni pharheir i’w rhoi.
·
Bwriedir rhoi’r biniau clyfar mewn
lleoliadau prysur trefol.
·
Bod codi ymwybyddiaeth yn rhywbeth
parhaus. Fel rhan o Caru Cymru, roedd ymgyrch cenedlaethol ‘Gadael olion
pawennau yn unig’ yn cael ei hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol. Bod
arwyddion newydd yn cael eu treialu gydag arwyddion bychan a oedd yn disgleirio
yn y tywyllwch wedi eu gosod yn Nolgellau. Pe byddai aelodau eisiau treialu
arwyddion newydd, dylent gysylltu â’r Rheolwr Gwasanaethau Stryd.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a
dderbyniwyd.
Dogfennau ategol: