Agenda item

AELOD CABINET: Y CYNGHORYDD CATRIN WAGER

 

I ystyried yr adroddiad.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol, gosododd y cefndir a’r cyd-destun. Nododd er mwyn cyflawni dyletswyddau bod angen paratoi a mabwysiadu polisi torri gwair ar gyfer ymylon ffyrdd, oedd yn ystyried anghenion defnyddwyr y ffordd, yn ogystal ag anghenion bywyd gwyllt. Cyfeiriodd at yr adolygiad o drefniadau torri gwair a’r gyfundrefn cynnal arfaethedig a oedd gerbron er trafodaeth.

 

Manylodd Pennaeth Cynorthwyol Priffyrdd a Bwrdeistrefol ar rai o’r camau a oedd yn cael eu cymryd. Nododd bod yr Adran yn cydweithio gyda’r Uwch Swyddog Bioamrywiaeth ac yn adnabod mannau penodol o ran casglu’r gwair yn dilyn ei dorri. Cyfeiriodd at brosiect ‘ymylon gwell’ gyda’r elusen Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, a oedd i’w gynnal ym mlwyddyn ariannol 2022-23. Nododd bod Plantlife wedi cyhoeddi dogfen yng nghyswllt ymylon ffyrdd cefn gwlad a oedd wedi derbyn sêl bendith Llywodraeth Cymru.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod rhai yn gefnogol i newid trefniadau torri gwair i wella bioamrywiaeth, ond doedd eraill ddim yn gefnogol.

·         Yn derbyn cwynion o ran coed yn ymwthio i’r ffyrdd, a ellir addasu uchder torri mewn rhai achosion? Bod angen cael balans rhwng hybu bioamrywiaeth a diogelwch ffyrdd. Efallai byddai’n opsiwn i dorri un ochr mewn rhai mannau. Yn gefnogol i doriad llawn diwedd Hydref i ddelio gyda gordyfiant prysgwydd ond o’r farn bod torri gwair ym mis Awst mewn ardaloedd gwledig yn rhy hwyr.

·         Bod angen torri mewn ardaloedd 30mya. Roedd ardaloedd yn fwy taclus pan gesglir y gwair a dorrwyd. Beth oedd yr ystyriaethau wrth ddod i gasgliad o ran casglu’r gwair yn dilyn ei dorri? Byddai toriad ym mis Awst yn rhy hwyr yn ei ardal – fyddai’n bosib cael rota o ran pa ardaloedd oedd yn cael toriad gyntaf?

·         Yn sicr roedd lonydd cul angen sylw. Ei fod yn bwysig i fioamrywiaeth bod rhai mannau yn cael eu gadael. Dylai’r Cyngor dynnu lluniau pan fo blodau gwyllt yn eu hanterth a’u defnyddio i hyrwyddo.

·         Bod sbwriel yn dod i’r amlwg yn dilyn torri gwair a’r angen i gyd-gordio trefniadau. Wedi derbyn cwynion o ran drain yn crafu ceir ar lonydd cul a thractorau a ddefnyddir i dorri yn rhy lydan ac yn tynnu waliau i lawr. Dylid ystyried defnyddio peiriannau torri clawdd mewn rhai ardaloedd cul.

·         Bod agweddau yn newid o ran torri gwair gyda mwy o ystyriaeth i fioamrywiaeth. Yn gefnogol i beidio â thorri os oedd yn dderbyniol o safbwynt diogelwch.  

 

Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:

·         Bod symudiad i wneud toriad llawn yn hwyrach yn y flwyddyn. Angen adnabod ardaloedd penodol i hybu bioamrywiaeth gan gynnwys plannu. Edrychir ar y defnydd o chwistrellwr i ladd chwyn gan gynnwys rhoi mwy o bwyslais ar ddefnyddio ysgubwr yn lle.

·         Bod gwrychoedd yn cael eu torri i fyny i uchder o 1 medr, cyfrifoldeb y perchennog oedd y tyfiant uwchlaw hyn. Rhoddir ystyriaeth i ardaloedd penodol fel rhan o’r adolygiad.

·         Rhoddir sylw i sylwadau’r aelod. O ran casglu’r holl wair yn dilyn ei dorri, bod angen rhoi ystyriaeth i adnoddau a’r amser ynghlwm gan y byddai yn sicr yn golygu cost i’r Cyngor.

·         Diolch i’r Pwyllgor am y sylwadau, fe roddir sylw i’r materion a godwyd a dychwelir i’r Pwyllgor i adrodd ar yr hyn a gyflawnwyd. Nodwyd bod yr Adran yn ymdrin â gwaith Clwyf yr Onnen, a allai fod yn fater i’r Pwyllgor ei ystyried yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

 

Dogfennau ategol: