Agenda item

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

 

Cofnod:

Cydymdeimlwyd â theulu cyn-gadeirydd y Cyngor hwn, Evie Morgan Jones, a rhoddwyd teyrnged iddo gan y Cynghorydd Annwen Hughes.

 

Cydymdeimlwyd â’r canlynol hefyd:-

 

·         Y Cynghorydd Menna Baines a’r teulu ar golli tad Menna.

·         Y Cynghorydd Eirwyn Williams a’r teulu ar golli mam Eirwyn yn gant oed.

·         Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts a’r teulu ar golli mam Liz.

·         Teulu Aled Roberts, y Comisiynydd Iaith, a fu farw’n ddiweddar. 

 

Nodwyd hefyd bod y Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar.

 

Ymdawelodd y Cyngor fel arwydd o barch a choffadwriaeth.

 

Rhoddwyd datganiad gan yr Arweinydd ar ran y Cyngor ar y sefyllfa yn Wcráin.  Nododd:-

 

·         Y dymunai ddatgan cefnogaeth y Cyngor i bobl Wcráin a’u hawl sylfaenol i benderfynu eu tynged eu hunain, heb gael eu gormesu drwy drais gan wladwriaeth unbeniaethol.

·         Y byddai Cyngor Gwynedd yn barod i wneud ei ran i groesawu unrhyw ffoaduriaid a chynnig lloches iddynt yn ddiamod.

·         Ei fod yn flin nad yw Llywodraeth San Steffan yn derbyn ffoaduriaid yn ddiamod fel mae gwleydd eraill Ewrop wedi gwneud, a bod eu hagwedd yn ddidrugaredd a chreulon.

·         Iddo fod mewn cyfarfod y diwrnod cynt rhwng arweinyddion cynghorau Cymru a Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr o fudiadau gwirfoddol, a bod o gwaith o gydlynu a pharatoi yn mynd rhagddo.

·         Bod pobl Gwynedd yn awyddus i helpu ymhob ffordd bosib’, ac y byddai’r Cyngor yn gwneud ei orau i roi arweiniad a chymorth ble gallai. 

·         Y byddai cysylltiadau a argymhellir gan y Llywodraeth o ran cynorthwyo a gwneud cyfraniadau yn cael eu rhannu gyda’r aelodau maes o law.

 

Nododd yr Arweinydd ymhellach iddo dderbyn cwestiwn ynglŷn ag unrhyw gysylltiad masnachol gyda chwmnïau o Rwsia, ac yn benodol ynglŷn â buddsoddiadau Cronfa Bensiwn Gwynedd.  Eglurodd fod Cronfa Bensiwn Gwynedd yn buddsoddi trwy Bartneriaeth Pensiwn Cymru, a bod datganiad a baratowyd gan y bartneriaeth honno yn nodi:-

 

“Mae cyfanswm ein cysylltiad â Buddsoddiadau Rwsiaidd yn fach iawn ac yn llai nag 1%.  Er hynny, yng ngoleuni'r digwyddiadau ofnadwy yr ydym wedi'u gweld a'r sancsiynau economaidd a osodwyd yn rhyngwladol, rydym wedi penderfynu'n gyfunol y dylid dadfuddsoddi o'r daliannau hyn cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl.

 

O ystyried yr amgylchiadau, nid ydym yn credu bod ymwneud â'r cwmnïau hyn yn opsiwn posibl.”

 

Nododd yr Arweinydd ymhellach mai’r drasiedi fawr yn yr achos yma oedd bod perthynas agos a chyfeillgar yn bodoli rhwng pobl Wcráin a phobl Rwsia, a’i bod yn bwysig sylweddoli fod pobl Rwsia yn dioddef hefyd, ac nad eu rhyfel hwy oedd hwn.  Ychwanegodd yr edmygid dewrder y sawl sy’n barod i fynegi eu gwrthwynebiad i’r rhyfel yma yn wyneb erledigaeth lem, a mawr obeithid y byddai’r trafodaethau’n parhau, ac y deuai heddwch maes o law.

 

Nododd y Cadeirydd, ar drothwy etholiadau lleol 2022, bod 22 arweinydd cynghorau Cymru wedi cymeradwyo datganiad ynglŷn â chynnal yr ymgyrch etholiadol, oedd yn galw ar bleidiau ac ymgeiswyr i ymrwymo i ymgyrchu mewn modd sydd yn deg a pharchus.  Eglurwyd bod yr adroddiad “Addewid Ymgyrch Deg” i’w weld ar fewnrwyd yr Aelodau, ac y byddai pob aelod yn derbyn linc iddo.

 

Nododd y Cadeirydd, gan mai hwn oedd y cyfarfod olaf o’r Cyngor llawn cyn yr etholiadau, yr hoffai ddymuno’n dda i bawb o’r aelodau fyddai’n sefyll etholiad, a hefyd i’r aelodau hynny oedd wedi penderfynu peidio sefyll etholiad, gan ddiolch i bawb am eu cydweithrediad dros y 5 mlynedd ddiwethaf.  Nododd hefyd, fel un na fyddai’n ail-sefyll, ei bod yn dristwch ganddo fod y cyfarfod olaf hwn o’r Cyngor yn digwydd yn rhithiol, gydag aelodau’n methu ffarwelio â chyfeillion roeddent wedi cydweithio â hwy dros y blynyddoedd, a mynegodd ei obaith y byddai’r Siambr yn llawn unwaith eto yn dilyn yr etholiad ym mis Mai.