Agenda item

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad.

 

Cofnod:

 

(Dosbarthwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

(1)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Aeron Maldwyn Jones

 

“Pa bryd mae’r Cyngor hwn yn rhagweld fydd staff yn ôl wrth eu desgiau?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, y Cynghorydd Nia Jeffreys

 

“Diolch i holl staff y Cyngor am eu gwaith yn ystod yr argyfwng.  Mae’r cwestiwn yn gofyn pryd fydd y staff yn ôl wrth eu desgiau.  Wrth gwrs, mae holl staff y Cyngor wedi parhau i weithio er lles pobl Gwynedd, er bod y ddesg weithiau mewn atig neu ar y bwrdd gegin.  Mae’r ffordd mae’r staff wedi addasu ar fyr rybudd wedi bod yn anhygoel, ac rydw i’n hynod o ddiolchgar iddyn nhw.  Mae yna lawer o waith wedi mynd i mewn i hyn, ac rydw i wedi cael y cyfle i adrodd i’r Cabinet, ac mae adroddiad wedi mynd i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu, ond rydw i’n falch heddiw o’r cyfle i ail-adrodd i’r Cyngor llawn. 

 

Mae yna gryn dipyn o sôn a sylw wedi’i roi i “fyd gwaith y dyfodol” ar lefel Cymru gyfan dros y flwyddyn ddiwethaf gyda Llywodraeth Cymru yn datgan nod o alluogi 30% o weithlu’r wlad i fedru gweithio yn agos at, neu o’u cartrefi.

 

Nid yw Cyngor Gwynedd yn wahanol i nifer o sefydliadau eraill yn ei gynllunio ar gyfer hyn.  Mae yna “Grŵp Swyddfeydd” wedi’i sefydlu ers yn gynnar yn 2021, sy’n cydlynu’r gwaith paratoi yn lleol, gyda’r Prif Weithredwr, y Cyfarwyddwr, y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol a swyddogion adnoddau dynol, iechyd a diogelwch, technoleg gwybodaeth ac eiddo yn rhan o’r Grŵp hwnnw.

 

Mae’r weledigaeth ar gyfer gweithio i’r dyfodol o fewn y Cyngor wedi’i chymeradwyo gan y Cabinet ym mis Chwefror a bu i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu graffu’r cynnwys cyn hynny.  Mae’r weledigaeth honno yn ffrwyth llafur y Grŵp Swyddfeydd, ond hefyd yn seiliedig ar ymgynghoriad efo gwahanol garfannau o staff y Cyngor yn ogystal â chynrychiolwyr yr undebau llafur yn lleol.

 

Nôd y weledigaeth yw bod y Cyngor yn darparu’r gwasanaethau gorau bosib’ ar gyfer pobl Gwynedd, tra hefyd yn arddangos y Cyngor fel lle da i weithio, a thrwy hynny gadw a denu staff o safon.

 

Gyda’r datganiadau mwyaf diweddar gan Lywodraeth Cymru, a’r tebygolrwydd o lacio pellach ar y cyfyngiadau yn y dyfodol agos, mae’r amser i weithredu’r weledigaeth yn prysur agosáu ac mae’r Prif Weithredwr wedi rhannu amlinelliad o gynllun gweithredu efo staff, sef cynllun sy’n edrych i gael ei weithredu yn raddol, mewn tri cham, dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf, sef:-

 

·               Caniatáu i’r holl weithwyr hynny sydd yn gorfod, neu’n dymuno, gweithio yn eu canolfannau gwaith gydol yr amser, wneud hynny oddi ar y 7fed o Fawrth,

·               Cadarnhau trefniadau ar gyfer y gweithwyr hynny fydd yn gweithio o adra yn bennaf gyda golwg i gwblhau'r cam yma cyn gwyliau’r Pasg.

·               Cytuno’n derfynol efo pob unigolyn, sydd wedi nodi dymuniad i weithio’n rhannol o adra ac yn rhannol o’r swyddfa, ar y trefniadau gwaith ar gyfer y naill leoliad a’r llall.  Mae hyn yn debygol o fod yn gam gaiff ei gyflwyno dros gyfnod o amser gan gychwyn yn ffurfiol ar ôl y Pasg eleni.”

 

(2)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Kevin Morris Jones

 

“Pâr: Gwesty Dolbadarn, Llanberis

 

Hoffwn wybod beth yw bwriad y Cyngor i ddelio gyda’r problemau sydd yn bodoli gyda newid defnydd yr adeilad yma.  Mae’r cyn gwesty poblogaidd erbyn hyn ym mherchnogaeth dyn busnes o Firmingham (mae ganddo safle tebyg ym Mhwllheli).  Mae’r gwesty yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pobl sy’n ddigartref.  Er bod trigolion Llanberis yn falch o helpu ei gilydd a phobl o’r ardal o’u cwmpas, mae’n amlwg bod y safle yma - Dolbadarn - yn cael ei ddefnyddio i gartrefu pobl sydd â nifer fawr o broblemau yn eu bywydau ac mae hyn yn creu mwy o broblemau ym mhentref Llanberis.  Yn anffodus mae’r digwyddiadau o ymddygiad gwrth cymdeithasol oddi fewn i’r gwesty a thu allan wedi golygu bod rhaid cael presenoldeb yr heddlu a’r gwasanaeth ambiwlans yno yn aml.

 

Rwyf fi a thrigolion yr ardal yn deall bod rhaid cael safleoedd o’r math yn ein cymdeithas, ond mae’r safle hon yn rhy fawr i fod yng nghanol pentref bach fel Llanberis.  Mae’r safle yn creu mwy o broblemau ac yn amharu yn negyddol ar bentref sydd yn dibynnu ar dwristiaeth bron trwy’r flwyddyn.

 

Rwyf wedi cysylltu â swyddogion y Cyngor ar y mater yma yn y gorffennol ond nid wyf wedi derbyn ymateb clir ac sy’n dderbyniol i bobl Llanberis.”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Tai, y Cynghorydd Craig ab Iago

 

“Rydym ni i gyd yn gwybod am yr argyfwng tai rydym ni’n wynebu ar hyn o bryd, ac mae digartrefedd yn elfen fawr iawn o’r broblem yna.  Mae llai o dai ar gael i ni weithredu yn sydyn i gartrefu pawb.  Cyn Covid, roeddem ni fel Adran wedi cyflwyno Cynllun Digartrefedd, sy’n rhan o’n Cynllun Gweithredu Tai, ac yn hynny o beth, roeddem ni’n mynd i ddelio hefo’r sefyllfa fel ag yr oedd ar y pryd, a gwneud yn siŵr bod y cynllun yn dilyn y drefn, neu’r egwyddor, o gartrefu ein pobl ni yn eu cymunedau.  Roedd yr hyn oedd yn digwydd gyda digartrefedd ar y pryd yn ad hoc, ac yn fy marn i, yn anaddas, a heb gefnogaeth ddigonol, ond dyna roedd y Cynllun Digartrefedd ei hun yn ei wneud - roedd yn dod â threfn i bob dim, ac yn gwneud yn siŵr bod yna ddigon o ddiogelwch a chefnogaeth, a gwneud yn siŵr ein bod ni’n cefnogi’r bobl yna.

 

Yn anffodus, fe ddaru Covid gicio i mewn, ac mae hynny wedi gwneud y sefyllfa yma hyd yn oed yn waeth, yn llawer iawn gwaeth nag yr oedd.  Ar hyn o bryd, rydym ni’n sôn am dros 700 o bobl sydd wedi’u cofrestru’n ddigartref yn y sir, a llawer mwy sydd ddim wedi cofrestru oherwydd eu bod yn rhy falch i wneud hynny.  O’r bobl yna, mae 270 mewn gwely a brecwast a gwestai, fel yr un yn Llanberis, sydd ddim yn ddelfrydol o gwbl, i ni nac i’r trigolion na’r bobl sy’n ddigartref, ond fel Cyngor mae gennym ddyletswydd eang i edrych ar eu holau yn gyfreithiol ac yn foesol yn fy marn.  Ond yr hyn sy’n bwysig ydi bod ni’n gwneud yn siŵr, lle bynnag rydym ni’n cartrefu pobl, bod y sefyllfa yn ddiogel, ac nad yw bywydau trigolion yn yr ardal yn gwaethygu oherwydd presenoldeb y bobl yna.

 

Gan hynny, cefais sioc o weld y cwestiwn yma.  Rydym ni’n herio perfformiad yn y maes yma yn fisol, felly buaswn wedi disgwyl clywed am hyn cyn rŵan.   Felly gofynnais i’r Adran edrych i mewn i hyn, a gwneud yn siŵr nad ydym wedi methu rhywbeth.  Hoffwn ddweud hyn yn glir, rhag ofn bod yna drigolion yn gwylio, ac rydw i eisiau gwneud yn siŵr bod yr aelodau yn deall y sefyllfa yn y gwesty yna.  Ym mis Mawrth, bu i ni gychwyn defnyddio'r gwesty i gartrefu pobl ddigartref.  Nid ydym ni’n sôn o gwbl am y troseddwyr rhyw mae pobl yn sôn amdanynt, na’r pedoffilyddion mae pobl yn sôn amdanynt, na phobl sydd wedi gadael carchar.  Nid ydym ni’n sôn am y bobl yna o gwbl.  Rydym ni’n sôn am bobl rydym ni’n eu hadnabod - pobl sydd efallai wedi colli eu swyddi neu eu tai, ac sydd angen help, neu sydd wedi gwahanu oddi wrth eu partner.

 

Ym mis Mehefin y llynedd, clywsom gan yr aelod bod yna faterion yn codi, ac nad oedd y gymuned yn hapus gyda’r hyn oedd yn digwydd yna.  Felly, aeth yr Adran ati ar unwaith i sicrhau bod 2 warchodydd diogelwch yn aros yn y gwesty dros nos rhwng 5yp a 6yb bob dydd, ac mae hynny wedi bod yn digwydd ers mis Mehefin er mwyn sicrhau nad oes yna unrhyw faterion yn codi o gwbl.  Mae pobl yn gallu rhoi gwybod i’r Adran os oes problemau’n codi, ac nid ydym wedi cael unrhyw broblemau ers hynny.  Mae’r Heddlu wedi mynd allan unwaith a’r Gwasanaeth Ambiwlans 2 waith.  Yn y 2 achos pan fu’n rhaid galw ambiwlans, roedd trigolion wedi anafu neu’n gorfod mynd i ysbyty.  Nid oedd a wnelo hynny â’u hymddygiad o gwbl.  Hefyd, roedd yr Heddlu wedi gorfod mynd yna un waith oherwydd bod yna brotestwyr y tu allan i’r adeilad yn creu helynt ac yn sôn am droseddwyr rhyw, ond wrth gwrs, nid oedd yna droseddwyr rhyw yn y lle o gwbl.  Mae yna gefnogaeth ddwys i’r bobl sydd yna.  Rydym ni’n sôn am westy 35 ystafell, ac ar hyn o bryd, rydym ni’n defnyddio 15 ohonyn nhw.  Mae 7 o’r preswylwyr yn ferched, a neb yn droseddwr rhyw nac wedi gadael carchar, a dim pedoffilyddion o gwbl.

 

Mae yna elfen arall yma - ydym ni’n cyfathrebu’n ddigon da hefo’r gymuned, hefo’r aelod?  Mae’n rhywbeth sy’n cael ei godi’n aml iawn y dyddiau yma, y dyddiau Cofid, sef nad yw swyddogion y Cyngor yn ymateb yn ddigon sydyn i’r aelodau.  Mae’n hynod bwysig eu bod nhw’n gwneud hynny oherwydd ni sy’n gweithredu fel y bont rhwng y gymuned a’r Cyngor, ac angen gwybod bod y trefniadau yn ddigon da i dawelu unrhyw faterion all godi.  Rydw i wedi gofyn i’r Adran edrych i mewn i’r cyfathrebu gyda’r aelod,  ac mae’n edrych i mi fel ein bod yn ymateb yn syth.  Rydym ni’n ymateb i’r problemau yn ysgrifenedig, ac os oes yna unrhyw broblemau’n codi, rydym ni’n ymateb.  Mae’r rhan fwyaf o’r ymatebion rydw i wedi gweld ar ddu a gwyn gan yr aelod yn diolch yn fawr iawn i’r swyddogion am eu hymateb sydyn, felly rydw i’n hapus gyda’r hyn mae’r Cyngor yn ei wneud i helpu ein pobl ni ac i reoli’r sefyllfaoedd.  Rydw i’n hapus gyda’r hyn mae’r Adran yn ei wneud o ran cyfathrebu yn ddigon da hefo aelodau.

 

Wrth gwrs, yr hyn sy’n bwysig ydi - rydym ni’n sôn am broblem sy’n fy nychryn yn fawr iawn, ac mae’n gwbl anfoesol bod hyn yn digwydd yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar hugain.  Nid y Cyngor sy’n achosi’r digartrefedd o gwbl.  Y cwbl rydym ni’n wneud ydi ceisio rheoli’r sefyllfa, sef sefyllfa sy’n gwaethygu’n ddyddiol.  Os ydym ni eisiau pwyntio bys at unrhyw un, dylem bwyntio bys at y bobl yn San Steffan sy’n ein cosbi am nad ydym yn gyfoethog.  Maen nhw’n dweud nad oes yna “magic money tree” i helpu ein pobl ni, ond wrth gwrs mae yna “magic money tree” pan mae’n dod i roi grantiau i’w mêts aeth i’r un ysgolion â hwy.  Bu iddynt ddileu £9bn yn ddiweddar fel ‘twyll’ ar ran eu mêts hwy, ac mae’n bwysig cofio o ble mae’r broblem yn deillio, ac nid yw’n deillio o’r Cyngor.  Rydw i eisiau i chi i gyd deimlo fel rydw i’n teimlo.  Fel aelodau, rydym ni wedi sefyll oherwydd ein bod ni’n dymuno edrych ar ôl ac amddiffyn ein pobl - nid oherwydd yr arian.  Rydym ni’n gwneud y gwaith oherwydd ein dymuniad i helpu ein pobl ni, ac rydw i eisiau gwneud yn siŵr eich bod chi’n teimlo fel mae’r Adran Tai a’r Uned Ddigartrefedd yn teimlo, achos rydym ni yma i edrych ar ôl ein pobl.  Os ydi’r aelod yn cael unrhyw broblemau pellach, ac yn teimlo’n anhapus gyda’r ffordd mae’r Adran yn delio ag unrhyw beth, gofynnaf iddo gysylltu â mi yn uniongyrchol.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Kevin Morris Jones

 

“Ydi Cyngor Gwynedd wedi bod yn rhoi cyn-garcharorion yn y gwesty yma dros dro?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Tai, y Cynghorydd Craig ab Iago

 

“Na, nac unrhyw bedoffilyddion na throseddwyr rhyw chwaith, ac nid ydym yn rhoi pobl sy’n gallu bod yn beryglus yng nghanol cymunedau.  Rydym ni’n sôn am ein pobl ni, pobl Gwynedd, pobl sydd wedi digwydd taro ar gyfnod anodd yn eu bywydau, ac sydd angen cymorth.  Dyma pam rydym ni yma, i helpu pobl Gwynedd i fyw yn eu cymunedau.”

 

(3)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Annwen Hughes

 

“A fyddai’n bosib’ i’r Arweinydd roi diweddariad i ni ar gynllun Ffordd Osgoi Llanbedr?”

 

Ateb gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

“Fel y gŵyr pawb ohonoch, mae hwn yn fater sy’n agos iawn at galon yr aelod, ond yn agos iawn at fy nghalon innau hefyd.  Fe gofiwch fod cynllun ffordd sylweddol yn ardal Llanbedr wedi’i wrth-droi gan Lywodraeth Cymru Mis Tachwedd y llynedd, o ganlyniad i adolygiad ffyrdd annibynnol, oedd yn awgrymu nifer o wendidau amgylcheddol ac economaidd yn y cynllun.  Roedd dwy elfen i’r cynllun ffordd:-

 

·               Ffordd osgoi i bentref Llanbedr, sydd yn gul iawn ei natur, gyda phont gul iawn yn y pentref, ac yn dioddef tagfeydd sylweddol iawn yn rheolaidd.

·               Gwella mynediad i safle Canolfan Awyrofod Eryri sydd yn angenrheidiol i wireddu potensial llawn y safle, ac i greu swyddi o ansawdd yn y maes gofod ac awyrennau arloesol.

 

Fe wrthwynebodd Cyngor Gwynedd benderfyniad panel yr adolygiad ffyrdd yn frwd, gan fanylu ar restr hir o ddiffygion oddi fewn i’w hadroddiad terfynol.  Fe yrrwyd llythyrau i weinidogion, gan gynnwys y Prif Weinidog, a chynhaliwyd cyfarfodydd gyda swyddogion Llywodraeth Cymru yn y maes trafnidiaeth a’r economi, a hefyd fe fynychais i ddau gyfarfod cyhoeddus ym mhentref Llanbedr.  Yn anffodus rydym bellach mewn sefyllfa lle, er na all Llywodraeth Cymru egluro’r diffygion yng ngwaith y panel adolygu, nid ydynt chwaith yn barod i ail-edrych ar y gwaith.  Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â chefnogi’r cynllun ffordd yn debygol o sefyll, ac mae hynny’n dristwch ac yn gam ar bobl Llanbedr yn wir.

 

Rhaid cofio fod y cynllun yn parhau i fod gyda chaniatâd cynllunio, ond fod penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â’i gefnogi’n ariannol wedi arwain at golli'r holl gyllid gweddilliol oedd ei angen i’w weithredu, ac mae hynny’n cynnwys £7.5m o gronfeydd Ewrop, ac mae'r rheini wedi’u colli’n llwyr i Gymru gyfan - maen nhw wedi mynd.  Roedd hyn oherwydd tynnu nôl ar addewidion blaenorol o arian trafnidiaeth ac arian economaidd (oherwydd statws Ardal Fenter y Ganolfan Awyrofod).

 

Wrth symud ymlaen, byddwn yn cydweithio gyda Llywodraeth Cymru i edrych sut bydd modd gwella’r fynedfa i’r Maes Awyr, ac maen nhw’n hynod o awyddus i wneud hynny. Mae’r Safle yn allweddol yn y Strategaeth Ofod sydd newydd gael ei chyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.  Mae’n amlwg, felly, eu bod yn parhau i gefnogi datblygiad y Safle, ac mae gwella’r mynediad yn greiddiol i weithrediad llwyddiannus nifer o argymhellion yr adroddiad.  Fel rhan o’r gwaith o ail-edrych ar wella’r ffordd mynediad, rydym yn bwriadu sicrhau fod pob modd o drafnidiaeth yn cael ei ystyried, fel bod modd gwella’r cysylltiadau cerdded a beicio i’r dyfodol.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Annwen Hughes

 

“Yn dilyn y newyddion bod yna gynllun newydd i lansio sector ofod, a fydd yna gynlluniau eraill yn cael eu rhoi ar y gweill i wella’r mynediad i’r maes awyr yn Llanbedr?”

 

Ateb gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

“Mae’n galondid bod Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi ei Strategaeth Ofod sy’n rhoi pwys mawr ar bosibiliadau yn Llanbedr, ac mae’r posibiliadau hynny yn bwysig iawn i ni, nid yn unig yn Llanbedr ei hun, ond ym Meirionnydd, ac ymhellach.  Mae yna gyfleoedd am swyddi o safon uchel yn fan hyn.  Mae’n rhyfedd, achos mae un gweinidog wedi gwrthod y cynllun.  Mae’r Panel Annibynnol, gyda llaw, wedi honni nad yw’r safle yma a’r math yma o ddatblygiad yn addas ar gyfer ardaloedd gwledig, ac rydw i wedi tynnu sylw sawl gwaith at y bygythiad sydd yna i ddatblygiadau economaidd mewn ardaloedd gwledig, lle rydym ni wirioneddol angen y gwaith.  Mae hwn yn rhoi rhywfaint o gysur i mi, ac yn rhoi rhywfaint o obaith i ni a dweud y gwir.  Mae llaw chwith y Llywodraeth yn gwrthod; mae’r llaw dde eisiau gwneud rhywbeth, ac mi fyddaf, yn fuan iawn, yn trefnu cyfarfod gyda Gweinidog yr Economi a’i dîm, mae’n debyg, i drafod sut mae o’n bwriadu bwrw ymlaen â’i gynlluniau heb unrhyw fath o gynllun ffordd.  Yn y cyfamser, mae ein swyddogion ni yn cydweithio gyda swyddogion Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen gydag astudiaethau angenrheidiol i weld oes yna unrhyw fath o ddatrysiad gwahanol i’w gael i’r ffordd yma.  Rydych chi a fi yn adnabod yr ardal yn dda iawn, ac rydym ni’n gwybod nad oes dewis arall heblaw’r cynllun yma.  Ond dyna fo - yn anffodus, bydd rhaid i ni fwrw ymlaen i gydweithio a gweld lle wnawn ni gyrraedd.  Ond byddaf yn cael trafodaethau pellach gyda gweinidogion yn y cyfamser.  Mae’n siomedig hefyd nad ydynt wedi gallu ateb ein cwestiynau, oedd yn gwestiynau penodol, ond rydym ni wedi cael cyfarfod hefo swyddogion, ac yn anffodus, dim ond siarad y gwasanaeth sifil rydym ni’n ei gael - atebion sydd ddim yn atebion mewn difri’.”

 

(4)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Sion Jones

 

“Fe ddaru Llywodraeth Cymru roi £550,000 i Gyngor Gwynedd llynedd i ddatblygu llwybr beicio o Fethel i Gaernarfon.  Mae Rhan 1 o'r llwybr hwn wedi’i gwblhau yn ddiweddar o Fethel i Dyddyn Hen, gyda diolch i'r Adran Drafnidiaeth am sicrhau gwaith o ansawdd uchel.  Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi arian pellach o £200,000 er mwyn cynllunio a datblygu'r 'Ail Ran' o'r llwybr, o Dyddyn Hen, Bethel i Gaernarfon.  A ydi’r Aelod Cabinet yn gallu rhoi sicrwydd i mi fod hwn yn flaenoriaeth gan yr Adran Drafnidiaeth i gwblhau'r cynllun hwn o fewn o flwyddyn nesaf?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Amgylchedd, y Cynghorydd Gareth Griffith

 

“Mae’r Adran wedi paratoi ateb cynhwysfawr i’r cwestiwn.  Mae o wedi llithro rhywfaint fel mae’r aelod yn ymwybodol, ac rwy’n gwybod hefyd bod yr aelod wedi bod mewn cyswllt hefo’r Adran.  Mae yna broses hefo prynu tir, ac ati, sy’n cymryd amser.  Mae hynny wedi llithro rhywfaint, ond mae’r ateb heddiw hefyd yn sôn am gynlluniau eraill sydd gan yr Adran ar gyfer llwybrau tebyg ar hyd y sir.  Er ei fod wedi llithro rhywfaint, rydym ni’n gobeithio y bydd yn cael ei gwblhau o fewn y cyfnod mae’r aelod yn sôn amdano.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Sion Jones

 

“Oes angen swyddog penodol i ddelio gyda theithio llesol yng Ngwynedd?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Amgylchedd, y Cynghorydd Gareth Griffiths

 

“Mae hwn yn disgyn o fewn gwahanol adrannau, nid Amgylchedd yn unig.  Mae’n bwynt da, ac yn rhywbeth sy’n codi’n aml.  Efallai bod yna alw am rywbeth o’r fath, ac mi wnâi godi hyn hefo’r Adran.”

 

(5)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Judith Humphreys

 

“Fel rhan o waith ac ymdrechion y Cyngor hwn i sicrhau cyfartaledd merched a dynion a’r ymrwymiad i weithio tuag at daclo trais yn erbyn merched, a fyddai’r Cyngor yn ystyried cymryd camau tuag at ennill achrediad Rhuban Gwyn? Byddai hyn yn ddatganiad clir o ymrwymiad y Cyngor.”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, y Cynghorydd Nia Jeffreys

 

“Diolch i’r aelod am ei gwaith yn hyrwyddo’r cynllun “Rhuban Gwyn” ac am bopeth mae’n wneud i hyrwyddo hawliau merched ar bob cyfle.  Mudiad elusennol ydi “Rhuban Gwyn”, sydd yn ymgyrchu i ddod a thrais gan ddynion yn erbyn merched i ben.  Ei nôd yw i bob dyn gyflawni’r addewid Rhuban Gwyn, sef i beidio bod yn dreisgar yn erbyn merched ac i beidio esgusodi nac ychwaith i gadw’n ddistaw am drais yn erbyn merched.

 

Mae’r elusen yn ceisio bod yn gatalyst, trwy annog pobl, yn benodol bechgyn a dynion, i newid ymddygiad ple bo angen gyda’r pwyslais ar gymryd camau rhagweithiol a hyrwyddo cydraddoldeb a pharch.

 

Mae pob sefydliad yng ngwledydd Prydain yn gallu cael ei achredu gan “Rhuban Gwyn”. Yn ôl yr elusen, mae sicrhau’r achrediad yn helpu sefydliad i:-

 

·               Wneud gwahaniaeth yn eich cymunedau er mwyn dod a thrais yn erbyn merched i ben;

·               Cynyddu gwybodaeth a sgiliau staff i gyfarch trais yn erbyn merched;

·               Bod yn gyflogwr o ddewis

 

Mae’n bwysig nodi bod llawer o waith da eisoes yn cael ei gyflawni o fewn y Cyngor yn y cyd-destun yma gyda’r amodau gwaith ar gyfer staff yn cynnwys polisi trais yn y cartref (sydd yn nodi’r gefnogaeth sydd ar gael mewn sefyllfaoedd o’r math) tra bo swyddogion yn y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol o fewn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant yn gwneud llawer i godi ymwybyddiaeth a dwyn sylw i’r mater.

 

Mae swyddogion y Gwasanaeth Adnoddau Dynol eisoes wedi bod mewn cyswllt efo’r elusen i ddatgan diddordeb mewn cyflwyno cais am achrediad a hynny fel rhan o’r gwaith sydd wedi’i adnabod fel blaenoriaeth gorfforaethol yng Nghynllun y Cyngor, sef “Sicrhau Tegwch i Bawb”.

 

Y bwriad yw cyflwyno’r cais ffurfiol ar gyfer achrediad yn ystod yr wythnosau nesaf ac os y’i cymeradwyir, i weithio efo’r elusen i sefydlu cynllun gwaith ar sail pedwar maen prawf penodol sef;

 

·               Arweiniad strategol

·               Gweithio efo dynion a bechgyn

·               Newid Diwylliant

·               Codi Ymwybyddiaeth

 

Bydd sicrhau achrediad yn y lle cyntaf ac yna sefydlu cynllun gwaith penodol, mewn cydweithrediad a’r elusen, yn arddangos yn glir ac yn gryf ein hymrwymiad fel Cyngor i wneud gwahaniaeth yn ein hymdrechion i ddod a thrais yn erbyn merched i ben.”

 

(6)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Angela Russell

 

“Cyhoeddwyd Adroddiad Coleg Brenhinol y Llawfeddygon (Royal College of Surgeons) yn ddiweddar i wasanaethau VASCULAR Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

 

Mi gollwyd gwasanaeth vascular yn Ysbyty Gwynedd yn 2019 a symudwyd y cyfan i Ysbyty Glan Clwyd.  Collwyd gwasanaeth byd enwog am ei lwyddiannau yn Ysbyty Gwynedd a chollwyd hefyd llawfeddyg adnabyddus o lwyddiannus a phoblogaidd, sef Yr Athro Dean Williams.

 

Mae Adroddiad y Coleg Brenhinol yn rhoi stori ddychrynllyd am safon y gwasanaeth newydd yng Nglan Clwyd – mae’n adrodd am lefelau marwolaethau uchel (yr uchaf ym Mhrydain mewn sawl maes) a hefyd straeon am “amputations” di angen. Wrth ddarllen adroddiad y Coleg Brenhinol mae yn swnio fel gwasanaeth trydydd byd, nid gwasanaeth mewn un o wledydd cyfoethocaf y byd.

 

Rhwng 2019 pan ganolwyd y gwasanaeth yng Nglan Clwyd, a 2021, mi ysgrifennais gyfres o lythyrau, fel Arweinydd y Grŵp Annibynnol yng Ngwynedd, at Gadeirydd a Phrif Weithredwr y Bwrdd Iechyd yn datgan pryder.  Buom mewn cysylltiad hefyd efo’r Crwner ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ar fwy nag un achlysur, ac ysgrifennais sawl llythyr i’r Daily Post i dynnu sylw at y mater.

 

Mae wedi cymryd dros DAIR BLYNEDD i’r Bwrdd Iechyd gydnabod fod 'na wendidau enfawr yn y gwasanaeth a bod 'na gleifion wedi dioddef yn gwbl ddiangen. Erbyn hyn mae’r gwasanaeth mor ddychrynllyd nes y bydd Ysbyty Lerpwl yn goruchwylio gwaith y llawfeddygon.

 

Buddsoddwyd bron i £3m mewn theatr vascular newydd yng Nglan Clwyd a chyhoeddwyd fod gennym yng Ngogledd Cymru “state of the art theatre” .

 

Y gwir amdani yw nad yw teganau sgleiniog newydd ddim bob amser yn golygu y bydd gwasanaeth yn well.  POBL sydd yn gwneud gwasanaeth da, pobl fel yr Athro Dean Williams, oedd efo’r profiad, y sgiliau, a’r arbenigedd gyda chleifion.  Mae’r golled yn aruthrol ar ei ôl.

 

Ydi’r Cyngor yn cytuno y dylem ni gydweithio AR DRAWS PLEIDIAU GWLEIDYDDOL yn y Cyngor Sir yma er mwyn cefnogi a sicrhau gwasanaethau yn lleol yn Ysbyty Gwynedd?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant, y Cynghorydd Dafydd Meurig

 

“Wrth gwrs rydw i’n cytuno 100% hefo’r aelod.  Mae’r penderfyniad wnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ôl yn 2017, rwy’n meddwl, yn anfaddeuol.  Mae’r adroddiad rydym ni wedi dderbyn am y gwasanaeth yn Ysbyty Glan Clwyd yn ddamniol a dweud y lleiaf, ac rwy’n sicr yn fodlon iawn dal i weithio ar draws ffiniau gwleidyddol hefo’r aelod, ac eraill, i drio cael y maen yna i’r wal.  Mae yna lawer o bobl wedi bod yn gweithio yn ddygn iawn dros y blynyddoedd i drio tynnu sylw at hyn, ac rwyf yn bendant yn cytuno gyda’r aelod, ac yn barod i weithio.”

 

(7)     Cwestiwn gan y Cynghorydd John Brynmor Hughes

 

“A yw Arweinydd Plaid Cymru yn cytuno gyda chynghorydd sydd yn cynrychioli ardal wledig mai’r cwbl mae ffermwyr yn wneud ydi pesgi ar arian cyhoeddus trwy eu bywyd?”

 

Ateb gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

“Un cywiriad i’r cwestiwn i ddechrau rhag bod unrhyw gamargraff – nid ydw i yn Arweinydd Plaid Cymru – Arweinydd Cyngor Gwynedd ydw i, ac yn falch o hynny.  Mae’r cwestiwn yma yn agos iawn iawn at fy nghalon ac mae’r ateb yn syml.  Gallwn fod wedi ei ateb mewn un gair – Na.  Nid ydw i’n cytuno gyda’r datganiad yna os oes sail iddo.  Rwy’n credu mewn difri’ bod yr awgrym yn sarhad ar sector sydd ar hyn o bryd dan fygythiad ar draws Cymru gyfan.  Rydw i’n gwybod o brofiad personol o fod wedi gweithio yn y byd amaethyddol trwy fy oes.  Mae amaethwyr yn gwneud cyfraniad allweddol i warchod a chynnal ein hamgylchedd, economi, diwylliant ac iaith ein cymunedau. Mae’r cyfraniad yma yn amhrisiadwy, ac yn cyfiawnhau gwerth buddsoddiad cyhoeddus.  Ond mae’r newidiadau sydd yn wynebu’r sector a’r economi wledig yn sylweddol, a rhaid i ni fod yn effro i’r risgiau all drawsnewid gwead ein cymunedau gwledig.

 

Nid yw Llywodraeth y DG yn darparu’r holl arian sydd yn ddyledus i ariannu'r taliadau uniongyrchol i ffermwyr na’r cynlluniau datblygu gwledig yn dilyn gadael yr UE.  Mae diffyg o £137 miliwn yn y flwyddyn ariannol bresennol o’r hyn sydd yn dod gan Lywodraeth y DG i Lywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi amaeth a datblygu gwledig.  Mae hyn yn creu pryder gan nad yw’n ymddangos y bydd Cynllun Datblygu Gwledig newydd Llywodraeth Cymru i’r dyfodol yn ariannu'r math o weithgaredd i gefnogi’r economi leol welwyd dan y Cynllun Datblygu Gwledig Cymru o fewn yr UE, a bydd yn canolbwyntio o hyn allan ar gefnogi cynlluniau amgylcheddol.  Mae pryder hefyd bydd y cynllun newydd sydd yn cael ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru - Cynllun Ffermio Cynaliadwy - sydd yn cymryd lle’r Cynllun Tâl Sylfaenol o 2024/25 ymlaen, yn canolbwyntio gormod ar gefnogi ffermwyr i fod yn rhan o gynlluniau amgylcheddol a phlannu coed, yn hytrach na chynhyrchu bwyd.  Gallwn weld sefyllfa o dan y polisi yma lle na fydd yn hyfyw i ffermwyr barhau i amaethu a bydd ein ffermydd yn cael eu prynu, fel y gwelwn yn barod, gan sefydliadau o du allan i Gymru fel buddsoddiad, a gall yr effaith ar ein cymunedau gwledig fod yn bellgyrhaeddol iawn.  Mae’n allweddol fod ein polisïau i’r dyfodol yn ein galluogi i ymateb i’r bygythiad yn gadarnhaol.”

 

(8)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Elwyn Jones

 

     (Gofynnwyd y cwestiwn gan y Cadeirydd yn absenoldeb y Cynghorydd Elwyn Jones)

 

“Bu llawer o ymgyrchu dros y blynyddoedd, yn enwedig yn Ne'r Sir i ddiddymu codi tâl ar Ddisgyblion/Myfyrwyr dros 16 i fynychu Coleg neu ysgol.  Ar gyfer cyllideb 2022-23 mae £260K wedi ei ddynodi ar gyfer gwneud hynny.  Ar gychwyn 2021 hysbysebwyd am fidiau gan Wynedd am gontractau bysus ysgolion Arfon yn MYNNU fod rhaid cael bysus cymwys PSVA (Public Service Vehicle Access Regulation).

 

Un o’r rhesymau dros hynny oedd bod yna yn Arfon ddisgyblion Blwyddyn 12 a 13 yn talu am eu cludo i Ysgolion – h.y. yn talu am deithio (paying passengers) ac felly fel gwasanaeth bws.

 

Oherwydd prinder bysus o’r math roedd Adran Trafnidiaeth Llundain wedi gohirio dod â’r ddeddf i rym dwy neu dair gwaith - ac fel hyn mae ar hyn o bryd.

 

Serch hynny ‘roedd Adran Trafnidiaeth Gwynedd yn mynnu (a gwn bod cwmni lleol wedi gorfod gwario yn sylweddol iawn i newid 5 bws).  Oherwydd y gwariant sylweddol roedd cynnydd wrth gwrs ym mhrisiau cytundebau = costau uwch i Wynedd.  Felly am 5 mlynedd, roedd Gwynedd yn ceisio cyfiawnhau'r mynnu drwy ddweud mai ar gyfer yr anabl oedd yr angen.

 

Cytunaf gant y cant, wrth gwrs bod rhaid cael cydraddoldeb, ond faint o’r disgyblion yma oedd yn dymuno teithio ar fws ysgol, tra’r oedd trefniant tacsi neu deulu yn bodoli.

 

Gai ofyn felly beth oedd y cynnydd yn y gost contractau bysus ysgolion Arfon o fynnu bod y bysus yn cydymffurfio a rheoliadau PSVAR o’i gymharu â’r hen gytundebau?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Amgylchedd, y Cynghorydd Gareth Griffith

 

“Mae’r aelod wedi cysylltu â’r Adran ynglŷn â hyn cyn heddiw, ac wedi cael ateb.  Rydw i wedi siarad hefo un o’i etholwyr sydd wedi cael ei effeithio gan hyn.  Y sefyllfa ydi bod Llywodraeth San Steffan wedi dod â set o reolau i mewn, sy’n cynnwys y math o fysus sy’n rhaid i ni eu cael ym Mhrydain, ac yn dilyn hynny, mae’r Awdurdod yma wedi gorfod gofyn i gwmnïau dendro, ac i’r cwmnïau yna fod hefo’r bysus priodol.  Rydw i’n gwybod bod hyn wedi bod yn ddrud i gwmnïau lleol, ond nid oes gennym ni ddewis yn y mater.  Mae Llywodraeth San Steffan wedi gohirio’r penderfyniad i gychwyn gweithredu’r rheolau amryw o weithiau, er rydw i ar ddeall mai mis Mehefin yma mae’n cychwyn.  Rydw i’n deall pryderon yr aelod, ac rydw i wedi siarad hefo o leiaf 2 gwmni lleol am y trafferthion roedden nhw wedi cael, ond mae gwraidd y peth wedi bod yn Llywodraeth San Steffan yn y dechrau felly.”

 

(9)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Gwynfor Owen

 

“Mae goryrru yn boendod i lawer iawn o gymunedau, ac mae fy Ward innau, sef Harlech a Thalsarnau yn dioddef yn aruthrol o'r broblem.  Mae'r Cyngor wedi cynnal arolwg o'r sefyllfa yn Harlech ac yn Nhalsarnau.  Maent yn cydnabod bod problem yn bodoli a bod angen gwneud rhywbeth am y broblem, ond nid oes dim wedi ei wneud.  Gofynnaf felly beth mae'r Cyngor am ei wneud ynglŷn â'r broblem yma mewn cymunedau ble mae arolygon y Cyngor eu hunain yn profi bod problem yn bodoli?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Amgylchedd, y Cynghorydd Gareth Griffiths

 

“Mae’r Adran wedi gyrru ateb ysgrifenedig, ac fel mae hwnnw’n nodi, mae’r Adran yn ceisio gweithio hefo partneriaid i ddelio hefo problemau fel hyn, a hefyd wrthi’n rowlio allan dros y flwyddyn nesaf reolau y bydd Llywodraeth Cymru yn orfodi arnom hefo lonydd yn y sir, lle mae’r uchafswm cyflymder yn mynd i fod yn 20mya.  Mae yna dipyn o waith yn mynd i mewn hefo hynny, a dyna ydi’r sefyllfa ar hyn o bryd.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Gwynfor Owen

 

“Ar ôl llawer o swnian, cefais swyddog i gytuno i ymweld â’r safleoedd ym mis Medi a chafodd mesuryddion eu gosod gyda’r canlyniadau yn cael eu rhyddhau ym mis Hydref.  Eto, mewn cyfarfod gyda’r swyddog mis diwethaf, dywedwyd wrthyf fod y Cyngor yn ystyried ymgynghori â’r gymuned tua mis Mehefin.  Rydw i’n siŵr y byddai’r Aelod Cabinet yn cytuno hefo fi nad yw oedi fel hyn yn dderbyniol, ond beth all yr Adran ei wneud i gyflymu’r broses?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Amgylchedd, y Cynghorydd Gareth Griffiths

 

“O ran cyflymu’r broses, mae hynny’n anodd iawn.  Rydw i’n ymddiheuro eich bod wedi gorfod disgwyl gymaint o amser.  Mae’n siŵr bod y cynghorwyr eraill yn cofio yn eithaf diweddar i Dafydd Wyn Williams, Pennaeth yr Adran, ysgrifennu atom i gyd yn egluro’r problemau mae’r Adran wedi cael, ac yn trio datrys gwahanol bethau - problemau staff, problemau newid mewn staff, salwch hir dymor - mae o i gyd wedi effeithio ar yr Adran, ac adrannau eraill o’r Awdurdod hefyd.  Mae’r pandemig yn dal hefo ni, ac mae’r adrannau yn dal i drio delio hefo hynny, ond roedd Dafydd Wyn Williams wedi ysgrifennu at bawb yn ymddiheuro ac yn gofyn i bobl fod yn amyneddgar, ac fel rwy’n dweud, rwy’n siŵr ein bod ni i gyd fel cynghorwyr hefo’r un math o gwestiwn o ran goryrru yn ein wardiau ni.  Mae’r Adran yn trio delio hefo pawb ydi’r ateb gonest gwir, ac yn stryglo i fedru delio hefo bob dim.  Rydw i’n ymddiheuro am hynny, ond bydd yr Adran yn parhau i drio gweithio hefo pawb, a hefo cynghorwyr hefyd.”