Agenda item

Cyflwyno adroddiad Arweinydd y Cyngor.

Penderfyniad:

Mabwysiadu Cynllun Cyngor Gwynedd 2018-2023: Adolygiad 2022/23 er mwyn ei weithredu yn ystod 2022/23.

 

Cofnod:

Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, adroddiad yn gwahodd y Cyngor i fabwysiadu Cynllun Cyngor Gwynedd 2018-23: Adolygiad 2022/23 er mwyn ei weithredu yn ystod 2022/23.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes a’i dîm am eu gwaith arwrol wrth baratoi’r cynllun.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.  Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Croesawyd bwriad y Llywodraeth i ddarparu cinio am ddim i bob disgybl cynradd, ond holwyd a oedd yna gostau ychwanegol ynghlwm â hynny y byddai’n rhaid i’r Cyngor eu hysgwyddo.  Mewn ymateb, nodwyd nad oedd y cynllun mor syml ag yr oedd yn ymddangos, ond hyd yma, bod yna ymrwymiad ariannol gan Lywodraeth Cymru i gyfarch y gost ychwanegol.  Roedd trafodaethau’n digwydd rhwng pob cyngor a’r Llywodraeth er mwyn sefydlu faint yn union fyddai’r costau hynny.  Eglurwyd bod y gost o ddarparu, neu dalu, am y cinio yn un elfen, a bod y gost o ddarparu adeiladau, gofod o fewn yr adeiladau hynny a gwasanaethau cefnogol, ayb, yn elfen ychwanegol nad oedd, o bosib’, wedi’i llawn gostio ar hyn o bryd.  Byddai mwy o wybodaeth yn cael ei rhannu gyda’r aelodau wrth i’r manylder ddatblygu, ond roedd y swyddogion yn eithaf ffyddiog ynglŷn â’r sefyllfa ar hyn o bryd.  Nododd yr Arweinydd y byddai yntau’n pwyso’n arw ar y Llywodraeth i ariannu hyn yn llawn.  Mewn ymateb i gwestiwn pellach ynglŷn ag effaith y cynllun ar gyllidebau ysgolion, nodwyd bod pawb yn sylweddoli bod y cynllun yn cael effaith sylweddol ar rai ysgolion, yn enwedig ysgolion mawr, ond cadarnhawyd bod hyn yn rhan o’r trafodaethau gyda’r Llywodraeth.

·         Mynegwyd pryder ynglŷn â’r cyfeiriad dan Flaenoriaeth Gwella 6 at roi blaenoriaeth i ardal Dolgellau a Meirionnydd yn ehangach wrth adnabod cyfleon am ddarpariaethau gofal, a phwysleisiwyd y dylai’r flaenoriaeth uchaf gael ei rhoi i ddarparu cartref gofal nyrsio ar safle Penrhos, gan nad oedd yna unrhyw welyau nyrsio ar ôl ym Mhen Llŷn bellach.  Mewn ymateb, pwysleisiwyd nad oedd cystadleuaeth rhwng Meirionnydd a Phen Llŷn.  Roedd yna gyfle gwych ym Mhenrhos i greu adnodd arbennig iawn fyddai’n cyfuno’r holl wasanaethau gofal a nyrsio ar un safle, a chadarnhawyd y byddai’r Cyngor yn parhau i bwyso a chydweithio gyda’r Gwasanaeth Iechyd a’r gymdeithas dai i wireddu’r uchelgais yma.

·         Gan gyfeirio at y bid (dan eitem 9 ar y rhaglen) i ddileu’r ffi o £300 am docyn teithio ôl-16, nodwyd bod rhieni yn Nwyfor a Meirionnydd (yn enwedig yn yr ardaloedd gwledig) fu’n talu’r ffi yma dros y 10 mlynedd diwethaf wedi dioddef anghysondeb ac annhegwch enbyd, ac awgrymwyd bod y Cyngor wedi darganfod yr arian ychwanegol fel abwyd i rieni yn Arfon anfon eu plant i’r colegau.  Mewn ymateb, nodwyd petai’r Cyngor yn cymeradwyo’r bid, y byddai diddymu’r tâl yn cynorthwyo teuluoedd mewn cyfnod lle mae costau byw’n cynyddu’n sylweddol, ac hefyd yn gwella mynediad pobl ifanc i gyrsiau a gwell llwybrau gyrfaoedd.  Eglurwyd hefyd y gwnaethpwyd y penderfyniad i godi ffi am docyn teithio ôl-16 flynyddoedd maith yn ôl gan gyngor gwahanol i’r Cyngor hwn, a hynny dan amodau ariannol gwahanol.  Yn ffodus iawn eleni, cafwyd setliad oedd yn galluogi’r Cyngor i ystyried opsiynau gwahanol i’r hyn fu’n bosib’ yn ystod y cyfnod o doriadau, ac un o’r opsiynau hynny oedd peidio codi ffi am docyn teithio ôl-16.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu Cynllun Cyngor Gwynedd 2018-2023: Adolygiad 2022/23 er mwyn ei weithredu yn ystod 2022/23.

 

 

Dogfennau ategol: