Agenda item

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid.

Penderfyniad:

 

1.  Cymeradwyo’r argymhellion a gyflwynwyd gan y Cabinet, sef:-

(a)  Sefydlu cyllideb o £295,232,820 ar gyfer 2022/23 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £213,210,400 a £82,022,420 o incwm o’r Dreth Cyngor gyda chynnydd o 2.95%.

(b)  Sefydlu rhaglen gyfalaf o £59,074,980 yn 2022/23 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad.

 

2.  Nodi fod yr Aelod Cabinet dros Gyllid, drwy daflen benderfyniad dyddiedig 9 Tachwedd 2021, wedi cymeradwyo cyfrifiad y symiau a ganlyn ar gyfer y flwyddyn 2022/23 yn unol â’r rheoliadau a luniwyd dan Adran 33 (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Y Ddeddf”):-

 

(a) 53,715.10 yw’r swm a gyfrifwyd fel Sylfaen drethiannol Gwynedd yn unol â’r Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Cyngor) (Cymru) 1995 fel y’i diwygiwyd fel ei sylfaen Dreth Cyngor am y flwyddyn.

 

(b) Rhan o ardal y Cyngor – Sylfaen drethiannol Cymuned

 

Aberdaron

     571.25

 

Llanddeiniolen

  1,840.10

Aberdyfi

   1,095.65

Llandderfel

     501.76

Abergwyngregyn

     124.71

Llanegryn

     164.55

Abermaw (Barmouth)

   1,210.43

Llanelltyd

     308.89

Arthog

     654.41

Llanengan

  2,289.52

Y Bala

     781.39

Llanfair

     335.58

Bangor

   3,974.34

Llanfihangel y Pennant

     232.58

Beddgelert

     323.40

Llanfrothen

     233.04

Betws Garmon

     138.27

Llangelynnin

     433.07

Bethesda

   1,701.20

Llangywer

     145.28

Bontnewydd

     436.43

Llanllechid

     348.06

Botwnnog

     460.05

Llanllyfni

  1,425.75

Brithdir a Llanfachreth

     457.62

Llannor

     906.33

Bryncrug

     340.19

Llanrug

  1,137.62

Buan

     227.96

Llanuwchllyn

     316.77

Caernarfon

   3,640.35

Llanwnda

     807.58

Clynnog Fawr

     470.35

Llanycil

     205.27

Corris

     305.84

Llanystumdwy

     885.48

Criccieth

     972.85

Maentwrog

     303.24

Dolbenmaen

     624.58

Mawddwy

     362.81

Dolgellau

   1,275.63

Nefyn

  1,535.07

Dyffryn Ardudwy

     817.14

Pennal

     231.82

Y Felinheli

   1,165.68

Penrhyndeudraeth

     792.98

Ffestiniog

   1,786.14

Pentir

  1,272.62

Y Ganllwyd

       88.69

Pistyll

     264.01

Harlech

     821.55

Porthmadog

  2,160.67

Llanaelhaearn

     466.26

Pwllheli

  1,779.02

Llanbedr

     351.64

Talsarnau

     343.74

Llanbedrog

     780.02

Trawsfynydd

     506.49

Llanberis

     788.78

Tudweiliog

     478.76

Llandwrog

   1,051.46

Tywyn

  1,691.37

Llandygai

   1,001.64

 

Waunfawr

     569.37

 

 

sef y symiau a gyfrifwyd fel symiau Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i ardal lle bo un eitem arbennig neu fwy’n berthnasol.

 

3. Bod y symiau a ganlyn yn cael eu cyfrifo yn awr gan y Cyngor ar gyfer y flwyddyn 2022/23 yn unol ag Adrannau 32 i 36 o’r Ddeddf:-

                       

(a)   

£443,927,600

Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran 32(2)(a) i (e) o’r Ddeddf (gwariant gros).

 

(b)   

£146,536,120

Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran 32(3)(a) i (c) o’r Ddeddf (incwm).

 

(c)   

£297,391,480

Sef y swm sy’n cyfateb i’r gwahaniaeth rhwng cyfanswm 3(a) uchod a chyfanswm 3(b) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol ag Adran 32(4) o’r Ddeddf, fel ei ofynion cyllideb ar gyfer y flwyddyn (cyllideb net).

 

(ch)

£212,714,737

Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn amcangyfrif y byddant yn daladwy yn ystod y flwyddyn i’w gronfa ar gyfer cyfan o’r Dreth Annomestig Genedlaethol a Grant Cynnal Refeniw, llai amcangyfrif o’r gost i’r Cyngor o ryddhad dewisol o’r dreth annomestig a ganiateir.

 

(d)   

£1,576.40

Sef y swm yn 3(c) uchod llai’r swm yn 3(ch) uchod, y cyfan wedi ei rannu gan y swm a nodir yn 2(a) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor yn unol ag Adran 33(1) o’r Ddeddf, sef swm sylfaenol ei Dreth Cyngor am y flwyddyn (treth Cyngor Gwynedd a threth cyfartalog cynghorau cymuned).

 

(dd)

£2,654,323.06

Sef cyfanswm yr holl eitemau arbennig y cyfeirir atynt yn Adran 34(1) o’r Ddeddf (praeseptau’r cynghorau cymuned).

 

(e)   

£1,526.99

Sef y swm yn 3(d) uchod llai’r canlyniad a geir wrth rannu’r swm yn 3(dd) uchod â’r swm yn 2(a) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol ag Adran 34(2) fel  swm sylfaenol ei Dreth Cyngor am y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i ardal lle nad oes unrhyw eitem arbennig yn berthnasol (Band D ar gyfer treth Cyngor Gwynedd yn unig).

 

(f) Ar gyfer rhannau o ardal y Cyngor –

 

Aberdaron

    1,553.25

 

Llanddeiniolen

    1,544.27

Aberdyfi

    1,562.10

Llandderfel

    1,544.93

Abergwyngregyn

    1,559.06

Llanegryn

    1,563.45

Abermaw (Barmouth)

    1,579.04

Llanelltyd

    1,551.27

Arthog

    1,546.86

Llanengan

    1,551.01

Y Bala

    1,561.54

Llanfair

    1,574.67

Bangor

    1,627.98

Llanfihangel y Pennant

    1,576.54

Beddgelert

    1,579.56

Llanfrothen

    1,566.90

Betws Garmon

    1,545.79

Llangelynnin

    1,550.70

Bethesda

    1,601.16

Llangywer

    1,556.24

Bontnewydd

    1,569.38

Llanllechid

    1,572.27

Botwnnog

    1,541.12

Llanllyfni

    1,562.06

Brithdir a Llanfachreth

    1,553.21

Llannor

    1,549.06

Bryncrug

    1,565.45

Llanrug

    1,594.68

Buan

    1,543.44

Llanuwchllyn

    1,571.19

Caernarfon

    1,586.51

Llanwnda

    1,563.27

Clynnog Fawr

    1,569.51

Llanycil

    1,548.91

Corris

    1,557.50

Llanystumdwy

    1,547.72

Criccieth

    1,578.39

Maentwrog

    1,546.94

Dolbenmaen

    1,555.81

Mawddwy

    1,556.48

Dolgellau

    1,587.35

Nefyn

    1,578.78

Dyffryn Ardudwy

    1,588.18

Pennal

    1,562.79

Y Felinheli

    1,566.45

Penrhyndeudraeth

    1,579.32

Ffestiniog

    1,655.76

Pentir

    1,570.21

Y Ganllwyd

    1,560.82

Pistyll

    1,572.44

Harlech

    1,612.19

Porthmadog

    1,555.95

Llanaelhaearn

    1,580.61

Pwllheli

    1,577.58

Llanbedr

    1,569.65

Talsarnau

    1,590.99

Llanbedrog

    1,557.76

Trawsfynydd

    1,566.48

Llanberis

    1,570.09

Tudweiliog

    1,541.61

Llandwrog

    1,593.56

Tywyn

    1,580.40

Llandygai

    1,555.31

 

Waunfawr

    1,548.07

 

sef y symiau a geir trwy ychwanegu symiau’r eitem neu eitemau arbennig sy’n berthnasol i dai annedd yn y rhannau hynny o ardal y Cyngor y cyfeiriwyd atynt uchod, at y swm a geir yn 3(e) uchod wedi’u rhannu ym mhob achos gan y swm yn 2(b) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor yn unol ag Adran 34(3) o’r Ddeddf, fel symiau sylfaenol ei Dreth Gyngor am y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i ardal lle bo un eitem arbennig neu fwy’n berthnasol.

 

(ff) Ar gyfer rhannau o ardal y Cyngor, y ffigyrau a nodir yn Atodiad 1 (gweler Atodiad 1 i Atodiad 11 i Eitem 9 ar raglen y Cyngor), sef y symiau a geir trwy luosi’r symiau yn 3(f) uchod â’r rhif sydd yn ôl y cyfrannau a nodir yn Adran 5 (1) o’r Ddeddf, yn berthnasol i dai annedd a restrir mewn band prisio arbennig wedi’i rannu â’r rhif sydd yn ôl y cyfrannau hynny’n berthnasol i dai a restrir ym mand prisio D, a gyfrifir gan y Cyngor, yn unol ag Adran 36(1) o’r Ddeddf, yn symiau sydd i’w hystyried ar gyfer y flwyddyn ar gyfer y categorïau o dai annedd a restrir yn y gwahanol fandiau prisio.

 

4.  Nodi ar gyfer y flwyddyn 2022/23 fod Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wedi nodi’r symiau a ganlyn mewn praesept a roddwyd i’r Cyngor, yn unol ag Adran 40 o’r Ddeddf ar gyfer pob un o’r categorïau o dai annedd a ddangosir isod:

 

 

Band A

Band B

Band C

Band D

Band E

Band F

Band G

Band H

Band  I

 

211.20

246.40

281.60

316.80

387.20

457.60

528.00

633.60

739.20

 

Wedi pennu’r cyfanswm ym mhob achos o’r symiau 3(ff) a 4 uchod, bod y Cyngor, yn unol ag Adran 30(2) o’r Ddeddf trwy hyn, yn pennu’r symiau a nodir yn Atodiad 2 (gweler Atodiad 2 i Atodiad 11 i Eitem 9 ar raglen y Cyngor) ar gyfer y Dreth Gyngor yn y flwyddyn 2022/23 ar gyfer pob categori o dai annedd a ddangosir yn yr Atodiad

Cofnod:

Nododd y Cadeirydd, yn unol â’r Cyfansoddiad, bod rhaid i’r Pennaeth Cyllid dderbyn rhybudd o unrhyw welliant i’r gyllideb yn ysgrifenedig ymlaen llaw, a bod rhaid i’r gwelliant hwnnw arwain at gyllideb hafal, os am gael ei drafod.  Roedd holl aelodau’r Cyngor wedi’u hatgoffa o hynny yr wythnos cynt, a gan na dderbyniodd y Pennaeth Cyllid unrhyw rhybudd o welliant erbyn yr amser cau dynodedig, ni fyddai modd i’r Cyngor ystyried unrhyw welliant i’r gyllideb.

 

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas:-

 

·         Adroddiad yn argymell cyllideb i’r Cyngor ei chymeradwyo ar gyfer 2022/23;

·         Penderfyniad drafft y Dreth Cyngor yn seiliedig ar argymhelliad y Cabinet i’r Cyngor (ar sail cynnydd o 2.95%) ynghyd â thablau yn dangos lefel y Dreth Cyngor a’r cynnydd fesul cymuned.

 

Atgoffodd y Pennaeth Cyllid yr aelodau o rai o’r prif risgiau yn Atodiad 10 i’r adroddiad, a chadarnhaodd, wedi ystyried yr holl risgiau a’r camau lliniaru, ei fod o’r farn bod Cyllideb y Cyngor am 2022/23 yn gadarn, yn ddigonol, ac yn gyraeddadwy.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.

 

Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Holwyd faint yn llai fyddai’r cynnydd yn y Dreth Gyngor wedi bod pe na fyddai’r Cyngor wedi caniatáu 1 Mawrth fel diwrnod ychwanegol o wyliau i’r staff.  Mewn ymateb, eglurwyd bod y gwariant ar ganiatáu gwyliau ar Ddydd Gŵyl Dewi yn wariant o’r flwyddyn ariannol gyfredol, ac fel yr eglurwyd wrth y Cabinet a’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu, roedd wedi’i ariannu o danwariant mewn cyllidebau penodol corfforaethol.  Eglurwyd mai bid untro oedd yr uchafswm o £200,000 a neilltuwyd ar gyfer hynny, gan na wnaed penderfyniad i ariannu gŵyl banc ar 1 Mawrth yn flynyddol.  Gan hynny, ni fyddai wedi cael effaith o gwbl ar y gyllideb oedd gerbron y Cyngor.

·         Nodwyd y gallai’r Cyngor fod wedi trosglwyddo cost y diwrnod ychwanegol o wyliau staff i’r flwyddyn ariannol nesaf er mwyn lleihau’r cynnydd yn y dreth, a holwyd faint fyddai £200,000 fel canran o’r dreth.  Mewn ymateb, eglurwyd, yn fras, bod cynnydd (neu ostyngiad) o 1% yn y Dreth Gyngor yn gyfystyr â tua £800,000, felly byddai £200,000 tua 0.25%.

·         Nodwyd bod pobl Gwynedd yn flin bod y Cyngor wedi caniatáu diwrnod ychwanegol o wyliau i’r staff, a bod amseriad hyn wedi bod yn warthus.

·         Nodwyd, er y croesawid y ffaith bod arian ar gael i’w wario ar wahanol fidiau eleni, ei bod yn siom o’r mwyaf na chafodd y cynghorwyr cyffredin gyfle i bwyso a mesur y bidiau hynny mewn gweithdai tebyg i’r gweithdai toriadau yn y gorffennol, oherwydd y gallai mewnbwn yr aelodau fod wedi arwain at sefyllfa lle na fyddai’r Cyngor yn edrych ar bleidleisio ar gynnydd treth o 2.95%.  Mewn ymateb, nodwyd bod pob aelod o’r Cyngor wedi cael cyfle i ddod i’r seminarau ar y gyllideb, lle rhannwyd gwybodaeth am y bidiau.

·         Dadleuwyd na fu cyfle i edrych yn iawn ar y bidiau yn y seminarau, ond yn hytrach bod yr aelodau wedi’u tywys drwy’r ffigurau.

·         Nodwyd, er y croesawid cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd taliad cymorth costau byw o £150 yn cael ei roi i bob aelwyd sy’n byw mewn eiddo yn y bandiau Treth Cyngor A-D, bod hynny’n amlygu nad yw’r system bresennol yn gweithio.  Croesawid hefyd gyhoeddiad y Llywodraeth a Phlaid Cymru bod newid am fod yn y maes yma, a phwysleisiwyd y dylai hynny ddigwydd cyn gynted â phosib’.

·         Awgrymwyd y dylid edrych ar ganiatáu mwy na 25% o ostyngiad Treth Cyngor i bersonau sengl gan ei bod yn llawer mwy anodd talu biliau pan fo un cyflog yn unig yn dod i’r tŷ.

·         Nodwyd y byddai nyrsus, sydd wedi gweithio mor galed drwy gydol y pandemig, ond yn cael 2% o godiad cyflog eleni, tra bo cynghorwyr yn cael 16%, sy’n mynd i gostio tua £160,000 yn fwy i’r Cyngor.  Mewn ymateb, eglurwyd mai Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, ac nid y Cyngor, sy’n gyfrifol am bennu’r lwfansau sy’n daladwy i aelodau etholedig.

·         Holwyd a fyddai’n bosib’ defnyddio reserfau’r Cyngor am un flwyddyn er mwyn oedi cynyddu’r Dreth Gyngor.  Mewn ymateb, eglurwyd bod £7m o falansau cyffredinol wedi’u rhoi o’r neilltu a chronfeydd eraill wedi’u creu at bwrpasau penodol.  O ran y cronfeydd a roddwyd o’r neilltu, roedd £72m allan o’r £79m yna am resymau penodol ar gyfer y dyfodol.  Eglurwyd nad oedd defnyddio ein cronfeydd i beidio cynyddu’r Dreth Gyngor yn ateb parhaol, a phe byddai’r Cyngor yn dechrau defnyddio reserfau wrth gefn i lenwi bylchau, byddai’r bwlch yna trwy’r amser. 

·         Holwyd a fyddai’n bosib’ i ni fyw ar beth sydd gennym am flwyddyn, a gweld sut fydd pethau o’r flwyddyn nesaf ymlaen.  Mewn ymateb, nodwyd bod y Cyngor wedi cael setliad eithaf da eleni, ond y bydd setliad y flwyddyn nesaf a’r flwyddyn ganlynol yn anodd iawn.

 

Gwrthwynebwyd y cynnig i godi’r Dreth Cyngor 2.95% gan aelodau ar y sail:-

 

·         Bod y Cyngor wedi codi’r dreth 40% dros y 10 mlynedd ddiwethaf, ond yn cynnig llai o wasanaethau na 10 mlynedd yn ôl.

·         Bod y sefyllfa yn argyfyngus yng Ngwynedd, gyda chostau ynni, tanwydd a bwyd yn cynyddu fwy nag erioed, a niferoedd cynyddol yn dibynnu ar fanciau bwyd.

·         Bod ffermwyr a busnesau cefn gwlad yn gweithio mor galed, ond yn cael dim cymorth o unman.

·         Ein bod yn byw mewn tŵr ifori yng Nghyngor Gwynedd, ac efallai nad ydym yn llwyr werthfawrogi amgylchiadau pobl yn y sir.

·         Y byddem wedi gobeithio y byddai cynnydd o tua 1% wedi bod yn ddigon eleni i gynnal y gwasanaethau gyda’r arian wrth gefn sydd gennym, er mwyn cyfleu’r neges ein bod yn poeni am sefyllfa ein trigolion.

·         Nad dyma’r amser iawn i gynyddu’r dreth, yn enwedig gan fod pobl wedi bod trwy galedi’r pandemig, a byddai hyn yn creu mwy o straen a phoen meddwl i deuluoedd sy’n gweithio’n galed.

 

Cefnogwyd y cynnig gan aelodau eraill ar y sail:-

 

·         Bod pawb wedi cael siawns i gyflwyno cynnig gwahanol ar gyllideb gytbwys, ond nad oedd neb wedi cynnig dim byd arall, nac wedi awgrymu lle y dylai’r Cyngor dorri er mwyn peidio codi’r dreth.

·         Oni dderbynnid y cynnig, byddai’n rhaid torri mwy ar y gwasanaethau hanfodol i bobl bregus Gwynedd.

·         Mai’r unig opsiwn oedd derbyn y gyllideb fel y mae fel bod pobl Gwynedd yn cael y gwasanaeth gorau y gellir ei gynnig iddynt o dan yr amgylchiadau.

·         Nad system Cyngor Gwynedd oedd y system Dreth Gyngor, a bod pawb o’r aelodau yma i wella bywydau pobl y sir.

·         Bod angen pwyntio bys at Lywodraeth San Steffan a galw am annibyniaeth i Gymru fel ein bod yn gallu rhedeg ein cyllideb ein hunain yn ein gwlad ein hunain.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd y Swyddog Monitro nad oedd modd gwahanu’r argymhelliad ar sefydlu cyllideb oddi wrth yr argymhelliad ar sefydlu rhaglen gyfalaf.  Eglurodd, petai’r naill argymhelliad yn disgyn, y byddai’r llall yn disgyn hefyd, gan fod y ddau fater yn cydblethu â’i gilydd.

 

I gloi, nododd yr Aelod Cabinet:-

 

·         Er y cafwyd setliad gwell na’r disgwyl eleni, y daeth cydnabyddiaeth o’r seminarau a’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu bod gwasanaethau wedi bod dan bwysau, a dyna’r prif reswm pam na ellid argymell cynnydd llai yn y Dreth Gyngor.

·         Ei fod yn poeni am amgylchiadau trigolion y sir a phwysleisiodd y dylai unrhyw un sy’n cael trafferth talu’r dreth gysylltu â’r Adran Gyllid.

 

Galwyd am bleidlais gofrestredig ar y cynnig.

 

Nododd y Cynghorydd Stephen Churchman ei fod newydd ddychwelyd i’r cyfarfod ar ôl bod allan am bron i awr, a gofynnodd a oedd ganddo hawl i bleidleisio.  Mewn ymateb, eglurodd y Swyddog Monitro fod ganddo hawl i bleidleisio, cyn belled â’i fod yn hyderus ei fod yn ymwybodol o gynnwys yr adroddiad, ayb.  Cadarnhaodd yr aelod ei fod wedi paratoi yn drylwyr cyn y cyfarfod.

 

Yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol ar y cynnig:-

 

O blaid (36) Y Cynghorwyr:- Craig ab Iago, Menna Baines, Beca Brown, Stephen Churchman, Steve Collings, Annwen Daniels, Elwyn Edwards, Aled Evans, Simon Glyn, Gareth Wyn Griffith, Selwyn Griffiths, Annwen Hughes, R.Medwyn Hughes, Judith Humphreys, Nia Jeffreys, Peredur Jenkins, Aled Wyn Jones, Berwyn Parry Jones, Elin Walker Jones, Gareth Tudor Morris Jones, Huw Wyn Jones, Cai Larsen, Dafydd Meurig, Dilwyn Morgan, Linda Morgan, Dafydd Owen, Edgar Wyn Owen, Gwynfor Owen, Dewi Wyn Roberts, Mair Rowlands, Paul Rowlinson, Dyfrig Siencyn, Gareth Thomas, Ioan Thomas, Cemlyn Williams a Gethin Glyn Williams.

 

Yn erbyn (30) – Y Cynghorwyr:- Dylan Bullard, R.Glyn Daniels, Anwen Davies, Dylan Fernley, Peter Antony Garlick, Alwyn Gruffydd, John Brynmor Hughes, Louise Hughes, Aeron M.Jones, Anne Lloyd Jones, Eric Merfyn Jones, Keith Jones, Kevin Morris Jones, Sion Wyn Jones, Eryl Jones-Williams, Beth Lawton, Dewi Owen, Jason Parry, Nigel Pickavance, Rheinallt Puw, Peter Read, Elfed P.Roberts, Gareth A.Roberts, John Pughe Roberts, Angela Russell, Mike Stevens, Hefin Underwood, Elfed Williams, Gruffydd Williams ac Owain Williams.

 

Atal (0)

 

Nododd y Cadeirydd fod y cynnig wedi cario.

 

PENDERFYNWYD

 

1.       Cymeradwyo’r argymhellion a gyflwynwyd gan y Cabinet, sef:-

(a)     Sefydlu cyllideb o £295,232,820 ar gyfer 2022/23 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £213,210,400 a £82,022,420 o incwm o’r Dreth Cyngor gyda chynnydd o 2.95%.

(b)     Sefydlu rhaglen gyfalaf o £59,074,980 yn 2022/23 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad.

 

2.         Nodi fod yr Aelod Cabinet dros Gyllid, drwy daflen benderfyniad dyddiedig 9 Tachwedd 2021, wedi cymeradwyo cyfrifiad y symiau a ganlyn ar gyfer y flwyddyn 2022/23 yn unol â’r rheoliadau a luniwyd dan Adran 33 (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Y Ddeddf”):-

 

(a) 53,715.10 yw’r swm a gyfrifwyd fel Sylfaen drethiannol Gwynedd yn unol â’r Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Cyngor) (Cymru) 1995 fel y’i diwygiwyd fel ei sylfaen Dreth Cyngor am y flwyddyn.

 

(b) Rhan o ardal y Cyngor – Sylfaen drethiannol Cymuned –

 

Aberdaron

     571.25

 

Llanddeiniolen

  1,840.10

Aberdyfi

   1,095.65

Llandderfel

     501.76

Abergwyngregyn

     124.71

Llanegryn

     164.55

Abermaw (Barmouth)

   1,210.43

Llanelltyd

     308.89

Arthog

     654.41

Llanengan

  2,289.52

Y Bala

     781.39

Llanfair

     335.58

Bangor

   3,974.34

Llanfihangel y Pennant

     232.58

Beddgelert

     323.40

Llanfrothen

     233.04

Betws Garmon

     138.27

Llangelynnin

     433.07

Bethesda

   1,701.20

Llangywer

     145.28

Bontnewydd

     436.43

Llanllechid

     348.06

Botwnnog

     460.05

Llanllyfni

  1,425.75

Brithdir a Llanfachreth

     457.62

Llannor

     906.33

Bryncrug

     340.19

Llanrug

  1,137.62

Buan

     227.96

Llanuwchllyn

     316.77

Caernarfon

   3,640.35

Llanwnda

     807.58

Clynnog Fawr

     470.35

Llanycil

     205.27

Corris

     305.84

Llanystumdwy

     885.48

Criccieth

     972.85

Maentwrog

     303.24

Dolbenmaen

     624.58

Mawddwy

     362.81

Dolgellau

   1,275.63

Nefyn

  1,535.07

Dyffryn Ardudwy

     817.14

Pennal

     231.82

Y Felinheli

   1,165.68

Penrhyndeudraeth

     792.98

Ffestiniog

   1,786.14

Pentir

  1,272.62

Y Ganllwyd

       88.69

Pistyll

     264.01

Harlech

     821.55

Porthmadog

  2,160.67

Llanaelhaearn

     466.26

Pwllheli

  1,779.02

Llanbedr

     351.64

Talsarnau

     343.74

Llanbedrog

     780.02

Trawsfynydd

     506.49

Llanberis

     788.78

Tudweiliog

     478.76

Llandwrog

   1,051.46

Tywyn

  1,691.37

Llandygai

   1,001.64

 

Waunfawr

     569.37

 

 

sef y symiau a gyfrifwyd fel symiau Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i ardal lle bo un eitem arbennig neu fwy’n berthnasol.

3.       Bod y symiau a ganlyn yn cael eu cyfrifo yn awr gan y Cyngor ar gyfer y flwyddyn 2022/23 yn unol ag Adrannau 32 i 36 o’r Ddeddf:-

                       

(a)   

£443,927,600

Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran 32(2)(a) i (e) o’r Ddeddf (gwariant gros).

 

(b)   

£146,536,120

Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran 32(3)(a) i (c) o’r Ddeddf (incwm).

 

(c)   

£297,391,480

Sef y swm sy’n cyfateb i’r gwahaniaeth rhwng cyfanswm 3(a) uchod a chyfanswm 3(b) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol ag Adran 32(4) o’r Ddeddf, fel ei ofynion cyllideb ar gyfer y flwyddyn (cyllideb net).

 

(ch)

£212,714,737

Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn amcangyfrif y byddant yn daladwy yn ystod y flwyddyn i’w gronfa ar gyfer cyfan o’r Dreth Annomestig Genedlaethol a Grant Cynnal Refeniw, llai amcangyfrif o’r gost i’r Cyngor o ryddhad dewisol o’r dreth annomestig a ganiateir.

 

(d)   

£1,576.40

Sef y swm yn 3(c) uchod llai’r swm yn 3(ch) uchod, y cyfan wedi ei rannu gan y swm a nodir yn 2(a) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor yn unol ag Adran 33(1) o’r Ddeddf, sef swm sylfaenol ei Dreth Cyngor am y flwyddyn (treth Cyngor Gwynedd a threth cyfartalog cynghorau cymuned).

 

(dd)

£2,654,323.06

Sef cyfanswm yr holl eitemau arbennig y cyfeirir atynt yn Adran 34(1) o’r Ddeddf (praeseptau’r cynghorau cymuned).

 

(e)   

£1,526.99

Sef y swm yn 3(d) uchod llai’r canlyniad a geir wrth rannu’r swm yn 3(dd) uchod â’r swm yn 2(a) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol ag Adran 34(2) fel  swm sylfaenol ei Dreth Cyngor am y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i ardal lle nad oes unrhyw eitem arbennig yn berthnasol (Band D ar gyfer treth Cyngor Gwynedd yn unig).

 

(f)        Ar gyfer rhannau o ardal y Cyngor –

 

Aberdaron

    1,553.25

 

Llanddeiniolen

    1,544.27

Aberdyfi

    1,562.10

Llandderfel

    1,544.93

Abergwyngregyn

    1,559.06

Llanegryn

    1,563.45

Abermaw (Barmouth)

    1,579.04

Llanelltyd

    1,551.27

Arthog

    1,546.86

Llanengan

    1,551.01

Y Bala

    1,561.54

Llanfair

    1,574.67

Bangor

    1,627.98

Llanfihangel y Pennant

    1,576.54

Beddgelert

    1,579.56

Llanfrothen

    1,566.90

Betws Garmon

    1,545.79

Llangelynnin

    1,550.70

Bethesda

    1,601.16

Llangywer

    1,556.24

Bontnewydd

    1,569.38

Llanllechid

    1,572.27

Botwnnog

    1,541.12

Llanllyfni

    1,562.06

Brithdir a Llanfachreth

    1,553.21

Llannor

    1,549.06

Bryncrug

    1,565.45

Llanrug

    1,594.68

Buan

    1,543.44

Llanuwchllyn

    1,571.19

Caernarfon

    1,586.51

Llanwnda

    1,563.27

Clynnog Fawr

    1,569.51

Llanycil

    1,548.91

Corris

    1,557.50

Llanystumdwy

    1,547.72

Criccieth

    1,578.39

Maentwrog

    1,546.94

Dolbenmaen

    1,555.81

Mawddwy

    1,556.48

Dolgellau

    1,587.35

Nefyn

    1,578.78

Dyffryn Ardudwy

    1,588.18

Pennal

    1,562.79

Y Felinheli

    1,566.45

Penrhyndeudraeth

    1,579.32

Ffestiniog

    1,655.76

Pentir

    1,570.21

Y Ganllwyd

    1,560.82

Pistyll

    1,572.44

Harlech

    1,612.19

Porthmadog

    1,555.95

Llanaelhaearn

    1,580.61

Pwllheli

    1,577.58

Llanbedr

    1,569.65

Talsarnau

    1,590.99

Llanbedrog

    1,557.76

Trawsfynydd

    1,566.48

Llanberis

    1,570.09

Tudweiliog

    1,541.61

Llandwrog

    1,593.56

Tywyn

    1,580.40

Llandygai

    1,555.31

 

Waunfawr

    1,548.07

 

sef y symiau a geir trwy ychwanegu symiau’r eitem neu eitemau arbennig sy’n berthnasol i dai annedd yn y rhannau hynny o ardal y Cyngor y cyfeiriwyd atynt uchod, at y swm a geir yn 3(e) uchod wedi’u rhannu ym mhob achos gan y swm yn 2(b) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor yn unol ag Adran 34(3) o’r Ddeddf, fel symiau sylfaenol ei Dreth Gyngor am y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i ardal lle bo un eitem arbennig neu fwy’n berthnasol.

 

(ff)      Ar gyfer rhannau o ardal y Cyngor, y ffigyrau a nodir yn Atodiad 1, sef y symiau a geir trwy luosi’r symiau yn 3(f) uchod â’r rhif sydd yn ôl y cyfrannau a nodir yn Adran 5 (1) o’r Ddeddf, yn berthnasol i dai annedd a restrir mewn band prisio arbennig wedi’i rannu â’r rhif sydd yn ôl y cyfrannau hynny’n berthnasol i dai a restrir ym mand prisio D, a gyfrifir gan y Cyngor, yn unol ag Adran 36(1) o’r Ddeddf, yn symiau sydd i’w hystyried ar gyfer y flwyddyn ar gyfer y categorïau o dai annedd a restrir yn y gwahanol fandiau prisio.

 

4.         Nodi ar gyfer y flwyddyn 2022/23 fod Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wedi nodi’r symiau a ganlyn mewn praesept a roddwyd i’r Cyngor, yn unol ag Adran 40 o’r Ddeddf ar gyfer pob un o’r categorïau o dai annedd a ddangosir isod:

 

 

Band A

Band B

Band C

Band D

Band E

Band F

Band G

Band H

Band  I

 

211.20

246.40

281.60

316.80

387.20

457.60

528.00

633.60

739.20

 

Wedi pennu’r cyfanswm ym mhob achos o’r symiau 3(ff) a 4 uchod, bod y Cyngor, yn unol ag Adran 30(2) o’r Ddeddf trwy hyn, yn pennu’r symiau a nodir yn Atodiad 2 ar gyfer y Dreth Gyngor yn y flwyddyn 2022/23 ar gyfer pob categori o dai annedd a ddangosir yn yr Atodiad.

 

Dogfennau ategol: