Cyflwyno
adroddiad yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant.
Penderfyniad:
Cymeradwyo Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru 2022.
Cofnod:
Ymhelaethodd y Rheolwr Tim Prosiectau Oedolion, Iechyd a Llesiant
ymhellach ar gynnwys yr adroddiad.
Holodd y Cynghorydd
Gwynfor Owen a ddylai ddatgan buddiant gan iddo wneud defnydd o Wasanaeth
Awtistiaeth Integredig Gogledd Cymru yn ddiweddar, a’i fod hefyd yn ymwneud â
materion eraill o fewn y maes. Mewn
ymateb, eglurodd y Swyddog Monitro fod yr aelod o fewn ei hawliau gan mai
adroddiad o asesiad cyffredinol ar gyfer Gogledd Cymru oedd dan sylw.
Rhoddwyd cyfle i’r
aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.
Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-
·
Nodwyd y deellid bod hon yn ddogfen fyw, a holwyd pa
mor sydyn y byddai’n gallu cael ei newid.
Mewn ymateb, eglurwyd bod y ddogfen gerbron yn fersiwn fyddai’n cael ei
chymeradwyo gan y Cyngor heddiw, gobeithio, a gan y Bwrdd Partneriaeth
Rhanbarthol ymhellach ymlaen yn y mis, cyn ei hanfon ymlaen at y Llywodraeth
a’i chyhoeddi. Roedd y swyddogion yn
gwneud gwaith mwy manwl ar fanylion ac anghenion Gwynedd, felly gellid addasu
unrhyw beth fel rhan o’r gwaith hwnnw.
Byddai’r ddogfen hefyd yn cael ei hadolygu ymhen 5 mlynedd, ond byddai’r
swyddogion yn gwneud gwaith yn ystod y cyfnod hwnnw hefyd. Nodwyd y byddai dogfen Gwynedd yn asesiad ar
wahân, nad oedd ynghlwm wrth unrhyw ddyddiad cyhoeddi statudol, a honno
fyddai’r gwir ddogfen fyw fyddai ar gael i’w haddasu ac ychwanegu ati o ddydd i
ddydd.
·
Mynegwyd pryder na chafodd yr aelodau ond 5 diwrnod
i ddarllen y ddogfen 450 tudalen yma, a holwyd sut bod modd iddynt graffu’r
mater a gofyn cwestiynau manwl.
Awgrymwyd hefyd, gan mai unwaith yn unig y gall aelodau siarad ar fater
yn y Cyngor llawn, bod materion pwysig yn cael eu gwthio drwodd heb
drafodaeth. Cwestiynwyd hefyd pa mor
werthfawr fyddai dogfen o’r maint yma i bobl Gwynedd. O ran y sylwadau ynglŷn â’r ddogfen
‘fyw’, nodwyd bod yr aelodau wedi clywed o’r blaen am bethau felly, ac wedi
darganfod yn nes ymlaen nad oedd modd newid y dogfennau hynny am
flynyddoedd. Pryderid hefyd y bydd y
Cyngor newydd yn cael clywed nad oes modd iddynt newid y ddogfen, gan fod y
Cyngor blaenorol wedi ei mabwysiadu, a galwyd ar yr Aelod Cabinet a’r
swyddogion i fod yn fwy ystyriol o hyn allan.
·
Nodwyd bod y Pwyllgor Craffu Gofal wedi craffu’r
mater hwn, ac wedi cefnogi a chydymdeimlo â’r swyddogion, oedd wedi gorfod
paratoi’r dogfennau mewn amser byr iawn.
I gloi, nododd yr Aelod
Cabinet:-
·
Bod y swyddogion wedi cyflawni gwaith arwrol o fewn
amserlen hynod o dynn, yn unol â gofynion y ddeddfwriaeth.
·
Y gofynnwyd i’r Llywodraeth ganiatáu ychydig mwy o
amser oherwydd y pandemig, ond na roddwyd y caniatâd hwnnw.
Nododd y Cadeirydd ei fod
yntau o’r farn ei bod yn amhosib’ i’r aelodau graffu adroddiad mor swmpus o
fewn 5 diwrnod, a gofynnodd i’r Aelod Cabinet gymryd y sylwadau i ystyriaeth
a’u pasio ymlaen.
PENDERFYNWYD cymeradwyo
Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru 2022.
Dogfennau ategol: