Cyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr Adran Addysg i
weithrediad y Polisi Iaith a Chynllun Hybu’r Gymraeg yng Ngwynedd
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet
Addysg, y Cynghorydd Cemlyn Williams yn manylu ar gyfraniad yr Adran Addysg i
weithrediad y Polisi Iaith a Chynllun Hybu’r Gymraeg yng Ngwynedd. Manteisiodd
ar y cyfle i amlygu rhai o uchafbwyntiau'r Adran Addysg ynghyd a rhai heriau
maent yn wynebu i’r dyfodol.
Tynnwyd sylw at ‘Cyfundrefn Addysg Drochi
tuag at 2032 a thu hwnt’ a'r buddsoddiad o £1.1 miliwn o arian cyfalaf addysg
Gymraeg Llywodraeth Cymru i sefydlu safleoedd addysg drochi o’r newydd yn Tywyn
a Bangor, ynghyd â gwella’r cyfleusterau presennol ym Mhorthmadog. Cyfeiriwyd
at y strategaeth ddysgu digidol arloesol ac uchelgeisiol sydd yn anelu i
ddarparu gliniaduron a/neu ddyfeisiadau digidol i holl ddisgyblion ac athrawon
y sir gan sicrhau mynediad didrafferth at waith yn yr ysgol ac yn y cartref.
Ategodd y Pennaeth Addysg mai’r gobaith yw ffurfweddu’r dyfeisiadau yn y
Gymraeg fyddai’n galluogi’r plant i gyfathrebu gyda’u teuluoedd a’u ffrindiau
yn y Gymraeg a’u hannog i ddefnyddio’r Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol.
Yng nghyd-destun rhai o’r heriau, amlygwyd
pryder bod safon yr iaith a sgiliau iaith cymdeithasol wedi dirywio mewn rhai
ardaloedd yn ystod y pandemig. Ystyriwyd hynny yn
anochel efallai, oherwydd bod llai o gyswllt rhwng disgyblion a’u hathrawon /cymorthyddion, er ymgais cyson gan ysgolion i gadw
cysylltiad gyda disgyblion i geisio adennill tir. Cyfeiriwyd at yr her o
recriwtio staff gyda chymwysterau addas i alluogi darparu gwasanaeth a/neu
ddysgu drwy’r Gymraeg, a hefyd at brinder therapyddion iaith a seicolegwyr
addysg sydd, er yn bryder cenedlaethol, i’w weld yn waeth yng Ngwynedd oherwydd
yr angen am wasanaeth dwyieithog. Ategwyd bod trafodaethau cyson gyda
Llywodraeth Cymru i geisio lliniaru’r broblem.
Diolchwyd am
yr adroddiad
Rhoddwyd cyfle
i aelodau’r pwyllgor holi cwestiynau a derbyniwyd ymatebion i‘r cwestiynnau hynny gan y Swyddogion
Addysg
A fyddai modd gweithredu yn rhyngweithiol
drwy geisio newid trywydd gyrfa staff dysgu, (drwy ariannu cynlluniau hyfforddi
perthnasol) i fod yn seicolegwyr addysg?
Yr Adran Addysg wedi bod yn rhyngweithiol yn
lleol mewn ymgais i recriwtio seicolegwyr addysg. Cynigion bwrsariaeth wedi bod
yn llwyddiannus. Cynnig arall yw ceisio ennyn diddordeb drwy ddarpariaeth ôl 16
gan dargedu agweddau o brentisiaethau yn y maes.
Cyfeiriwyd at
y ffaith bod canran defnydd o’r Gymraeg fel iaith gyntaf yn y cyfnod sylfaen
yng Ngwynedd yn uwch nag unrhyw sir arall yng Nghymru, ond bod cwymp i’w weld
ar ddiwedd bl 9. Holwyd a yw’r cwymp yn un
cyffredinol ar draws y Sir neu a yw’n benodol i rai lleoliadau yn unig?
Ymddengys pan fydd disgyblion yn dewis eu
pynciau TGAU a llwybr gyrfa ar ddiwedd Bl9 bod nifer helaeth yn dewis pynciau
drwy’r Saesneg. Er nad oedd tystiolaeth i roi sylwedd i’r farn, bod y sefyllfa
er hynny yn bodoli. Nodwyd bod ysgolion, gyda chefnogaeth yr Adran Addysg, yn
hyrwyddo’r Gymraeg ac yn annog disgyblion i barhau gydag addysg Gymraeg. Nodwyd
bod yr Adran Addysg yn cydweithio gyda Chanolfan Bedwyr ym Mangor i geisio
sicrhau bod hyfforddiant ac adnoddau digidol Cymraeg ar gael i hwyluso mynediad
i athrawon a disgyblion at bynciau CA4 a CA5. Trafodaethau hefyd yn cael eu
cynnal gyda’r Bwrdd Arholi
A yw plant yn cael eu hasesu fel plant iaith
gyntaf, ail iaith neu drwy gyfrwng eu haddysg? Pwy sydd yn dewis asesu plentyn
fel siaradwr iaith gyntaf ar ddiwedd bl 9? A’i dewis
yr ysgol yw hyn neu rieni?
Disgwyliad
yw bod disgyblion ar lefel 3 neu uwch erbyn diwedd cyfnod cynradd yn cael eu
hasesu fel disgybl iaith gyntaf ac yn cael eu holrhain a’u hasesu ar ddiwedd
cyfnod allweddol 3 yn yr un modd. Awgrymwyd bod y cwymp a nodwyd uchod efallai
yn seiliedig ar y modd y mae rhai ysgolion yn dehongli’r polisi iaith - ategwyd
bod y Llywodraeth wedi adolygu'r drefn dynodiad iaith o fewn ysgolion ac awgrymwyd
y byddai’r drefn newydd o ddynodi iaith efallai yn arwain at gynnydd yn y
ganran.
A fydd y canolfannau trochi iaith yn cynnig
hyblygrwydd? Beth fydd y balans o ddysgu byw a dysgu
ar lein? A fydd cyfleoedd ychwanegol ar gael ar-lein i ddisgyblion sgwrsio yn
anffurfiol o ystyried mai’r elfen lafar sydd wedi dioddef yn ystod y pandemig? Sut bydd hyn yn cael ei werthu i’r rhieni?
Bydd
y gwasanaeth a’r drefn newydd gyda’r fantais o allu cyrraedd at fwy o blant
mewn dulliau gwahanol drwy gyfuniad o sesiynau byw a sesiynau wyneb yn wyneb.
Bydd y gweithlu yn llawer mwy symudol a rhagwelir y gallu i dargedu plant gyda
gwahanol alluoedd gwybyddol a’u grwpio yn well o ran eu rhinweddau a chryfderau
staff. Y gyfundrefn hefyd yn edrych ar loywi iaith a gwella sgiliau penodol yn
hytrach na thargedu newydd-ddyfodiaid yn unig.
Yr Adran Addysg wedi bod yn llwyddiannus
iawn yn dwyn perswâd ar rieni drwy amlygu a phwysleisio manteision sgiliau
dwyieithog, hunaniaith, diwylliant, cyfleoedd a
manteision economaidd
Faint o athrawon Gwynedd sydd yn
ddi-gymraeg? A oes cyfle iddynt fynychu’r Canolfannau Iaith? A oes rhai pynciau
yn waeth na’i gilydd?
Yr Adran Addysg yn gweld amrywiaeth yng
ngallu athrawon o ddefnyddio’r Gymraeg ac yn cydweithio gyda Chanolfan Bedwyr a
GwE i ganfod cyrsiau hyfforddi athrawon newydd gydag
unedau dysgu Cymraeg i sicrhau hyder o’r dechrau
Bod y nifer o athrawon di-gymraeg sydd heb y
gallu i addysgu yn y Gymraeg, yn isel iawn. Ceir eraill sydd yn dysgu’r Iaith
ond nid oes hyder ganddynt i’w ddefnyddio yn gyhoeddus. Nodwyd bod yr Adran yn ymdrin ag anghenion
athrawon mewn rhai ysgolion penodol.
Adroddwyd bod cynnydd sylweddol i’w weld mewn athrawon yn dod ymlaen yn
wirfoddol i ofyn am gefnogaeth i wella sgiliau Cymraeg
Yn draddodiadol, gwelir diffyg yn y pynciau
gwyddonol a Mathemateg ond eto, yr Adran yn cydweithio gyda Phrifysgol Bangor i
geisio cynnwys yr agwedd yma fel rhan o’r cwrs
PENDERFYNWYD
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a
dderbyniwyd
Dogfennau ategol: