Cyflwynwyd dogfennau gan yr Ymgynghorydd Iaith ynghylch ymgynghoriad Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg Llywodraeth Cymru er gwybodaeth. Eglurwyd bod yr ymgynghoriad cynnig camau i geisio
mynd i’r afael â’r sefyllfa
dai presennol ac yn deillio o ganfyddiadau
adroddiad Simon Brookes yn
2021. Nodwyd bod cyfle i’r Pwyllgor roi
sylwadau fyddai’n cael eu hychwanegu
at ymateb yr Uned Iaith i’r Ymgynghoriad.
Amlygwyd pryderon,
- bod yr ymgynghoriad ar effaith y pandemig ar grwpiau cymunedol cyfrwng Cymraeg, y
cyfeiriri ato yn yr ymgynghoriad, wedi ei gynnal
yn ystod y pandemig, ac felly ystyriwyd
nad oedd gwir effeithiau wedi dod i’r
amlwg eto. Cynigwyd bod angen ymgynghoriad mwy diweddar i roi darlun cyflawn.
- bod llawer o bwysau ar fentrau cymunedol sydd yn ddibynnol ar wirfoddolwyr gan eu bod yn bwynt cyswllt
i nifer o bobl yn y gymuned.
Sylwadau yn
codi o’r drafodaeth ddilynol:
- Holwyd a oedd
data am oroesiad grwpiau
cymunedol/mentrau cymunedol yn ystod y cyfnod COVID. Nodwyd nad oedd cofnod penodol o ddata gan y tîm Iaith.
- Croesawyd yr ymgynghoriad, ond
mynegwyd pryder am y pwysau a disgwyliadau cynyddol sydd yn cael eu
rhoi ar fentrau cymdeithasol a bod angen cefnogaeth gydweithredol yn benodol i’r mentrau cymunedol llai sefydledig gan fod pryder
i’r rhain gael eu hanghofio.
- Pwysleisiwyd fod
angen gallu profi yr angen lleol, ac mai mentrau lleol sydd yn aml
yn gallu adnabod yr angen hwnw orau. Tynnwyd sylw at arferion da o ranberchnogaeth
yn ardal Llanuwchllyn a nodwyd bod angen cydweithio efo mentrau cymdeithasol i ganfod yr angen gwirioneddol am dai. Nodwyd yr angen i gael eglurhad pellach gan y Llywodraeth am eu bwriadau yng nghyd-destun y strategolaeht
i gyraedd miliwn o siaradwyr, a sut y maent yn bwriadu creu swyddiHolwyd ymhellach os oedd cynnal swyddi mewn cymunedau Cymraeg yn rhan o’r cynlluniau
hyn.
- Awgrymwyd hefyd
bod angen gallu gweithredu ar unwaith yn dilyn argymhellion yr ymgynghoriad hwn a’r ymgynghoriad diweddar ar faterion Cynllunio, yn hytrach na grofod aros tan cyhoeddi y CDLl nesaf.
- Mynegwyd pryder y gallai’r
Llywodraeth fod yn araf yn
prosesu'r polisïau ai drosi tŷ cyffredin i dŷ gwyliau a bod angen i hyn
gael ei ddatrys cyn gynted â phosibl
- Holwyd os oedd modd ychwanegu ymwybyddiaeth iaith mewn addysg yn rhan o’r
adran ‘cwestiwn cyfraniad cyffredinol’ gan fynegi fod hyn yn
ystyriaeth fawr o fewn y cymunedau Cymreig.
- Nodwyd y dylai’r
Comisiwn a’r Llywodraeth arwain drwy esiampl a chael gweddill yr awdurdodau yng Nghymru i gael y Gymraeg fel eu prif
iaith weinyddol fewnol.
- Nodwyd ei bod yn hollbwysig bod y sylfeini cywir yn cael
eu gosod ar gyfer y Gwaith peilot yn Llyn, ac y dylai pobl leol a chynghorwyr gyfranogi a bod yn rhan o’r broses er mwyn sicrhau
atebolwrwydd lleol, gan ei fod
yn hanfodol ccael y llais lleol er mwyn
cael gwir ddealltwriaeth o’r sefyllfa.
- Eglurwyd fod
angen sicrhau fod yr angen lleol yn cael
ei danlinellu yn y datblygiad o’r tai rhent sy’n cael eu datblygu. Nodwyd fod gorddatblygiad mewn ardaloedd heb yr angen yr un mor ddiffygiol i’r iaith a than-ddatblygiad
PENDERFYNWYD:
Derbyn yr adroddiad gan ofyn i’r Uned
Iaith ddefnyddio y sylwadau a dderbyniwyd gan yr Aelodau wrth lunio ymateb i’r
ymgynghoriad.