Cais o dan Adran 73 o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad
a Thref 1990 i amrywio Amod 8 ar ganiatâd cynllunio C08A/0209/14/LL (Estyniad
i’r safle ailgylchu presennol, codi adeilad trosglwyddo gwastraff newydd,
cyfleusterau parcio a chodi sgrin perimedr 5 metr o uchder) i gynyddu’r
uchafswm trwygyrch flynyddol o wastraff i 125,000 tunnell ar gyfradd uchaf o
1,200 tunnell y dydd a dim mwy na 2,800 tunnell yr wythnos.
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Jason W Parry
Penderfyniad:
Ac eithrio gyda chaniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw yr
awdurdod cynllunio gwastraff ni chaniateir symud mwy na 125,000 tunnell o
wastraff tŷ, masnachol a diwyd-iannol sych solet drwy’r orsaf trosglwyddo
gwastraff mewn blwyddyn ar uchafswm raddfa o 1,200 tunnell y diwrnod a dim mwy
na 2,800 tunnell yr wythnos. Rhaid gofalu y bydd ffigyrau o’r gwastraff yn mynd
drwy’r safle dros unrhyw gyfnod pen-odedig ar gael i’r awdurdod cynllunio
gwastraff, ar gais, o fewn 21 diwrnod.
COFNODION:
Cais o dan Adran 73 o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 i amrywio Amod
8 ar ganiatâd cynllunio C08A/0209/14/LL (Estyniad
i’r safle ailgylchu presennol, codi adeilad trosglwyddo
gwastraff newydd, cyfleusterau parcio a chodi sgrin perimedr
5 metr o uchder) i gynyddu’r uchafswm
trwygyrch blynyddol o wastraff o 75,000 i 125,000 tunnell ar gyfradd
uchaf o 1,200 tunnell y dydd a dim mwy na 2,800 tunnell yr wythnos
Tynnwyd sylw
at y ffurflen sylwadau hwyr
a)
Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff ar gefndir y cais gan nodi bod y safle wedi sefydlu ar
Ystâd Ddiwydiannol yng Nghibyn ers dros 20 mlynedd sydd wedi’i warchod ar fap
cynigion y Cynllun Datblygu lleol, ar gyfer defnydd cyflogaeth B1, B2 & B8.
Ategwyd bod Polisi GWA 2 (Rheoli Gwastraff a Safleoedd a Ddyrannwyd) yn nodi y
dylid cymeradwyo cynigion rheoli gwastraff ar safleoedd priodol ar yr amod bod
y cynnig yn unol â'r hierarchaeth wastraff a bod angen amlwg am y datblygiad a
gefnogir gan Asesiad Cynllunio Gwastraff. Ni chynigiwyd
unrhyw newidiadau adeiladol na gweithredol eraill i'r datblygiad.
Nodwyd bod y safle
yn darparu gwasanaeth trosglwyddo ac ailgylchu gwastraff masnachol yn unol â
thelerau’r caniatâd presennol. Eglurwyd bod y gwastraff a derbyniwyd yn cynnwys
gwastraff a gesglir mewn sgips sef, gwastraff
tŷ, gwastraff masnachol a diwydiannol a gwastraff o waith glanhau ffyrdd
ynghyd a rhai eitemau a ddisgrifir fel gwastraff peryglus i gynnwys batris
ceir, llenni asbestos wedi’i bondio â sment a gwastraff trydan. Bydd y gwastraff
sydd yn cael ei gludo i'r safle yn cael ei ddidoli ar gyfer ailgylchu neu ei
ailddefnyddio.
Amlygwyd bod y
cyfleuster wedi gweithredu'n llwyddiannus i'r graddau bod y galw gan gwsmeriaid
presennol a darpar gwsmeriaid yn tyfu ar gyfradd a fyddai'n fwy na'r hyn a
osodir o dan amod cynllunio ac felly gwnaed cais am gynnydd yn y mewnbwn
gwastraff a ganiateir. Ategwyd bod uwchraddiad diweddar i'r orsaf trosglwyddo
gwastraff wedi arwain at gapasiti ychwanegol sef,
gwastraff adeiladu a dymchwel yn bennaf a chyda contract gyda safleoedd ynni o
wastraff yng Nghymru a Lloegr yn golygu cyflenwad deunydd sy'n deillio o
brosesu gwastraff o ffynonellau adeiladu, cartrefi a masnachol, rhagwelir y
bydd y llif gwastraff hwn yn parhau. Bydd angen mwy o gapasiti
hefyd i ddarparu ar gyfer cynnydd mewn cynhyrchu a dosbarthu biomas i
weithfeydd biomas lleol. Nodwyd bod y safle gyda’r capasiti
i ehangu a buasai’r bwriad yn sicrhau bod y cyfleuster presennol yn parhau i
ddidoli a phrosesu deunyddiau yn gynaliadwy a chyfrannu at gyrraedd targedau
Llywodraeth Cymru i ddargyfeirio gwastraff o dirlenwi.
O ran gosod targedau ar
gyfer rheoli gwastraff cartref, diwydiannol a masnachol, mae ‘Tuag at Ddyfodol
Diwastraff’ yn mynnu y dylai o leiaf 70% o'r gwastraff o'r fath gael ei
ailddefnyddio ac / neu ei ailgylchu erbyn 2025. Ystyriwyd y byddai’r cais hwn
yn cyfrannu at yr hyn mae’r ardal yn ei ailgylchu ac yn lleihau'r gwastraff
sydd yn cael ei dirlenwi. Adroddwyd, ar gyfer pob math o wastraff, mae Polisi
Cynllunio Cymru Rhifyn 11 yn ei gwneud yn ofynnol i nodi lleoliadau addas ar
gyfer datblygu rheoli gwastraff yn gynaliadwy mewn cynlluniau datblygu yn
ogystal â gosod meini prawf ar gyfer penderfynu ar geisiadau am ddatblygiadau
o'r fath, gan gydnabod mai'r lleoliadau mwyaf priodol fydd y rhai â'r
effaith lleiaf andwyol ar y boblogaeth
leol a'r amgylchedd gyda'r potensial gorau i gyfrannu at fframwaith seilwaith
eang.
Yng nghyd-destun
materion trafnidiaeth a mynediad nodwyd bod darpariaeth parcio wedi’i ddangos
ar gynllun a gyflwynwyd gyda’r manylion ychwanegol, ond yn ogystal, bod gan y
cwmni iard ddalfa ar ochr bellaf yr ystâd ddiwydiannol lle mae cerbydau cymalog
yn parcio nes eu bod yn cael eu galw i'r brif iard pan fydd yn glir. Nid oedd gan yr Uned Drafnidaieth wrthwynebiad.
Ystyriwyd bod y
datblygiad yn dderbyniol mewn egwyddor ac yn cydymffurfio â pholisïau PS5, PS22
& GWA2 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011 - 2026. Rhaid
cynyddu’n sylweddol yr hynny o wastraff sydd i’w drin mewn modd cynaliadwy os
am gyrraedd targedau Llywodraeth Cymru; a lleihau’r canran o wastraff sydd yn
cael dirlenwi yng Ngwynedd. Byddai’r
datblygiad yma yn cyfrannu at wella’r rhwydwaith o gyfleusterau gwastraff
cynaliadwy yn y Sir yn unol ag anghenion GWA 2 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y
Cyd Gwynedd a Môn 2011 - 2026;
b) Cynigwyd ac eiliwyd caniatáu
y cais
c) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Y datblygiad i’w groesawu
·
Byddai’r ffordd osgoi newydd
o fudd i loriau
·
Y bwriad yn ymateb
i dargedau ailgylchu
·
Y cwmni wedi hen sefydlu ac yn cyflawni
dyletswydd angenrheidiol.
Mewn ymateb i sylw
bod angen rhoi ystyriaeth i bryderon
yn ymwneud a arogleuon drwg,
nodwyd bod y mater wedi ei ddatrys ac yn
ganlyniad o wastraff yn sefyll. Ategwyd
bod gweithdrefnau wedi eu diweddaru i
osgoi hyn i’r dyfodol. Mewn
ymateb i sylw bod lorïau yn ciwio ar
hyd y ffordd, cyfeiriwyd at un achos lle'r oedd hyn
wedi digwydd o ganlyniad i rywun
wedi parcio ar draws y fynedfa.
PENDERFYNWYD
·
Cymeradwyo'r cais,
yn ddarostyngedig i'r newid isod i Amod 8 ar ganiatâd cynllunio C08A/0209/14/LL
er mwyn cynyddu’r uchafswm mewnbwn blynyddol o wastraff i 125,000 tunnell ar
gyfradd uchaf o 1,200 tunnell y dydd a dim mwy na 2,800 tunnell yr wythnos i:
Ac eithrio gyda chaniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw yr
awdurdod cynllunio gwastraff ni chaniateir symud mwy na 125,000 tunnell o
wastraff tŷ, masnachol a diwydiannol sych solet drwy’r orsaf trosglwyddo
gwastraff mewn blwyddyn ar uchafswm raddfa o 1,200 tunnell y diwrnod a dim mwy
na 2,800 tunnell yr wythnos. Rhaid gofalu y bydd ffigyrau o’r gwastraff yn mynd
drwy’r safle dros unrhyw gyfnod penodedig ar gael i’r awdurdod cynllunio
gwastraff, ar gais, o fewn 21 diwrnod.
·
Adolygu amodau
monitro a rheolaeth Sŵn, Llwch, Arogleuon, sbwriel yn unol â’r manylion
lliniaru a gyflwynwyd.
Dogfennau ategol: