Agenda item

Dewi A. Morgan, Swyddog Cyllid Statudol yr Awdurdod Lletya a Sian Pugh, Cyfrifydd Grŵp yr Awdurdod Lletya i ddarparu manylion y gwariant a'r incwm gwirioneddol ar gyfer trydydd chwarter blwyddyn ariannol 2021/22 i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, ynghyd â rhagamcaniad o'r alldro blwyddyn lawn yn erbyn ei gyllideb flynyddol.

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd yr adolygiad trydydd chwarter refeniw a chyfalaf Cyd-bwyllgor y Bwrdd Uchelgais ar gyfer 2021/22.

 

Derbyniwyd cymeradwyaeth y Cyd-bwyllgor i drosglwyddo unrhyw danwariant yn 2021/22 i'r gronfa wrth gefn wedi'i chlustnodi a fydd ar gael yn y dyfodol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dewi Morgan (Swyddog Cyllid Statudol) a Sian Pugh (Cyfrifydd Grŵp - Corfforaethol a Phrosiectau)

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyniwyd a nodwyd yr adolygiad trydydd chwarter refeniw a chyfalaf Cyd-bwyllgor y Bwrdd Uchelgais ar gyfer 2021/22. Derbyniwyd cymeradwyaeth y Cyd-bwyllgor i drosglwyddo unrhyw danwariant yn 2021/22 i'r gronfa wrth gefn wedi'i chlustnodi a fydd ar gael yn y dyfodol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Nodwyd tanwariant a ragwelir o £297,140 yn erbyn y gyllideb refeniw yn 2021/22. Mynegwyd y gellir trosglwyddo unrhyw danwariant ar ddiwedd y flwyddyn ariannol i'r gronfa wrth gefn sydd wedi'i chlustnodi. Mynegwyd fod llithriad bach pellach ar y rhaglen gyfalaf o ganlyniad i oedi gydag achos busnes terfynol un o'r prosiectau.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi diolch i’r Cyd-Bwyllgor am eu croeso i’r Pennaeth Cyllid newydd yng Nghyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas yr adroddiad oedd i adrodd ar gyllideb ar gyfer chwarter 3 gan nodi y gwir wariant yn erbyn y gyllideb.

 

Nodwyd fod yr Adran Gyllid yn amcanu tanwariant o £197k ar gyfer y Swyddfa Rheoli Rhaglen. Mynegwyd fod hyn wedi cynyddu £69k ers y chwarter diwethaf, yn bennaf oherwydd bod gwariant is bellach yn cael ei amcanu ar gyfer y pennawd Gwariant Gweithwyr a’r pennawd Caffael a Chefnogaeth Allanol Trafnidiaeth. Amlygwyd fod tanwariant o £18k yn parhau o dan bennawd y Cyd-Bwyllgor.

 

O ran prosiectau mynegwyd fod rhaid i’r gwariant yma gael ei ystyried yn nghyd-destun y grant datgarboneiddio o £500k a’r gronfa adfywio cymunedol o £80k a ddangoswyd o dan y gyllideb incwm gyfatebol ac a gymeradwywyd yn ystod y flwyddyn. Amlygwyd fod penawdau datblygu achosion busnes, cefnogaeth gyfreithiol allanol a sicrwydd hefyd yn cynyddu mewn tanwariant yn sgil llithriad ar y rhaglen gyfalaf. Eglurwyd fod yr Adran Gyllid yn ail ymweld â’r costau benthyca a gyfrifwyd yn ôl yn Hydref 2020 a bydd yn adrodd yn ôl ar hynny yn y cyfarfod nesaf.

 

Eglurwyd fod y ffynonellau incwm ar gyfer 2021/22 yn cynnwys cyfraniadau partneriaid, Grant ESF, Grant Cynllun Twf Gogledd Cymru, Grant Datgarboneiddio, Cronfa Adfywio Cymunedol a’r gronfa wrth gefn. Mynegwyd fod yr adran yn amcanu tanwariant o £297k ar gyfer 2021/22 a bydd o £620k o filoedd yn y gronfa wrth gefn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

 

O ran yr adolygiad cyfalaf nodwyd fod 2 newid wedi bod ers yr adolygiad diwethaf, sef mân addasiad yn y prosiect Canolfan Prosesu Signalau Digidol i gytuno i’r Achos Busnes Terfynol a gymeradwywyd ym mis Rhagfyr ynghyd â llithriad a ragwelir ar brosiect Morlais. Amlygwyd fod llithriad o £16.81miliwn yn 2021/22, £41.39miliwn yn 2022/23 a £18.93miliwn yn 2023/24. Mynegwyd y bydd grant Cynllun Twf y Gogledd yn cael ei ddefnyddio i gyllido’r Rhaglen Gyfalaf am y ddwy flynedd gyntaf a ni fydd angen benthyca’n allanol tan 2023/24.

 

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

¾     Mewn ymateb i gwestiwn am gostau llog prosiectau, nodwyd fod yr Adran Gyllid wedi paratoi rhagolwg yn 2020 ar gyfer incwm grant a gwariant cyfalaf er mwyn adnabod y costau benthyca.  Erbyn hyn mae’r sefyllfa wedi newid ac mae’r proffil gwariant wedi ei newid yn ogystal â’r proffil incwm cyfalaf. Nodwyd y bydd adroddiad pellach ar hyn ym mis Mawrth.

 

Dogfennau ategol: