I dderbyn
diweddariad gan y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol.
Penderfyniad:
Cofnod:
Derbyniwyd cyflwyniad gan yr Arweinydd Therapi Galwedigaethol am y
gwaith Symud a Thrin o fewn yr Uned Adnoddau Cymunedol. Manylwyd am y tîm
newydd sy’n cynnwys pedwar Therapydd Galwedigaethol ac un Nyrs Gofrestredig; bydd
y tîm hwn yn ymwneud yn benodol a’r gwaith Symud a Thrin o fewn y Sir.
Ymhelaethwyd ar bwysigrwydd y gwaith Symud a Thrin, sy’n lleihau’r risg
o anafiadau, lleihau derbyniadau i'r ysbytai a lleihau'r amser sy’n cael ei
dreulio yn yr ysbytai. Ychwanegwyd fod y maes yn hanfodol i helpu unigolion i
fyw mor annibynnol â phosib gan gadw eu hurddas. Un elfen o waith yr aseswyr
Symud a Thrin bydd gofal sengl. Trwy asesu a darparu offer arbenigol ac
ymyrraeth amserol gall olygu fod un person yn gallu darparu gofal yn ddiogel.
Mae hyn yn rhyddhau capasiti gofalwyr ac yn darparu
gofal addas mewn ffordd cost effeithiol.
Adroddodd yr Arweinydd Therapi Galwedigaethol y byddai yn rhannu copi
dwyieithog o’r cyflwyniad gyda’r aelodau. Gwahoddwyd yr aelodau i ofyn cwestiynau
a chynnig sylwadau.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau
a ganlyn gan aelodau:-
·
Diolchwyd am yr adroddiad a’r cyflwyniad oedd yn rhoi
gwell darlun o’r gwelliannau y mae’r gwasanaeth Therapi Galwedigaethol a’r tîm
Symud a Thin wedi ei wneud i fywydau trigolion Gwynedd.
·
Cwestiynwyd sut y byddai
trigolion yn y gymdeithas yn dod i wybod am waith y tîm ac os oedd cynlluniau i
ymgysylltu a’r cyhoedd er mwyn eu gwneud yn ymwybodol o’r adnodd hwn. Awgrymwyd
y gellir rhoi cyflwyniad i fudiadau fel merched y wawr neu sefydliad y merched
(WI) fyddai wedyn yn lledaenu’r neges.
·
Awgrymwyd y byddai o fudd
darparu’r cyflwyniad hwn i holl Gynghorwyr y Sir.
·
Gofynnwyd am eglurhad pellach
ynglŷn â'r rhestrau aros sy’n dal i fodoli am asesiadau mewn rhai ardaloedd
a holwyd faint yw’r rhestrau aros ac os oes modd symud Therapyddion
Galwedigaethol rhwng ardaloedd. Cwestiynwyd os ydi’r gwasanaeth yn gyson ar
draws y Sir.
·
Holwyd os oedd cynlluniau i
gyflogi rhagor o Therapyddion Galwedigaethol a gofynnwyd am fanylder pellach
ynghylch pwynt 3.7 o’r adroddiad sy’n cyfeirio at swyddi yn y Gwasanaeth Plant
a’r Gwasanaeth Anabledd Dysgu.
·
Canmolwyd y penodiad o bedwar
Therapydd Galwedigaethol a’r Nyrs Gofrestredig i sefydlu'r gwasanaeth Symud a
Thrin a diolchwyd am eu gwaith o gefnogi trigolion Gwynedd mewn modd urddasol.
Ychwanegwyd ei bod yn braf cael gweld faint o waith sydd wedi ei gyflawni gan y
gwasanaeth Therapi Galwedigaethol dros y flwyddyn ddiwethaf. Diolchwyd yn
benodol i’r Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant, yr Uwch Reolwr Gwasanaethau
Oedolion a’r Arweinydd Therapi Galwedigaethol am eu gwaith.
Mewn ymateb i’r
sylwadau uchod a chwestiynau gan aelodau, nodwyd:-
·
Fod y gwasanaeth yn ceisio
lledaenu’r neges am fodolaeth y gwasanaeth drwy aelodau o’r Timau Adnoddau
Cymunedol (Gweithwyr Cymdeithasol, Therapyddion Galwedigaethol, nyrsys ardal a
meddygon teulu), yn ogystal â cheisio meddwl am ffyrdd gwahanol i gysylltu ag
unigolion fyddai’n cael budd o’r gwasanaeth. Ychwanegodd yr
Arweinydd Therapydd Galwedigaethol y byddai’n fodlon darparu cyflwyniad ac yn
awyddus i bobl wybod fod y gwasanaeth hwn ar gael. Byddai'n hapus i gydweithio
efo’r Aelodau a derbyn eu syniadau am sut i gysylltu efo’r cymunedau i
ledaenu’r neges. Adroddodd fod y tîm yn weddol newydd a bod bwriad i rannu’r
cyflwyniad efo mudiadau’r trydydd sector a gwasanaethau eraill, a’i fod yn
awyddus i gynnwys gwybodaeth yn Newyddlen Gwynedd.
·
Cadarnhawyd fod posib symud staff
rhwng ardaloedd, mae hyn eisoes yn digwydd; ond mae ceisio cael y staff cywir
yn yr ardaloedd sydd eu hangen ar yr amser cywir yn heriol. Nodwyd fod y tîm
wedi gorfod blaenoriaethu'r achosion fwyaf brys a dwys dros y flwyddyn
ddiwethaf. Eglurwyd fod poblogaeth Gwynedd yn golygu bod rhai ardaloedd yn cael
mwy o gyfeiriadau na'i gilydd a gall symud staff i gwrdd â’r gofynion fel maent
yn codi achosi problemau a phrinder mewn ardaloedd eraill. Ychwanegwyd fod yr
Adran yn ymwybodol o’r heriau ac yn ceisio eu datrys; nodwyd bod cyd-weithio yn
digwydd efo’r Brifysgol drwy ddarparu lleoliadau i fyfyrwyr ac yn ariannu
hyfforddai i gwblhau’r cwrs gradd Therapi Galwedigaethol. Cadarnhawyd fod y
gwasanaeth therapi galwedigaethol wedi ei staffio yn llawn ers dechrau’r
flwyddyn ond fod y cyfnod ble roedd swyddi gwag yn bodoli wedi creu llwyth
gwaith sydd angen ei daclo. Y gobaith yw y gall y swyddogion newydd gefnogi
gyda lleihau’r rhestrau aros.
·
Mewn ymateb i’r ymholiad os yw
pum swyddog yn ddigon i gefnogi pobl Gwynedd, esboniodd yr Arweinydd Therapi
Galwedigaethol bod y swyddogion Symud a Thrin yn swyddi newydd, arbenigol i
ategu’r tîm o Therapyddion Galwedigaethol sydd eisoes yn bodoli o fewn yr Adran
Oedolion. Eglurwyd fod y swyddi Anabledd
Dysgu a Phlant yn ychwanegol i’r swyddi o fewn y tîm Symud a Thrin ac yn
ychwanegol i’r swyddi Therapyddion Gweledigaethol sydd eisoes o fewn yr Adran
Oedolion. Rhagwelir mewn tair blynedd y bydd tri swyddog cymwysedig arall y
gellir eu croesawu i’r gwasanaeth. Mae'r rhain yn hyfforddeion Therapi
Galwedigaethol sydd ar gyfnodau amrywiol o gwblhau eu graddau. Ychwanegwyd y
byddai’n ddymunol cael rhagor o staff ond bod rhaid bod yn ymarferol a
realistig efo’r adnoddau. Er hyn, mae gwaith yn digwydd i geisio pwyso a mesur
y galw a cheisio rhagweld pa sgiliau ac arbenigedd fydd ei angen i’r dyfodol
pan fydd staff yn gadael h.y. ystyried pa swyddi fydd angen eu llenwi i gyfarch
yr anghenion.
Ychwanegwyd na fyddai’r Gwasanaeth yn y sefyllfa y mae ynddo heddiw oni
bai am ymyrraeth y Pwyllgor hwn 12-18 mis yn ôl i gael adnodd ychwanegol i
sefydlu’r tîm Symud a Thrin. Galluogai hyn y Gwasanaeth i helpu pobl ar yr adeg
gywir a bod bellach potensial i symud ymlaen a’r gwaith a chyflawni mwy dros
drigolion Gwynedd. Nodwyd ei bod yn parhau i fod yn ddyddiau cynnar ond fod y
gwasanaeth Therapi Galwedigaethol mewn gwell sefyllfa nag yr oedd 12 mis yn ôl
a gobeithir gallu adrodd ar lwyddiannau pellach y tîm i’r Pwyllgor hwn mewn
blwyddyn arall.
PENDERFYNWYD:
Derbyn yr adroddiad oedd yn
darparu diweddariad ar y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol.
Dogfennau ategol: