Agenda item

I gyflwyno Adroddiad Arolwg Ymgynghori Asesiad Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru gan nodi fod yr asesiad anghenion yn cael ei lunio yn ofynnol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Adroddodd y Rheolwr Tîm Prosiectau Oedolion, Iechyd a Llesiant fod cais wedi ei wneud i ohirio’r gwaith hwn; credwyd nad oedd yn amserol i’w gwblhau yn ystod cyfnod prysur y pandemig ond roedd y Llywodraeth yn awyddus i’r gwaith fynd yn ei flaen. Ychwanegwyd ei bod wedi bod yn heriol cwblhau’r gwaith o fewn yr amserlen. Nodwyd fod yr Uned wedi ymrwymo i wneud gwaith mwy manwl ar anghenion pobl Gwynedd gan fod yr adroddiad hwn yn un cyffredinol ar draws Gogledd Cymru; credwyd y bydd llawer o werth i’r asesiad lleol.

 

Ychwanegwyd y bydd yr adroddiad llawn yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ar y 15fed o Chwefror ac yna i gyfarfod y Cyngor Llawn ar y 3ydd o Fawrth yn dilyn derbyn cymeradwyaeth y Cabinet. Yma ceir sylfaen yr adroddiad sy’n dangos yr hyn mae’r cyhoedd wedi ei nodi am eu hanghenion ynghyd a barn swyddogion proffesiynol a mudiadau trydydd sector. Mae’r asesiad yn seiliedig ar nifer o ymarferion ymgynghori ar draws y Gogledd dros y tair blynedd ddiwethaf ac o holiadur oedd yn agored i unigolion a phartneriaid ei gwblhau.

 

Dymuna’r Rheolwr Tîm Prosiectau Oedolion dderbyn barn y Pwyllgor ar ba elfennau i ganolbwyntio arnynt yn yr asesiad Gwynedd; disgwylir y bydd yr Adroddiad Asesiad Anghenion Poblogaeth Gwynedd yn barod ym mis Medi 2022. Ychwanegwyd fod croeso i’r Aelodau gyflwyno unrhyw adborth ar ôl y cyfarfod yn ogystal. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:-

 

·         Diolchwyd am adroddiad cynhwysfawr a gonest.

·         Gofynnwyd sut y bwriedir gweithio efo’r drydedd sector.

·         Mynegwyd fod llawer o ganfyddiadau negyddol yn yr asesiad sy’n dangos anfodlonrwydd; cwestiynwyd os yw'n rhoi darlun realistig.

·         Gwnaethpwyd sylw fod yr asesiad yn cyfeirio at beth sydd angen ei wella ond bod dim cyfeiriad at yr amserlen na phryd fydd y gwelliannau yn cael eu cyflawni.

·         Holwyd am fwy o fanylion ynghylch iechyd meddwl yn enwedig i blant a gofynnwyd pa mor hir ydi’r rhestrau aros. Gofynnwyd a all y Cyngor wneud mwy i helpu’r sefyllfa iechyd meddwl drwy bamffledi neu drwy hyrwyddo ble mae’r cymorth.

·         Gofynnwyd i ba raddau mae cydweithio yn digwydd rhwng Awdurdodau Lleol, y sector Gofal a’r Bwrdd Iechyd. Ychwanegwyd fod yr adroddiad yn cyfeirio at ddiffyg cydweithio a chydlynu, cwestiynwyd faint o sylw mae hyn yn ei gael gan yr Awdurdod.

·         Gwnaethpwyd sylw fod y pandemig wedi tanlinellu’r diffygion yn y berthynas rhwng y Bwrdd Iechyd a Gofal. Holwyd sut y gall yr asesiad yma gael ei ddefnyddio i gynyddu’r pwysau gwleidyddol ar y Llywodraeth i gyfarch effaith diffyg adnoddau Llywodraeth Leol ar y Bwrdd Iechyd.

·         Cyfeiriwyd at Bwyllgor Henoed Gwynedd ddaeth i ben dros gyfnod y pandemig. Teimlwyd fod y cyswllt efo’r henoed a’r mudiadau cefnogol wedi ei golli. Credwyd fod ymgynghori yn holl bwysig i wybod beth yw pryderon unigolion.

Mewn ymateb i’r sylwadau uchod a chwestiynau gan aelodau, nodwyd:-

 

·         Bod angen cydweithio’n well efo’r drydedd sector; rhaid adnabod beth yw’r ffordd orau i gyflawni hynny drwy drafod efo’r mudiadau. Mynegwyd bod angen cytuno ar ffyrdd gwahanol i ddarparu gwasanaethau sydd yn fwy penodol i gyfarch anghenion a chefnogi pobl.

·         Bod angen gwirio materion yn lleol o fewn y Sir er mwyn cael y darlun llawn a perthnasol i Wynedd. Gall hyn ddangos ymatebion gwahanol. Pwysleisiwyd fod angen edrych ar y materion craidd sy’n gallu golygu fod angen trawsnewid gwasanaeth; ychwanegwyd fod hyn eisoes yn digwydd efo rhai elfennau o wasanaethau o fewn yr Adran.

·         Y bydd yr asesiad hwn yn bwydo fewn i’r Cynllun Ardal ar gyfer Gogledd Cymru wedi iddo gael ei gymeradwyo gan Gynghorau’r Gogledd. Yna, bydd gwaith yn cychwyn ynghylch sut i gyfarch yr anghenion a’r materion a godwyd.

·         Bod cydweithio yn digwydd yn y maes iechyd meddwl; bydd cyflwyniad yn cael ei ddarparu yng nghyfarfod nesaf y pwyllgor hwn a gynhelir ar yr 17eg o Fawrth i roi mwy o fanylion am y datblygiadau. Yn ogystal nodwyd fod gwaith wedi cychwyn i edrych mewn manylder ar rai o’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu, bydd ymrwymiad i’w hadolygu. Yn y cyfamser gwerthfawrogir awgrymiadau Aelodau ar sut i wella’r sefyllfa yn y tymor byr. Ychwanegwyd fod angen edrych yn fanwl ar y maes iechyd meddwl a’i ail siapio i gwrdd ag anghenion y dyfodol.

·         Bod cydweithio da iawn yn digwydd efo’r Bwrdd Iechyd yn gyffredinol a bod enghreifftiau da i’w gweld o’r cydweithio hyn; nodwyd fod y datblygiad Penrhos yn un esiampl. Nodwyd fod newid systemau a diwylliant yn anodd o fewn sefydliad fel y Cyngor ond fod ceisio cydlynu newidiadau ar y cyd efo’r Bwrdd Iechyd yn heriol iawn. Credwyd ei bod yn mynd i gymryd amser i weithredu newidiadau yn enwedig pan mae prosesau a threfniadau wedi bodoli ers cryn dipyn o amser. Adroddwyd fod pob ymdrech yn cael ei wneud ac edrychir ar gynlluniau sy’n gwneud gwahaniaeth, cydnabyddwyd fod gwaith i’w wneud yma. Ychwanegwyd drwy greu’r asesiad anghenion ar y cyd mae’n rhoi cyfle i adnabod problemau ar y cyd a chyfle i gydweithio ar yr atebion.

·         Bod angen targedu a chanolbwyntio ar feysydd penodol. Nodwyd fod y Pwyllgor heddiw wedi crybwyll materion sy’n broblemus fel rhestrau aros maith am asesiadau iechyd meddwl i blant a’r broblem o ryddhau gwlâu yn yr Ysbytai. Bydd angen gwneud gwaith mwy manwl ar y materion hyn ac yna adrodd yn ôl i’r Llywodraeth drwy’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol er mwyn dangos beth yw’r sefyllfa yng Ngwynedd.

·         Ei bod yn bwysig darganfod problemau bychain cyn iddynt gynyddu. Golyga hyn fod derbyn gwybodaeth yn holl bwysig; elfen arall sydd yr un mor bwysig yw pa ddefnydd sy’n cael ei wneud o wybodaeth sydd eisoes yn bodoli. Awgrymwyd fod Aelodau efo mynediad i wybodaeth ddefnyddiol a bod angen rhannu’r wybodaeth yma yn ogystal â gwella’r cyswllt efo darparwyr gwasanaeth. Credwyd nad oedd angen gwneud llawer mwy o ymarferion ymgysylltu ond yn hytrach tynnu fewn a defnyddio’r wybodaeth a’r dystiolaeth sydd eisoes yn bodoli. Nodwyd y byddai’r tîm adfywio yn siarad efo Cynghorau Cymuned ac yn cymryd cyfleoedd i fynychu cyfarfodydd er mwyn derbyn mewnbwn hollbwysig.

 

Mewn ymateb i sylwi ynghylch egwyddorion ymgynghori a chydraddoldeb, adroddwyd y bydd ystyriaeth yn cael ei roi i’r dyletswydd economaidd gymdeithasol wrth gwblhau’r gwaith manwl ar Wynedd. Adroddwyd y bydd mwy o sylw yn cael ei roi yn adroddiad Gwynedd i’r elfennau hyn a cydnabyddwyd pwysigrwydd cyfarch anghenion y grŵp yma.

 

Mewn ymateb i gwestiwn os oedd cofnod o ddiolchiadau neu werthfawrogiad gan y cyhoedd pan maent yn hapus efo’r gwasanaeth cafodd ei dderbyn, eglurwyd bod y wybodaeth yma yn bodoli. Ychwanegwyd fod angen edrych ar sut i hysbysebu llwyddiannau hyn.

 

Ychwanegwyd fod y sampl o Wynedd yn un weddol fach; 50 o’r atebion ddaeth o Wynedd. Roedd hyn yn gyfystyr a 14% o gysylltiad yr asesiad. Ategwyd mai darn o waith cyffredinol oedd hwn felly bydd angen ystyried pa ddefnydd fydd yn cael ei wneud o’r canfyddiadau yn lleol, fydd yn ddibynnol ar adnabyddiaeth yr ardal. I gloi nodwyd fod asesu ar lefel unigol yn hanfodol gan gysidro os yw’r hyn sy’n bwysig i’r unigolyn yn cael ei gyflawni, ac os ddim, pam.

 

PENDERFYNWYD:

Derbyn yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod.

 

Dogfennau ategol: