Agenda item

·       Balans Ysgolion - 31/03/2021

·       Grantiau Ysgolion – 2021/22

·       Diweddariad Gweithgor Cyllid ADY

·       Cyfundrefn Addysg Drochi tuag at 2032 a thu hwnt

Cofnod:

i.        BALANSAU YSGOLION BLWYDDYN GYLLIDOL 2020/21

 

Cyflwynwyd y rhan yma gan Cyfrifydd Grŵp Ysgolion.

Rhannwyd Datganiad gan Llywodraeth Cymru ar Falansau Ysgolion Cymru yn ei gyfanrwydd. Nodwyd fod y cyfanswm o Falanasau yn ysgolion Cymru wedi cynyddu o oddeutu £150 miliwn yn y flwyddyn Covid cyntaf. Credwyd yn gryf mai prif reswm hynny oedd gan fod yr ysgolion wedi bod ynghau dros gyfnodau yn ystod y pandemig i ran helaeth o’r disgyblion.

Eglurwyd nad oedd yr un ysgol mewn diffyg yng Ngwynedd ar ddiwedd y flwyddyn ariannol diwethaf- ond fod £17 miliwn o falansau negyddol wedi cronni drwy Gymru yn y flwyddyn ariannol diwethaf. Tynnwyd sylw at y ffaith y byddai Gwynedd yn rhif 7 o’r 22 awdurdod yng Nghymru o’r Balansau uchaf pe bai’r balansau negyddol yn cael eu diysytru.

 

Dyma’r pwyntiau a godwyd o’r drafodaeth-

-        Nodwyd fod angen cofio fod Gwynedd yr ail uchaf o’r balansau fesul pob disgybl yn unigol a fod angen cysidro yn y farn tuag at y Balansau. Cynigwyd fod hyn o ganlyniad i gymorth athrawon llanw a chyflenwad i gefnogi disgyblion bregus. Pryderwyd sut y byddent yn rheoli gwahanol ffyrdd wnaiff ysgolion ddelio efo’r grantiau hwyr hyn gyda rhai am gario mwy o falans drosodd a’i gilydd.

-        Pryderwyd fod ysgolion wedi cael eu cyfarch â llawer o grantiau hwyr eleni, a gofynnwyd beth oedd yn ddisgwyliedig o’r ysgolion wrth eu derbyn. Eglurwyd fod y Llywodraeth ac Estyn wedi adrodd mewn cyfarfod ADIW eu bod yn cydnabod fod y grantiau yn creu balansau ffug. Sicrhawyd fod hyn yn cael ei ragweld ac felly’n debygol na fyddai ysgolion yn cael eu cosbi am y ffigyrau hyn.

-        Tynnwyd sylw at y ffaith fod y balansau wedi bod yn gymharol uchel cyn Covid ac felly fod angen rhoi ystyriaeth i hyn. Nodwyd fod Cyllidebau Addysg wedi cael eu gwarchod yn arw yn ystod y pandemig a heb orfod gwynebu cwtogiadau fel gweddill yr adrannau, ac felly fod angen gwneud rhywbeth i wella’r balansau. Pwysleisiwyd er hyn, nad oes angen diystyru effaith y pandemig yn gyfan gwbl

-        Pryderwyd y bydd y sefyllfa ariannol yn parhau yn y blynyddoedd i ddod a fod y grantiau hwyr yn cyfrannu at hyn. Cydnabuwyd fod y Llywodraeth yn cefnogi ysgolion efo gwariant ychwanegol sydd wedi dod o sgil Covid, ond fod angen ystyried oblygiadau hyn ar y balansau i’r dyfodol. Poenwyd y bydd ysgolion yn cael eu cosbi efo’r balansau hyn a bydd angen cyfiawnhau y gwariannau sydd i ddod i osgoi hyn.

-        Eglurwyd fod gwariant parhaol ar staffio ond nad oedd grantiau yn cael eu darparu  i ysgwyddo’r gyllideb yma.

-        Parhawyd gyda’r bryder o staffio. Mynegwyd mai nawr oedd rhai o effeithiau hir dymor yn dangos ei hun, gyda’r brif un yn pa mor fregus ydi disgyblion. Nodwyd i ateb hyn fod angen staff ychwanegol i gefnogi’r digyblion, ac y bydd angen sicrhau’r gyllideb yma am flynyddoedd i ddod.

-        Mynegwyd rhwystredigaeth dros y grantiau hwyr hyn a dymuniad i hyn gael ei gynllunio’n well yn y dyfodol.

 

PENDERFYNIAD – Derbyn y diweddariadau a’r adroddiad.

 

 

 

ii.       GRANTIAU YSGOLION 2021/22

 

Cyflwynwyd er gwybodaeth – adroddiad gan y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion yn crynhoi’r grantiau ysgolion 2021/22 sydd wedi eu datgan hyd yma.

 

Eglurwyd fod gwerth bron i £12 miliwn o grantiau wedi eu derbyn ers yr Haf diwethaf, a bellach mae grantiau ychwanegol wedi eu cyflwyno yn ychwanegol atynt. Cydnabuwyd fod hyn yn rhoi effaith mawr ar gyllideb ysgolion ond nad yw’n dderbyniol i ysgolion ddibynu ar yr incwm ychwanegol o flwyddyn i flwyddyn. Nodwyd fod grant megis £3 miliwn i’r sector Cynradd yn cael ei ddyrannu yn flynyddol, a bellach y dylid ei roi yn y setliad.

Nodwyd fod dros £1 miliwn o grantiau wedi ei rannu er lles anghenion dysgu ychwanegol. Rhannwyd £385 mil yn fwy o grant cyfnod sylfaen. Rhannwyd £300 mil o’r grant ‘gaeaf llawn llesiant’, sef grant i annog gweithgareddau tu allan i’r ysgol. Derbyniwyd dros £1.1 miliwn o grant ar gyfer y rhaglen cyflymu dysgu o Medi i Fawrth eleni, ac fe fydd £1.2 miliwn pellach o grant cyflymu dysgu.

 

Pwysleiswyd er fod y grantiau hyn yn nodi fod angen eu gwario erbyn 31 Mawrth, nid yw’n ddisgwyliedig i hyn ddigwydd, ac yn hytrach ei fod yn bwysicach i gyfiawnhau gwario rhesymol. Nodwyd fod Cyngor Gwynedd yn cymryd hyn i lawn ystyriaeth. Eglurwyd fod Grant Refeniw cynnal a chadw i ryddhau adnoddau o un flwyddyn i’r llall i gefnogi cynllunio gwariant at y dyfodol. Nodwyd mai gwerth hwn oedd £1.8 miliwn.

 

Mi dderbyniwyd £5.5 miliwn o Gaerdydd, a £1 miliwn yn ychwanegol gan GwE sydd yn ychwanegol i’r cyllid roddwyd yn yr Haf.

Tybiwyd o ganlyniad i’r balansau ychwanegol yma y bydd y balansau yn uwch eleni nag oeddent yr adeg yma flwyddyn diwethaf.

Pwysleisiwyd fod angen i ysgolion ystyried eu bod yn defnyddio £3.5 miliwn o falansau llynedd yn ran o’u cyllidebau eleni.

Eglurwyd fod costau aruthrol yn dilyn cynydd mewn pris contractwyr ac adnoddau adeiladu, sydd yn golygu fod costau cynnal a chadw adeiladau yn achosi straen ar leoliadau.

 

PENDERFYNIAD – Derbyn y diweddariadau a’r adroddiad.

 

 

 

iii.      DIWEDDARIAD GWEITHGOR CYLLID ADY

 

Cyflwynwyd gan y Pennaeth Cynorthwyol Anghenion Arbennig.

 

          Rhannwyd mai’r cam nesaf yn y broses ydi i ymgynghori efo grwpiau strategol i ganfod yr opsiynau gorau i’r gyllideb. Nodwyd fod yr ymgynghoriad yma am ddatgan os ydi’r gweithgor a’r Fforymau yn cydweld efo’r dyraniad gorau o’r arian. Dywedwyd y bydd ymgynghori yn dechrau efo Penaethiaid cyn y Pasg

          Eglurwyd mai yn Ebrill neu Medi 2023 fydd y gweithredu yn dechrau arni, yn ddibynnol ar ganlyniad a therfyn y gwaith ymgynghori.

 

PENDERFYNIAD – Derbyn y diweddariadau a’r adroddiad.

 

 

 

 

 

iv.    CYFUNDREFN ADDYSG DROCHI

 

          Cyflwynwyd gan Uwch Reolwr Ysgolion.

 

          Atgoffwyd y byddent yn gofyn am gyfraniad gan ysgolion i gefnogi’r gwaith gan sicrhau y byddent yn cydberchnogi’r darpariaeth addysg drochi.

Eglurwyd nad oedd pethau wedi medru symud mor gyflym ag y hoffen nhw, ac felly ni fyddent yn gofyn am gyfraniad at y gwaith yn 22/23 ar hyn o bryd.

          Nodwyd nad ydynt yn disgwyl cael pennaeth a staff i’r strwythur hyd nes Medi ’22 yn dilyn gorfod ail hysbydebu’r swydd. Dywedwyd fod sefydlu un o’r lleoliadau wedi llithro hyd at Ionawr ’23 i allu agor, yn hytrach na Medi ‘22.

          Cadarnhawyd y bydd yr Adran Addysg yn cael eu diweddaru os fydd unrhyw costau ychwanegol yn codi yn y broses. Disgwylwyd i dderbyn cyfraniad gan yr ysgolion o Ebrill ’23 ymlaen, sydd yn flwyddyn o oediad i lle yr ydyn nhw rŵan. Soniwyd y bydd diweddariadau cyson yn cael ei rannu ac y bydd diweddariad cadarn erbyn yr Hydref yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf, boed yn ddiweddariad ar lafar neu yn eitem yn yr agenda i’r Fforwm.

 

PENDERFYNIAD – Derbyn y diweddariadau a’r adroddiad.

 

 

 

Dogfennau ategol: