Agenda item

Fe fydd Cyflwyniad llafar yn cael ei roi gan Pennaeth Cyllid.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Gyllid, a’r Pennaeth Cyllid.

 

          Nodwyd y byddai’r cyflwyniad o’r Gyllideb yn cael ei roi ymlaen i’r Cyngor Llawn, yn dilyn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio a’r Cabinet. Eglurwyd fod cyfres o seminarau a chyflwyniadau wedi bod drwy Ionawr i drafod ac egluro’r drefn gyda’r gyllideb i’r aelodau. Tynnwyd sylw at y ffaith y bydd diweddariadau cyson ar y gyllideb os y bydd unrhyw newidiadau neu addasiadau i’r ffigyrau a’r amserlen.

 

          Rhannwyd fod y setliad arferol o grantiau Llywodraeth yn 9.4% ar gyfartaledd yng Nghymru, lle mai 8.8% ydi o i ni yng Ngwynedd sydd yn argoeli’n dda. Eglurwyd mai’r rheswm tebygol fod Gwynedd yn derbyn is na’r gyfartaledd ydi fod poblogaeth îs yn y Sir o’i gymharu â siroedd eraill yng Nghymru. Nodwyd ei fod yn swm sylweddol fwy i’r hyn sydd am fod flwyddyn nesaf sef 3.5%, a 2.4% y flwyddyn ganlynol. Eglurwyd mai 5% oedd y chwyddiant presennol, ond fod pryder yr aiff fyny i 7% erbyn Ebrill. Amlygwyd fod y chwyddiannau hyn am achosi costau uwch.

 

          Atgoffwyd ein bod wedi derbyn £16 miliwn o gymorth ariannol tuag at COVID gan Llywodraeth Cymru erbyn diwedd y flwyddyn ariannol yma. Eglurwyd fod angen gwneud cyfrifadau i’n gwarchod at y dyfodol yn dilyn derbyn cymorth ariannol o’r fath, gan gofio na fydd y gefnogaeth ariannol yma yn cael ei ddosbarthu y flwyddyn nesaf.

 

Mynegwyd neges o ddiolch ar ran y cyn Bennaeth Cyllid i aelodau’r Fforwm am yr holl gyd-weithio dros y degawdau.

 

Eglurwyd mai’r hafaliad i gael cyllideb cytbwys ydi fod gwariant net yn llai na’r arbedion yn hafal i cyfanswm grantiau llywodraeth a treth Cyngor. Nodwyd eu bod wedi creu rhagdybiaethau synhwyrol o’r chwyddiant fydd i ddod wrth ddamcaniaethu’r gyllideb yn y flwyddyn sydd i ddod. Parhawyd fod y rhagdybiaethau hyn yn cynnwys cyfrifiadau chwyddiant mewn cyflogau a chyflenwadau, effaith Covid a setliadau grantiau. Nodwyd mai un o’r chwyddiannau mewn cyflogau ydi y cynyddiad yng nghyflogau athrawon o 1.75% yn y pum mis sydd yn weddill yn y flwyddyn academaidd. Damcaniaethpwyd cynnydd pellach ar gyfer y cyfnod academaidd newydd o Medi ymlaen at ddiwedd y flwyddyn economaidd yma. Eglurwyd hefyd fod ystyriaeth i’r cynnydd mewn mewnbwn yswiriant gwladol o 1.25%. Nodwyd fod cyfrifiad o chwyddiant o £2.6 miliwn i gyd efo’i gilydd ar draws y Cyngor gan gynnwys costau ynni a thanwydd, gofal preswyl ayb.

 

Nodwyd fod addasiadau pellach wedi bod i Ddemograffi Ysgolion i adlewyrchu’r sefyllfa bresennol. Nodwyd fod gostyngiad yn niferoedd y digsyblion yn y Cynradd, ond cynnydd yn y niferoedd o ddisgyblion Uwchradd. Eglurwyd fod y gwariant net wedi cael gostyngiad o £57 mil o ganlyniad i’r newidiadau hyn. Atgoffwyd fod effaith tebyg wedi bod yn y niferoedd flwyddyn diwethaf hefyd.

 

Eglurwyd mai canlyniad hyn oll ydi gwariant o £13.2 mil pellach i ymateb ar alw y chwyddiant, yn ychwanegol i wariant ychwanegol o £8.1 mil ar bwysau gwasanaeth.

Nodwyd fod y Cyngor wedi derbyn cyllideb i gefnogi costau COVID hyd at y flwyddyn ariannol nesaf, ond fod hyn yn golygu fod angen darparu cyllideb ein hunain i gefnogi’r effeithiau fydd yn cario at y flwyddyn ariannol nesaf.

 

Mynegwyd fod pwysau i gynyddu treth Cyngor i gyfiawnhau’r costau ychwanegol yma. Tynnwyd sylw at y ffaith y gall hyn fod yn drafferthus gan fod llai o adeiladau cymwys i dalu treth Cyngor eleni, yn bennaf oherwydd y niferoedd o gartrefi preswyl sydd wedi eu trosi i fod yn unedau gwyliau a nad oes anneddau yn dod fewn yn eu lle.

 

Eglurwyd wrth gau cyfrifon 2020/21 fod cyfle wedi dod i agor cronfa adfer Covid Gwynedd, sydd bellach wedi cronni oddeutu £1.4 i ddelio efo gofynion Covid. Nodwyd fod y gronfa strategaeth ariannol hefyd ar gael os eith hi’n orfodol arnom.

Mabwysiadwyd trefn newydd wrth ymateb i geisiadau colled incwm yn sgîl yr argyfwng a bellach eu bod yn cael eu trefnu yn ôl blaenoriaeth gan nad oes modd i’r Cyngor ymateb i’r gost arferol £14.5 miliwn sydd wedi bod.

 

Nodwyd eu bod wedi llwyddo i Wireddu Arbedion, eglurwyd fod dros £32.8 wedi ei arbed gan y Cyngor ers 2015/6. Eglurwyd o ganlyniad i’r setliad gwell nag arfer eleni fod y Cyngor wedi llwyddo i oedi ar arbedion oedd wedi cael ei fwriadu i wireddu yn y flwyddyn ariannol 2022/23. Nodwyd ymhellach fod ffigwr o £1.3 miliwn wedi llwyddo i gael ei lithro i’r flwyddyn 2023/24 neu hwyrach, a llwyddo i ddileu dau gynllun arbedion yn llwyr o’r cynlluniau arbedion sy’n gostwng y nifer o arbedion i’w cyrraedd o hanner miliwn. Dywedwyd ymhellach fod COVID yn parhau i amharu ar y cynlluniau arbedion ond fod hyn wedi cael ei hwyluso o ganlyniad i’r setliad sydd ganddyn nhw yn bresennol. Parhawyd nad oedd arbedion newydd i ysgolion nac ychwaith i’r Adran Addysg yn y flwyddyn ariannol 2022/23.

 

Rhannwyd £0.5 miliwn y flwyddyn o fidiau cyfalaf yn cael eu dosbarthu yn gyson, yn ychwanegol i unrhyw fidiau sydd yn cael eu cynnig fesul blwyddyn. Eglurwyd fod y bididau yma yn cael eu defnyddio at unrhyw achos sydd yn codi ac angen ei ddatrys yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod, megis, dosbarthwyd £118 mil tuag at Cae Cymunedol Ysgol Syr Hugh Owen. Nodwyd fod Bidiau Un Tro wedi cefnogi cronfa unwaith ac am byth o £6.1 miliwn yn y flwyddyn 2022/23. Eglurwyd fod y gyllideb yma’n cefnogi cyflogi Swyddog Hybu Cinio Am Ddim at y flwyddyn 2022/23. Nodwyd fod bron i hanner y gyllideb Un Tro yn cefnogi llawer o brosiectau sy’n ymwneud â newid hinsawdd yn y flwyddyn sydd i ddod hefyd.

 

Nodwyd fod £6.7 miliwn o Fidiau Refeniw Parhad, sef cyllideb fydd yn ymddangos yn barhanol o fewn y gyllideb, ac mae £449,539 o hyn yn cael ei roi i’r adran addysg. Eglurwyd fod cyfran mawr o’r arian yma’n mynd ar ddiogelu na fydd disgyblion Ôl-16 yn gorfod talu am ei tocyn teithio, at cludiant tacis a threnau ysgolion a chyflogi Swyddog Addysg Uwchradd.

 

Eglurwyd fod chwyddiant ac addasiadau angenrheidiol wedi creu costau o £12 miliwn sydd yn gorfodi cynnydd treth o 2.9%. Parhawyd i egluro y byddai’n rhaid cael cynydd o 1.5% i gadw ar ben y chwyddiant sydd eleni, ac fe fyddai’r gweddill o’r canran yn sicrhau na fydd effeithiau gormodol ar y gwasanaethau. Eglurwyd mai effaith y chwyddiant yma ar unigolyn fyddai’n talu treth Cyngor ar fand D, fydd 84 ceiniog o gynnyd ar dreth wythnosol gyda chyfanswm o dreth yn dod i £29.37. 

 

PENDERFYNIAD – Derbyn y diweddariadau a’r adroddiad.