Cofnod:
Cyflwynwyd gan y Pennaeth Cynorthwyol Technoleg Gwybodaeth.
Diweddarwyd
y prosiect hyd yn hyn, ac eglurwyd nad oedd yr adroddiad yn rhoi cyfiawnhad o
faint o waith sydd wedi mynd rhagddo yn y flwyddyn diwethaf. Tynnwyd sylw at y
ffaith fod mwy o ddatblygiadau wedi bod yn yr adran Cynradd na’r Uwchradd ar
hyn o bryd.
Atgoffwyd ar
Tachwedd 9 2021 eu bod wedi derbyn caniatâd i dderbyn y Strategaeth Ddigidol a
chytundeb i ddarparu hanner y gost i gael gliniaduron i CA2 Uwchradd ac i’r
athrawon, a thabledi i’r Sylfaen gan y Cabinet. Eglurwyd fod y gyllideb yma yn
ychwanegol i’r gyllideb blaenorol o £2.25 miliwn i adnewyddu’r dechnoleg y
rhwydwaith. Eglurwyd dros gyfnod o 10 mlynedd fod angen ymrwymo i wariant o
oddeutu £10 miliwn ar gyfer yr offer. Tynnwyd sylw fod dros 61% o’r gyllideb
yma am gael ei gyfrannu gan y Cyngor.
Nodwyd fod
trafodaethau o’r fath wedi cael eu cynnal ym Môn cyn y Nadolig hefyd o fewn eu
Pwyllgorau gwaith. Eglurwyd mai’r brif drafodaeth sydd angen tynnu sylw ato ydi
mewnoli’r gefnogaeth. Gobeithiwyd i fewnoli’r gefnogaeth Technegol i gefnogi’r
ysgolion, ac eglurwyd fod hyn yn parhau i fod mewn trafodaeth efo’r cwmni
Cynnal gan y ddau Gyngor i drafod y gwaith ag effaith gwneud hyn ar y cwmni.
Nodwyd fod trafodaethau cyfreithiol a chyflogaeth yn cael eu cynnal i drafod
effeithiau mewnoli ar y Cyngor. Sicrhawyd y bydd cadarnhad o’r trafodaethau hyn
erbyn Ebrill 1, ynghyd a’i strategaeth gyllido. Esboniwyd y byddai rhywbeth o’r
fath yn gorfodi i’r Cyngor gyflogi staff ychwanegol. Nodwyd y bydd treial o’r
cynllun peilot yn cael ei dreialu cyn y Pasg, gyda gliniaduron yn cael eu
blaenoriaethu i staff yna ddisgyblion Uwchradd. Eglurwyd fod yr amserlen yma’n
ddibynnol ar yr amserlen gan y tîm cyfreithiol.
Sylwadau a
godwyd o’r drafodaeth-
-
Gofynnwyd
beth oedd y ddarpariaeth yswiriant i’r adnoddau a sut oedd hyn yn cael ei
weithredu. Atebwyd nad oedd trefniadau penodol yn ei le eto, ond fod ymchwil i
bolisïau mewn lle gyda’r polisi gorau ar hyn o bryd am fod yn £24 yr un y
flwyddyn. Disgwylid cadarnhad ar yr opsiynau polisau
gwahanol sydd ar gael gan ystyried y byddent yn derbyn y cyfarpar am 5 mlynedd
ond bod posibilrwydd y bydd rhai yn torri neu yn mynd ar goll. Cadarnhawyd y
bydd diweddariadau cyson yn cael eu rhannu.
-
Holwyd
os y bydd lleoliadau diogel yn cael eu cynnig i gadw’r gliniaduron yn ddiogel.
Eglurwyd fod costau sylweddol ynghlwm â chabinet gwefru a bod angen rhoi
ystyriaeth ddwys i wir angen y ddarpariaeth.
-
Poenwyd
os y bydd digyblion yn cael eu darparu efo gliniadur
newydd os bydd diffyg efo’r un dderbynir ar y
dechrau. Nodwyd y bydd gobaith i gyflenwi’r disgyblion efo gliniadur newydd os
bydd dim modd arbed y gliniadur sydd ganddynt yn barod.
-
Rhannwyd
lawer o bryder cymdeithasol a ddeir o ganlyniad i
ddisgyblion yn cario gliniaduron drud efo nhw tu allan i’r ysgol, boed yn
darged i gael eu dwyn neu yn eu gwerthu eu hunain.
Dogfennau ategol: