Agenda item

·         Network Rail

·         Trafnidiaeth Cymru

·         Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig

Cofnod:

NETWORK RAIL

 

Croesawyd Sam Hadley, Rheolwr Materion Cyhoeddus Llwybrau Cymru i’r cyfarfod

 

Diweddariad ar uwchraddio traphont Abermaw

 

Cyflwynwyd lluniau a ffeithiau allweddol ar waith a gwblhawyd ar y draphont rhwng Medi 2021 a Rhagfyr 2021. Nodwyd bod y gwaith wedi bod yn heriol ac yn ffisegol anodd i’r gweithwyr oherwydd amodau gwaith yn ymwneud a’r tywydd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn os oedd rhywfaint o’r bont wreiddiol yn weddill, nodwyd bod pob ymgais yn cael ei wneud i gadw cymaint â phosib o’r nodweddion gwreiddiol a bod unrhyw ailosodiad yn un ‘tebyg at ei debyg’. Ategwyd bod y bont wedi ei chofrestru (Gradd 2) a bod pob ymgais yn cael ei wneud i sicrhau bod y nodweddion yn cael eu diogelu.

 

ETCS (European Train Control System)

 

Adroddwyd bod y System ETCS sydd yn cael ei ddefnyddio i reoli signalau a chyflymder trenau yn cael ei uwchraddio ar gyfer fflyd Dosbarth CAF 197 Civity fydd yn cael eu defnyddio ar y Cambrian i’r dyfodol agos.

 

Mewn ymateb i gwestiwn a fyddai’r llinell Cambrian yn cau dros gyfnod  uwchraddio’r system ETCS, nodwyd y byddai’r gwaith yn debygol o gael ei wneud dros y penwythnos ac / neu yn ystod cyfnod cau arall sydd wedi ei gynllunio i osgoi aflonyddwch.

 

Prosiect Glandulas (Black Bridge) ger Machynlleth

 

Bod codi'r bont sy'n rhedeg dros yr Afon Dulas wedi profi yn llwyddiannus iawn.  Codwyd y bont un metr yn uwch er mwyn lleihau effaith llifogydd ( lefel yr afon yn codi yn ystod  glaw trwm a llinell y Cambrian yn gorfod cau). O ystyried bod y buddsoddiad yn un eithaf bychan, yr effaith yn sylweddol - yn ystod y tywydd garw diweddar, nodwyd nad oedd  llifogydd arferol wedi atal gwasanaethau’r Cambrian

 

Rhaglen Mynediad i Bawb (Access for All)

 

Amlygwyd bod y rhaglen yn gwella mynediad i orsafoedd a bod gorsafoedd ar draws y wlad yn cael eu hysytired ar gyfer gwelliannau. Am y tro cyntaf eleni, amlygwyd bod dwy o orsafoedd y Cambrian wedi eu cynnwys ar y  rhestr waith posib - hyn yn rhywbeth nas gwelwyd o’r blaen ac yn newyddion gobeithiol.

                                                           

 

TRAFNIDIAETH CYMRU

 

Croesawyd Gail Jones, Trafnidiaeth Cymru i’r cyfarfod i gyflwyno diweddariad ar weithgareddau Trafnidiaeth Cymru.

 

Cyflwynwyd gwybodaeth am y trenau newydd Dosbarth CAF 197 Civity

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â gweld model o’r cerbydau newydd nodwyd bod gwahoddiad i ymweld â’r  trenau newydd wedi ei drefnu Ebrill 2022 a  thaith brawf yn cael ei threfnu i Gyffordd Llandudno. Mewn ymateb, amlygwyd bod dyddiadau ymweld mis Ebrill yng nghanol cyfnod cyn etholiad ac felly’n debygol o fod angen eu hail drefnu.

 

Cyfeiriwyd at SGWRS sef cymuned ymchwil ar-lein Trafnidiaeth Cymru i rannu  barn ar drafnidiaeth yng Nghymru gyda chyfle i gymryd rhan mewn arolygon, trafodaethau ar-lein, a fforymau trafod i wella’r gwasanaeth.

SGWRS (tfw.wales)

 

Amlygwyd pryder bod y cerbydau newydd gyda llai o seddau ac un toiled fesul 2 gerbyd. Ategwyd bod y Cambrian yn un o linellau mwyaf prysur Cymru a’r defnydd yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Ystyriwyd nad oedd  cynnig llai o seddau yn ymateb i’r galw ac felly cynigiwyd yn ffurfiol bod angen ystyried 4 cerbyd parhaol ar gyfer y daith.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â diffyg toiledau ar y trenau newydd a lleihad mewn nifer seddau, nodwyd bod rhaid sicrhau bod pob elfen yn cael ei ystyried megis lle digonol ar gyfer pramiau, cadair olwyn, bagiau, beics a nifer toiledau.

 

Materion eraill a godwyd yn ystod y drafodaeth

·          Biniau gorsaf Llandecwyn - a oes bwriad eu hail osod? Mater Cyngor ynteu fater TFC? GJ i edrych i hyn

·          Sbwriel ar y rheilffordd yn amlygu blerwch – angen cydweithio i wella’r ddelwedd

·          Angen gwell cydweithio rhwng amserlenni  bysus a threnau i hybu trafnidiaeth gyhoeddus

·          Angen ystyried ail gyflwyno trenau nwyddau - mewn ymateb nodwyd bod Cynghrair Trafnidiaeth Canolbarth Cymru wedi trafod y posibiliadau a bod Uwch Reolwr Cludo Nwyddau NR wedi sôn am gynllun peilot i edrych ar y posibilrwydd - Y Cambrian yn addas i’r pwrpas yma. Awgrym gwahodd Jess Lippitt (Uwch Reolwr Llwybrau Cludo Nwyddau - Network Rail) i gyfarfod i’r dyfodol i drafod materion cyffredinol cludo nwyddau.

 

HEDDLU TRAFNIDIAETH BRYDEINIG

 

Nid oedd cynrychiolydd o Heddlu Trafnidiaeth Brydeinig yn bresennol i gyflwyno adroddiad. Amlygwyd nad oedd ymateb wedi ei dderbyn gan Inspector  Karl Anderson. Nododd SH mai tîm bychan iawn sydd bellach yn gweithio i’r Tîm Heddlu Trafnidiaeth Rheilffordd. SH i gyfeirio cyswllt newydd i LHE

 

Diolchwyd am y diweddariadau