Cyflwyno
adroddiad yr Aelod Cabinet Amgylchedd.
Penderfyniad:
Cytuno i gyhoeddi’r Adroddiad Adolygu yn Atodiad 1 i’r adroddiad
a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru, fel y gellir cychwyn ar y broses o baratoi
Cynllun Diwygiedig.
Cofnod:
Eglurodd y Cadeirydd mai adroddiad ar y cam nesaf o’r broses o adolygu’r
Cynllun Datblygu Lleol oedd gerbron, ac nid cyfle i gael trafodaeth ar bolisïau
cynllunio unigol. Eglurodd, petai’r
Cyngor yn cytuno i symud ymlaen i gynnal adolygiad llawn o’r cynllun presennol,
yna byddai sawl cyfle i gael mewnbwn i bolisïau unigol a thrafod meysydd
penodol yn nes ymlaen.
Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Amgylchedd, y Cynghorydd Gareth Griffith,
adroddiad yn ceisio cytundeb y Cyngor llawn i gyhoeddi’r Adroddiad Adolygu a’i
yrru ymlaen i Lywodraeth Cymru, er mwyn gallu symud ymlaen gyda’r gwaith o
baratoi Cynllun Diwygiedig.
Ymhelaethodd y Pennaeth Cynorthwyol - Amgylchedd ymhellach ar gynnwys yr adroddiad.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. Codwyd y materion a ganlyn gan aelod unigol:-
·
Nodwyd bod llawer o waith wedi mynd i mewn i’r
adroddiad, a diolchwyd i’r Aelod Cabinet a’r swyddogion fu ynghlwm â hyn.
·
Mynegwyd y farn bod yr ieithwedd a’r fiwrocratiaeth
ynghlwm â’r ddogfen yn anhygoel ac yn anghredadwy, a bod yr holl drefn gynllunio
mor gymhleth, fel nad ydi’r mwyafrif o bobl, gan gynnwys aelodau etholedig, yn
deall yn iawn beth sy’n mynd ymlaen.
Awgrymwyd y gellid defnyddio’r gwaith ymgynghorol diwethaf fel
enghraifft o hynny, gan mai 5 aelod yn unig oedd wedi ymateb i’r ymgynghoriad
hollbwysig hwn.
·
Gresynwyd nad oedd y swyddogion o’r farn bod yr un
o’r agos at 80 o ddangosyddion sy’n cael eu defnyddio ar gyfer arbed yr iaith
Gymraeg yn amlygu bod niwed yn cael ei wneud i’r iaith, a’i bod yn ymddangos,
heb Brexit a Covid, na fyddai yna unrhyw newidiadau yn cael eu crybwyll o gwbl.
·
Mynegwyd pryder ynglŷn a beth yn union sy’n
cael ei gyflwyno, a beth yn union fydd yn dod yn ôl wedyn gan Lywodraeth Cymru,
ac yn waeth na hynny, pryderid yn fawr mai’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd
fydd yn ymdrin ag unrhyw newidiadau.
·
Nodwyd, yn 2017, y bu i’r Pwyllgor Polisi Cynllunio
ar y Cyd roi sêl bendith i ddod â’r cynllun gerbron y Cyngor, a chafodd ei
basio yno o drwch blewyn. Y cwbl y
gallai’r aelodau wneud ar y pryd oedd ei ganiatáu neu ei wrthod, ac nid oedd
modd gofyn am fwy o amser er mwyn i’r aelodau newydd ar y pryd gael cyfle i
drafod y polisïau.
·
Nodwyd ein bod yn gweld, dro ar ôl tro, bod y
polisïau cynllunio yn gweithio yn groes i ddymuniad yr aelodau i geisio
gwarchod ein cymunedau Cymraeg, a phryderid, pan ddaw’r ymateb gan Lywodraeth
Cymru, na fydd yr aelodau newydd yn deall pwysigrwydd nac arwyddocâd hyn.
·
Nodwyd dymuniad i ddiddymu’r Pwyllgor Polisi Cynllunio
ar y Cyd fel bod Cyngor Gwynedd yn gweithredu ar ei ben ei hun, ond pryderid na
fyddai hynny’n digwydd, er bod yr holl dystiolaeth yn amlygu bod yna wahaniaeth
mawr rhwng ein dymuniadau ni yng Ngwynedd a dymuniadau Môn.
Mewn ymateb i’r sylwadau hyn, nododd yr Aelod Cabinet:-
·
Y trefnwyd sesiynau i’r aelodau, lle roedd yr Adran
Bolisi Cynllunio yn cyflwyno gwybodaeth ynglŷn â’r rhan yma o’r adolygiad,
a phetai’r Cyngor yn penderfynu ei basio ymlaen i Gaerdydd, byddai’r gwaith
caled yn digwydd ar ôl yr Etholiadau ym mis Mai.
·
Y byddai’r gwaith yn parhau a bod yr Adran wedi
datgan eu parodrwydd i wrando, cynnal mwy o sesiynau ac ymgynghori.
Ategwyd sylwadau’r siaradwr blaenorol gan aelodau eraill, a nododd:-
·
Na chafodd yr aelodau ond 5 diwrnod i ddarllen y
ddogfen 152 tudalen yma, a holwyd sut bod modd iddynt graffu a chymeradwyo’r
adroddiad, yn enwedig â ninnau bron 4 awr i mewn i’r cyfarfod hwn.
·
Bod y pethau yma yn cael eu dympio arnom ac yn cael
eu gwthio drwodd, a diau y bydd y Cyngor newydd yn cael clywed nad oes modd
iddynt newid y ddogfen gan i’r Cyngor blaenorol ei mabwysiadu.
·
Y dywedwyd wrth yr aelodau yn 2017 bod hon yn
ddogfen ‘fyw’, ond cafwyd ar ddeall yn ddiweddarach nad oedd modd ei newid am
3.5 mlynedd.
·
Nad yw anfon y cynllun hwn at y Llywodraeth fel ag y
mae yn gwneud dim ond cadarnhau’r status quo, a dylem feddwl y tu allan i’r
bocs a bod yn chwyldroadol.
·
Nad oedd nifer o’r pwyntiau a gododd yn ystod yr
ymgynghoriad cyhoeddus, ac sy’n greiddiol i’n gweledigaeth, sef yr iaith
Gymraeg, tai fforddiadwy i bobl leol, tai marchnad leol, ail-gartrefi a thai
haf, twristiaeth a gor-dwristiaeth, y Ddeddf Llesiant, ayb, yn rhan o’r hyn
sy’n cael ei gyflwyno i’r Llywodraeth, a gofynnwyd am sicrwydd nad oedd
cymeradwyo’r argymhelliad yn cau allan unrhyw drafodaeth lawn a manwl ar yr
holl faterion hyn.
·
Y pryderid mai’r oll fyddwn yn wneud drwy
fabwysiadu’r argymhelliad fydd cadarnhau’r hyn y pleidleisiwyd drosto, o un
bleidlais, yn 2017, gyda rhai mân newidiadau’n unig.
·
Bod y cwestiwn o wahanu oddi wrth Fôn yn gwestiwn y
bydd yn rhaid i’r Cyngor newydd ei ystyried yn ddifrifol iawn.
Holwyd a oedd cymeradwyo’r argymhelliad yn clymu’r Cyngor i gynllun lleol
ar y cyd yn y dyfodol. Mewn ymateb,
eglurwyd nad oedd y drefn bresennol o gydweithio gyda Môn dan drafodaeth o gwbl
yn y cyfarfod hwn. Petai dymuniad i
wneud penderfyniad gwahanol ar hynny, roedd yr hawl yno, a gallai’r Cyngor
drafod hynny yn y dyfodol. Nodwyd
ymhellach mai briff y Cyngor llawn oedd eu bod yn dymuno gweld adolygiad llawn
o’r cynllun, a bod hynny’n digwydd yn sydyn, a’r cam cyntaf er mwyn caniatáu i
hynny ddigwydd fyddai cytuno i gyhoeddi’r Adroddiad Adolygu a’i anfon at
Lywodraeth Cymru.
Mewn ymateb i rai o’r sylwadau, nododd aelod unigol:-
·
Na welid sut bod cael adolygiad llawn o’r cynllun yn
gallu cadarnhau’r status quo mewn unrhyw ffordd.
·
Ei fod yn siomedig ynglŷn â’r honiad nad oedd
aelodau etholedig yn deall y drefn gynllunio, ac yn gweld hynny fel sarhad.
·
Bod rhai o’r farn bod y 3.5 mlynedd mae’n mynd i gymryd
i adolygu’r cynllun yn ormod o amser, ac y byddai’n well cael modd o gyflymu
hynny, ond rhaid cofio bod y Cyngor wedi pasio hynny fel egwyddor ac wedi
ysgrifennu at y Llywodraeth i ofyn am gyflymu’r broses, ond bod y Llywodraeth
wedi dweud nad oedd hynny’n bosib’.
·
Nad oedd hynny’n cau allan y drafodaeth, ond yn
hytrach yn ei hagor, a byddai’r pwyntiau pwysig a godwyd yn ystod yr
ymgynghoriad cyhoeddus yn cael eu trafod yn fanwl dros y blynyddoedd nesaf.
Yn ei sylwadau cloi, nododd yr Aelod Cabinet:-
·
Er derbyn y sylw ynglŷn â maint y ddogfen, bod
yr adroddiad wedi bod ar gael ar wefan y Cyngor ers rhaid wythnosau, ond bod
rhaid mynd i chwilio amdano.
·
Ei fod yn siomedig bod cyn lleied o aelodau wedi
cymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyntaf, ac erfyniodd ar bawb i gymryd rhan yn yr
ail ymgynghoriad yn dilyn yr Etholiad.
·
Y byddai’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod yr
ymgynghoriad cyntaf yn cael eu hystyried yn yr ail ymgynghoriad, ac felly nad
oedd angen cyflwyno’r un sylwadau ddwywaith.
PENDERFYNWYD cytuno i gyhoeddi’r Adroddiad Adolygu yn
Atodiad 1 i’r adroddiad a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru, fel y gellir cychwyn
ar y broses o baratoi Cynllun Diwygiedig.
Dogfennau ategol: