Agenda item

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau.

Penderfyniad:

Nodi a derbyn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiadau isod a gwahoddwyd adborth gan yr aelodau ar faterion diogelwch a materion gweithredol yr harbwr.

 

(1)     Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad bras i’r pwyllgor ar faterion yr harbwr am y flwyddyn oedd yn dod i ben ar ddiwedd mis Mawrth 2022.

 

Nododd y Rheolwr Morwrol:-

 

·         Y bu o fudd cynnal cyfarfodydd rhithiol o’r pwyllgor dros y cyfnod diwethaf, ond bod colled o beidio cael presenoldeb pobl o amgylch y bwrdd a’r trafodaethau sy’n digwydd yn naturiol o flaen ac ar ôl y cyfarfodydd.  Nid oedd yn hysbys eto beth fyddai’r trefniadau i’r dyfodol, ond nodwyd bod y trefniadau rhithiol wedi gweithio’n wych, a diolchwyd i bawb am hwyluso hynny.

·         Yr hoffai ddymuno’n dda i David Eastwood (Cynrychiolydd Buddiannau Harbwr) oedd wedi ymddiswyddo o’r pwyllgor yn ddiweddar.  Nododd y bu’n aelod ffyddlon iawn o’r pwyllgor, ac yn gefnogol i’r staff ar hyd y blynyddoedd, a byddai colled ar ei ôl.  Ychwanegodd y Rheolwr Morwrol y byddai’n cysylltu â’r sawl sydd â buddiannau masnachol yn yr harbwr i dynnu sylw bod sedd ar gael ar y pwyllgor.

·         Y dymunai hefyd ddiolch ar ran y Gwasanaeth Morwrol i’r Cynghorydd Selwyn Griffiths am ei arweiniad a’i gefnogaeth fel Cadeirydd y pwyllgor hwn, ac hefyd fel yr aelod lleol dros Orllewin Porthmadog.  Nododd y Cadeirydd ei fod yntau’n ddiolchgar iawn i staff yr harbwr am eu gwaith.

·         Bod nifer o elfennau yn yr adroddiad ar goll ar hyn o bryd oherwydd absenoldeb salwch, ond y bwriedid cylchredeg y wybodaeth honno, sef y ffioedd a’r cyllidebau, i’r aelodau yn dilyn y cyfarfod hwn.

·         Yn sgil cysylltu â phob cwsmer yn yr harbwr, y derbyniwyd nifer o geisiadau am angorfeydd.  Bwriedid cynnal archwiliad tanddwr o’r angorfeydd yn yr harbwr cyn cyfnod y Pasg, a phwysleisiwyd pwysigrwydd cyflawni’r gwaith hwnnw oherwydd y gallai angorfeydd gwan neu ddiffygiol achosi difrod sylweddol.  Ychwanegodd, er i stormydd Chwefror daro ar benllanw, nad oedd yr un cwch wedi torri i ffwrdd, a bod hynny’n amlygu cryfder yr angorfeydd i gymryd yr holl bwysau.

·         Yn sgil llwyddiant y system gofrestru Cychod Pŵer a Badau Dŵr Personol ar-lein llynedd, y bwriedid parhau â’r un drefn ar gyfer y flwyddyn i ddod, a byddai’r system yma’n ail-agor ar 31 Mawrth ar gyfer y tymor i ddod.

·         Bod y gwasanaeth yn monitro ac yn ail-asesu’r Cod Diogelwch Morol Porthladdoedd yn rheolaidd, gan ychwanegu ac addasu asesiadau risg yn ôl yr angen.  Nodwyd hefyd bod yr Asiantaeth Forol a Gwylwyr y Glannau (MCA) wedi cyhoeddi rhestr gyflawn yn y pythefnos diwethaf o harbyrau sy’n cydymffurfio â’r Cod, a bod Harbwr Porthmadog wedi’i gynnwys ar y rhestr honno.  Y Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Datblygu’r Economi, oedd y Deilydd Cyfrifoldeb ar gyfer hyn, ac roedd yntau’n ymwybodol bod yr MCA wedi cymeradwyo’r Cod Diogelwch.

·         Bod marcio’r sianel mordwyo a chynnal y cymorthyddion mordwyo yn heriol gan fod y sianel yn newid yn barhaus.  Roedd y sianel wedi bod yn newid tuag at Gricieth, ond yn y pythefnos diwethaf roedd wedi symud fwy at Harlech.  Nodwyd ymhellach nad oedd unrhyw fater wedi dod gerbron o safbwynt diogelwch yr harbwr.

·         Y bwriedid parhau â’r lefelau staffio presennol yn yr harbwr.  Rhagwelid y byddai’n gyfnod heriol iawn i’r gwasanaeth dros yr haf oherwydd prinder pobl i lenwi swyddi a’r angen i gynorthwyo yn Abermaw yn ystod Mai/Mehefin oherwydd diffyg staff yno.

·         Y rhagwelid y byddem yn cyrraedd ein cyllideb yn Harbwr Porthmadog yn y flwyddyn ariannol bresennol.  Roedd y targed incwm ar gyfer y flwyddyn bresennol yn £65m, ond llwyddwyd i ddenu tua £2m o incwm yn fwy na hynny, gan arwain at gyfanswm o tua £67m o incwm yn 2021/22.  Hefyd, o ganlyniad i danwariant bychan yn y gwasanaeth o safbwynt Harbwr Porthmadog, rhagwelid y byddai’r gyllideb tua £5m yn uwch na’r nod, ac roedd hynny ar ôl ariannu’r archwiliad tanddwr o’r angorfeydd.  Ychwanegodd y Swyddog Morwrol y bu’n flwyddyn heriol, ond roedd yn falch o adrodd bod y gyllideb yn ôl i’r lefel ddisgwyliedig.

·         Y byddai’r cynnydd yng ngraddfa chwyddiant yn cael effaith ar gostau’r Harbwr a chostau sy’n gysylltiedig â phobl sy’n gwneud defnydd o’r Harbwr ei hun.  Bwriedid codi’r ffioedd tua 3.5%, yn unol â lefel chwyddiant a thargedau’r Cyngor, ond roedd hyn yn parhau i fod ychydig yn is na’r cynnydd mewn rhai harbyrau ar draws y wlad.  Gobeithid na fyddai’r cynnydd hwn yn cael effaith niweidiol ar niferoedd cychod yn yr Harbwr eleni.

·         Y byddai’r ffi cofrestru cychod yn codi i £50.  Byddai’r ffioedd lansio yn aros yr un fath, gyda’r ffi ddyddiol yn parhau yn £20 a’r ffi flynyddol yn aros ar £150, a gobeithid y byddai hynny’n annog pobl i gofrestru am flwyddyn, yn hytrach na thalu o ddydd i ddydd.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chyflwyno sylwadau.  Codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Pwysleisiwyd bod Harbwr Porthmadog yn rhan greiddiol o Safle Treftadaeth y Byd Llechi Cymru, a bod angen manteisio ar unrhyw gyfleoedd posib’ all godi yn sgil hynny.  Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Morwrol y byddai’n cysylltu â Roland Evans, Pennaeth Cynorthwyol Diwylliant, sy’n arwain ar hyn yn y Cyngor, i drafod ymhellach.

·         Holwyd a fyddai’r £5m o incwm ychwanegol yn cael ei fuddsoddi yn Harbwr Porthmadog, neu’n diflannu i mewn i’r cyllidebau canolog.  Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Morwrol y gwneid pob ymdrech i sicrhau bod pob harbwr arall ar draws y sir yn cyrraedd y gyllideb, ond y byddai’r arian yn cael ei fuddsoddi yn ôl yn y Gwasanaeth Morwrol.  Efallai y byddai yna elfennau yn gorfod cael eu buddsoddi mewn llefydd eraill mwy bregus, ond roedd y ffigurau’n dangos ein bod yn buddsoddi’n synhwyrol yn Harbwr Porthmadog, a gofynnwyd i’r aelodau roi gwybod i’r Rheolwr Morwrol pe dymunent i’r gwasanaeth fuddsoddi mewn prosiectau penodol.  Cydnabuwyd, fodd bynnag, na fyddai’r sefyllfa mor addawol ar gyfer y flwyddyn nesaf, gyda chostau ar gynnydd a’r gyllideb wedi’i gosod yn barod.

 

(2)     Adroddiad yr Harbwrfeistr yn crynhoi’r materion Mordwyo a Gweithredol a wnaed ac a brofwyd yn y cyfnod rhwng mis Hydref 2021 a Mawrth 2022, gan gynnwys materion cynnal a chadw.

 

Nododd Harbwrfeistr Porthmadog:-

 

·         Gan fod y sianel mordwyo yn symud tuag at Harlech bellach, y gofynnwyd am ganiatâd gan Tŷ’r Drindod i symud Bwi Fairway.

·         Bod Bwi Rhif 1 wedi bod ar draeth Harlech ers cyn y Nadolig gan fod y fynedfa i’r traeth wedi codi gymaint fel ei bod yn amhosib’ mynd â cherbyd i’w nol.

·         Iddo fynd i lawr i draeth Morfa Bychan yn gynharach yn y dydd i weld beth sydd angen ei wneud yno cyn y Pasg.  Gobeithid y byddai’r caban yno yn ystod wythnos gyntaf Ebrill a byddai’r staff yn dechrau ar eu gwaith ar y penwythnos cyn y gŵyl banc.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chyflwyno sylwadau.  Codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Cyfeiriwyd at ddigwyddiad diweddar pan fu i’r arwyddion 10mya ger y fynedfa i draeth Morfa Bychan gael eu tynnu i lawr yn fwriadol, a diolchwyd i’r Harbwrfeistr am fynd yno i’w hail-osod.  Nododd yr Harbwrfeistr y cafwyd problem gyda’r biniau wrth y fynedfa i’r traeth tua mis yn ôl hefyd, wrth i rywun orlenwi’r biniau’n barhaus gyda gwastraff tŷ, ond bod y broblem bellach wedi diflannu yn sgil symud y biniau oddi yno.  Nododd y Rheolwr Morwrol ei bod yn drueni bod y sefyllfaoedd hyn wedi codi, ond mai ychydig iawn o broblemau sy’n codi’n gyffredinol, o ystyried y niferoedd sy’n defnyddio’r traeth.  Canmolwyd y cydweithio rhwng y Cyngor a’r Heddlu hefyd.

·         Holwyd a oedd y biniau ger y fynedfa i draeth Morfa Bychan o Lôn Gwydryn wedi’u symud oddi yno’n barhaol, gan fod pobl wedi bod yn gadael ysbwriel yno.  Mewn ymateb, eglurodd y Rheolwr Morwrol mai trefniant dros dro oedd symud y biniau oddi yno i geisio annog pwy bynnag oedd yn gwaredu gwastraff tŷ yn y biniau i wneud trefniadau amgen, ac y byddai’r biniau traeth tymhorol yn eu lle yn unol â’r trefniant arferol yn fuan.

·         Nodwyd bod ysbwriel, oedd yn edrych fel ysbwriel oedd wedi dod o’r môr, wedi’i adael am rai wythnosau mewn pentwr yn y fynedfa i Fae Carreg Samson wrth waelod y grisiau ar y llwybr arfordir, a holwyd pwy oedd yn gyfrifol am ei gasglu.  Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Morwrol ei bod yn wych bod gwirfoddolwyr yn mynd ati i lanhau’r traeth, ond ei bod yn bwysig eu bod yn rhoi gwybod i’r gwasanaeth, fel y gellid mynd yno i gasglu’r ysbwriel.  Gorau oll hefyd pe bai’r ysbwriel yn cael ei adael mor agos at ben ffordd â phosib’, fel bod modd i gerbyd ei gasglu.  Cadarnhawyd y byddai’r Harbwrfeistr yn rhoi sylw i hyn cyn diwedd yr wythnos.

·         Holwyd a oedd y mwd dan Cei Newydd wedi cynyddu, ac os felly, a fyddai hynny’n achosi problemau.  Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Morwrol fod yna gynnydd yn y llaid yn yr Harbwr yn ei gyfanrwydd oherwydd bod y pontwns yn tawelu ac yn dargyfeirio’r dŵr i lefydd eraill.  Ychwanegodd fod bwriad i gael contractwr lleol i asesu’r sefyllfa er mwyn gweld beth sy’n bosib’.

 

Nododd y Rheolwr Morwrol, yn sgil llwyddiant cludo trawsnewidydd ar long i draeth Morfa Bychan ac ymlaen i Drawsfynydd yn 2020, bod bwriad i gynnal ymarferiad tebyg eto y flwyddyn nesaf.  Roedd y gwaith cynllunio wedi cychwyn eisoes, a byddai rhagor o wybodaeth yn cael ei chyflwyno i aelodau’r pwyllgor hwn yn yr hydref.  Nodwyd pwysigrwydd sicrhau bod y gwaith o dorri coed ar hyd llwybr y daith yn digwydd ymlaen llaw.

 

Cyfeiriwyd at amrywiol ddigwyddiadau yn yr Harbwr yn y gorffennol, a nododd y Rheolwr Morwrol ei bod yn braf cael mewnbwn yr aelodau i faterion fel hyn.

 

Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu mewnbwn, gan ddymuno’n dda i bawb fyddai’n aelodau o’r pwyllgor yn dilyn yr Etholiadau ym mis Mai.

 

PENDERFYNWYD nodi a derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: