Adroddiad
gan Gyfarwyddwr Cynorthwyol GwE.
Penderfyniad:
Derbyn a chymeradwyo cynnwys yr adroddiad, ynghyd â’r blaenoriaethau lefel
uchod a nodwyd.
Cofnod:
PENDERFYNIAD
Derbyn
a chymeradwyo cynnwys yr adroddiad, ynghyd â’r blaenoriaethau lefel uchod a
nodwyd.
Trafodaeth
Cyflwynwyd -
adroddiad y Cyfarwyddwr Cynorthwyol yn cyflwyno gwybodaeth i’r Cyd-bwyllgor yng
nghyd-destun ble mae ysgolion ac UacCD arni ar hyn o
bryd wrth iddynt roi sylw i’r agenda adfywio a diwygio, a hynny’n seiliedig ar
dystiolaeth a gasglwyd gan Ymgynghorwyr Cefnogi Gwelliant GwE fel rhan o’u
gwaith yn cefnogi ysgolion yn ystod tymor yr hydref 2021. Gofynnwyd i’r Cyd-bwyllgor dderbyn a
chymeradwyo cynnwys yr adroddiad, ynghyd â’r blaenoriaethau lefel uchel a
nodwyd.
Cadarnhaodd
Cadeirydd y Bwrdd Rheoli ei bod hi a’r prif swyddogion yn llwyr gefnogol i’r
daith ddiwygio, a’u bod yn ddiolchgar am y trosolwg cynhwysfawr gan y Rheolwr
Gyfarwyddwr a’i dîm, a’r mewnbwn gan swyddogion eraill hefyd i gyfarfodydd y
Bwrdd Rheoli ynghylch y manylion o gwmpas y cyfleoedd i gefnogi’r gwaith o
gyflwyno’r cwricwlwm.
Nodwyd bod yna
lawer o elfennau heriol ar droed ar hyn o bryd, ond holwyd a oedd yna unrhyw
beth y dylai’r Cyd-bwyllgor fod yn arbennig o wyliadwrus yn ei gylch ar y pwynt
yma. Mewn ymateb, nododd y Rheolwr
Gyfarwyddwr:-
·
Bod
angen i bawb fod yn ymwybodol o’r shifft sylweddol o gwricwlwm cenedlaethol,
lle mae pawb yn weddol unffurf yn ei ddilyn, i gwricwlwm sy’n cael ei arwain
gan bwrpas, ac sy’n gwricwlwm lleol, a pha mor bwysig ydyw bod y llywodraethwyr
ac arweinyddiaeth yr ysgolion yn arwain y cynnig yma yn eu cymunedau, ac i’w
disgyblion, ac yn cyfathrebu hynny’n glir.
·
O
bosib’, na lawn sylweddolwyd pa mor bwysig yw rôl yr arweinyddiaeth yn yr ysgol
yn diffinio’r arlwy maen nhw’n dymuno ei roi i’r disgyblion er mwyn gwneud yn
siŵr eu bod yn llwyddo yn eu milltir sgwâr.
·
Mai
her arall i’r gwleidyddion, ac i’r swyddogion, oedd bod yr arlwy am fod yn
wahanol o ysgol i ysgol, ac y byddai’r gwaith o gymharu ysgolion hefyd yn
digwydd ar lefel ychydig yn wahanol.
·
Ei
bod yn ofynnol i’r arweinyddiaeth fod yn glir o ran beth yw’r rhesymeg dros eu
cynnig hwy yn lleol. Roedd cymunedau yn
hollol wahanol i’w gilydd yn ieithyddol ac o ran diwydiant, ayb. Roedd yna bethau creiddiol fyddai’n
gyffredin, ond pethau eraill fyddai’n gwneud y cynnig yn y gwahanol ardaloedd
yn unigryw, ac yn benodol ac yn bersonol i’r disgyblion hynny, a’u taith hwy
tuag at fyd gwaith, addysg neu hyfforddiant.
·
Bod
gennym waith i addysgu ein hunain, a gwaith i’r swyddogion, yn eu hadroddiadau
craffu, i egluro a rhoi cyd-destun i’r newid mewn diwylliant a’r gwahaniaeth
fyddai yna mewn cynnig o ysgol i ysgol.
Mynegwyd pryder
ynglŷn â gallu’r seilwaith i ymdopi â’r holl bwysau wrth symud ymlaen,
e.e. o ran y cwricwlwm a’r Rhaglen Trawsnewid ADY, a holwyd a ddylem fod yn
gwthio nôl ychydig, ac yn datgan nad yw’n ‘fusnes fel arfer’ yn y maes
addysg. Mewn ymateb, nododd y Rheolwr
Gyfarwyddwr:-
·
Bod
yna flaenoriaethau a gytunwyd ar lefel genedlaethol, ac sy’n rhaid eu
mabwysiadu ar lefel leol. Cytunid bod
yna densiwn, a rôl GwE oedd cynorthwyo’r ysgolion i wella a rhoi pethau mewn
lle, fel nad oedd mabwysiadu’r trawsnewid yn digwydd rhwng 31 Awst ac 1 Medi,
a’i fod yn hytrach, yn digwydd dros gyfnod o 2-3-4 blynedd.
·
Bod
y shifft yn Rhaglen Trawsnewid ADY yn sylweddol ac yn rhoi’r baich ar lefel
ysgol, ac wrth ddod â phopeth ynghyd, roedd yn allweddol bod y gwasanaethau
cefnogol ar y blaen o ran anghenion yr ysgol, ac yn paratoi ar gyfer y camau
nesaf.
·
Gan
fod y pandemig wedi cael mwy o ardrawiad ar rai
ysgolion nag eraill, roedd yn bwysig ein bod yn torri’r elfennau hyn i lawr i
rannau llai, er mwyn caniatáu i ysgolion sydd mewn sefyllfaoedd gwahanol
ymdopi.
·
Y
byddai penderfyniad Estyn i ddyblu nifer yr arolygiadau a lleihau’r cyfnod
rhybudd i 10 diwrnod yn cyflwyno lefel uwch o bryder i mewn i’r system.
·
Bod
GwE yn trafod gyda’r Llywodraeth ynglŷn â’r diffiniad o ‘barodrwydd’. Roeddem yn barod i ymrwymo ar gyfer mis Medi
yn y sector uwchradd, ond roedd angen adeiladu ansawdd y cynnig i mewn i hynny,
fel bod modd cynnig rhywbeth gwell na’r hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd.
·
O
gymryd popeth at ei gilydd, arweinyddiaeth, llesiant a gofalu am reolwr canol
ac uwch reolwyr mewn ysgolion, yn ogystal â chydweithwyr yn yr awdurdodau
lleol, roedd pobl dan straen sylweddol.
Byddai’r agenda wedi bod yn heriol heb y pandemig,
ond gyda’r pandemig, roedd yn eithriadol o heriol, a
dyna pam bod yr elfen gefnogol mor bwysig.
·
Y
cwestiwn pwysig i’w ofyn oedd, pan fo’r rheoleiddiwr
yn gofyn i’r ysgolion brofi beth maen nhw wedi wneud, sut mae’r naratif yn
edrych mewn gwirionedd, a pha mor empathig fydd
hynny, o ystyried cyd-destun y 2 flynedd ddiwethaf?
Nodwyd, er ei bod
yn werthfawr cael cwricwlwm lleol sy’n adlewyrchu anghenion y gymuned leol,
mai’r elfen allweddol yn hyn oll fyddai’r arweinyddiaeth gyfunol rhwng
arweinyddion a llywodraethwyr ysgolion, er sicrhau cysondeb wrth i ddysgwyr
drosglwyddo o’r sector cynradd i’r uwchradd.
Fel arall, gallai problemau enfawr godi wrth i blant o nifer o ysgolion
cynradd gwahanol gyrraedd Blwyddyn 7, ond heb fod wedi cael yr un profiadau a
chyfleoedd i ddatblygu’r un set o sgiliau.
Nodwyd bod y prif
swyddogion yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gynorthwyo’r penaethiaid i fod
mor barod â phosib’ ar gyfer 1 Medi, ac yn cyfleu’r neges yn gyson i’r
Llywodraeth ac i Estyn nad yw’n ‘fusnes fel arfer’ yn y maes addysg. Eglurwyd y rhoddwyd cyfleoedd i benaethiaid
ymgysylltu ar adeg ac ar gyflymder sy’n gyfleus iddynt o fewn yr amserlen a
osodwyd ar gyfer cychwyn Medi. Ychwanegwyd
bod penaethiaid yn teimlo’n rhwystredig oherwydd, er gwaethaf y materion
sylweddol ar y gorwel, roeddent yn cael eu tynnu yn ôl yn barhaus i ymdrin â
materion gweithredol dydd i ddydd yn sgil y pandemig,
yn arbennig yr heriau o safbwynt rheoli ymddygiad disgyblion o ganlyniad i’r
trawma a achoswyd gan y pandemig.
Nodwyd bod GwE yn
gwneud gwaith ardderchog wrth barhau i gefnogi datblygiad y cwricwlwm
newydd.
Nodwyd nad
parodrwydd y proffesiwn ar gyfer y cwricwlwm newydd oedd yr unig bryder, eithr parodrwydd
y dysgwyr hefyd, a mynegwyd pryder na thrafodwyd hyn ar lefel
genedlaethol. Eglurwyd bod y 2 flynedd o
darfu ar addysg wedi effeithio ar ddatblygiad cymdeithasol disgyblion, a’u
gallu i dderbyn addysg wyneb yn wyneb.
Bwriadai’r prif swyddogion barhau i drafod hyn gyda’r Llywodraeth, ac
roedd hefyd yn fater i’w gadw mewn golwg pan fydd Estyn yn arolygu.
Dogfennau ategol: