Adroddiad
gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE.
Penderfyniad:
Derbyn a chymeradwyo cynnwys yr adroddiad, ynghyd â’r gweithgareddau
arfaethedig fel yr amlinellir.
Cofnod:
PENDERFYNIAD
Derbyn
a chymeradwyo cynnwys yr adroddiad, ynghyd â’r gweithgareddau arfaethedig fel
yr amlinellir.
Trafodaeth
Cyflwynwyd –
adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr yn cyflwyno gwybodaeth i aelodau’r Cyd-bwyllgor
am y cymorth sydd ar gael i ysgolion dros y ddau dymor nesaf i’w galluogi i
weithredu a chyflwyno’r cwricwlwm newydd.
Gofynnwyd i’r Cyd-bwyllgor dderbyn a chymeradwyo cynnwys yr adroddiad,
ynghyd â’r gweithgareddau arfaethedig a amlinellwyd.
Holwyd a
ddisgwylid bod y safon yn eithaf cyson ar draws yr ysgolion. Mewn ymateb, nododd yr Uwch Arweinydd –
Cynradd:-
·
Bod
rhaid derbyn bod pob ysgol mewn lle gwahanol ar y siwrne, gyda rhai angen mwy o
gefnogaeth nag eraill, ond trwy’r arlwy yma, gobeithid sicrhau bod yr elfennau
statudol yn eu lle erbyn mis Medi, gyda phob ysgol wedi cael y gefnogaeth a’r
cyfle i fynd drwy’r broses.
·
Bod
hyn hefyd yn rhoi cyfle i bob ysgol gychwyn ar y daith gynllunio, ac edrych ar
y meysydd datblygu hyfforddiant. Roedd
llawer o ysgolion wedi cychwyn ar y gwaith yma eisoes, a byddai’n rhoi pob
ysgol mewn lle i fedru dechrau ym Medi.
·
Bod
rhaid cofio mai dechrau’r siwrnai yn unig fydd hyn, ac y bydd yna lawer o
ail-ymweld a llawer o gefnogaeth ar gael fel bod ysgolion yn gallu addasu a
chael y cwricwlwm mewn lle yn briodol dros y blynyddoedd i ddod.
Nodwyd, er
gwaethaf yr anawsterau dros y 2 flynedd ddiwethaf, y gobeithid bod y gwaith
wedi’i gyflawni fel na wynebir gormod o heriau rhwng hyn a mis Medi. Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Gyfarwyddwr:-
·
Er
bod yna le i roi'r dimensiwn lleol, bod yna broses ffurfiol y mae’n rhaid i
bawb fynd drwyddi i gyrraedd y pwynt, ac mai prif fwriad y gyfres nesaf o
weithdai fyddai rhoi’r rhwydwaith diogelwch o gwmpas yr ysgolion, fel bod pawb
yn glir o ran cyflawni’r pethau sydd angen bod yn barod.
·
Bod
y cwestiwn o ansawdd angen sylw, fel yn y blynyddoedd a fu, ond byddai yna
heriau lleol iawn, ac roedd angen i ni i gyd ystyried beth yw’r gymuned rydym
yn byw oddi fewn iddi. Roedd yna gymuned
i’r ysgol, ond roedd y gymuned ysgol yna yn byw o fewn cymuned awdurdod hefyd,
ac roedd yna drafodaeth gorfforaethol o gwmpas arweinyddiaeth y cwricwlwm a’r
cyfeiriad strategol y dymunai’r cyngor ei ddilyn hefyd. Gan hynny, roedd rhaid peidio meddwl bod
ysgolion mewn gwagle yn gweithredu eu dymuniadau eu hunain, ac roedd yn ofynnol
iddynt weithio o fewn yr is-adeiledd yma hefyd.
Nodwyd mai’r her
fwyaf yw’r trosglwyddo o flwyddyn 6-7, a sut mae’r ysgolion yn mynd i ymdopi â
hynny o ran dalgylchoedd lleol. Mewn
ymateb, nododd y Rheolwr Gyfarwyddwr:-
·
Bod
hon yn her ar fwy nag un lefel, oherwydd, er mwyn gosod y weledigaeth yn ei
chymuned, ei bod yn ofynnol i’r gymuned o 3-18 oed gael y weledigaeth, neu bydd
yna linynnau gwahanol yn dod i mewn.
·
I
gymhlethu’r sefyllfa, roedd yna rai ysgolion lle mae eu dalgylchoedd naturiol
yn croesi, a hefyd disgyblion yn symud o ysgol i ysgol o un pen Gogledd Cymru,
neu sir, i’r llall, neu’n dod i mewn o unrhyw ardal arall.
·
Bod
cwestiwn ai gwybodaeth neu sgiliau sy’n cael eu trosglwyddo, ac os y ddau beth,
sut wedyn mae cymhathu’r disgybl newydd yna i’w gymuned newydd?
·
Er
y gellid cynllunio pontio mewn cymuned, roedd pontio traws-cymuned yn rhywbeth
tra gwahanol eto, ac roedd ymarferoli’r weledigaeth
gwricwlaidd yn mynd i esgor ar nifer o heriau newydd a gwahanol.
Nodwyd bod
gwydnwch y dysgwyr sy’n gwneud y symudiad a’r ganran uwch o blant sydd wedi
dadrithio o’r gyfundrefn addysg yn sgil y pandemig yn
elfen arall fydd yn creu heriau.
Holodd y Cadeirydd
a ddylai’r sector uwchradd ohirio gweithredu’r cwricwlwm newydd am flwyddyn er
mwyn sicrhau cymesuredd rhwng yr hyn mae ysgolion uwchradd ac ysgolion cynradd
yn gynnig. Mewn ymateb, nododd y Rheolwr
Gyfarwyddwr:-
·
Bod
llawer o’r ysgolion uwchradd wedi dweud ar ddechrau’r flwyddyn academaidd
bresennol y byddent yn dymuno cyflwyno’r cwricwlwm yn 2022, ond bellach wedi
ail ystyried ac yn debygol o’i gyflwyno’n swyddogol o Fedi 2023.
·
Bod
y cwricwlwm newydd yn mynd i fod yn newid trawsffurfiol sylweddol iawn, ac i
hynny ddigwydd mewn dyfnder, bod angen amser i ail-ymweld â’r weledigaeth, y
gwerthoedd a’r ymddygiad, gan drosi hynny i gynllun cwricwlwm fydd yn darparu
arweiniad i’r ysgolion ar sut, a beth, i’w gynllunio.
·
Bod
y proffesiwn wedi’i lethu gan y pwysau o gadw’r ysgolion yn agored, ac wrth i
fis Medi agosáu, dylid ystyried, ar y naill law, beth sydd i’w ennill drwy
ruthro i newid y drefn eleni? Ar y llaw
arall, ni ddymunid i’r ysgolion golli momentwm, yn enwedig gan y bydd y cylch
arolygu yn cychwyn ym Nhymor yr Haf 2022.
·
Y
credid bod angen trafodaeth gyda’r ysgolion yn unigol, gan eu bod mewn
sefyllfaoedd gwahanol.
·
O
ystyried y pwysau ar yr ysgolion dros y 2 flynedd ddiwethaf yn rheoli’r
blynyddoedd arholiad, bod angen trafodaeth lawn ynglŷn â pha mor barod
ydynt ar gyfer 2022, gan ystyried oni fyddai’n well defnyddio’r amser i
aeddfedu eu meddyliau ar gyfer 2023.
Awgrymodd y
Cadeirydd y byddai’n fuddiol cynnal sesiwn briffio ar y cwricwlwm newydd ar
gyfer yr aelodau newydd yn dilyn yr Etholiadau ym mis Mai.
Dogfennau ategol: