Cyflwynwyd gan:Cyng. Dyfrig Siencyn
Penderfyniad:
Derbyniwyd cymeradwyaeth y Cabinet i fabwysiadu a
gweithredu’r Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur 2022-2030.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr eitem gan y Cyng. Dyfrig Siencyn
PENDERFYNWYD
Derbyniwyd cymeradwyaeth y Cabinet i
fabwysiadu a gweithredu’r Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur 2022-2030.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd
yr adroddiad a nodwyd fod rhybudd o gynnig wedi ei gyflwyno i’r Cyngor yn ôl ym
mis Mawrth 2019 yn amlinellu’r peryglon sy’n deillio o effeithiau newid
hinsawdd. Mynegwyd fod peth oedi wedi bod i’r cynllun newid hinsawdd oherwydd y
pandemig. Eglurwyd er hyn fod y Cynllun a gyflwynwyd yn benllanw gwaith caled a
cham cyntaf i ymateb i newid hinsawdd o fewn y Cyngor. Nodwyd y gobaith o
gyrraedd Cyngor carbon sero-net erbyn 2030. Pwysleisiwyd fod y camau sydd i’w
gweld yn y Cynllun yn rhai rhwydd ond fod her fawr o flaen y Cyngor.
Ychwanegol
y Pennaeth Adran Amgylchedd fod y cynllun hwn yn un trawsadrannol ond ei bod yn
cael ei chartrefu ar hyn o bryd yn yr Adran Amgylchedd sydd yn gallu cynnig
arweiniad pan mae’r angen.
Nododd
Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd fod hwn yn gynllun corfforaethol ac y bydd angen
i bob aelod o staff berchnogi’r cynllun ynghyd â gweithredu arno. Mynegwyd fod
y nod yn glir sef i fod yn gyngor sero net erbyn 2030 ac eglurwyd fod hon yn
amserlen genedlaethol sydd wedi ei gosod gan Llywodraeth Cymru. Esboniwyd fod y
cynllun yn amlygu fod y gwaith am fynd yn llawer ymhellach ‘na 2030 ond ei fod
yn rhoi sylfaen gadarn i’r Cyngor o ran y gwaith i’w wneud. Pwysleisiwyd fod
gwaith pellach i’w wneud er mwyn blaenoriaethu’r gwariant ynghyd a chynlluniau
tymor byr.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾ Tynnwyd sylw at yr angen am yr
ochor addysgol i’r cynllun hwn, eglurwyd fod cael plant a pobl ifanc yn rhan
o’r cynllun ac i ddysgu am newid hinsawdd yn holl bwysig i’r cynllun.
¾ Amlygwyd yr elfen o gefnogi
cymunedau i gynllunio a darparu atebion lleol i anghenion lleol gan annog
trigolion i gymryd rhan mewn gwaith ymgysylltu.
¾ Nodwyd fod penderfyniad
Llywodraeth Cymru i beidio ariannu cynllun Ffordd Osgoi Llanbedr ddim yn
cynorthwyo at y cynllun hwn gan y buasai creu y ffordd yn lleihau allbynnau
carbon.
¾ Nodwyd cefnogaeth i’r adroddiad
gan nodi fod llawer o waith da wedi mynd yn benodol gan y Cyng. Catrin Wager i
wthio y cynllun yn ei flaen a mynegwyd y bydd yn dda ei weld yn datblygu dros y
blynyddoedd nesaf.
¾ Diolchwyd am yr adroddiad gan
holi os oedd y Gronfa Bensiwn yn buddsoddi yn gyfrifol. Mynegwyd ddwy flynedd
yn ôl fod cyflwyniad wedi ei roi i’r Aelodau Cabinet am fuddsoddi cyfrifol gan
egluro beth oedd y Gronfa Bensiwn yn ei wneud. Pryd hynny mynegwyd y dylai’r
Pwyllgor Pensiynau ddelio’n briodol ac yn annibynnol gyda’r buddsoddiadau, gan
nad yw hyn o fewn grym penderfyniadau’r Cabinet. Nodwyd fod y Bwrdd Pensiwn
wedi bod yn gweithredu ar wahân ond efallai fod cyfle i roi cyfeiriad yr waith
y Gronfa Bensiwn yn y Cynllun hwn. Eglurwyd fod llawer wedi digwydd o ran
buddsoddi gwyrdd ac fod fersiwn drafft o Bolisi Buddsoddi Cyfrifol wedi ei
gyflwyno i’r Bwrdd Pensiwn ar gyfer ei flaen graffu cyn ei gyflwyno i’r
Pwyllgor Pensiwn wythnos nesaf.
¾ Llongyfarchwyd y tîm am eu gwaith
yn creu y ddogfen a nodwyd pwysigrwydd fod y ddogfen yn un fyw, mynegwyd er fod
y maes mor eang fod y Cynllun wedi llwyddo i ddal popeth.
Awdur:Dafydd Wyn Williams a Bethan Richardson
Dogfennau ategol: